Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd 07385401877
Rhif | eitem | |||
---|---|---|---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Owen.
|
||||
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
||||
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
||||
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
||||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf yn rhai cywir.
|
||||
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
||||
CAIS RHIF: 21/0635/10 PDF 419 KB Byngalo 3 ystafell wely ar wahân gyda pharcio ar gyfer 3 char (Yn effeithio ar Hawl Tramwy Cyhoeddus PON/4/1). Fferm Bodwenarth, Llys yr Albion, Cilfynydd
Cofnodion: Byngalo 3 ystafell wely ar wahân gyda pharcio ar gyfer 3 char (Yn effeithio ar Hawl Tramwy Cyhoeddus PON/4/1). Fferm Bodwenarth, Llys yr Albion, Cilfynydd
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Ms Amanda Lloyd (Ymgeisydd) · Gwrthwynebydd 1 (Gwrthwynebydd)
Bu'r Ymgeisydd yn gweithredu'r hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Belzak, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cynnig, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Ymweliad Safle i ystyried y problemau draenio posib ac uchder y ffens arfaethedig.
|
||||
CAIS RHIF: 21/0431/15 PDF 483 KB Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo) i ofyn am ganiatâd ar gyfer lleoliad adeilad, uchder adeilad, cwrt blaen a chladin allanol diwygiedig. (Cais gwreiddiol: 19/0791/10) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 02/08/21). Uned Storio oddi ar Heol y Beddau, Pontypridd, CF38 2AG
Cofnodion: Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo) i ofyn am ganiatâd ar gyfer lleoliad adeilad, uchder adeilad, cwrt blaen a chladin allanol diwygiedig. (Cais gwreiddiol: 19/0791/10) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 02/08/21). Uned Storio oddi ar Heol y Beddau, Pontypridd, CF38 2AG
PENDERFYNWYD gohirio'r cais fel bod modd i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu i ymweld â'r safle i ystyried y pellter o eiddo cyfagos, p'un a yw'r datblygiad arfaethedig yn cyd-fynd â'r ardal leol a materion priffyrdd sy'n ymwneud â'r lôn sy'n cyrchu'r safle.
Yng ngoleuni'r penderfyniad uchod, dywedodd y Cadeirydd wrth y sawl a oedd yn bresennol er mwyn annerch y Pwyllgor yngl?n â'r cais yma y byddai rhaid iddyn nhw wneud cais i annerch y Pwyllgor eto pan fyddai'r mater yn cael ei drafod, pe hoffen nhw wneud hynny.
|
||||
CAIS RHIF: 21/0809/10 PDF 291 KB Trosi llofft dormer cefn arfaethedig, cyntedd blaen ac estyniad i'r gegin. 38 Clos Myddlyn, Beddau, Pontypridd, CF38 2JS
Cofnodion: Trosi llofft dormer cefn arfaethedig, cyntedd blaen ac estyniad i'r gegin. 38 Clos Myddlyn, Beddau, Pontypridd, CF38 2JS
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod: · Ms Jemma Ajax (Gwrthwynebydd) · Ms Naomi Jones (Gwrthwynebydd)
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, roedd yr Aelodau o'r farn i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr, Ffyniant a Datblygu, oherwydd yr effaith ormesol y byddai'r cynllun yn ei gael ar yr eiddo cyfagos a phryderon o ran gorddatblygu'r safle.
O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
||||
Amrywio amod 1(c) ac 1(d) o ganiatâd cynllunio 09/0386/13 i ganiatáu ar gyfer ymestyn y terfynau amser a ganiateir ar gyfer cymhwyso materion wedi'u cadw'n ôl am 10 mlynedd arall, ac ymestyn yr amserlen a ganiateir ar gyfer cychwyn y datblygiad am 12 mlynedd arall neu am 2 flynedd o ddyddiad y materion wedi'u cadw'n ôl olaf i'w cymeradwyo, pa un bynnag yw'r hwyraf. Tir yn hen Lofa Coedelái oddi ar yr A4119, Coedelái.
