Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 3 Awst 2023 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 03.08.23 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Israniad, estyniad, newidiadau allanol i'r uned fanwerthu er mwyn iddi fod yn siop fwyd ac yn uned fanwerthu nwyddau nad ydyn nhw'n fwydydd gyda chaffi, newidiadau i'r ganolfan arddio, trefniadau mynediad i gerbydau cludo nwyddau, cynllun parcio, gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig arall ar y safle. WHAT STORES, YSTAD DDIWYDIANNOL PARC ABERAMAN, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6DA
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Israniad, estyniad, newidiadau allanol i'r uned fanwerthu er mwyn iddi fod yn siop fwyd ac yn uned fanwerthu nwyddau nad ydyn nhw'n fwydydd gyda chaffi, newidiadau i'r ganolfan arddio, trefniadau mynediad i gerbydau cludo nwyddau, cynllun parcio, gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig arall ar y safle. WHAT STORES, YSTAD DDIWYDIANNOL PARC ABERAMAN, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6DA
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr Rob Jones (Ymgeisydd) · Mr Rob Mitchell (Gwrthwynebydd)
Arferodd yr Ymgeisydd, Mr Rob Jones, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd.
Amlinellodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais,PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu ar amod ychwanegol sy'n gofyn am fesurau ar gyfer gwelliannau ecolegol.
|
|
Cadw garej/gweithdy ar wahân. 87 HEOL COED ISAF, MAES-Y-COED, PONTYPRIDD, CF37 1EN
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadw garej/gweithdy ar wahân. 87 HEOL COED ISAF, MAES-Y-COED, PONTYPRIDD, CF37 1EN
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd o ystafell achlysuron i 4 ystafell gwely a brecwast. TAFARNDY THE PLOUGH INN, STRYD LEWIS, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6PY
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o ystafell achlysuron i 4 ystafell gwely a brecwast. TAFARNDY THE PLOUGH INN, STRYD LEWIS, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6PY
Amlinellodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd oddi wrth yr ymgeisydd yn nodi'r rhesymau dros y datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Ailgyflwyno cynnig i newid defnydd yn rhannol yn 22-22A Stryd Caerdydd i greu 7 fflat newydd a chadw'r uned breswyl ar yr ail lawr, yn ogystal â gwaith gwella'r mannau masnachol ar yr islawr ac ar y llawr gwaelod. 22-22A STRYD CAERDYDD, ABERDÂR, CF44 7DP
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ailgyflwyno cynnig i newid defnydd yn rhannol yn 22-22A Stryd Caerdydd i greu 7 fflat newydd a chadw'r uned breswyl ar yr ail lawr, yn ogystal â gwaith gwella'r mannau masnachol ar yr islawr ac ar y llawr gwaelod. 22-22A STRYD CAERDYDD, ABERDÂR, CF44 7DP
(Nodwch:Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan y cyfarfod.)
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor ac ar ôl ei ystyriedPENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais tan gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn ystyried y newidiadau arfaethedig ymhellach i ddatrys y gwrthwynebiadau blaenorol ac i drafod gyda'r ymgeisydd.
(Nodwch: Ar yr adeg yma yn y cyfarfod gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis.)
|
|
Gosod arwydd pren ar y gwair ger prif fynedfa'r parc. PARC COFFA YNYSANGHARAD, STRYD Y BONT, PONTYPRIDD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gosod arwydd pren ar y gwair ger prif fynedfa'r parc. PARC COFFA YNYSANGHARAD, STRYD Y BONT, PONTYPRIDD
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd t? preswyl i fod yn gartref i blant (C2). 41 Heol y Coed, Trefforest, Pontypridd, CF37 1RH
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd t? preswyl i fod yn gartref i blant (C2). 41 Heol y Coed, Trefforest, Pontypridd, CF37 1RH
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 17 Awst 2023, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu (gweler Cofnod 76). Trafododd yr Aelodau'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad Swyddogion. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais, a hynny'n groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad pellach ac yn amodol ar ddiwygio'r cyfeiriad at 'Gynllun Datblygu Lleol' i'r canlynol: 'Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf (CDLlRhCT)'.
|
|
Newid defnydd o d? amlfeddiannaeth i gartref i blant a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Cynllun Lleoliad Safle diwygiedig ar 08/06/2023). 37 Stryd Elisabeth, Aberdâr, CF44 7LN
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o d? amlfeddiannaeth (defnydd C4) i gartref i blant a gwaith cysylltiedig. (Cynllun Lleoliad Safle Diwygiedig wedi dod i law ar 08/06/2023) 37 Stryd Elisabeth, Aberdâr, CF44 7LN
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 17 Awst 2023, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu (gweler Cofnod 73). Trafododd yr Aelodau'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad Swyddogion. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais, a hynny'n groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad pellach ac yn amodol ar ddiwygio'r cyfeiriad at 'Gynllun Datblygu Lleol' i'r canlynol: 'Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf (CDLlRhCT)'.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 07/08/2023 – 25/08/2023.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 07/08/2023 – 25/08/2023.
|