Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Jess Daniel - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

17.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Owen.

 

18.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

19.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

20.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

 

21.

Cofnodion pdf icon PDF 196 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2021 yn rhai cywir.

 

22.

CAIS RHIF: 20/1182/16 pdf icon PDF 164 KB

Datblygu pum annedd ar wahân (Cymeradwyo manylion y materion wedi'u cadw'n ôl yn dilyn rhoi caniatâd amlinellol i gais rhif 14/1308/13, a gafodd ei ymestyn gan gais rhif 19/0334/15) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 23/03/2021).

Hen Safle Llyfrgell Cwm-bach, Rhes Morgan, Cwm-bach, Aberdâr

 

Cofnodion:

Datblygu pum annedd ar wahân (Cymeradwyo'r materion wedi'u cadw'n ôl yn unol â rhoi caniatâd amlinellol i gais 14/1308/13, fel yr estynnwyd gan 19/0334/15) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 23/03/2021). Hen Safle Llyfrgell Cwm-bach, Rhes Morgan, Cwm-Bach, Aberdâr

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais uchod er mwyn cynnal Ymweliad Safle gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, i drafod effaith y datblygiad arfaethedig ar y priffyrdd a'r materion sy'n codi mewn perthynas â hawliau tramwy.

 

Yng ngoleuni'r penderfyniad uchod, dywedodd y Cadeirydd wrth y sawl a oedd yn bresennol y byddai raid iddyn nhw wneud cais i annerch y Pwyllgor eto pan fyddai'r mater yn cael ei drafod, pe hoffen nhw annerch y Pwyllgor yngl?n â'r cais yma.

 

 

23.

CAIS RHIF: 21/0717/10 pdf icon PDF 152 KB

Cynllun arfaethedig i ddymchwel rhan o'r estyniad presennol ac adeiladu estyniad llawr gwaelod y tu cefn i'r siop ac estyniad llawr cyntaf ar gyfer y fflat.

194 Stryd Fawr, Treorci

 

Cofnodion:

Cynllun arfaethedig i ddymchwel rhan o'r estyniad presennol ac adeiladu estyniad llawr gwaelod y tu cefn i'r siop ac estyniad llawr cyntaf ar gyfer y fflat.  194 Stryd Fawr, Treorci

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms Ellen Lockley (Gwrthwynebydd). Cafodd hi bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.

Amlinellodd y Pennaeth Cynllunio gynnwys dau lythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan gymdogion yn gwrthwynebu'r cais.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

24.

CAIS RHIF: 20/1337/10 pdf icon PDF 124 KB

Adeiladu 3 annedd ar wahân. Cadw'r annedd bresennol a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 15/02/2021).

BIRCHWOOD, FFORDD LLWYDCOED, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0UL

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adeiladu 3 annedd ar wahân. Cadw'r annedd bresennol a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 15/02/2021).  BIRCHWOOD, FFORDD LLWYDCOED, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0UL

 

Yn unol â chofnod 7 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 24 Mehefin 2021, trafododd y Pwyllgor adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Gwasanaethau Democrataidd, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad â'r safle a gafodd ei gynnal ar 7 Gorffennaf 2021 mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo/wrthod gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amodau ychwanegol canlynol, yn unol â chais yr Adran Rheoli Perygl Llifogydd, fel a ganlyn:

 

·         Amod: Ni fydd unrhyw waith datblygu yn dechrau nes bod yr holl faterion perthnasol sydd wedi'u hamlinellu yn y Gofynion Cynllunio sy'n ymwneud â materion Draenio, gan gynnwys manylion draenio llawn wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig.


Rheswm: Sicrhau na fydd draeniad o'r datblygiad arfaethedig yn achosi nac yn gwaethygu unrhyw gyflwr anffafriol ar y safle datblygu, nac ar eiddo cyfagos, nac ar yr amgylchedd, nac ar y seilwaith presennol o ganlyniad i ddraeniad annigonol.

 

 

25.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 83 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 14/06/2021 – 09/07/2021

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 14/06/2021 – 09/07/2021.