Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Kate Spence - Gwasanaethau Democrataidd 07747485566
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
DATGAN BUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud: 11. CAIS RHIF: 22/0991. Y Cynghorydd Danny Grehan, Personol, “Rydw i'n llywodraethwr yn yr ysgol.”
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, pan fyddan nhw'n trafod y materion rheoli datblygu ger eu bron, roi ystyriaeth i'r Cynllun Datblygu a, cyn belled â'u bod yn berthnasol, i geisiadau ac i ystyriaethau eraill. Pan fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau, rhaid i Aelodau sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu'n groes i'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 8 Medi 2022 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 8 Medi, 2022 yn rhai cywir, yn amodol ar gynnwys presenoldeb Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Smith yn y cyfarfod.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Cadw newidiadau presennol i'r ardd gefn (grisiau a deciau canol). Ailgyflwyno 21/0923/10. 3 PLEASANT HEIGHTS, PORTH, CF39 0LZ.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadw newidiadau presennol i'r ardd gefn (grisiau a deciau canol). Ailgyflwyno cais 21/0923/10. 3 PLEASANT HEIGHTS, PORTH, CF39 0LZ. Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Amanda Pike (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Amlinellodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' gan drigolyn lleol yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth ddwys, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Caniatâd cynllunio amlinellol gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ac eithrio mynediad ar gyfer adeiladu hyd at 765 o fetrau sgwâr o adeiladau diwydiannol (B1 / B2 / B8 hyblyg), cyfleusterau parcio, draenio a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd cynlluniau wedi'u diweddaru ar 23/08/22) TIR YN YSTAD BRYNGELLI, LÔN Y DDÔL, HIRWAUN.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Caniatâd cynllunio amlinellol gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ac eithrio mynediad ar gyfer adeiladu hyd at 765 o fetrau sgwâr o adeiladau diwydiannol (B1 / B2 / B8 hyblyg), cyfleusterau parcio, draenio a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd cynlluniau wedi'u diweddaru ar 23/08/22) TIR YN YSTAD BRYNGELLI, LÔN Y DDÔL, HIRWAUN. Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Josh Downey (Asiant). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes rhag pleidleisio ar yr eitem hon gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y ddadl gyfan).
|
|
Cais i gymeradwyo materion wedi'u cadw'n ôl (ymddangosiad, tirlunio, cynllun, mynediad a graddfa) mewn perthynas â 15 annedd a gwaith cysylltiedig (yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol: 17/0195) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 20/08/21) (Derbyniwyd Adolygiad Ecolegol ar 24/03/22) (Derbyniwyd Cynllun Safle diwygiedig ar 30/05/22) TIR Y TU ÔL I DERAS SIÔN, RHES Y GORON, CWM-BACH, ABERDÂR
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais i gymeradwyo materion wedi'u cadw'n ôl (ymddangosiad, tirlunio, cynllun, mynediad a graddfa) mewn perthynas â 15 annedd a gwaith cysylltiedig (yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol: 17/0195) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 20/08/21) (Derbyniwyd Adolygiad Ecolegol ar 24/03/22) (Derbyniwyd Cynllun Safle diwygiedig ar 30/05/22) TIR Y TU ÔL I DERAS SIÔN, RHES Y GORON, CWM BACH, ABERDÂR. Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais yn ddwys, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu adeilad swyddfa deulawr newydd ac adeilad porthdy unllawr. UNED D A C, PUROLITE INTERNATIONAL LTD, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladu adeilad swyddfa deulawr newydd ac adeilad porthdy unllawr. UNED D A C, PUROLITE INTERNATIONAL LTD, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Symud deunydd pwll glo o domen uchaf Llanwynno i safle ger tomen Tylorstown, sy'n cynnwys creu tirffurf newydd a gwaith ailbroffilio/sefydlogi safle'r domen uchaf, yn ogystal â draeniau newydd, creu/gwella llwybrau mynediad, aildyfu llystyfiant a gwaith cysylltiedig. TIR YN NHOMEN UCHAF LLANWYNNO A THIR Y TU ÔL I DOMEN TYLORSTOWN, TYLORSTOWN, CF43 4UF
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Symud deunydd pwll glo o domen uchaf Llanwynno i safle ger tomen Tylorstown, sy'n cynnwys creu tirffurf newydd a gwaith ailbroffilio/sefydlogi safle'r domen uchaf, yn ogystal â draeniau newydd, creu/gwella llwybrau mynediad, aildyfu llystyfiant a gwaith cysylltiedig. TIR YN NHOMEN UCHAF LLANWYNNO A THIR Y TU ÔL I DOMEN TYLORSTOWN, TYLORSTOWN, CF43 4UF
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth ddwys, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Annedd 5 ystafell wely, garej ynghlwm, man ychwanegol i barcio ceir. HEULWEN DEG, BYTHYNNOD Y GRAIG, GRAIG-WEN, PONTYPRIDD, CF37 2EF
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Annedd 6 ystafell wely, garej ynghlwm, man ychwanegol i barcio ceir. HEULWEN DEG, BYTHYNNOD Y GRAIG, GRAIG-WEN, PONTYPRIDD, CF37 2EF.
