Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J. Bonetto, S. Emanuel a L. Tomkinson.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â Chais 23/0290: Dymchwel y warws bresennol, adeiladu bloc sy'n cynnwys 14 fflat fforddiadwy, mannau parcio ac ardaloedd amwynder. (Adolygu ac ailgyflwyno cais blaenorol 22/0510/10) W R BISHOP AND CO FRUIT AND VEGETABLE WHOLESALE, HEOL PENRHIW, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8EY. "Mae fy mrawd yn byw yn yr eiddo drws nesaf ac wedi'i nodi'n siaradwr cyhoeddus ar gyfer y cais yma."
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, pan fyddan nhw'n trafod y materion rheoli datblygu ger eu bron, roi ystyriaeth i'r Cynllun Datblygu a, cyn belled â'u bod yn berthnasol, i geisiadau ac i ystyriaethau eraill. Pan fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau, rhaid i Aelodau sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu'n groes i'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 08.06.23 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei thrafod mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Dymchwel y warws bresennol, adeiladu bloc sy'n cynnwys 14 fflat fforddiadwy, mannau parcio ac ardaloedd amwynder. (Adolygu ac ailgyflwyno cais blaenorol 22/0510/10) W R BISHOP AND CO FRUIT AND VEGETABLE WHOLESALE, HEOL PENRHIW, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8EY.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dymchwel y warws bresennol, adeiladu bloc sy'n cynnwys 14 fflat fforddiadwy, mannau parcio ac ardaloedd amwynder. (Adolygu ac ailgyflwyno cais blaenorol 22/0510/10) W R BISHOP AND CO FRUIT AND VEGETABLE WHOLESALE, HEOL PENRHIW, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8EY.
(Noder: Ar ôl datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â'r cais uchod gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis y cyfarfod ar y pwynt yma.)
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr G John (Asiant) · Ms V Higgins (Gwrthwynebydd) · Mr A Taylor (Gwrthwynebydd) · Mr M Coombs (Gwrthwynebydd) · Mr P Marchant (Gwrthwynebydd) · Ms S Hopkins (Gwrthwynebydd)
Arferodd yr Asiant, Mr G John, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr.
Rhoddodd y Pennaeth Materion Cynllunio amlinelliad o gynnwys nifer o lythyrau 'hwyr' gan yr Aelod Seneddol Alex Jones, yr Aelod o'r Senedd Mick Antoniw , Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Parkin, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Owen-Jones a Mr D Lindley, a oedd yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth hir PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn yn ddarostyngedig i gwblhau cytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal a'u cadw yn unedau fforddiadwy, i'r diben o ddiwallu anghenion tai lleol a nodwyd, yn ogystal ag amod ychwanegol i ddarparu lleoliad amgen ar gyfer storio biniau, gan fod Aelodau'n bryderus am effaith y lleoliad a gafodd ei gynnig yn y cynlluniau ar eiddo cyfagos.
(Nodwch: Cafodd cynnig ei wneud, a'i eilio, i wrthod y cais sydd wedi'i nodi uchod yn erbyn argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, ar sail dyluniad y cais, y math o lety sy'n cael ei gynnig, diogelwch y llety, effaith y cais ar y priffyrdd a diogelwch y priffyrdd, y storfa finiau a'r effaith y bydd y storfa yn ei chael ar eiddo cyfagos,
(Nodyn: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell rhag pleidleisio ar yr eitem hon.)
(Nodwch: Cymerodd y Pwyllgor doriad o bum munud ar yr adeg hon).
|
|
Cais materion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer cynllun tai fforddiadwy a manylion cysylltiedig mewn perthynas ag amodau 1, 5, 7, 9 a 10 yn unol â chaniatâd amlinellol 21/0448/15. (Derbyniwyd y Cynllun Lleoliad Safle Diwygiedig, Cynllun Safle, Nodyn Technegol: Trafnidiaeth (mewn perthynas â chyffordd Heol Waunrhydd) ar 27 Ionawr 2023; Derbyniwyd Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu ar 12 Ebrill 2023) RHONDDA BOWL, HEOL WAUNRHYDD, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8EW.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais materion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer cynllun tai fforddiadwy a manylion cysylltiedig mewn perthynas ag amodau 1, 5, 7, 9 a 10 yn unol â chaniatâd amlinellol 21/0448/15. (Derbyniwyd y Cynllun Lleoliad Safle Diwygiedig, Cynllun Safle, Nodyn Technegol: Trafnidiaeth (mewn perthynas â chyffordd Heol Waunrhydd) ar 27 Ionawr 2023; Derbyniwyd Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu ar 12 Ebrill 2023) RHONDDA BOWL, HEOL WAUNRHYDD, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8EW.
(Nodwch: Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis wedi dychwelyd i'r cyfarfod).
Amlinellodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys 2 lythyr hwyr gan yr Aelod Seneddol Alex Jones a'r Aelod o'r Senedd Mick Antoniw sy'n nodi pryderon am y datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu garej/storfa/gweithdy (Derbyniwyd cynllun ffin goch a chynlluniau diwygiedig ar 17/03/23) Y TU ÔL I 2 STRYD CRICHTON, TREHERBERT
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladu garej/storfa/gweithdy (Derbyniwyd cynllun ffin goch a chynlluniau diwygiedig ar 17/03/23) Y TU ÔL I 2 STRYD CRICHTON, TREHERBERT
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Annedd newydd sbon ag 1 ystafell wely (Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig a'r disgrifiad diwygiedig ar 27/01/2023). THE HILL COTTAGE, HEOL Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG, CF43 3HG
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Annedd newydd sbon ag 1 ystafell wely (Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig a'r disgrifiad diwygiedig ar 27/01/2023). THE HILL COTTAGE, HEOL Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG, CF43 3HG
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Amrywio amod 2, math o d? a diwygiadau cyffredinol 18/0736/10 , HEN SAFLE 'HILLSIDE COUNTRY CLUB', FFERM COLLENNA, TONYREFAIL, CF39 8AX.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amrywio amod 2, math o d? a diwygiadau cyffredinol 18/0736/10 , HEN SAFLE 'HILLSIDE COUNTRY CLUB', FFERM COLLENNA, TONYREFAIL, CF39 8AX.
Roedd y Pennaeth Materion Cynllunio wedi gofyn bod Aelodau'n gohirio'r cais yma fel bod modd cynnal trafodaethau gyda'r ymgeisydd yngl?n ag anghysondebau mewn perthynas â'r ffin goch. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD Aelodau ohirio'r cais.
|
|
Adeiladu a gweithredu fferm wynt sy'n cynnwys hyd at 7 tyrbin gwynt a seilwaith cysylltiedig (Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol) TIR I'R DWYRAIN O DREBANOG, RHONDDA CYNON TAF
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladu a gweithredu fferm wynt sy'n cynnwys hyd at 7 tyrbin gwynt a seilwaith cysylltiedig (Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol) TIR I'R DWYRAIN O DREBANOG, RHONDDA CYNON TAF
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Cynllunio y cais i'r Pwyllgor, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD Aelodau gymeradwyo Adroddiad ar yr Effaith Leol y Cyngor (fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 'A') mewn perthynas â'r cais yma ar gyfer Datblygiad O Arwyddocâd Cenedlaethol, er mwyn cyflwyno'r cais i gynorthwyo’r Arolygwr sydd wedi’i benodi gan Lywodraeth Cymru, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, wrth benderfynu ar y cais.
|
|
Drysau rholer TIR Y TU ÔL I 257, HEOL TREBANOG, TREBANOG, PORTH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Drysau rholer TIR Y TU ÔL I 257, HEOL TREBANOG, TREBANOG, PORTH.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodyn: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes o'r bleidlais gan nad oedden nhw'n bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)
|
|
Newidiadau a Gwaith ar gyfer ailosod y Bont Restredig Gradd II PONT HAEARN TRESALEM, Y LLWYBR BEICIO O'R DRAMFFORDD I DROEDFFORDD ABERDÂR ABD(33(1, TRECYNON, ABERDÂR.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newidiadau a Gwaith ar gyfer ailosod y Bont Restredig Gradd II PONT HAEARN TRESALEM, Y LLWYBR BEICIO O'R DRAMFFORDD I DROEDFFORDD ABERDÂR ABD(33(1, TRECYNON, ABERDÂR.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Garej arfaethedig TIR GER T? TUDFUL, STRYD FAWR, CYMER, PORTH, CF39 9ET
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Garej arfaethedig, TIR GER T? TUDFUL, STRYD FAWR, CYMER, PORTH, CF39 9ET
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Estyniad deulawr arfaethedig i ochr yr adeilad ac estyniad unllawr i gefn yr adeilad, ynghyd â newidiadau y tu mewn i'r adeilad 6 MAES IFOR, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7AS
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estyniad deulawr arfaethedig i ochr yr adeilad ac estyniad unllawr i gefn yr adeilad, ynghyd â newidiadau y tu mewn i'r adeilad. 6 MAES IFOR, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7AS
|
|
CAIS RHIF: 23/0202/10 PDF 135 KB Newid defnydd o glinig i 5 fflat preswyl. CLINIG YSTRAD, 14 TERAS TRAFALGAR, YSTRAD, PENTRE, CF41 7RG Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o glinig i 5 fflat preswyl. CLINIG YSTRAD, 14 TERAS TRAFALGAR, YSTRAD, PENTRE, CF41 7RG
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd i B8 i ddefnyddio'r safle’n gyfleuster storio (cynwysyddion storio a charfanau). (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol ar 13/05/2021) HEN SAFLE PUROLITE, HEOL Y BONT-FAEN, PONT-Y-CLUN.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd i B8 i ddefnyddio'r safle'n gyfleuster storio (cynwysyddion storio a charfanau). (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol ar 13/05/2021) HEN SAFLE PUROLITE, HEOL Y BONT-FAEN, PONT-Y-CLUN.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod /2018 hyd at /2018.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 29/02/2023 - 09/06/2023.
|