Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Kate Spence - Gwasanaethau Democrataidd 07747485566
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Hughes, J Smith a D Williams.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a
2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:
8. CAIS: 22/0585.
Nododd y Cynghorydd Craig Middle, fuddiant personol a rhagfarnllyd canlynol: "Rwy'n Gyfarwyddwr ar Harlech Property Development Ltd sy'n berchen ar yr eiddo, a fy mab, Joss Middle yw'r ymgeisydd".
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, pan fyddan nhw'n trafod y materion rheoli datblygu ger eu bron, roi ystyriaeth i'r Cynllun Datblygu a, cyn belled â'u bod yn berthnasol, i geisiadau ac i ystyriaethau eraill. Pan fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau, rhaid i Aelodau sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu'n groes i'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 21.07.22 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2022 yn rhai cywir. |
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod. |
|
Bwriad i adeiladu annedd newydd gyda garej ynghlwm (Ailgyflwyno 21/1208/10) (Ffin llinell goch ddiwygiedig wedi dod i law 10/03/2022), TIR GER CARTREF MELYS, HEOL LLECHAU, WATTSTOWN, PORTH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bwriad i adeiladu annedd newydd gyda garej ynghlwm (Ailgyflwyno 21/1208/10) (Ffin llinell goch ddiwygiedig wedi dod i law 10/03/2022), TIR GER CARTREF MELYS, HEOL LLECHAU, WATTSTOWN, PORTH, CF39 0PP.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Robert Hathaway (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Bevan, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi ei fod e'n cefnogi'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl ei ystyried, roedd yr Aelodau o blaid cymeradwyo'r cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn y byddai'r datblygiad arfaethedig yn cyd-fynd â chymeriad eiddo presennol, cyfagos, ac roedden nhw'n fodlon ar ei leoliad mewn perthynas â ffiniau aneddiadau Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Rhondda Cynon Taf.
O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Annedd ar wahân, ffurfio'r tir, ehangu’r mynediad a maes parcio (Ailgyflwyno cais 21/1662/10). TIR I'R GORLLEWIN O RANDIR HEOL LLECHAU, HEOL LLECHAU, WATTSTOWN, PORTH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Annedd ar wahân, ffurfio'r tir, ehangu’r mynediad a maes parcio (Ailgyflwyno cais 21/1662/10). TIR I'R GORLLEWIN O RANDIR HEOL LLECHAU, HEOL LLECHAU, WATTSTOWN, PORTH.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Scott Phelps (Ymgeisydd) · Robert Hathaway (Asiant)
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Bevan, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi ei fod e'n cefnogi'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhyddhau amod 13 - lefelau tir presennol a lefelau tir/llawr gorffenedig arfaethedig ar gyfer caniatâd cynllunio 18/1411/10. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 21/04/2022) HEN YSGOL GYNRADD GYMRAEG LLANTRISANT, STRYD YR YSGOL, LLANTRISANT, CF72 8EN.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhyddhau amod 13 - lefelau tir presennol a lefelau tir/llawr gorffenedig arfaethedig ar gyfer caniatâd cynllunio 18/1411/10. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 21/04/2022) HEN YSGOL GYNRADD GYMRAEG LLANTRISANT, STRYD YR YSGOL, LLANTRISANT, CF72 8EN.
Nododd y Pwyllgor nad oedd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Holmes, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, a oedd wedi gofyn am annerch yr Aelodau ar y Cais yn bresennol i wneud hynny.
Cyfeiriodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol at lythyr 'hwyr' oddi wrth ddeiliaid yr eiddo cyfagos yn amlinellu'r rhesymau dros eu gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig, roedd rhai pwyntiau eisoes wedi codi'n rhan o'r adroddiad.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Annedd Sengl. (Derbyniwyd y ffin goch ddiwygiedig ar 26/01/22) TIR GER 23 GLAN-YR-AFON, TREORCI.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Annedd Sengl. (Derbyniwyd y ffin goch ddiwygiedig ar 26/01/22) TIR GER 23 GLAN-YR-AFON, TREORCI.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Amrywio amod 1 - terfyn amser y caniatâd cynllunio 12/0367/10. (Derbyniwyd Archwiliad o Strwythurau Ystlumod a'r Asesiad Ecolegol ar 04/03/22) NEUADD YR EGLWYS, LLYS TYLCHA FAWR, TONYREFAIL.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amrywio amod 1 - terfyn amser y caniatâd cynllunio 12/0367/10. (Derbyniwyd Archwiliad o Strwythurau Ystlumod a'r Asesiad Ecolegol ar 04/03/22) NEUADD YR EGLWYS, LLYS TYLCHA FAWR, TONYREFAIL
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Estyniad dwbl i gefn yr eiddo 85 HEOL Y TYLE, MAES-Y-COED, PONTYPRIDD, CF37 1EF.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estyniad dwbl i gefn yr eiddo 85 HEOL Y TYLE, MAES-Y-COED, PONTYPRIDD, CF37 1EF.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant yn y cais uchod (Cofnod Rhif 51), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C. Middle y cyfarfod ar gyfer yr eitem yma.)