Cofnodion: Amrywio amod 1(c) ac 1(d) o ganiatâd cynllunio 09/0386/13 i ganiatáu ar gyfer ymestyn y terfynau amser a ganiateir ar gyfer cymhwyso materion wedi'u cadw'n ôl am 10 mlynedd arall, ac ymestyn yr amserlen a ganiateir ar gyfer cychwyn y datblygiad am 12 mlynedd arall neu am 2 flynedd o ddyddiad y materion wedi'u cadw'n ôl olaf i'w cymeradwyo, pa un bynnag yw'r hwyraf. Tir yn hen Lofa Coedelái oddi ar yr A4119, Coedelái.
Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr Will Ryan (Asiant) a oedd wedi gofyn am annerch y Pwyllgor yn gallu cysylltu â'r cyfarfod rhithwir i wneud hynny.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ddiwygio amod 1 er mwyn galluogi'r gwaith i ddigwydd fesul cam, ac yn amodol ar ddiweddaru/diwygio'r Cytundeb Adran 106 cyfredol i nodi'r canlynol:
· Talu cyfraniadau priffyrdd fesul cam fel a ganlyn -
Talu cyfraniadau Trafnidiaeth Gyhoeddus a seilwaith fesul cam fel a ganlyn -
· £9,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol o 12,150 metr sgwâr o arwynebedd llawr; · £8,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol 24,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr; · £2,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol 26,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr; · £2,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol 29,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr; · £2,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol o 31,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr; · £2,000 yn daladwy cyn meddiannu buddiol 34,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr. Dynodi Plot N2 ar gyfer ardal hamdden awyr agored Talu cyfraniad hawl tramwy cyhoeddus o £16,000 Cytuno a gweithredu cynllun rheoli tirwedd a chynefinoedd am gyfnod o 25 mlynedd o ddyddiad y caniatâd cynllunio.
|
||||
CAIS RHIF: 21/0058/10 PDF 246 KB T? ar wahân gyda garej ddwbl annatod. Hen Safle Glen Translport, Penycoedcae Road, Penycoedcae, Pontypridd
Cofnodion: T? ar wahân gyda garej ddwbl. Hen Safle Glen Transport, Heol Penycoedcae, Penycoedcae, Pontypridd
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Geraint Israel (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau. Siaradodd yr Aelodau Lleol, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Brencher a R Yeo, nad yw'n aelodau o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi eu cefnogaeth yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo'r cais uchod yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a hynny am eu bod nhw o'r farn ei bod hi'n dderbyniol i'w safle gael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl, ac y byddai hyn yn cael effaith fuddiol ar y safle.
O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
||||
CAIS RHIF: 21/0335/10 PDF 259 KB Newid defnydd siop wag i fflat hunangynhwysol, ehangu ffenestr 'dormer' gefn a gwaith cysylltiedig. 90 Stryd y Frenhines, Trefforest, Pontypridd, CF37 1RN
Cofnodion: Newid defnydd siop wag i fflat hunangynhwysol, ehangu ffenestr 'dormer' gefn a gwaith cysylltiedig. 90 Stryd y Frenhines, Trefforest, Pontypridd, CF37 1RN
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol ei gais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith andwyol o ran lleoedd parcio a cholli amwynder, yn ogystal â chael effaith ormodol ar yr ardal. Lleisiodd yr Aelodau bryder hefyd ynghylch gorddatblygu ar y safle o ganlyniad i'r datblygiad arfaethedig.
O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
||||
Newid defnydd o siop nwyddau'r fyddin (A1) i siop gwrw a bar coctel (A3) gyda drws ffrynt â rholer. 12 Stryd y Farchnad, Pontypridd CF37 2ST
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o siop nwyddau'r fyddin (A1) i siop gwrw a bar coctel (A3) gyda drws ffrynt â rholer. 12 Stryd y Farchnad, Pontypridd CF37 2ST
Yn unol â chofnod 35 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 12 Awst 2021, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad â'r safle a gafodd ei gynnal ar 24 Awst mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
||||
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 02/08/2021 – 20/08/2021.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 02/08/2021 – 20/08/2021.
|