Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A Dennis, G Hughes ac W Lewis.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2023 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 20.07.23 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Amrywio amod 1 o ganiatâd cynllunio 15/1635/10 - ychwanegu blwyddyn at y terfyn amser ar gyfer dechrau datblygu (Derbyniwyd Nodyn Gwybodaeth am Ddraenio 10/02/23, Diwygiad 2 - 10/07/23, ar 16/06/23). FFERM LLWYNCELYN, LÔN HAFOD, PORTH, CF39 9UE
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amrywio Amod 1 o ganiatâd cynllunio rhif 15/1635/10 – ymestyn y terfyn amser ar gyfer cychwyn y gwaith datblygu am flwyddyn ychwanegol (Nodyn Gwybodaeth Draenio 10/02/23 Diwygiad 2 – 10/07/23, derbyniwyd 16/06/23). FFERM LLWYNCELYN, LÔN HAFOD, Y PORTH, CF39 9UE
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod: -Mr Rob Griffiths (Asiant) -Mr Philip Thomas (Gwrthwynebydd) -Mr Steve Jones (Gwrthwynebydd) Arferodd yr Asiant, Mr Rob Griffiths, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd.
Cyflwynodd Arweinydd y Garfan Ceisiadau Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafod y cais,PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais tan gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn casglu rhagor o wybodaeth am ddraenio, y llwybr posibl ar gyfer ceblau a'r effaith posibl ar y domen, ac am ragor o wybodaeth am yr effaith weledol ar yr ardal leol.
|
|
Adeiladu a gweithredu hyd at 14 o dyrbinau gwynt a seilwaith cysylltiedig gan gynnwys: ardaloedd llawr caled i gynnwys sylfeini tyrbinau, ardal ar gyfer craeniau a man storio, gydag ystyriaeth i’r broses o bennu lleoliad; is-orsaf drydanol ac adeilad rheoli gyda cheblau p?er tanddaearol; llwybr mynediad newydd yn cysylltu â'r A472; llwybrau mynediad ar y safle gyda phiblinellau a chroesfannau cwrs d?r; pwll (pyllau) benthyg; mast mesur y gwynt; safle adeiladu a storio dros dro gyda mannau storio cysylltiedig ger mynedfa'r safle; ardal rheoli cynefinoedd; a gwaith oddi ar y safle ar gyfer cerbydau nwyddau sy'n wahanol i'r arfer megis adeiladu mannau gor-redeg ac addasiadau dros dro i gelfi stryd. TIR I'R GOGLEDD O SENGHENYDD, CAERFFILI, I'W ADNABOD FEL PARC YNNI TWYN HYWEL
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladu a gweithredu hyd at 14 o dyrbinau gwynt a'r seilwaith cysylltiedig, gan gynnwys: gosod mannau llawr caled gan gynnwys sylfeini ar gyfer y tyrbinau, llawr caled ar gyfer craen a man gosod a storio, gyda dyraniad o'r tir ar gyfer gwaith microleoli cysylltiedig (dewis lleoliad penodol ar gyfer tyrbinau gwynt); is-orsaf drydanol ac adeilad rheoli gyda cheblau trydan tanddaearol; llwybr mynediad newydd sy'n cysylltu â'r A472; traciau mynediad ar y safle gyda phiblinellau a chroesfannau cwrs d?r; pwll/pyllau benthyg; mast ar gyfer anemomedr; caeadle ar gyfer adeiladu a storio offer dros dro gyda mannau gosod cysylltiedig ger mynedfa'r safle; ardal rheoli cynefin; a gwaith oddi ar y safle i hwyluso symud llwythi anghyffredin megis adeiladu mannau gor-redeg ac addasiadau dros dro i gelfi stryd. TIR I'R GOGLEDD O SENGHENYDD, CAERFFILI A FYDD YN CAEL EI ADNABOD FEL PARC YNNI TWYN HYWEL
Aelodau nad sy'n rhan o'r pwyllgor/Aelodau Lleol – siaradodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol C Lisles, H Gronow a D Wood yngl?n â'r cais a chyflwyno eu pryderon ynghylch y cynnig.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi Adroddiad y Cyngor ar yr Effaith Leol i'r Pwyllgor ac ar ôl ei ystyried PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Adroddiad ar yr Effaith Leol yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu yn amodol ar lythyr adendwm yn amlinellu'r pryderon a godwyd gan yr Aelodau yn ystod y ddadl.
|
|
Newid defnydd o d? amlfeddiannaeth (defnydd C4) i gartref i blant a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd cynllun lleoliad safle diwygiedig ar 08/06/2023) 37 STRYD ELISABETH, ABERDÂR, CF44 7LN
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o D? Amlfeddiannaeth (defnydd C4) i Gartref Plant a gwaith cysylltiedig. (Cynllun Lleoliad Safle Diwygiedig wedi dod i law ar 08/06/2023) 37 STRYD ELISABETH, ABERDÂR, CF44 7LN
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms L Hughson-Smith (Asiant). Cafodd hi bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau. Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Bradwick, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig. Darllenodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys llythyr 'hwyr' a gyflwynwyd gan Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol yn amlinellu pryderon ynghylch y gwaith datblygu arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi ei gais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith andwyol o ran diffyg amwynder i breswylwyr a diffyg mannau parcio i staff. O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros ddod i benderfyniad o'r fath.
|
|
Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu cartref gofal preswyl arbenigol ag 16 ystafell wely (dosbarth defnydd C2) a gwaith cysylltiedig TIR Y TU ÔL I RIFAU 15 AC 16 FFORDD Y RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9PS
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu cartref gofal preswyl arbenigol ag 16 ystafell wely (dosbarth defnydd cynllunio C2) a gwaith cysylltiedig. TIR Y TU ÔL I RIFAU 15 AC 16 FFORDD Y RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9PS
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms L Hughson-Smith (Asiant). Cafodd hi bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 20 Gorffennaf 2023 pan benderfynodd yr Aelodau ohirio'r cais er mwyn caniatáu trafodaethau pellach rhwng Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio a'r Ymgeisydd ynghylch manylion y cais (Cofnod rhif 47).
