Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Bonetto a G Hughes.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2023 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2023 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Adeiladu adeilad deulawr ag 16 ystafell wely sy'n darparu gofal dan oruchwyliaeth gyda chyfleusterau parcio cysylltiedig a man storio sbwriel - dosbarth defnydd C2. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 06/03/23). HEN GARTREF GOFAL NYRSIO GLYNCORNEL, HEOL NANT-Y-GWYDDON, LLWYNYPIA, TONYPANDY, CF40 2JF
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Codi adeilad deulawr 16 ystafell wely at ddiben cynnig gofal dan oruchwyliaeth gyda chyfleusterau parcio cysylltiedig ac ardal cadw sbwriel – Dosbarth defnydd cynllunio C2. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 06/03/23) HEN GARTREF GOFAL NYRSIO GLYNCORNEL, HEOL NANT-Y-GWYDDON, LLWYNYPIA, TONYPANDY, CF40 2JF
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms Bethan Evans (Ymgeisydd). Cafodd hi bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau. Nododd y Pwyllgor nad oedd Ajay Kambo (Asiant) na Jason Roberts (Gwrthwynebydd) a oedd wedi gofyn am gael annerch yr Aelodau yngl?n â'r cais yn bresennol i wneud hynny. Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, ar amod ychwanegol bod rhaid cynnal arolwg o gyflwr y briffordd ac unrhyw waith atgyweirio i'r briffordd yn sgil y cerbydau adeiladu.
|
|
Gosod llain galed yn yr ardd gefn a'r gwaith cysylltiedig er mwyn creu pafin ag ymylon isel oddi ar Heol yr Eglwys 13 CILGANT CONWY, TON-TEG, PONTYPRIDD, CF38 1HP.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gosod llawr caled yn yr ardd gefn a phafin ag ymylon isel cysylltiedig er mwyn caniatáu mynediad oddi ar Heol yr Eglwys 13 CILGANT CONWY, TON-TEG, PONTYPRIDD, CF38 1HP
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Jason Rees (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau. Aelodau nad sy'n rhan o'r pwyllgor/Aelodau Lleol – siaradodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Stacey a C Preedy yngl?n â'r cais a chyflwyno eu pryderon ynghylch diogelwch ar y ffyrdd.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio’r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Dymchwel yr adeiladau presennol ac adeiladu cartref gofal preswyl arbenigol 16 gwely (dosbarth defnydd C2) gyda gwaith cysylltiedig Y TIR Y TU ÔL I RIF 15 AC 16 FFORDD Y RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9PS
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu cartref gofal preswyl arbenigol ag 16 ystafell wely (dosbarth defnydd cynllunio C2) a gwaith cysylltiedig TIR Y TU ÔL I RIFAU 15 AC 16 FFORDD Y RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9PS
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl iddo gael ei ystyried PENDERFYNWYD gohirio'r penderfyniad i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodoler mwyn caniatáu trafodaethau pellach rhwng Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio a'r ymgeisydd i drafod manylion y cais.
|
|
Estyniad unllawr i ochr yr adeilad, estyniad deulawr i ochr yr adeilad, patio uchel y tu cefn i'r adeilad a gwaith cysylltiedig. 16 STRYD Y BRYN, HENDREFORGAN, Y GILFACH-GOCH, PORTH, CF39 8TW
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estyniad unllawr i'r ochr, estyniad deulawr i'r ochr, patio wedi'i godi y tu cefn i'r adeilad a gwaith cysylltiedig. 45 STRYD Y BRYN, HENDREFORGAN,Y GILFACH-GOCH, Y PORTH, CF39 8UA
(Noder: Ar yr adeg yma yn y cyfarfod, datganodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol A Roberts (Aelod nad sy'n rhan o'r pwyllgor/Aelod Lleol) fuddiant personol sy'n rhagfarnu yn ymwneud â chais rhif 22/1464. "Mae fy chwaer yn byw'n agos at safle'r cais."
Datganodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol G Holmes (Aelod nad sy'n rhan o'r pwyllgor/Aelod Lleol) hefyd fuddiant personol sy'n rhagfarnu yn ymwneud â chais rhif 22/1464 "Mae tad-cu'r ymgeisydd yn gyswllt personol agos."
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod: - Abbie Davies (Ymgeisydd) - Andrew Ayles (Asiant ar ran y Gwrthwynebwyr)
Rhoddwyd y cyfle i'r Ymgeisydd ymateb i'r Gwrthwynebwyr ond gwrthododd wneud hynny.
Defnyddiodd yr Aelodau Lleol A Roberts a G Holmes, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol, eu hawl i annerch y Pwyllgor ar y cais yn unol ag adran 14(2) o'r Cod Ymddygiad, a chyflwyno eu cefnogaeth i'r datblygiad arfaethedig. Yn dilyn hynny, gadawon nhw'r cyfarfod er mwyn i'r pwyllgor drafod.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio’r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Cais cynllunio amlinellol, gyda phob mater wedi'i gadw, ar gyfer datblygiad preswyl arfaethedig. Y TIR CYFERBYN Â 6-8 HEOL BRYNMAIR, GODREAMAN, ABERDÂR, CF44 6LR
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais cynllunio amlinellol (gyda phob mater wedi'i gadw) ar gyfer datblygiad preswyl arfaethedig. TIR GER 6–8 HEOL BRYNMAIR, GODREAMAN, ABERDÂR, CF44 6LR
(Nodwch: Ar yr adeg yma yn y cyfarfod gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis)
Siaradodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Evans a T Williams (Aelodau nad sy'n rhan o'r pwyllgor/Aelodau Lleol) am y cais gan fynegi eu pryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio’r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Cymerodd y Pwyllgor doriad o bum munud ar yr adeg hon).
(Nodwch: Ar yr adeg yma yn y cyfarfod, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Tomkinson a dychwelodd W Lewis i’r cyfarfod.)
|
|
Parhau i'w ddefnyddio fel gardd. T? DEWI SANT, HEOL CASTELLAU, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2RA
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Parhau i ddefnyddio fel gardd. T? DEWI SANT, HEOL CASTELLAU, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2RA
(Nodwch: Ar yr adeg yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams y cyfarfod.)
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio’r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu adeilad cynaliadwy i'r gymuned (sydd ddim ar y grid) ar goetir, gan gynnwys ystafell ddosbarth, cyfleusterau lles, llwybr mynediad, cyfleuster cynhyrchu ynni ar y safle (tyrbin gwynt a phaneli ffotofoltaig) a system ddraenio i gefnogi gwaith cyflawni prosiect partneriaeth De Cymru mewn perthynas ag Adfer Mandiroedd. (Derbyniwyd Asesiad o’r Effaith ar Dreftadaeth ar 5 Mehefin 2023) COETIR I'R GOGLEDD DDWYRAIN O FAES PARCIO HENDRE'R MYNYDD, ODDI AR FFORDD Y RHIGOS, TREHERBERT
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladu adeilad cymunedol hynod gynaliadwy oddi ar y grid ar dir coedwigaeth, gan gynnwys ystafell ddosbarth, ardal lles, llwybr mynediad, modd i gynhyrchu ynni ar y safle (paneli gwynt a phaneli ffotofoltäig) a system ddraenio i gefnogi cyflawni prosiect partneriaeth Adfer Mawndiroedd Coll De Cymru. (Derbyniwyd Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth ar 5 Mehefin 2023) TIR COEDWIGAETH I'R GOGLEDD DDWYRAIN O FAES PARCIO HENDRE'R MYNYDD, ODDI AR HEOL RHIGOS, TREHERBERT
(Nodwch: Ar yr adeg yma, dychwelodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams i'r cyfarfod)
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams wedi ymatal rhag pleidleisio ar yr eitem yma gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan).
