Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services 01443 424103
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cymeradwyo a chadarnhau bod y cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd, 2020 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd, 2020 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Newid defnydd y tir er mwyn adeiladu strwythur i'w ddefnyddio gan gwib-gartiau, addasu adeilad yr Ystafell Lampau cyfredol ynghyd â gwaith cysylltiedig. TIR AR FFORDD MYNYDD Y RHIGOS A HEN SAFLE GLOFA'R T?R, HEOL RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR.
Cofnodion: Newid defnydd tir ar gyfer codi strwythur i'w ddefnyddio gan gartiau 'coaster', addasiadau i adeilad presennol yr Ystafell Lampau ynghyd â gwaith cysylltiedig TIR AT FYNYDD Y RHIGOS A HEN SAFLE GLOFA'R T?R, FFORDD Y RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Ms Sioned Edwards (Asiant) · Mr Sean Taylor (Ymgeisydd)
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Garej (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 06/11/2020 - lledu'r drws rholer i 5metr). GARDD GOFFA, TERAS Y GELLI, LLANHARAN CF72 9PR
Cofnodion: Garej (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 06/11/2020 - lled y drws rholer wedi'i ymestyn gan 5 metr). GARDD GOFFA, TERAS Y GELLI, LLANHARAN CF72 9PR
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr Leigh Smith, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Llanharan (Ymgeisydd) · Mr Marc Smith (Gwrthwynebydd) · Arferodd yr Ymgeisydd, Mr Leigh Smith, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd.
Darllenodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys datganiad ysgrifenedig gan Mr Stephen Witts yn amlinellu pryderon ynghylch y cais.
Parhaodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol i gyflwyno'r cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad, a chynnwys amod ychwanegol i gyfyngu ar y defnydd o'r garej i storio offer cynnal a chadw ac nid i barcio. Mae hyn er mwyn egluro cwmpas y cydsyniad er budd diogelwch y priffyrdd.
(Nodyn: Ymatalodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Williams a S Powderhill o'r bleidlais gan nad oedden nhw'n bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)
|
|
Cynnig i newid defnydd o safle rhentu cerbydau i safle gwerthu ceir ail-law. ENTERPRISE RENT A CAR, HEOL CAERDYDD, Y DDRAENEN WEN, PONTYPRIDD, CF37 5BB
Cofnodion: Newid defnydd arfaethedig - o safle rhentu cerbydau i safle gwerthu ceir ail-law. ENTERPRISE RENT A CAR, HEOL CAERDYDD, Y DDRAENEN WEN, PONTYPRIDD, CF37 5BB
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms Gwen Thomas (Asiant). Cafodd hi bum munud i gyflwyno'r cais wedi'i nodi uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Ffyniant a Datblygu, yn ddarostyngedig i ddiwygio Amod 3 fel y ganlyn:
· Rhaid i'r lleoedd parcio a nodir ar y Cynllun Bloc Arfaethedig diwygiedig gael eu gosod ar y safle mewn deunyddiau parhaol, a'u cadw at ddibenion parcio cwsmeriaid a staff yn unig.
|
|
Estyn ystafell ddosbarth (Derbyniwyd y cynllun diwygiedig o'r safle ac Asesiad Risg Mwyngloddio ar 28 Hydref 2020). YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG LLANTRISANT, FFORDD CEFN-YR-HENDY, MEISGYN, PONT-Y-CLUN, CF72 8TL.
Cofnodion: Estyniad i ystafell ddosbarth (Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig ac Asesiad Risg Mwyngloddio Glo ar 28 Hydref 2020). YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG LLANTRISANT, FFORDD CEFN-YR-HENDY, MEISGYN, PONT-Y-CLUN, CF72 8TL.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd o Lysoedd Barn a swyddfeydd i: Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol (dosbarth A2), busnes (dosbarth B2), uned storio a dosbarthu (dosbarth B8), sefydliadau sydd ddim yn rhai preswyl (dosbarth D1) a chyfleusterau ar gyfer cyfarfod a hamdden (dosbarth D2). HEN SAFLE’R LLYS YNADON, HEOL LLWYNYPIA, LLWYNYPÏA, TONYPANDY, CF40 2HZ.
Cofnodion: Newid dosbarth defnydd - o Lysoedd y Gyfraith a llety ategol i: Safle gwasanaethau ariannol a phroffesiynol A2, busnes B1, storio a dosbarthu B8, sefydliadau dibreswyl D1 ac ymgynnull a hamdden D2. YR HEN LYS YNADON, HEOL LLWYNYPIA, LLWYNYPIA, TONYPANDY, CF40 2HZ.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor.
Siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis, nad yw'n aelod o'r pwyllgor, ar y cais a chyflwynodd ei chefnogaeth mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig, gan nodi'r amodau sydd ynghlwm wrth yr adroddiad sy'n mynd i'r afael â phryderon a godwyd gan drigolion lleol.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Cynnig ar gyfer adeilad newydd i gadw boeler biomas 500kw, ardal storio darnau pren ynghyd ag estyn y swyddfa a gwaith cysylltiedig. SIXTEENTH AVENUE, YSTAD DDIWYDIANNOL HIRWAUN, HIRWAUN.
Cofnodion: Adeilad newydd arfaethedig ar gyfer boeler biomas 500kw, man storio sglodion coed ynghyd ag estyniad i'r swyddfa a gwaith cysylltiedig. SIXTEENTH AVENUE, YSTAD DDIWYDIANNOL HIRWAUN, HIRWAUN.
Amlinellodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol fanylion y cais a gofynnodd i'r Aelodau ystyried gohirio'r cais gan nodi bod y cais yn ddarostyngedig i Gyfarwyddyd Erthygl 18, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Hysbyswyd yr aelodau hefyd fod Swyddogion yn aros am fanylion pellach a sylwadau gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cais.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gohirio'r penderfyniad ar y cais i gyfarfod arall o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol, er mwyn galluogi Swyddogion i dderbyn sylwadau terfynol gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac aros am ganlyniad Cyfarwyddyd Erthygl 18 gan Lywodraeth Cymru.
|
|
Newid y math o d? o ddau d? pâr i ddwy annedd ar wahân. Ffordd y Rhigos, Hirwaun, Aberdâr.
Cofnodion: Newid math o d? - o ddau bâr o anheddau pâr i ddau annedd ar wahân. Ffordd y Rhigos, Hirwaun, Aberdâr.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 20/0464/10 PDF 230 KB Datblygiad preswyl arfaethedig a'r gwaith cysylltiedig. Tir yng Ngholeg y Cymoedd, Heol Cwmdâr, Cwmdâr.
Cofnodion: Datblygiad Preswyl Arfaethedig a gwaith cysylltiedig. Tir yng Ngholeg y Cymoedd, Heol Cwmdâr, Cwmdâr.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 3 Rhagfyr 2020, pan gymeradwyodd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio (Cofnod 47).
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i ddarparu:
Hyn oll yn ogystal â'r Amodau a nodwyd yn yr adroddiad pellach.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 23/11/2020 – 04/12/2020
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 23/11/2020 – 04/12/2020.
|