Lleoliad: Siambr y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH
Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 08.02.24 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 08.02.24 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: |
|
Annedd ar wahân a gwaith uwchraddio ar y lôn fynediad. (Derbyniwyd Asesiad Risg Mwyngloddio ar 21/11/23) (Derbyniwyd y ffin llinell goch a'r cynlluniau diwygiedig ar 15/12/23) Y TIR Y TU ÔL I STRYD MILDRED, BEDDAU
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Annedd ar wahân a gwaith uwchraddio ar y lôn fynediad. (Derbyniwyd Asesiad Risg Mwyngloddio ar 21/11/23) (Derbyniwyd y ffin llinell goch a'r cynlluniau diwygiedig ar 15/12/23) Y TIR Y TU ÔL I STRYD MILDRED, BEDDAU
PENDERFYNODD Aelodau ohirio'r cais fel bod modd i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu arolygu'r safle i weld y mynediad fyddai, o bosibl, yn cael ei ledu.
Yng ngoleuni'r penderfyniad uchod, dywedodd y Cadeirydd wrth y sawl a oedd yn bresennol er mwyn annerch y Pwyllgor yngl?n â'r cais yma y byddai raid iddyn nhw wneud cais i annerch y Pwyllgor eto pan fyddai'r mater yn cael ei drafod, pe hoffen nhw wneud hynny.
|
|
Adfer y llety byw sydd ar y llawr cyntaf, uwchraddio a newid yr adeilad ac adeiladu estyniad (Derbyniwyd cynlluniau a disgrifiad diwygiedig ar 14/11/2023) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 05/12/2023 a 16/02/2024) OLD YNYSYBWL INN, HEOL Y FELIN, YNYS-Y-BWL, PONTYPRIDD, CF37 3LS
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adfer y llety byw sydd ar y llawr cyntaf, uwchraddio a newid yr adeilad ac adeiladu estyniad (Derbyniwyd cynlluniau a disgrifiad diwygiedig ar 14/11/2023) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 05/12/2023 a 16/02/2024) OLD YNYSYBWL INN, HEOL Y FELIN, YNYS-Y-BWL, PONTYPRIDD, CF37 3LS
Amlinellodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys llythyr 'hwyr' a ddaeth i law gan gymydog a oedd yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, newid i Amod 2 i'w gwneud hi'n ofynnol cadw'r sgrîn, a gafodd ei chymeradwyo, yn barhaol ar ôl hynny ac Amod 3 ychwanegol sy'n golygu y caiff ardal y balconi ei defnyddio at ddefnydd preswyl yn unig, nid mewn cysylltiad â'r dafarn.
(Nodwch: Ymunodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Dennis â'r cyfarfod yn ystod yr eitem yma felly ymatalodd rhag pleidleisio.)
|
|
Datblygu 18 annedd fforddiadwy, cyfleusterau parcio, tirlunio, draenio cynaliadwy a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig, sy'n cynnwys gosod paneli solar ar anheddau, ar 13 Rhagfyr 2023. Derbyniwyd y Cynllun Safle Diwygiedig, Manylion Tirlunio Meddal a Datganiad Isadeiledd Gwyrdd, Manyleb Tirlunio a'r Cynllun Rheoli ar 14 Chwefror 2023) Y TIR I'R DWYRAIN O STRYD Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datblygu 18 annedd fforddiadwy, cyfleusterau parcio, tirlunio, draenio cynaliadwy a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig, sy'n cynnwys gosod paneli solar ar anheddau, ar 13 Rhagfyr 2023. Derbyniwyd y Cynllun Safle Diwygiedig, Manylion Tirlunio Meddal a Datganiad Isadeiledd Gwyrdd, Manyleb Tirlunio a'r Cynllun Rheoli ar 14 Chwefror 2023) Y TIR I'R DWYRAIN O STRYD Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi ei fod e'n cefnogi'r datblygiad arfaethedig wrth hefyd amlinellu rhai pryderon mewn perthynas â'r datblygiad.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau cytundeb adran 106 sy'n gofyn am y canlynol:
i) Sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal fel unedau fforddiadwy, a hynny at y diben parhaus o ddiwallu anghenion tai sydd wedi'u nodi yn yr ardal leol. Hefyd, mae'r nifer llai o leoedd parcio oddi ar y stryd, o'u cymharu â Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar gyfer Mynediad, Cylchrediad a Pharcio, wedi cael ei ystyried yn dderbyniol ar y sail y dangosir bod preswylwyr tai cymdeithasol yn berchen ar lai o geir. ii) sicrhau cyfraniad hamdden oddi ar y safle gwerth £18,000 (£1,000 ar gyfer pob eiddo) ar gyfer gwella'r ardal chwarae bresennol ar Stryd Edmondes, yn unol â Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar gyfer Rhwymedigaethau Cynllunio. (Nodwch: Gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Dennis y cyfarfod yn ystod yr eitem yma o ganlyniad i broblemau technegol felly ni chymerodd ran yn y bleidlais na thrafodaeth unrhyw eitem arall ar agenda'r cyfarfod yma.)