|
|
Trosi siop ac annedd yn 2 fflat. (Derbyniwyd Cynlluniau a Disgrifiad Diwygiedig ar 09/05/2023) SIOP, 2 STRYD FAWR, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8BP
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Troi siop ac annedd i mewn i 2 fflat. (Derbyniwyd cynlluniau a disgrifiad diwygiedig ar 09/05/2023) SIOP, 2 STRYD FAWR, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8BP
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Dymchwel t?'r gofalwr, ad-drefnu’r maes parcio/man gollwng/codi teithwyr/cilfan i fysiau, llwybrau troed, maes chwaraeon 3G, llifoleuadau, mannau chwarae newydd, peiriannau a gwaith cysylltiedig (manylion technegol diwygiedig wedi’u derbyn 01/06/2023) YSGOL UWCHRADD PONTYPRIDD, HEOL CILFYNYDD, CILFYNYDD, PONTYPRIDD, CF37 4SF
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dymchwel t?'r gofalwr, ad-drefnu’r maes parcio/man gollwng/codi teithwyr/cilfan i fysiau, llwybrau troed, maes chwaraeon 3G, llifoleuadau, mannau chwarae newydd, peiriannau a gwaith cysylltiedig (manylion technegol diwygiedig wedi’u derbyn 01/06/2023) YSGOL UWCHRADD PONTYPRIDD, HEOL CILFYNYDD, CILFYNYDD, PONTYPRIDD, CF37 4SF
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 22/0273/10 PDF 247 KB Newid defnydd o dafarn i 4 annedd (Derbyniwyd y Nodyn Trafnidiaeth ar 4 Gorffennaf 2022, derbyniwyd y Strategaeth Draenio D?r Aflan ar 2 Chwefror 2023). TAFARN 'THE BARN', HEOL MEISGYN, MWYNDY, PONT-Y-CLUN, CF72 8PJ
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o dafarn i 4 annedd (Derbyniwyd Nodyn Trafnidiaeth ar 4 Gorffennaf 2022 a derbyniwyd Strategaeth Ddraenio Aflan ar 2 Chwefror 2023) TAFARN THE BARN, HEOL MEISGYN, MWYNDY, PONT-Y-CLUN, CF72 8PJ
Cyflwynodd yr Uwch Gynllunydd y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 9 Mehefin 2023, pan gymeradwyodd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu (Cofnod 8). .
|
|
CAIS RHIF: 22/0668/10 PDF 246 KB Trosi eglwys yn 11 fflat. Derbyniwyd yr Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd ar 11 Gorffennaf 2022, derbyniwyd yr Asesiad o'r Effaith Ecolegol ar 20 Medi 2022) EGLWYS GYNULLEIDFAOL YSTRAD, 1 HEOL YR EGLWYS, TONPENTRE, CF41 7AD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trosi hen eglwys yn 11 fflat (Derbyniwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd (FCA) ar 11 Gorffennaf 2022, a'r Asesiad o'r Effaith Ecolegol ar 20 Medi 2022) EGLWYS GYNULLEIDFAOL LLOEGR YSTRAD, 1 HEOL YR EGLWYS, TONPENTRE, CF41 7AD.
Cyflwynwyd i’r Aelodau gan yr Uwch Gynllunydd yr adroddiad a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod y cais wedi ei drafod gan y Pwyllgor ar 3 Tachwedd 2022 yn wreiddiol. Penderfyniad yr Aelodau bryd hynny oedd cymeradwyo’r cais, yn amodol ar ystod o delerau a chytundeb Adran 106.
Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad pellach a oedd yn tynnu sylw at yr wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd, gan gynnwys yr Asesiad Dichonoldeb a PENDERFYNWYD caniatáu'r cais heb yr angen am gytundeb Adran 106 ar gyfer cyfraniad tai fforddiadwy oddi ar y safle.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod /2018 a /2018.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi eu Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi, a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 12/06/23 hyd at 07/07/23.
|