Rhoddodd y Pennaeth Materion Cynllunio wybod i Aelodau y cafodd ffiniau safle'r cais eu nodi'n anghywir ar y cynllun gwreiddiol felly roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynllun llinell goch newydd. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais tan gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn caniatáu i ymgynghoriad ar y cais diwygiedig gael ei gynnal.
|
|
Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio 22/0028/08 i wneud mân ddiwygiadau i ddyluniad wynebau'r adeilad a champfa newydd i'r chweched dosbarth, ac i'r cynllun tirlunio. YSGOL GYFUN BRYNCELYNNOG, HEOL PENYCOEDCAE, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2AE
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio 22/0028/08 i wneud mân ddiwygiadau i ddyluniad wynebau'r adeilad a champfa newydd i'r chweched dosbarth, ac i'r cynllun tirlunio. YSGOL GYFUN BRYNCELYNNOG, HEOL PENYCOEDCAE, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2AE
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Amrywio amod 2 o ganiatâd cynllunio 21/0005/08, i ddarparu mynediad y Blynyddoedd Cynnar ar wahân i'r gât bresennol ar Fryn Bethania, gyda gwaith gwella'r briffordd cysylltiedig YSGOL GYNRADD CWMLAI, HEOL PENYGARREG, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8AS.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amrywio amod 2 o ganiatâd cynllunio 21/0005/08, i ddarparu mynediad y Blynyddoedd Cynnar ar wahân i'r gât bresennol ar Fryn Bethania, gyda gwaith gwella'r briffordd cysylltiedig YSGOL GYNRADD CWMLAI, HEOL PENYGARREG, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8AS.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hopkins y cyfarfod yn ystod yr eitem yma).
|
|
Garej â tho gwastad gyda gwaith cysylltiedig 109 T? RHIW, T? RHIW, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7RW.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Garej â tho gwastad gyda gwaith cysylltiedig 109 T? RHIW, T? RHIW, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7RW.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Ehangu ffin yr ardd a chreu ardal barcio, gosod gatiau mynediad pren a waliau terfyn newydd â blociau (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig a disgrifiad ar 07/08/2022) MERRIVALE, FFORDD LLWYDCOED, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0TW.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ehangu ffin yr ardd a chreu ardal barcio, gosod gatiau mynediad pren a waliau terfyn newydd â blociau (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig a disgrifiad ar 07/08/2022) MERRIVALE, FFORDD LLWYDCOED, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0TW.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 16 Rhagfyr 2021, lle penderfynodd Aelodau ohirio'r cais er mwyn trafod ymhellach gyda'r ymgeisydd i egluro cwmpas y cynigion (gweler Cofnod 147).
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, ac yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn ddarostyngedig i'r 2 amod sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad diweddaraf.
|
|
Newid defnydd y llawr gwaelod o Ddosbarth Defnydd A2 (Swyddfa Fetio) i Ddosbarth Defnydd A3 (Siop Gludfwyd) a gosod ffliw echdynnu ar gefn yr eiddo ar gyfer y defnydd newydd (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 01/11/21) (Derbyniwyd yr Asesiad S?n ac Arogl ar 01/02/22) LADBROKES PLC, 45 HEOL YNYS-HIR, YNYS-HIR, PORTH, CF39 0EL.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd y llawr gwaelod o Ddosbarth Defnydd A2 (Swyddfa Fetio) i Ddosbarth Defnydd A3 (Siop Gludfwyd) a gosod ffliw echdynnu ar gefn yr eiddo ar gyfer y defnydd newydd (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 01/11/21) (Derbyniwyd yr Asesiad S?n ac Arogl ar 01/02/22) LADBROKES PLC, 45 HEOL YNYS-HIR, YNYS-HIR, PORTH, CF39 0EL.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei phryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
Amlinellodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys dau lythyr 'hwyr' a ddaeth i law, un oddi wrth yr ymgeisydd yn cefnogi'r cais, ac un oddi wrth Gadeirydd Band Ynys-hir yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais, a gafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn wreiddiol ar 21 Gorffennaf 2022, lle penderfynodd Aelodau ohirio'r cais er mwyn casglu gwybodaeth bellach gan adran Iechyd y Cyhoedd mewn perthynas â'r effaith ar amwynder eiddo sydd y tu ôl i'r datblygiad arfaethedig (gweler Cofnod 28).
Bu trafodaeth ymysg yr Aelodau yngl?n â'r adroddiad pellach, a PHENDERFYNODD Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad gwreiddiol y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Cafodd cynnig ei eilio i wrthod y cais, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu ond ni chafodd y cynnig ei gymeradwyo).
|
|
CAIS RHIF: 22/0492/10 PDF 172 KB Ardal barcio (ôl-weithredol) a mynediad cwrb isel dros lwybr troed cyhoeddus. 36 HEOL ABER-RHONDDA, PORTH, CF39 0BB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ardal barcio (ôl-weithredol) a mynediad cwrb isel dros lwybr troed cyhoeddus. 36 HEOL ABER-RHONDDA, PORTH, CF39 0BB.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais, a gafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn wreiddiol ar 21 Gorffennaf 2022, lle penderfynodd Aelodau ohirio'r cais i drefnu ymweliad safle a gafodd ei gynnal ar 9 Awst 2022. Cafodd y cais ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ar 8 Medi 2022, lle penderfynodd Aelodau wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu (gweler Cofnod 74).
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl gwrthod cais yn groes i argymhelliad swyddogion ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu am y rheswm canlynol:
· Byddai'r ardal barcio a mynediad cwrb isel dros lwybr troed cyhoeddus yn arwain at leihau nifer y lleoedd parcio ar y stryd yn yr ardal lle mae galw mawr am y nifer bach o leoedd yn barod, ac yn creu peryglon i draffig o ganlyniad i beidio â gallu gweld yn bell allan o'r safle. Byddai hynny'n peryglu diogelwch cerddwyr a diogelwch ar y briffordd, yn ogystal â chael effaith ar lif y traffig. Mae'r cynnig felly yn mynd yn groes i Bolisi AW5 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 26/09/2022 – 07/10/2022
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 26/09/2022 a 07/10/2022.
|