Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Kate Spence - Gwasanaethau Democrataidd 07747485566
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D Grehan a R Williams.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaididdyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, pan fyddan nhw'n trafod y materion rheoli datblygu ger eu bron, roi ystyriaeth i'r Cynllun Datblygu a, cyn belled â'u bod yn berthnasol, i geisiadau ac i ystyriaethau eraill. Pan fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau, rhaid i Aelodau sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu'n groes i'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Ardal barcio (ôl-weithredol) a mynediad cwrb isel dros lwybr troed cyhoeddus. 36 HEOL ABER-RHONDDA, PORTH, CF39 0BB
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ardal barcio (ôl-weithredol) a mynediad cwrb isel dros lwybr troed cyhoeddus. 36 HEOL ABER-RHONDDA, PORTH, CF39 0BB
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn cynnal Ymweliad Safle gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu. Bwriad hyn oedd ystyried effaith y datblygiad arfaethedig ar y briffordd.
|
|
Trosi'r islawr yn fflat stiwdio hunangynhwysol 2 SCRANTON VILLAS, STRYD FAWR, CYMER, PORTH, CF39 9EU
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trosi'r islawr yn fflat stiwdio hunangynhwysol 2 SCRANTON VILLAS, STRYD FAWR, CYMER, PORTH, CF39 9EU.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Andrew Evans (Ymgeisydd). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio ei gais i'w Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn nad oedd safon y llety'n ddigon da. O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Cyfleuster parcio ceir ar dir gyferbyn ag 11-16 Heol Brithweunydd (Ôl-weithredol). TIR YN HEOL BRITHWEUNYDD, TREALAW, TONYPANDY
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfleuster parcio ceir ar dir gyferbyn ag 11-16 Heol Brithweunydd (Ôl-weithredol). TIR YN HEOL BRITHWEUNYDD, TREALAW, TONYPANDY.
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Dean Rees (Cynrychiolydd yr Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Hughes, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â materion parcio ar y stryd sy'n ymwneud â'r datblygiad arfaethedig.
Amlinellodd y Pennaeth Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd oddi wrth un o drigolion Heol Brithweunydd, yn amlygu pryderon ynghylch parcio ar safle'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Cynnig i adeiladu estyniad ac ehangu eiddo presennol Sigma 3 (Kitchens) Ltd, yn ogystal â gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd cynllun tirlunio ac asesiad o'r effaith ar yr amgylchedd (EIA) diwygiedig ar 20 Mehefin 2022) SIGMA 3 KITCHENS LTD, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynnig i adeiladu estyniad ac ehangu eiddo presennol Sigma 3 (Kitchens) Ltd, yn ogystal â gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd cynllun tirlunio ac asesiad o'r effaith ar yr amgylchedd (EIA) diwygiedig ar 20 Mehefin 2022) SIGMA 3 KITCHENS LTD, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF.
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor James Scarborough (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adnewyddu ac adfer t? fferm (derbyniwyd ffin llinell goch ac Adroddiad Strwythurol wedi'i ddiweddaru ar 01/04/22) FFERM CYNLAS, FFORDD Y RHIGOS, RHIGOS, ABERDÂR.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adnewyddu ac adfer t? fferm (derbyniwyd ffin llinell goch ac Adroddiad Strwythurol wedi'i ddiweddaru ar 01/04/22) FFERM CYNLAS, FFORDD Y RHIGOS, RHIGOS, ABERDÂR.
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Callum Summerill (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Morgan, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei chefnogaeth o'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Amrywio Amod 1 yng nghais cynllunio rhif: 17/0195/13 i ganiatáu cyfnod o 3 blynedd arall ar gyfer cyflwyno materion sydd wedi'u cadw'n ôl (Derbyniwyd yr Adolygiad Ecolegol ar 24/03/22) TIR Y TU ÔL I DERAS SIÔN, CWM-BACH, ABERDÂR, CF44 0AT
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amrywio Amod 1 yng nghais cynllunio rhif: 17/0195/13 i ganiatáu cyfnod o 3 blynedd arall ar gyfer cyflwyno materion sydd wedi'u cadw'n ôl (Derbyniwyd yr Adolygiad Ecolegol ar 24/03/22) TIR Y TU ÔL I DERAS SIÔN, CWM-BACH, ABERDÂR, CF44 0AT.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau cytundeb adran 106 sy'n gofyn am:
· dim llai na 10% o'r anheddau fel unedau cost isel tair llofft ar ffurf tai; a
· cynllun rheoli mannau agored cyhoeddus a oedd yn cynnwys sefydlu, dylunio a rheoli ardal lliniaru ecolegol o safbwynt hirdymor.
