Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Kate Spence - Democratic Services 07747485566
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Barton, G Hughes, W Owen a J Williams.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2022.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 10.02.22 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Newid defnydd o westy, siop cludfwyd a bar/bwyty i gartref gofal preswyl C2, gyda gwaith thirlunio a mynedfa gysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Ansawdd Aer ar 10 Ionawr 2022) DIAMOND JUBILEE HOTEL, HEOL Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, CF43 3HE
Cofnodion: Newid defnydd o westy, siop cludfwyd a bar/bwyty i gartref gofal preswyl C2, gyda gwaith tirlunio a mynedfa gysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Ansawdd Aer ar 10 Ionawr 2022) DIAMOND JUBILEE HOTEL, HEOL Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, CF43 3HE.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Stephen Waldron (Asiant). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth hir, gwrthododd yr Aelodau y cais, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, oherwydd gorddatblygu, anaddasrwydd defnydd arfaethedig yr adeilad, diffyg lleoedd parcio a phryderon ynghylch diogelwch priffyrdd a diffyg amwynder. O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Cais i gadw ac ymestyn yr adeilad gweithdy presennol, estyniad ôl-weithredol i'r adeilad swyddfa presennol, adleoli ardal golchi cerbydau dan do, pympiau tanwydd a thanciau d?r, estyniad i'r maes parcio presennol i staff/cwsmeriaid, porthdy newydd, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd Strategaeth Ddraenio ddiwygiedig ar 07/10/21, derbyniwyd Cynllun Lleoliad Safle diwygiedig, Cynllun Gosodiad y Safle Arfaethedig, manylion ffens acwstig ac Asesiad Effaith S?n ar 20/12/21). UNED 16 EARTHMOVERS HOUSE, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF
Cofnodion: Cais i gadw ac ymestyn yr adeilad gweithdy presennol, estyniad ôl-weithredol i'r adeilad swyddfa presennol, adleoli ardal golchi cerbydau dan do, pympiau tanwydd a thanciau d?r, estyniad i'r maes parcio presennol i staff/cwsmeriaid, porthdy newydd, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd Strategaeth Ddraenio ddiwygiedig ar 07/10/21, derbyniwyd Cynllun Lleoliad Safle diwygiedig, Cynllun Gosodiad y Safle Arfaethedig, manylion ffens acwstig ac Asesiad Effaith S?n ar 20/12/21). UNED 16 EARTHMOVERS HOUSE, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar newid Amod 3 i:
“Fydd dim gwaith datblygu pellach yn cael ei gynnal ar y safle, ar wahân i waith sydd ei angen mewn cysylltiad ag Amod 14, hyd nes y bydd manylion llawn y mesurau lliniaru/gwella bioamrywiaeth arfaethedig sydd wedi'u nodi yn yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol (Soltys Brewster Ecology, Awst 2020) wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo ganddo yn ysgrifenedig. Bydd y mesurau lliniaru/gwella bioamrywiaeth yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i:
i. Diogelu/rheoli coed a gwrychoedd, ii. Mesurau gwella nythod adar, iii. Dylunio goleuadau safle i leihau lefelau goleuadau ar hyd ffiniau cynefinoedd wedi'u cadw, a iv. Cynllun ôl-ofal tymor hir.
Bydd y mesurau lliniaru/gwella sydd i'w cymeradwyo yn cael eu rhoi ar waith ar y safle cyn pen 6 mis ar ôl cael eu cymeradwyo; a byddan nhw'n parhau i fod ar waith ar ôl hynny.
Rheswm: Er mwyn ecoleg a gwarchod rhywogaethau anifeiliaid yn unol â Pholisi AW8 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.”
|
|
Byngalo ar wahân (Amlinellol) - Asesiad Risg Cloddio Glo wedi'i dderbyn 18/03/2021. TIR Y TU ÔL I S?N Y FRO, HEOL GELLIFEDI, BRYNNA
Cofnodion: Byngalo ar wahân (Amlinellol) - Derbyniwyd Asesiad Risg Cloddio Glo ar 18/03/2021. TIR Y TU ÔL I S?N Y FRO, HEOL GELLIFEDI, BRYNNA
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Turner, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Bwriad i ddymchwel yr adeiladau ysgol presennol ac ailddatblygu'r safle i ddarparu datblygiad preswyl o 18 o anheddau a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA) wedi’i ddiweddaru; wynebau diwygiedig ar gyfer lleiniau 1, 2 ac 17 gan gynnwys cwpanau ar gyfer gwenoliaid y bondo; a Chynllun Ymchwilio Ysgrifenedig ar gyfer cofnodi adeiladau hanesyddol, ar 17 Ionawr 2022. Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig, i ledu llwybr troed a newid graddiant, wedi’i dderbyn ar 15 Chwefror 2022) TIR YN HEN YSGOL GYNRADD GYMRAEG TONYREFAIL, STRYD YR YSGOL, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8LE
Cofnodion: Bwriad i ddymchwel yr adeiladau ysgol presennol ac ailddatblygu'r safle i ddarparu datblygiad preswyl o 18 o anheddau a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA) wedi'i ddiweddaru; wynebau diwygiedig ar gyfer lleiniau 1, 2 ac 17 gan gynnwys cwpanau ar gyfer gwenoliaid y bondo; a Chynllun Ymchwilio Ysgrifenedig ar gyfer cofnodi adeiladau hanesyddol, ar 17 Ionawr 2022. Derbyniwyd cynllun gosodiad safle diwygiedig, i ledu llwybr troed a newid graddiant, ar 15 Chwefror 2022) TIR YN HEN YSGOL GYNRADD GYMRAEG TONYREFAIL, STRYD YR YSGOL, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8LE
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar:
· Cwblhau cytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal fel unedau fforddiadwy, at y diben parhaus o ddiwallu anghenion tai lleol a nodwyd, ond ni roddodd Aelodau bwerau dirprwyedig i swyddogion i wrthod y cais os na fydd y cytundeb Adran 106 yn cael ei lofnodi cyn pen 6 mis o benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio;
· Newid Amod 3 i eithrio dymchwel adeiladau presennol y safle o ystyr dechrau datblygu; ac
· Ychwanegu nodyn gwybodaeth at y caniatâd cynllunio mewn perthynas â darparu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan
|
|
Datblygu cynllun solar a seilwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd y Datganiad Drilio Ceblau ar 20 Ionawr 2022) TIR AR FFERM RHIWFELIN FACH, HEOL LLANTRISANT, YNYSMAERDY, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LQ
Cofnodion: Datblygu cynllun solar a seilwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd y Datganiad Drilio Ceblau ar 20 Ionawr 2022) TIR AR FFERM RHIWFELIN FACH, FFORDD LLANTRISANT, YNYSMAERDY, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LQ.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu garej sengl. TIR GER 16 TERAS BRYNHEULOG, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG
Cofnodion: Adeiladu garej sengl. TIR GER 16 TERAS BRYNHEULOG, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Annedd sengl newydd 4 ystafell wely. TIR Y TU ÔL I 1 HEOL LLWYNFEN, PONT-Y-CLUN, CF72 0TW.
Cofnodion: Annedd ar wahân sydd â 4 ystafell wely. TIR Y TU ÔL I 1 HEOL LLWYNFEN, PONT-Y-CLUN, CF72 0TW.
Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio wybod bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 28/02/2022 – 04/03/2022.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 28/02/2022 tan 04/03/2022.
|