Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Kate Spence - Gwasanaethau Democrataidd  07747485566

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

86.

CROESO AC YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daethymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D Grehan a J Bonetto.

87.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

 

5. CAIS RHIF: 22/0265.

Y Cynghorydd Gareth Jones, Buddiant Personol, “Mae'r siaradwr cyhoeddus yn ffrind personol”.

 

11. CAIS RHIF: 22/0510.

Nododd y Cynghorydd Wendy Lewis y buddiant personol a rhagfarnllyd canlynol: “Mae fy mrawd yn berchen ar eiddo sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, ac yn byw yno”.

 

88.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, pan fyddan nhw'n trafod y materion rheoli datblygu ger eu bron, roi ystyriaeth i'r Cynllun Datblygu a, cyn belled â'u bod yn berthnasol, i geisiadau ac i ystyriaethau eraill. Pan fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau, rhaid i Aelodau sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu'n groes i'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998

 

89.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

90.

COFNODION 18.08.22 pdf icon PDF 172 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 18 Awst 2022 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 18 Awst 2022 yn rhai cywir.

91.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei hystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

92.

CAIS RHIF: 22/0510 pdf icon PDF 206 KB

Dymchwel y warws presennol ac adeiladu bloc o 16 o fflatiau fforddiadwy gyda mannau parcio ac amwynder cysylltiedig. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig sy'n cynnwys paneli solar ar y prif do ar 19/05/22, derbyniwyd Tystysgrif Perchnogaeth 'C' ar 04/08/22, derbyniwyd dyluniadau diwygiedig, cynlluniau llawr, cynllun y safle, manylion ynghylch goleuadau a thrawstoriad ychwanegol ar 08/08/22) W R BISHOP AND CO FRUIT AND VEGETABLE, HEOL PENRHIW-FER, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8EY.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dymchwel y warws presennol ac adeiladu bloc o 16 o fflatiau

fforddiadwy gyda mannau parcio ac amwynder cysylltiedig. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig sy'n cynnwys paneli solar ar y prif do ar 19/05/22, derbyniwyd Tystysgrif Perchnogaeth 'C' ar 04/08/22, derbyniwyd dyluniadau diwygiedig, cynlluniau llawr, cynllun y safle, manylion ynghylch goleuadau a thrawstoriad ychwanegol ar 08/08/22) W R BISHOP AND CO FRUIT AND VEGETABLE, HEOL PENRHIW-FER,

TONYREFAIL, PORTH, CF39 8EY.

 

(Ar ôl datgan buddiant sy'n rhagfarnu yn y cais uchod (Cofnod Rhif 86), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis y cyfarfod ar gyfer yr eitem yma.)

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·       Geraint John (Asiant)

·       Alun Taylor (Gwrthwynebydd)

·       Peter Marchant (Gwrthwynebydd)

·       Michael Coombs (Gwrthwynebydd)

·       Victoria Higgins (Gwrthwynebydd)

·       Shawn Stevens (Gwrthwynebydd)

 

Bu'r Asiant Geraint John yn gweithredu'r hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr.

 

Siaradodd yr Aelodau Lleol, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol K Webb a D Owen-Jones, nad ydyn nhw'n aelodau o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi eu gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Rhannodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a ddaeth i law ar ran Cyngor Cymuned Tonyrefail a oedd yn gwrthwynebu'r cais. Cyfeiriodd at ail lythyr 'hwyr' a ddaeth i law oddi wrth y siaradwr cyhoeddus Michael Coombs (Gwrthwynebydd) a oedd yn cynnwys tri llun.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth hir, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

 

 

 

93.

CAIS RHIF: 22/0819 pdf icon PDF 119 KB

Estyniad deulawr y tu cefn i'r adeilad ac estyniad llawr cyntaf i ochr yr adeilad (Cais 21/1691/10 wedi'i ailgyflwyno) 3 CILGANT PEN-Y-BRYN, PONTYPRIDD, CF37 4AD.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estyniad deulawr y tu cefn i'r adeilad ac estyniad llawr cyntaf i ochr yr

adeilad (Cais 21/1691/10 wedi'i ailgyflwyno) 3 CILGANT PEN-Y-BRYN,

PONTYPRIDD, CF37 4AD.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·       Nish Amin (Ymgeisydd)

·       Ann Davies (Gwrthwynebydd)

·       Iwan Davies (Gwrthwynebydd)

 

Bu'r Ymgeisydd Nish Amin yn gweithredu'r hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig. Gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried cynnal ymweliad â'r safle.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Materion Cynllunio at lythyr 'hwyr' a ddaeth i law oddi wrth breswylydd cyfagos a oedd yn gwrthwynebu'r cais. Roedd cynnwys y llythyr eisoes yn rhan o adran Cyhoeddusrwydd yr adroddiad.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Ar y pwynt yma – 4:31pm – gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Owen y cyfarfod)

 

 

 

 

 

 

 

94.