|
|
Cyflawni amodau 7 (mesurau rheoli traffig) ac 8 (manylion draenio llawn) mewn perthynas â chais 23/0575/15 sydd eisoes wedi'i gymeradwyo (Amrywio amod 1 o gais 18/0617/15 (cais gwreiddiol: 13/0758/10 - Datblygiad preswyl, adeiladu 3 uned dai gysylltiedig â 3 ystafell wely). TIR GER 15 STRYD GROVER, GRAIG, PONTYPRIDD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflawni amodau 7 (mesurau rheoli traffig) ac 8 (manylion draenio llawn) mewn perthynas â chais 23/0575/15 sydd eisoes wedi'i gymeradwyo (Amrywio amod 1 o gais 18/0617/15 (cais gwreiddiol: 13/0758/10 - Datblygiad preswyl, adeiladu 3 uned dai gysylltiedig â 3 ystafell wely). TIR GER 15 STRYD GROVER, GRAIG, PONTYPRIDD
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gohirio'r drafodaeth ar y cais tan gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn rhoi rhagor o amser i Swyddogion Cynllunio i drafod cynnwys llythyr gwrthwynebu hwyr a ddaeth i law gan Dd?r Cymru.
|
|
Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant. 142 STRYD KENRY, TONYPANDY, CF40 1DD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant. 142 STRYD KENRY, TONYPANDY, CF40 1DD
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 22 Chwefror 2024, pan wrthododd yr Aelodau roi'r dystysgrif cyfreithlondeb, a hynny'n groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Trafododd yr Aelodau'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl gwrthod y cais yn groes i argymhelliad Swyddogion. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYDgwrthod y dystysgrif cyfreithlondeb, a hynny'n groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, oherwydd y rhesymau sydd wedi'u nodi ar dudalennau 4 a 5 yr adroddiad pellach.
|
|
CAIS RHIF: 23/1335/09 PDF 124 KB Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant. 134 HEOL TURBERVILLE, PORTH, CF39 0ND Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant, yn ogystal â 2 aelod o staff cymorth 24 awr y dydd, fydd yn gweithio sifftiau, a rheolwr cofrestredig. 134 HEOL TURBERVILLE, PORTH, CF39 0ND
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth, penderfynodd Aelodau wrthod rhoi tystysgrif cyfreithlondeb gan yr oedd Aelodau o'r farn y byddai'r newid arfaethedig yn cyfateb i newid defnydd sylweddol a byddai natur gweithrediad arfaethedig yr eiddo yn arwain at gynnydd o ran mynd a dod, a lefel o weithgarwch ac aflonyddwch sy'n fwy na'r hyn fyddai'n cael ei ystyried yn nodweddiadol ar gyfer annedd o'r fath; felly byddai'r newid defnydd yn sylweddol. O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm dros ddod i benderfyniad o'r fath ar sail cynllun arfaethedig neu gynllun posibl.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 12/02/2024 –23/02/2024
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd, Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod rhwng 12/02/2024 – 23/02/2024.
|