Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Kate Spence - Gwasanaethau Democrataidd 07747485566
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D Grehan, L Tomkinson a R Williams.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:
12. CAIS: 22/0549. Y Cynghorydd Gareth Hughes, Buddiant Personol, “Rydw i'n adnabod yr ymgeisydd”
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, pan fyddan nhw'n trafod y materion rheoli datblygu ger eu bron, roi ystyriaeth i'r Cynllun Datblygu a, cyn belled â'u bod yn berthnasol, i geisiadau ac i ystyriaethau eraill. Pan fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau, rhaid i Aelodau sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu'n groes i'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Materion Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 07.07.22 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 07.07.22 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Amrywio amod 2 (cynlluniau a gymeradwywyd) caniatâd cynllunio 20/1198/10 (ail-gyflwyno). PLOT 1, TIR YN 53 RHODFA CENARTH, CWM-BACH, ABERDÂR CF44 0NH
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amrywio amod 2 (cynlluniau a gymeradwywyd) caniatâd cynllunio 20/1198/10 (ail-gyflwyno). PLOT 1, TIR YN 53 RHODFA CENARTH, CWM-BACH, ABERDÂR CF44 0NH
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Kevin Toland (Yn cynrychioli'r ymgeisydd, o blaid) · Sian Davies (Gwrthwynebydd) · Gavin Davies (Gwrthwynebydd)
Arferodd Kevin Toland yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r pwyllgor ac argymhellodd fod y cais yn cael ei gymeradwyo gydag amod ychwanegol mewn perthynas â'r ffens/sgrin sydd wedi'i gosod, byddai'r amod yma'n mynnu bod y ffens/sgrin yn cael ei chynnal a'i chadw am byth. Os bydd y ffens/sgrin yn cael ei hadnewyddu, rhaid defnyddio dyluniad a deunyddiau tebyg. Yn dilyn trafodaeth a dadl, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr, Ffyniant a Datblygu, gan gynnwys yr amodau a nodir yn yr adroddiad ac amod ychwanegol mewn perthynas â'r ffens/sgrin, mae'r amod yn mynnu bod y ffens/sgrin yn cael ei chynnal a'i chadw am byth. Os bydd y ffens/sgrin yn cael ei hadnewyddu, rhaid defnyddio dyluniad a deunyddiau tebyg,
(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams o'r bleidlais gan nad oedd yn bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)
|
|
Decin pren uchel. 36 TERAS BRONIESTYN, TRECYNON, ABERDÂR, CF44 8EG
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Decin pren uchel. 36 TERAS BRONIESTYN, TRECYNON, ABERDÂR, CF44 8EG
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Chris Harris (Ymgeisydd) · Gerrard O'Neill (Gwrthwynebydd)
Arferodd yr Ymgeisydd, Chris Harris, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd.
Cyfeiriodd y Pennaeth Materion Cynllunio at lythyr 'hwyr' a dderbyniwyd oddi wrth y gwrthwynebydd, Gerrard O'Neill. Cafodd cynnwys y llythyr ei amlinellu yn ei anerchiad i'r Pwyllgor.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth hir yngl?n â'r cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd Siop Fanwerthu A1 i Siop Pysgod a Sglodion A3. 11 HEOL CLYDACH, CWM CLYDACH, TONYPANDY, CF40 2BD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd Siop Fanwerthu A1 i Siop Pysgod a Sglodion A3. 11 HEOL CLYDACH, CWM CLYDACH, TONYPANDY, CF40 2BD
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Robert Hathaway (Asiant, o blaid) · David McNeil (Gwrthwynebydd) · Heather Rennie (Gwrthwynebydd)
Arferodd yr Asiant, Robert Hathaway, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, roedd yr Aelodau o blaid gwrthod y cais uchod yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu oherwydd pryderon am leoliad y datblygiad arfaethedig ac effaith defnydd A3 ar gymdogion cyfagos, yr effaith ar y priffyrdd cyfagos a'r diffyg manylion yngl?n â'r ddarpariaeth echdynnu. O ganlyniad i hynny, penderfynwyd gohirio’r mater tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Dymchwel adeiladau presennol sy'n ymwneud â'r hen ysgol a chodi 5 t? ar wahân ynghyd â gwaith cysylltiedig gan gynnwys gwaith peirianneg, draenio a thirlunio. (Derbyniwyd cynlluniau ychwanegol ar 04/03/22) HEN YSGOL IAU'R PORTH, TERAS Y BRIALLU, PORTH, CF39 9TH
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dymchwel adeiladau presennol sy'n ymwneud â'r hen ysgol a chodi 5 t? ar wahân ynghyd â gwaith cysylltiedig gan gynnwys gwaith peirianneg, draenio a thirlunio. (Derbyniwyd cynlluniau ychwanegol ar 04/03/22) HEN YSGOL IAU'R PORTH, TERAS Y BRIALLU, PORTH, CF39 9TH
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Joan Isus (Asiant, o blaid y cais) · David Walters (Sylwadau)
Arferodd yr Asiant, Joan Isus, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amod ychwanegol ynghylch yr oriau gwaith, bydd y rhain yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Materion Cynllunio, er budd amwynder preswylwyr cyfagos.