|
|
Newid defnydd y llawr gwaelod o Ddosbarth Defnydd A2 (Swyddfa Fetio) i Ddosbarth Defnydd A3 (Siop Gludfwyd) a gosod ffliw echdynnu ar gefn yr eiddo ar gyfer y defnydd newydd (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 01/11/21) (Derbyniwyd yr Asesiad S?n ac Arogl ar 01/02/22) LADBROKES PLC, 45 HEOL YNYS-HIR, YNYS-HIR, PORTH, CF39 0EL.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd y llawr gwaelod o Ddosbarth Defnydd A2 (Swyddfa Fetio) i Ddosbarth Defnydd A3 (Siop Gludfwyd) a gosod ffliw echdynnu ar gefn yr eiddo ar gyfer y defnydd newydd (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 01/11/21) (Derbyniwyd yr Asesiad S?n ac Arogl ar 01/02/22) LADBROKES PLC, 45 HEOL YNYS-HIR, YNYS-HIR, PORTH, CF39 0EL.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth hirfaith PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn galluogi swyddogion i gasglu gwybodaeth bellach mewn perthynas ag adran Iechyd y Cyhoedd o ran yr effaith ar amwynder eiddo sydd y tu ôl i'r datblygiad arfaethedig.
|
|
Ailadeiladu estyniad i'r cefn, gosod drws newydd yn y fynedfa, codi uchder y crib, creu ardal iard gaeëdig a gwaith adnewyddu cyffredinol. HEN DAFARN Y BUTE ARMS, FFORDD LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 9DP.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ailadeiladu estyniad i'r cefn, gosod drws newydd yn y fynedfa, codi uchder y crib, creu ardal iard gaeëdig a gwaith adnewyddu cyffredinol. HEN DAFARN Y BUTE ARMS, FFORDD LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 9DP.
Amlinellodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys dau lythyr 'hwyr' a ddaeth i law gan yr Asiant (ar ran Perchennog yr eiddo sydd ynghlwm) a gan Berchennog yr eiddo sydd ynghlwm (Rhif 3 a Rhif 5), yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Trosi hen glwb ceidwadol yn 9 fflat hunangynhwysol (Derbyniwyd dyluniad diwygiedig o wyneb yr eiddo a'r Adroddiad Arolwg Ystlumod ar 19 Mehefin 2022) 51-52 HEOL YSTRAD, PENTRE, CF41 7PH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd y llawr gwaelod o Ddosbarth Defnydd A2 (Swyddfa Fetio) i Ddosbarth Defnydd A3 (Siop Gludfwyd) a gosod ffliw echdynnu ar gefn yr eiddo ar gyfer y defnydd newydd (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 01/11/21) (Derbyniwyd yr Asesiad S?n ac Arogl ar 01/02/22) LADBROKES PLC, 45 HEOL YNYS-HIR, YNYS-HIR, PORTH, CF39 0EL.
Amlinellodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys llythyr 'hwyr' a ddaeth i law gan Nassir Manan Mahmood yn cefnogi'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn galluogi swyddogion i gasglu gwybodaeth bellach mewn perthynas ag adran Iechyd y Cyhoedd o ran yr effaith ar amwynder eiddo sydd y tu ôl i'r datblygiad arfaethedig.
|
|
Diwygiad ansylweddol i gais 18/0204/10: Deunyddiau diwygiedig i wynebau. THE DRAGON INN (HEN DAFARN THE BRIGDE INN) A RHIF 1 STRYD SARON, TREFFOREST, PONTYPRIDD, CF37 1TF
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diwygiad ansylweddol i gais 18/0204/10: Deunyddiau diwygiedig i wynebau. THE DRAGON INN (HEN DAFARN THE BRIDGE INN) A RHIF 1 STRYD SARON, TREFFOREST, PONTYPRIDD, CF37 1TF.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r diwygiad ansylweddol.
|
|
Bloc ystafelloedd dosbarth 2 lawr i'w adeiladu yn rhan o Gam 1, gyda 4 ystafell ddosbarth ar y llawr isaf, a Cham 2 sy'n cynnwys 4 ystafell ddosbarth ar y llawr cyntaf, a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Cynllun Teithio a Datganiad Trafnidiaeth Diwygiedig ar 12/4/22, derbyniwyd Asesiad Risg Mwyngloddio Glo (CMRA) ar 15/6/22) YSGOL GYFUN Y PANT, HEOL Y BONT-FAEN, TONYSGUBORIAU, PONT-Y-CLUN, CF72 8YQ
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bloc ystafelloedd dosbarth 2 lawr i'w adeiladu yn rhan o Gam 1, gyda 4 ystafell ddosbarth ar y llawr isaf, a Cham 2 sy'n cynnwys 4 ystafell ddosbarth ar y llawr cyntaf, a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Cynllun Teithio a Datganiad Trafnidiaeth Diwygiedig ar 12/4/22, derbyniwyd Asesiad Risg Mwyngloddio Glo (CMRA) ar 15/6/22) YSGOL GYFUN Y PANT, HEOL Y BONT-FAEN, TONYSGUBORIAU, PONT-Y-CLUN, CF72 8YQ.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 27/06/2022 – 08/07/2022.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd; Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau; Trosolwg o Achosion Gorfodi; Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 27/06/2022 –08/07/2022.
|