Lleoliad: Virtual
Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 23.11.23 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 23.11.23 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: |
|
Newid defnydd tir i'r gorllewin o 308 Heol y Parc i gwrtil gardd i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'r annedd, a gosod ffens bren 1.8 metr o'i gwmpas (cais ôl-weithredol). 308 HEOL Y PARC, CWM-PARC, TREORCI, CF42 6LG
Cofnodion: Newid defnydd tir i'r gorllewin o 308 Heol y Parc i gwrtil gardd i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'r annedd, a gosod ffens bren 1.8 metr o'i gwmpas (cais ôl-weithredol). 308 HEOL Y PARC, CWM-PARC, TREORCI, CF42 6LG
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Ms K Resoli (Ymgeisydd) · Mr F Tucker (Gwrthwynebydd) Arferodd yr Ymgeisydd, Ms K Resoli, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYDcymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan rhag pleidleisio ar y cais yma gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan.)
|
|
Newid defnydd tir i Ddosbarth B8 (storio) gan gynnwys gosod 50 cynhwysydd storio, mynediad cysylltiedig a llociau (Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig ar 16/03/22). FFERM NANTLLECHAU, HEOL YR ARHOSFA, RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9UN
Cofnodion: Newid defnydd tir i Ddosbarth B8 (storio) gan gynnwys gosod 50 cynhwysydd storio, mynediad cysylltiedig a llociau (Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig ar 16/03/22). FFERM NANTLLECHAU, HEOL YR ARHOSFA, RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9UN
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr Graham Thomas (Gwrthwynebydd) · Mr David West (Gwrthwynebydd)
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr – Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes rhag pleidleisio ar yr eitem yma gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan).
|
|
Adeiladu a gweithredu fferm solar ffotofoltäig gan gynnwys mynediad, ffensys, teledu cylch cyfyng, llwybrau gwasanaeth mewnol, offer cynorthwyol a chynllun tirlunio (Derbyniwyd cynllun safle a gwybodaeth ategol ar 29/08/23) FFERM RHIWFELIN FAWR, LLANTRISANT
Cofnodion: Adeiladu a gweithredu fferm solar ffotofoltäig gan gynnwys mynediad, ffensys, teledu cylch cyfyng, llwybrau gwasanaeth mewnol, offer cynorthwyol a chynllun tirlunio (Derbyniwyd cynllun safle a gwybodaeth ategol ar 29/08/23) FFERM RHIWFELIN FAWR, LLANTRISANT
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Mark Sandles (Ymgeisydd) a gafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
(Nodwch: Ar yr adeg yma, daethpwyd â'r cyfarfod i ben a chafodd yr eitemau a oedd yn weddill eu gohirio o ganlyniad i broblem dechnegol gyda'r rhwydwaith doedd dim modd ei datrys o fewn cyfnod rhesymol. Cafodd holl eitemau'r cyfarfod a oedd yn weddill eu gohirio tan y cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu.)
|