Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D Grehan ac M Powell.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 17.08.23 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar XXXXX yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Datblygiad preswyl o 22 o fflatiau ag un a dwy ystafell wely, gyda gwaith tirlunio, gwaith trin ffiniau a man parcio cysylltiedig. SAFLE'R HEN GLWB CYMDEITHAS Y LLYNGES FRENHINOL, 233 STRYD Y LLYS, TONYPANDY, CF40 2RF
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datblygiad preswyl o 22 o fflatiau ag un a dwy ystafell wely, gyda gwaith tirlunio, gwaith trin ffiniau a man parcio cysylltiedig. SAFLE'R HEN GLWB CYMDEITHAS Y LLYNGES FRENHINOL, 233 STRYD Y LLYS, TONYPANDY, CF40 2RF
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr N Ahmed (Ymgeisydd) · Mr A Silver (Gwrthwynebydd) Arferodd yr Ymgeisydd, Mr N Ahmed, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr. Cyflwynodd yr Uwch Gynllunydd y cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn y byddai'r datblygiad yn arwain at or-ddatblygiad ac yn gynamserol, ac roedd ganddyn nhw bryderon yngl?n â diffyg lleoedd parcio ac amwynder. O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros ddod i benderfyniad o'r fath.
|
|
Newid defnydd yr ardal o gymysgedd o ardd ac amaethyddiaeth i ardal ceffylau. Cynnig i newid lefel a deunydd y ddaear i ddarparu draenio rhydd mewn cae hyfforddi ceffylau sydd i'w weld ar y cynlluniau. FFERM PANTGLAS, CAE PANTGLAS, YNYSMAERDY, PONT-Y-CLUN, CF72 8GX
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd yr ardal o gymysgedd o ardd ac amaethyddiaeth i ardal ceffylau. Cynnig i newid lefel y ddaeara deunydd i ddarparu draenio rhydd mewn cae hyfforddi ceffylau sydd i'w weld ar y cynlluniau. FFERM PANTGLAS, CAE PANTGLAS, YNYSMAERDY, PONT-Y-CLUN, CF72 8GX
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr R Pettit (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau. Cyflwynodd yr Uwch Gynllunydd y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r caisyn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu garej ar wahân a man parcio preifat cysylltiedig (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 07/07/23). TIR I'R GORLLEWIN O WILLOWS FARM, FFORDD Y RHIGOS, RHIGOS, ABERDÂR, CF44 9UD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladu garej ar wahân a man parcio preifat cysylltiedig (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 07/07/23). TIR I'R GORLLEWIN O WILLOWS FARM, FFORDD Y RHIGOS, RHIGOS, ABERDÂR, CF44 9UD
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'rcais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd o siop (A1) i fwyty gyda chyfleusterau gwerthu bwyd poeth i'w fwyta oddi ar y safle (A3) gan gynnwys gosod ffliw awyru ac offer echdynnu. 123 CILGANT Y GWEUNDIR, BEDDAU
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o siop (A1) i fwyty gyda chyfleusterau gwerthu bwyd poeth i'w fwyta oddi ar y safle (A3) gan gynnwys gosod ffliw awyru ac offer echdynnu. 123 CILGANT Y GWEUNDIR, BEDDAU
Cyfeiriodd y Pennaeth Materion Cynllunio at lythyr 'hwyr' a ddaeth i law gan Aelod Lleol sydd ddim yn rhan o'r Pwyllgor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo, yn mynegi ei bryderon yngl?n â'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais,PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu ar amod diwygiad i Amod 5 yn cyfyngu'r oriau i 10pm yn hytrach na'r amser sydd wedi'i awgrymu, sef 9pm. Dyma'r amod diwygiedig:
Bydd oriau gweithredu'r busnes a ganiateir fel a ganlyn: Dydd Llun i ddydd Sul: 09:00–22:00
Rheswm: Er mwyn sicrhau fod y s?n o'r datblygiad yma ddim yn peri niwsans i ddeiliaid eiddo preswyl cyfagos yn unol â Pholisi AW10 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
Newid defnydd i droi sied gwartheg yn uned breswyl. (Derbyniwyd Asesiad ac Arolygon Clwydo Ystlumod rhagarweiniol ar 17/8/22) GORLLEWIN CAERLAN, STRYD YR YSGOL, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8EN
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd i droi sied gwartheg yn uned breswyl. (Daeth Adroddiad Clwydo Ystlumod Rhagarweiniol a phob Arolwg i law ar 17/08/22) GORLLEWIN CAERLAN, STRYD YR YSGOL, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8EN
Nododd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyrau 'hwyr' yn cefnogi'r cais a ddaeth i law gan Sarah Jane Davies (Aelod Lleol sydd ddim yn rhan o'r Pwyllgor) a'r asiant cynllunio.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhellion Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am eu bod nhw o'r farn y byddai ailddefnyddio'r eiddo'n well er gwaetha'r diffyg amwynder.
O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros ddod i benderfyniad o'r fath.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 28/08/2023 – 22/09/2023.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod XXXX i XXXX.
|