(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Williams y cyfarfod (16:35pm))
|
|
Cais i newid defnydd o siop (A1) i siop bwyd brys sy'n gwerthu pizzas (A3) gan gynnwys mân newidiadau allanol i ddrysau a ffenestri (derbyniwyd disgrifiad, cynllun a manylion diwygiedig ar 10/06/2022). 56A HEOL Y JIWBILÎ, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6DD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais i newid defnydd o siop (A1) i siop bwyd brys sy'n gwerthu pizzas (A3) gan gynnwys mân newidiadau allanol i ddrysau a ffenestri (derbyniwyd disgrifiad, cynllun a manylion diwygiedig ar 10/06/2022). 56A HEOL Y JIWBILÎ, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6DD
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Chris Peters (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais tan un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn caniatáu trafodaethau pellach rhwng Swyddogion y Priffyrdd a’r Ymgeisydd mewn perthynas â’r argymhelliad i weithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) i atal ceir rhag parcio ar y stryd, yn benodol ar y tro.
(Nodwch: Cymerodd y Pwyllgor doriad o bum munud ar yr adeg yma)
|
|
Amrywio amodau 2 a 3 i ymestyn yr amser i gyflwyno materion wedi'u cadw'n ôl (cyf 13/0070/13) TIR I'R GORLLEWIN O DERAS ARDWYN, TONYPANDY
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amrywio amodau 2 a 3 i ymestyn yr amser i gyflwyno materion wedi'u cadw'n ôl (cyf 13/0070/13) TIR I'R GORLLEWIN O DERAS ARDWYN, TONYPANDY
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Ychwanegu llawr caled o flaen y byngalo. 17 NANT Y GLYN, ABERPENNAR, CF45 3DH
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ychwanegu llawr caled o flaen y byngalo. 17 NANT Y GLYN, ABERPENNAR, CF45 3DH
Amlinellodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd oddi wrth un o drigolion Nant y Glyn, roedd y llythyr yn nodi pryderon ynghylch preswylwyr eiddo 17 Nant y Glyn sy'n parhau i barcio ar y stryd yn hytrach na defnyddio'r cyfleuster parcio ychwanegol ar gyfer dau gar.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd hen glinig Llwyn yr Eos (Dosbarth Defnydd D1) i annedd preswyl (Dosbarth Defnydd C3). CLINIG LLWYN YR EOS, YR HEOL FAWR, PENTRE'R EGLWYS, PONTYPRIDD, CF38 1RN
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd hen glinig Llwyn yr Eos (Dosbarth Defnydd D1) i annedd preswyl (Dosbarth Defnydd C3). CLINIG LLWYN YR EOS, YR HEOL FAWR, PENTRE'R EGLWYS, PONTYPRIDD, CF38 1RN
Yn dilyn trafodaeth, ac yn sgil y pryderon a godwyd mewn perthynas â defnydd C3(b) a C3(c), PENDERFYNWYD gohirio'r penderfyniad i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn mynd ati i ymgynghori â'r Heddlu i weld a oes yna enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar safle'r datblygiad arfaethedig ar hyn o bryd.
|
|
Cael gwared ar gysgodfan ysmygu bresennol ac ymestyn y man yfed awyr agored presennol. GWESTY'R LION, STRYD BUTE, TREORCI, CF42 6AH
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cael gwared ar gysgodfan ysmygu bresennol ac ymestyn y man yfed awyr agored presennol. GWESTY'R LION, STRYD BUTE, TREORCI, CF42 6AH
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 11/07/2022 – 22/07/2022.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi; Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 11/07/2022 tan 22/07/2022.
|