CAIS RHIF: 22/0265 pdf icon PDF 189 KB

Adeiladu llawr caled ar gyfer lleoli carafán a garej ar wahân newydd - cais ôl-weithredol. 52 STRYD LLEWELYN, TRECYNON, ABERDÂR CF44 8HU.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adeiladu llawr caled ar gyfer lleoli carafán a garej ar wahân newydd -

cais ôl-weithredol. 52 STRYD LLEWELYN, TRECYNON, ABERDÂR

CF44 8HU.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Louise Avenell (Gwrthwynebydd). Cafodd hi bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Jones, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi ei gais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth hir, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn oherwydd y byddai'r llawr caled a'r garej newydd yn cael effaith ar yr eiddo cyfagos, gan edrych drosto.

 

O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros ddod i benderfyniad o'r fath.

 

(Nodwch: Cymerodd y Pwyllgor doriad o bum munud ar yr adeg hon).

 

 

95.

CAIS RHIF: 22/0743/09 pdf icon PDF 207 KB

Cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon ar gyfer defnydd arfaethedig cartref gofal Dosbarth C3(b) (ar gyfer hyd at chwe phreswylydd yn byw fel un aelwyd gyda gofal yn cael ei ddarparu) WINDY RIDGE, TREM HYFRYD, YNYS-Y-BWL, PONTYPRIDD, CF37 3PF.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon ar gyfer defnydd arfaethedig

cartref gofal Dosbarth C3(b) (ar gyfer hyd at chwe phreswylydd yn byw

yn un aelwyd gyda gofal yn cael ei ddarparu) WINDY RIDGE, TREM

HYFRYD, YNYS-Y-BWL, PONTYPRIDD, CF37 3PF.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Damian Barry (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

 

Cyflwynodd Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 8 Medi 2022, pan benderfynodd yr Aelodau i ohirio dod i benderfyniad am y cais tan gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol (Cofnod 80).

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, ac yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

96.

CAIS RHIF: 22/0363 pdf icon PDF 132 KB

Newid defnydd Parlwr Angladdau Llawr Gwaelod i Siop Fanwerthu a throsi'r Fflat Llawr Cyntaf yn fflat dwy ystafell wely THE CO OPERATIVE FUNERALCARE, STRYD FAWR, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8PL.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Newid defnydd Parlwr Angladdau Llawr Gwaelod i Siop Fanwerthu a

throsi'r Fflat Llawr Cyntaf yn fflat dwy ystafell wely THE CO OPERATIVE FUNERALCARE, STRYD FAWR, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8PL.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Owen-Jones, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon am y datblygiad arfaethedig. Gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried cynnal ymweliad â'r safle.

 

Rhannodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys llythyr 'hwyr' a ddaeth i law oddi wrth Aelod Lleol y Fwrdeistref Sirol, y Cynghorydd D Grehan, a oedd yn nodi pryderon am ddiogelwch y priffyrdd. 

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

 

 

 

97.

CAIS RHIF: 22/0587 pdf icon PDF 128 KB

Gosod llifoleuadau a ffensys terfyn newydd YSTAFELLOEDD NEWID PENYRENGLYN, STRYD BAGLAN, TREHERBERT, TREORCI, CF42 5AW.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gosod llifoleuadau a ffensys terfyn newydd YSTAFELLOEDD NEWID

PENYRENGLYN, STRYD BAGLAN, TREHERBERT, TREORCI, CF42

5AW.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

98.

CAIS RHIF: 22/0815 pdf icon PDF 118 KB

Estyniad deulawr i'r ochr a'r cefn. 9 HEOL JOHNSON, TONYSGUBORIAU, PONT-Y-CLUN, CF72 8HR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estyniad deulawr i'r ochr a'r cefn. 9 HEOL JOHNSON, TONYSGUBORIAU, PONT-Y-CLUN, CF72 8HR.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

99.

CAIS RHIF: 22/0868 pdf icon PDF 209 KB

Cais cynllunio llawn arfaethedig i ddymchwel hen Ysgol Fabanod y Porth ac ailddatblygu'r safle ar gyfer datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Geotechnegol a Geoamgylcheddol wedi'i Ddiweddaru - fersiwn 3 ar 17/08/2022) TIR YN HEN YSGOL FABANOD PORTH, STRYD MARY, PORTH, CF39 9UH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cais cynllunio llawn arfaethedig i ddymchwel hen Ysgol Fabanod y

Porth ac ailddatblygu'r safle ar gyfer datblygiad preswyl a gwaith

cysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Geotechnegol a Geoamgylcheddol wedi'i Ddiweddaru – fersiwn 3 ar 17/08/2022) TIR YN HEN YSGOL FABANOD PORTH, STRYD MARY, PORTH, CF39 9UH.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth hir PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn yn ddarostyngedig i gwblhau cytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal a'u cadw yn unedau fforddiadwy, i'r diben parhaus o ddiwallu anghenion tai lleol a nodwyd.

 

100.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 51 KB

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 29/08/2022 – 23/09/2022.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodi;

Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 29/08/2022 tan 23/09/2022.

 

101.

MATERION BRYS

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

 

Dogfennau ychwanegol: