Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: E-bost: UnedBusnesGweithredolaRheoleiddiol@rctcbc.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:
Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis fuddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â chais 23/0044/10 – Cais ôl-weithredol i gadw'r grisiau a'r deciau canol (Ailgyflwyno cais 22/0783/10) 3 PLEASANT HEIGHTS, PORTH, CF39 0LZ. “Mae'r siaradwr yn ffrind agos i fi.”
Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes fuddiant personol yngl?n â chais 23/0044 – Cais ôl-weithredol i gadw'r grisiau a'r deciau canol (Ailgyflwyno cais 22/0783/10) 3 PLEASANT HEIGHTS, PORTH, CF39 0LZ. “Rydw i'n adnabod y siaradwr cyhoeddus yn bersonol ac wedi cyfathrebu â nhw o’r blaen.”
Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes fuddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â chais 23/0335 – Garej arfaethedig y tu cefn i'r adeilad, 237 HEOL BRITHWEUNYDD, TREALAW, TONYPANDY, CF40 2PB a chais 23/0337 – Garej arfaethedig y tu cefn i'r adeilad, 236 HEOL BRITHWEUNYDD, TREALAW, TONYPANDY, CF40 2PB. “Mae'r ddau ymgeisydd yn aelodau o'm teulu.”
Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Bonetto fuddiant personol yngl?n â chais 23/0151 – Newid dosbarth defnydd o annedd (Dosbarth Defnydd C3) i gartref i blant (Dosbarth Defnydd C2). T? RHYD-YR-HELYG, YR HEOL FAWR, GWAELOD-Y-GARTH, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 9HJ. “Rydw i'n aelod o'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol.”
Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees fuddiant personol yngl?n â chais 23/0151 – Newid dosbarth defnydd o annedd (Dosbarth Defnydd C3) i gartref i blant (Dosbarth Defnydd C2). T? RHYD-YR-HELYG, YR HEOL FAWR, GWAELOD-Y-GARTH, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 9HJ. “Rydw i'n aelod o'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol.”
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, pan fyddan nhw'n trafod y materion rheoli datblygu ger eu bron, roi ystyriaeth i'r Cynllun Datblygu a, cyn belled â'u bod yn berthnasol, i geisiadau ac i ystyriaethau eraill. Pan fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau, rhaid i Aelodau sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu'n groes i'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
COFNODION 06.04.23 a 20.04.23 PDF 133 KB Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Materion Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 6 Ebrill a 20 Ebrill 2023 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 06.04.23 a 20.04.23 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Annedd arfaethedig a'r ffordd fynediad gysylltiedig TIR CYFERBYN Â BRYN HYFRYD, TREHAFOD, PONTYPRIDD.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Annedd arfaethedig a'r ffordd fynediad gysylltiedig, TIR CYFERBYN Â BRYN HYFRYD, TREHAFOD, PONTYPRIDD.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod: · Robert Hathaway (Asiant) · John Phelps (Gwrthwynebydd)
Bu'r Asiant Robert Hathaway yn gweithredu'r hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr. Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Ailddatblygu hen safle'r Clwb Ceidwadol er mwyn darparu 10 fflat, mannau parcio a'r gwaith cysylltiedig. SAFLE’R HEN GLWB CEIDWADOL, HEOL BERW, TONYPANDY.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ailddatblygu hen safle'r Clwb Ceidwadol er mwyn darparu 10 fflat, mannau parcio a'r gwaith cysylltiedig. SAFLE’R HEN GLWB CEIDWADOL, HEOL BERW, TONYPANDY.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor LizaElston (Gwrthwynebydd) a gafodd bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod. Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn yn ddarostyngedig i gwblhau cytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal a'u cadw yn unedau fforddiadwy, i'r diben parhaus o ddiwallu anghenion tai lleol a nodwyd. (Nodwch: Eiliwyd cynnig i wrthod y cais oherwydd diogelwch y briffordd a chael gwared ar leoedd parcio ar y stryd ond roedd yn aflwyddiannus.)
|
|
Newid defnydd o dafarndy i 4 annedd (Derbyniwyd y Nodyn Trafnidiaeth ar 4 Gorffennaf 2022, derbyniwyd y Strategaeth ar gyfer Draenio D?r Budr ar 2 Chwefror 2023) TAFARN THE BARN, HEOL MEISGYN, MWYNDY, PONT-Y-CLUN, CF72 8PJ.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o dafarndy i 4 annedd (Derbyniwyd y Nodyn Trafnidiaeth ar 4 Gorffennaf 2022, derbyniwyd y Strategaeth ar gyfer Draenio D?r Budr ar 2 Chwefror 2023) TAFARN THE BARN, HEOL MEISGYN, MWYNDY, PONT-Y-CLUN, CF72 8PJ.
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Sarah Howells (Ar ran yr Ymgeisydd) a gafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo'r cais uchod yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a hynny am eu bod nhw o'r farn bod y defnydd arfaethedig, o'i gymharu â'r dewis amgen, yn drech na'r pryderon o ran y briffordd.
O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros ddod i benderfyniad o'r fath.
|
|
Cais ôl-weithredol i gadw'r grisiau a'r deciau canol (Ailgyflwyno cais 22/0783/10) 3 PLEASANT HEIGHTS, PORTH, CF39 0LZ.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais ôl-weithredol i gadw'r grisiau a'r deciau canol (Ailgyflwyno cais 22/0783/10) 3 PLEASANT HEIGHTS, PORTH, CF39 0LZ.
(Nodwch:Gan ei bod eisoes wedi datgan buddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â’r cais yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis y cyfarfod wrth i'r mater yma gael ei drafod).
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor E Barnett (Ar ran yr ymgeisydd) a gafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau. Darllenodd y Pennaeth Materion Cynllunio ohebiaeth ar ran Aelod lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Hickman.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Ar yr adeg yma, ailymunodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis â'r cyfarfod a chafodd y Pwyllgor egwyl o 5 munud).
|
|
Manylion am gynllun, graddfa ac ymddangosiad yr adeiladau, ffordd fynediad a'r dirwedd 18/0923/13 (Cynllun Safle Diwygiedig) TIR ODDI AR Y B4275, ABERDÂR
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Manylion am gynllun, graddfa ac ymddangosiad yr adeiladau, ffordd fynediad a'r dirwedd 18/0923/13 (Cynllun Safle Diwygiedig) TIR ODDI AR Y B4275, ABERDÂR.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid dosbarth defnydd o annedd (Dosbarth Defnydd C3) i gartref i blant (Dosbarth Defnydd C2). T? RHYD-YR-HELYG, YR HEOL FAWR, GWAELOD-Y-GARTH, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 9HJ.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid dosbarth defnydd o annedd (Dosbarth Defnydd C3) i gartref i blant (Dosbarth Defnydd C2). T? RHYD-YR-HELYG, YR HEOL FAWR, GWAELOD-Y-GARTH, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 9HJ.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar y newidiadau canlynol i amodau:
Amod 4: Cyn pen 2 fis o ddyddiad y penderfyniad yma, bydd y gweithredwr yn cyflwyno cynllun rheoli ar gyfer y safle a bydd angen i’r Awdurdod Cynllunio Lleol gytuno arno, a hynny ar bapur. Bydd y safle’n gweithredu yn unol â'r manylion y cytunwyd arnyn nhw cyhyd â bod y safle’n cael ei ddefnyddio at ddibenion y defnydd hwnnw. Rheswm – Er mwyn amddiffyn mwynderau yr eiddo cyfagos yn unol â Pholisïau AW5, AW6 ac AW10 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
Amod 5: Cyn pen 2 fis o ddyddiad y penderfyniad yma, bydd y trefniadau mynediad, ynghyd â'r cyfleusterau parcio, yn cael eu pennu yn unol â'r cynllun safle sydd wedi'i gyflwyno (D3-PO1), a'u cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd deunyddiau parhaol yn cael eu defnyddio i osod wyneb ar y lleoedd parcio a byddan nhw'n cael eu cadw ar ôl hynny er mwyn parcio cerbydau. Rheswm: Diogelwch y briffordd a sicrhau bod cerbydau'n cael eu parcio oddi ar y briffordd, yn unol â Pholisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
Cadw ac atgyweirio’r adeilad, gan gynnwys adnewyddu'r Awditoriwm, ailfodelu'r cyntedd yn y fynedfa, y bar a'r mezzanine, gosod lifftiau newydd, toiledau, ystafelloedd gwisgo, man newid, storfa ar gyfer biniau a gwelliannau cysylltiedig i'r adeilad PRIF ADEILADAU'R CYNGOR, HEOL GELLIWASTAD, PONTYPRIDD, CF37 2DP.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadw ac atgyweirio’r adeilad, gan gynnwys adnewyddu'r Awditoriwm, ailfodelu'r cyntedd yn y fynedfa, y bar a'r mezzanine, gosod lifftiau newydd, toiledau, ystafelloedd gwisgo, man newid, storfa ar gyfer biniau a gwelliannau cysylltiedig i'r adeilad PRIF ADEILADAU'R CYNGOR, HEOL GELLIWASTAD, PONTYPRIDD, CF37 2DP.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Cadw ac atgyweirio’r adeilad, gan gynnwys adnewyddu'r Awditoriwm, ailfodelu'r cyntedd yn y fynedfa, y bar a'r mezzanine, gosod lifftiau newydd, toiledau, ystafelloedd gwisgo, man newid, storfa ar gyfer biniau a gwelliannau cysylltiedig i'r adeilad (Caniatâd Adeilad Rhestredig) PRIF ADEILADAU'R CYNGOR, HEOL GELLIWASTAD, PONTYPRIDD, CF37 2DP.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadw ac atgyweirio’r adeilad, gan gynnwys adnewyddu'r Awditoriwm, ailfodelu'r cyntedd yn y fynedfa, y bar a'r mezzanine, gosod lifftiau newydd, toiledau, ystafelloedd gwisgo, man newid, storfa ar gyfer biniau a gwelliannau cysylltiedig i'r adeilad (Caniatâd Adeilad Rhestredig) PRIF ADEILADAU'R CYNGOR, HEOL GELLIWASTAD, PONTYPRIDD, CF37 2DP.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYDcymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar atgyfeiriad ffafriol i CADW.
|
|
Garej arfaethedig y tu cefn i'r adeilad 237 HEOL BRITHWEUNYDD, TREALAW, TONYPANDY, CF40 2PB.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Garej arfaethedig y tu cefn i'r adeilad 237 HEOL BRITHWEUNYDD, TREALAW, TONYPANDY, CF40 2PB.
(Nodwch: Gan ei fod eisoes wedi datgan buddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â'r cais yma, gadawodd y Cynghorydd G Hughes y cyfarfod wrth i'r mater yma gael ei drafod).
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Garej arfaethedig y tu cefn i'r adeilad 236 HEOL BRITHWEUNYDD, TREALAW, TONYPANDY, CF40 2PB.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Garej arfaethedig y tu cefn i'r adeilad 236 HEOL BRITHWEUNYDD, TREALAW, TONYPANDY, CF40 2PB.
(Nodwch: Gan ei fod eisoes wedi datgan buddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â'r cais yma, gadawodd y Cynghorydd G Hughes y cyfarfod wrth i'r mater yma gael ei drafod).
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo- newid y math o d? a chynllun y safle); ac amod 3 (archwiliadau safle / strategaeth adfer - dileu'r elfen cyn dechrau ar y gwaith) ar gyfer caniatâd cynllunio 19/0387/10. HEN YSGOL GYNRADD CWM-BACH, HEOL Y BONT, CWM-BACH, ABERDÂR, CF44 0LS
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo- newid y math o d? a chynllun y safle); ac amod 3 (archwiliadau safle / strategaeth adfer - dileu'r elfen cyn dechrau ar y gwaith) ar gyfer caniatâd cynllunio 19/0387/10. HEN YSGOL GYNRADD CWM-BACH, HEOL Y BONT, CWM-BACH, ABERDÂR, CF44 0LS
(Nodwch: Ar yr adeg yma, dychwelodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes i'r cyfarfod).
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar amrywio'r Adran 106 bresennol trwy Weithred Amrywio i sicrhau bod pob un o’r byngalos (100%) yn unedau rhent cymdeithasol.
|
|
Datblygu 6 t? teras. (Derbyniwyd ffurflen Ardoll Seilwaith Cymunedol ar 13 Mawrth 2023, derbyniwyd y cynllun llawr ar 24 Mawrth 2023) Y TIR CYFERBYN Â 138 STRYD Y DYFFRYN, GLYNRHEDYNOG, CF43 4EH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datblygu 6 th? teras. (Derbyniwyd ffurflen Ardoll Seilwaith Cymunedol ar 13 Mawrth 2023, derbyniwyd y cynllun llawr ar 24 Mawrth 2023) Y TIR GER 138 STRYD Y DYFFRYN, GLYNRHEDYNOG, CF43 4EH.
Cafodd cais 23/0216 ei dynnu'n ôl gan yr ymgeisydd cyn cyfarfod y Pwyllgor felly ni chafodd ei drafod yn ystod y trafodaethau ffurfiol.
|
|
Newid defnydd i ddatblygiad defnydd cymysg sy’n cynnwys annedd breswyl (Dosbarth C3) a chyfleuster gofal plant (Dosbarth D1) 5 CILGANT Y GOEDWIG, ABERCYNON, ABERPENNAR, CF45 4UT.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd i ddatblygiad defnydd cymysg sy’n cynnwys annedd breswyl (Dosbarth C3) a chyfleuster gofal plant (Dosbarth D1) 5 CILGANT Y GOEDWIG, ABERCYNON, ABERPENNAR, CF45 4UT.
Cafodd cais 23/0004 ei dynnu'n ôl gan yr ymgeisydd cyn cyfarfod y Pwyllgor felly ni chafodd ei drafod yn rhan o'r trafodaethau ffurfiol.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod /2018 hyd at /2018.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 10/04/2023 – 26/05/2023.
|