Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Bonetto, W Lewis ac M Powell.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 07.09.23 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 07.09.23 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Amrywio amod 1 o gais 18/0617/15 i ychwanegu 5 mlynedd arall at y caniatâd presennol (cais gwreiddiol: 13/0758/10 – Datblygiad preswyl, adeiladu 3 uned dai gysylltiedig â 3 ystafell wely). TIR GER 15 STRYD GROVER, GRAIG, PONTYPRIDD, CF37 1LD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diwygio amod 1 o gais 18/0617/15 i ychwanegu 5 mlynedd arall at y caniatâd presennol (cais gwreiddiol: 13/0758/10 – Datblygiad preswyl, adeiladu 3 uned dai gysylltiedig â 3 ystafell wely). TIR GER 15 STRYD GROVER, GRAIG, PONTYPRIDD, CF37 1LD
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr S Courtney (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau. Siaradodd yr Aelodau Lleol nad yw'n aelodau o'r Pwyllgor, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Brencher a T Leyshon, am y cais gan fynegi eu pryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
(Noder: Ar yr adeg yma yn y cyfarfod, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Tomkinson fuddiant personol yn y cais yma: "Rydw i'n Gynghorydd ar Gyngor Tref Pontypridd, sy'n cael ei grybwyll yn yr adroddiad."
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais i'rPwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, ar amod diwygio'r amodau canlynol:
Amod 1 – Diwygio'r amod fel bod gwaith y datblygiad sy'n cael ei ganiatáu yn cychwyn cyn pen dwy flynedd o ddyddiad y caniatâd;
Amod 3 – Newid amseroedd y gwaith ym mhwynt bwled un i'r canlynol:- • Dydd Llun i ddydd Gwener, 09:00 i 18:00;
Amod 7 – Ychwanegu gofyniad ychwanegol at yr amod i roi gwybod i drigolion am y cynllun rheoli adeiladu.
|
|
Dymchwel estyniadau presennol i gefn ac ochr yr adeilad, adeiladu estyniad deulawr i ochr yr adeilad ac estyniad llawr cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys newid strwythur yr eiddo presennol a chynnal gwaith adnewyddu cyffredinol (Derbyniwyd cynllun lleoliad safle diwygiedig ar 13/09/2023) BYNGALO CARTREF, LÔN HOBBS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9BU
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dymchwel estyniadau presennol i gefn ac ochr yr adeilad, adeiladu estyniad deulawr i ochr yr adeilad ac estyniad llawr cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys newid strwythur yr eiddo presennol a chynnal gwaith adnewyddu cyffredinol (Derbyniwyd cynllun lleoliad safle diwygiedig ar 13/09/2023) BYNGALO CARTREF, LÔN HOBBS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9BU
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais i'r Pwyllgor ynghyd ag argymhelliad i ohirio'r cais er mwyncaniatáu rhagor o drafod rhwng yr ymgeiswyr a swyddogion mewn perthynas ag edrychiad blaen y datblygiad arfaethedig. Ar ôl ystyried y cais i ohirio, PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais tan un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyncaniatáu rhagor o drafod rhwng yr ymgeiswyr a swyddogion mewn perthynas â dyluniad y datblygiad arfaethedig.
|
|
Cynnig i newid defnydd yr eiddo i Gartref Preswyl i Blant. 142 STRYD KENRY, TONYPANDY, CF40 1DD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynnig i newid defnydd yr eiddo i Gartref Preswyl i Blant. 142 STRYD KENRY, TONYPANDY, CF40 1DD
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn bod lleoliad y datblygiad arfaethedig yn anaddas, fod dim digon o le i barcio, fod yr eiddo ddim yn addas ar gyfer y defnydd arfaethedig a bod diffyg gofod ar gyfer amwynder i breswylwyr.
O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm dros ddod i benderfyniad o'r fath ar sail cynllun arfaethedig neu gynllun posibl.
|
|
Cais cynllunio amlinellol ar gyfer siop bwyd a diod ategol arfaethedig hyd at 140 metr sgwâr (pob mater wedi'i gadw ac eithrio mynediad). Derbyniwyd cynllun lleoliad safle diwygiedig ar 13 Medi 2023 (i symud yr ardal mae modd ei datblygu o'r parth glo risg uchel). BWYTY KENTUCKY FRIED CHICKEN, HEOL Y CYMER, DINAS, PORTH, CF39 9BL
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais cynllunio amlinellol ar gyfer siop bwyd a diod ategol arfaethedig hyd at 140 metr sgwâr (pob mater wedi'i gadw ac eithrio mynediad). Derbyniwyd cynllun lleoliad safle diwygiedig ar 13 Medi 2023 (i symud yr ardal mae modd ei datblygu o'r parth glo risg uchel). BWYTY KENTUCKY FRIED CHICKEN, HEOL Y CYMER, DINAS, PORTH, CF39 9BL
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd ac estyniad er mwyn darparu 7 fflat newydd a chadw uned breswyl bresennol ar yr ail lawr a gwelliannau i fannau masnachol. 22-22A STRYD CAERDYDD, ABERDÂR, CF44 7DP
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd ac estyniad er mwyn darparu 7 fflat newydd a chadw uned breswyl bresennol ar yr ail lawr a gwelliannau i fannau masnachol. 22-22A STRYD CAERDYDD, ABERDÂR, CF44 7DP
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 7 Medi 2023, er mwyn caniatáu trafodaeth bellach gyda'r ymgeisydd gyda'r bwriad o ddatrys pryderon yr Aelodau mewn perthynas â'r cynnig gwreiddiol – yn benodol, nifer yr ystafelloedd arfaethedig ac ansawdd y llety.
Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad pellach, ac yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn ddarostyngedig i'r amodau diwygiedig sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad diweddaraf.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 25/09/2023 – 06/10/2023
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 25/09/2023 – 06/10/2023.
|