|
|
Cais Amlinellol ar gyfer hyd at 15 o dai gan gynnwys mynediad, maes parcio, system ddraenio, ardaloedd bioamrywiaeth a gwaith allanol ategol. TIR GER CILGANT BURGESSE, LLANTRISANT, CF72 8QB.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais Amlinellol ar gyfer hyd at 15 o dai gan gynnwys mynediad, maes parcio, system ddraenio, ardaloedd bioamrywiaeth a gwaith allanol ategol. TIR GER CILGANT BURGESSE, LLANTRISANT, CF72 8QB.
Cyfeiriodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol at dri llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd oddi wrth drigolion dau eiddo cyfagos, a oedd yn codi pryderon am blotiau 14 a 15 y datblygiad arfaethedig. Atgoffwyd yr aelodau mai cais amlinellol yn unig oedd hwn, ac y byddai'n destun cais materion wedi'u cadw'n ôl yn ôl yn ddiweddarach, ac felly bydd angen ymgynghori ag eiddo cyfagos eto yn y dyfodol.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau cytundeb adran 106 sy'n gofyn am:
· 2 th? â 2 ystafell wely at ddiben perchentyaeth cost isel: · 1 t? â 3 ystafell wely at ddiben perchentyaeth cost isel:
Dylid adeiladu'r unedau Perchentyaeth Cost Isel i safon Gofyniad Ansawdd Datblygu a sicrhau eu bod ar gael i'w gwerthu i brynwyr tro cyntaf a enwebwyd gan y Cyngor o'r Gofrestr Homestep. Dylai cyfraniad y datblygwr gyfateb i 30% o werth y farchnad agored ar gyfer pob uned, hy, ni ddylai'r prynwr enwebedig dalu mwy na 70% o werth y farchnad agored fesul uned.
|
|
Newid defnydd y llawr gwaelod o Ddosbarth A3 (Bwyd a Diod) i Ddosbarth C3 (Fflat Breswyl). LLANTWIT HOUSE, SHAZS INDIAN TAKEAWAY, FFORDD LLANTRISANT, LLANILLTUD FAERDREF, CF38 2LT.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd y llawr gwaelod o Ddosbarth A3 (Bwyd a Diod) i Ddosbarth C3 (Fflat Breswyl). LLANTWIT HOUSE, SHAZS INDIAN TAKEAWAY, FFORDD LLANTRISANT, LLANILLTUD FAERDREF, CF38 2LT.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Trosi'r islawr yn fflat stiwdio hunangynhwysol 2 SCRANTON VILLAS, STRYD FAWR, CYMER, PORTH, CF39 9EU. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trosi'r islawr yn fflat stiwdio hunangynhwysol 2 SCRANTON VILLAS, STRYD FAWR, CYMER, PORTH, CF39 9EU.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 21 Gorffennaf 2022, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu (Cofnod 23).
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, gan dynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl gwrthod cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn oherwydd:
Byddai'r defnydd preswyl arfaethedig, ar ffurf fflat hunangynhaliol ychwanegol o fewn islawr eiddo teras presennol, yn rhoi pwysau sylweddol ar y llain, yn cynrychioli defnydd gorddwys a gorddatblygiad o'r safle. Byddai ceisio cynnwys cynifer o unedau/ystafelloedd gwely ag y bo modd o fewn adeilad mor fach, yn arwain at greu llety byw cyfyng ac o ansawdd gwael i ddeiliaid y dyfodol. Fel y cyfryw, mae'r cais yn groes i Bolisi AW5 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf a'r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Datblygu Fflatiau a fabwysiadwyd gan y Cyngor.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 25/07/2022 – 05/08/2022.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi; Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 25/07/2022 tan 05/08/2022.
|