Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

96.

CROESO AC YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D Grehan ac M Powell.

 

97.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.

 

 

98.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

99.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

100.

COFNODION 17.08.23 pdf icon PDF 122 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 17.08.23 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar XXXXX yn rhai cywir.

 

101.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

102.

CAIS RHIF: 23/0514 pdf icon PDF 168 KB

Datblygiad preswyl o 22 o fflatiau ag un a dwy ystafell wely, gyda gwaith tirlunio, gwaith trin ffiniau a man parcio cysylltiedig.

SAFLE'R HEN GLWB CYMDEITHAS Y LLYNGES FRENHINOL, 233 STRYD Y LLYS, TONYPANDY, CF40 2RF

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datblygiad preswyl o 22 o fflatiau ag un a dwy ystafell wely, gyda gwaith tirlunio, gwaith trin ffiniau a man parcio cysylltiedig. SAFLE'R HEN GLWB CYMDEITHAS Y LLYNGES FRENHINOL, 233 STRYD Y LLYS, TONYPANDY, CF40 2RF

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·       Mr N Ahmed (Ymgeisydd)

·       Mr A Silver (Gwrthwynebydd)

Arferodd yr Ymgeisydd, Mr N Ahmed, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr.

Cyflwynodd yr Uwch Gynllunydd y cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn y byddai'r datblygiad yn arwain at or-ddatblygiad ac yn gynamserol, ac roedd ganddyn nhw bryderon yngl?n â diffyg lleoedd parcio ac amwynder.

O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros ddod i benderfyniad o'r fath.

 

 

 

103.

CAIS RHIF: 23/0727 pdf icon PDF 138 KB

Newid defnydd yr ardal o gymysgedd o ardd ac amaethyddiaeth i ardal ceffylau.  Cynnig i newid lefel a deunydd y ddaear i ddarparu draenio rhydd mewn cae hyfforddi ceffylau sydd i'w weld ar y cynlluniau.

FFERM PANTGLAS, CAE PANTGLAS, YNYSMAERDY, PONT-Y-CLUN, CF72 8GX

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Newid defnydd yr ardal o gymysgedd o ardd ac amaethyddiaeth i ardal ceffylau. Cynnig i newid lefel y ddaeara deunydd i ddarparu draenio rhydd mewn cae hyfforddi ceffylau sydd i'w weld ar y cynlluniau. FFERM PANTGLAS, CAE PANTGLAS, YNYSMAERDY, PONT-Y-CLUN, CF72 8GX

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr R Pettit (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

Cyflwynodd yr Uwch Gynllunydd y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r caisyn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

104.

CAIS RHIF: 23/0350 pdf icon PDF 128 KB

Adeiladu garej ar wahân a man parcio preifat cysylltiedig (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 07/07/23). 

TIR I'R GORLLEWIN O WILLOWS FARM, FFORDD Y RHIGOS, RHIGOS, ABERDÂR, CF44 9UD

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adeiladu garej ar wahân a man parcio preifat cysylltiedig (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 07/07/23). TIR I'R GORLLEWIN O WILLOWS FARM, FFORDD Y RHIGOS, RHIGOS, ABERDÂR, CF44 9UD

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'rcais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

105.

CAIS RHIF: 23/0623 pdf icon PDF 131 KB

Newid defnydd o siop (A1) i fwyty gyda chyfleusterau gwerthu bwyd poeth i'w fwyta oddi ar y safle (A3) gan gynnwys gosod ffliw awyru ac offer echdynnu.

123 CILGANT Y GWEUNDIR, BEDDAU

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Newid defnydd o siop (A1) i fwyty gyda chyfleusterau gwerthu bwyd poeth i'w fwyta oddi ar y safle (A3) gan gynnwys gosod ffliw awyru ac offer echdynnu. 123 CILGANT Y GWEUNDIR, BEDDAU

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Materion Cynllunio at lythyr 'hwyr' a ddaeth i law gan Aelod Lleol sydd ddim yn rhan o'r Pwyllgor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo, yn mynegi ei bryderon yngl?n â'r cais.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais,PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu ar amod diwygiad i Amod 5 yn cyfyngu'r oriau i 10pm yn hytrach na'r amser sydd wedi'i awgrymu, sef 9pm. Dyma'r amod diwygiedig:

 

Bydd oriau gweithredu'r busnes a ganiateir fel a ganlyn: Dydd Llun i ddydd Sul: 09:00–22:00

 

Rheswm: Er mwyn sicrhau fod y s?n o'r datblygiad yma ddim yn peri niwsans i ddeiliaid eiddo preswyl cyfagos yn unol â Pholisi AW10 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

106.

CAIS RHIF: 22/1261 pdf icon PDF 136 KB

Newid defnydd i droi sied gwartheg yn uned breswyl. (Derbyniwyd Asesiad ac Arolygon Clwydo Ystlumod rhagarweiniol ar 17/8/22)

GORLLEWIN CAERLAN, STRYD YR YSGOL, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8EN

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Newid defnydd i droi sied gwartheg yn uned breswyl. (Daeth Adroddiad Clwydo Ystlumod Rhagarweiniol a phob Arolwg i law ar 17/08/22) GORLLEWIN CAERLAN, STRYD YR YSGOL, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8EN

 

Nododd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyrau 'hwyr' yn cefnogi'r cais a ddaeth i law gan Sarah Jane Davies (Aelod Lleol sydd ddim yn rhan o'r Pwyllgor) a'r asiant cynllunio.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhellion Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am eu bod nhw o'r farn y byddai ailddefnyddio'r eiddo'n well er gwaetha'r diffyg amwynder.

 

O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros ddod i benderfyniad o'r fath.

 

 

 

107.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 52 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod         28/08/2023 – 22/09/2023.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodi.

Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod XXXX i XXXX.