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi fanylion y cais diwygiedig i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau diwygiedig sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad.
|
|
Estyniad i ystafelloedd newid traddodiadol presennol wedi’u hadeiladu o frics/blociau. (Derbyniwyd Arolwg Ystlumod ac Adar ar 07/11/22) (Derbyniwyd Arolwg Gweithgarwch Ystlumod ar 14/07/23) YSTAELLOEDD NEWID PENYRENGLYN, STRYD BAGLAN, TREHERBERT, TREORCI, CF42 5AW
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estyniad i adeiladau ystafelloedd newid traddodiadol brics/bloc. (Arolwg Ystlumod ac Adar wedi dod i law ar 07/11/22) (Arolwg Gweithgaredd Ystlumod wedi dod i law ar 14/07/23) YSTAFELLOEDD NEWID PENYRENGLYN, STRYD BAGLAN, TREHERBERT, TREORCI, CF42 5AW
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd o gartref preswyl i gartref gofal i blant (C2) 41 HEOL Y COED, TREFFOREST, PONTYPRIDD, CF37 1RH
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd t? preswyl i fod yn gartref gofal i blant (C2) 41 HEOL Y COED, TREFFOREST, PONTYPRIDD, CF37 1RH
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi ei gais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn bod diffyg gofod ar gyfer parcio ac amwynder, ac y byddai'r datblygiad yn cael effaith andwyol ar y gymuned leol.
O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros ddod i benderfyniad o'r fath.
|
|
Datblygiad arfaethedig o ddwy annedd, maes parcio a gwaith cysylltiedig. TIR GWAG YN STRYD WILLIAM, YSTRAD, PENTRE
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynllun arfaethedig i adeiladu dwy annedd, maes parcio a gwaith cysylltiedig. TIR GWAG AR STRYD WILLIAM, YSTRAD, PENTRE
Amlinellodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan Mr G Chappell, a oedd yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Cadw tirffurf yn barhaol a grëwyd trwy ddyddodi tua 19,700m3 o ddeunydd o dirlithriad Tylorstown, creu llwybr troed newydd yn cynnwys dwy bont droed, gwaith draenio ynghyd â gwaith tirlunio a mesurau lliniaru cynefinoedd/ecolegol a gwaith cysylltiedig. TIR GYFERBYN Â PHARC BUSNES MAES-Y-DERI, GLYNRHEDYNOG
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadw tirffurf a grëwyd gan tua 19,700m3 o ddyddodion yn dilyn tirlithriad Tylorstown yn barhaol, creu llwybr troed newydd a fydd yn cynnwys dwy bont droed, gwaith draenio, gwaith tirlunio, mesurau lliniaru effaith ar gynefinoedd a'r amgylchedd a gwaith cysylltiedig. TIR GYFERBYN Â PHARC BUSNES MAES-Y-DERI, GLYNRHEDYNOG
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Cadw tua 740m3 o ddeunydd yn barhaol o dirlithriad Tylorstown, gwaith tirlunio a mesurau lliniaru cynefinoedd/ecolegol a gwaith cysylltiedig. TIR I'R DE O HEOL YR ORSAF, GLYNRHEDYNOG
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadw tua 740m3 o ddyddodion yn barhaol o dirlithriad Tylorstown, gwaith tirlunio, mesurau lliniaru effaith ar gynefinoedd a'r amgylchedd a gwaith cysylltiedig. TIR I'R DE O HEOL YR ORSAF, GLYNRHEDYNOG
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Uned archebu coffi drwy ffenestr y car (Defnydd A1/A3 Cymysg) a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd disgrifiad diwygiedig a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddosbarth defnydd ar 09/06/23) ASDA STORES LTD, FFORDD TIRWAUN, CWM-BACH, ABERDÂR, CF44 0AH
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Siop gwerthu coffi trwy ffenestr y car (Defnydd A1/A3 Cymysg) a gwaith cysylltiedig (Disgrifiad Diwygiedig a'r wybodaeth ddiweddaraf ar Ddosbarth Defnydd wedi dod i law ar 09/06/23) ASDA STORES LTD, FFORDD TIRWAUN, CWM-BACH, ABERDÂR, CF44 0AH
(Noder: Ar yr adeg yma yn y cyfarfod, datganodd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Elliott (Aelod nad sy'n rhan o'r pwyllgor/Aelod Lleol) fuddiant personol sy'n rhagfarnu yn ymwneud â'r cais. "Rydw i'n byw yng Nghaeau Tirfounder sydd gerllaw'r datblygiad arfaethedig."
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Elliot, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Gosod poster digidol LED wedi'i oleuo'n fewnol yn lle'r poster hysbysebu wedi'i ôl-oleuo presennol. THEATR Y COLISËWM, STRYD BRYN HYFRYD, TRECYNON, ABERDÂR CF44 8NG
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gosod poster digidol LED wedi'i oleuo'n fewnol yn lle poster hysbysebu statig ôl-oleuedig. THEATR Y COLISËWM, STRYD BRYN HYFRYD, TRECYNON, ABERDÂR, CF44 8NG
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 24/07/2023 – 04/08/2023.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 24/07/2023 – 04/08/2023.
|