Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Kate Spence - Gwasanaethau Democrataidd  07747485566

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

 

Cais Rhif: 21/1478.

Y Cynghorydd Loretta Ann Tomkinson, Buddiant Personol, “Rwy’n Gynghorydd Tref ar gyfer Tref Pontypridd”

 

Cais Rhif: 22/0162

Y Cynghorydd Danny Grehan, Buddiant Personol, “Rwy’n gweithio i Heledd Fychan AS sy’n cyflwyno'r cais”

 

Cais Rhif: 22/0349.

Y Cynghorydd Danny Grehan, Buddiant Personol a Buddiant sy'n Rhagfarnu, “Rwy’n ysgrifennydd ar gyfer y gr?p sy’n cyflwyno'r cais”.

 

Cais Rhif: 22/0425.

Y Cynghorydd Jill Bonetto, Buddiant Personol a Buddiant sy'n Rhagfarnu, “Rydw i'n llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac yn llywodraethwr dros dro ar gyfer cynllun datblygu'r ysgol 3-16 oed”.

 

Cais Rhif: 22/0425.

Y Cynghorydd Loretta Ann Tomkinson, Buddiant Personol, “Rwy’n llywodraethwr dros dro ar gyfer Ysgol Gynradd Heol-y-Celyn”.

 

 

2.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, pan fyddan nhw'n trafod y materion rheoli datblygu ger eu bron, roi ystyriaeth i'r Cynllun Datblygu a, cyn belled â'u bod yn berthnasol,  i geisiadau ac i ystyriaethau eraill. Pan fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau, rhaid i Aelodau sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu'n groes i'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

3.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

4.

COFNODION pdf icon PDF 347 KB

Cadarnhaucofnodion o gyfarfod y PwyllgorMaterionRheoliDatblygu a gynhaliwydar 10, 17 a 24 Mawrth 2022 ynrhaicywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 10, 17, a 24 Mawrth 2022, yn amodol ar gynnwys ymddiheuriadau Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2022.

 

 

5.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei thrafod mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod

 

6.

Cais Rhif 21/1690 pdf icon PDF 383 KB

Bwriad i adeiladu annedd newydd gyda garej ynghlwm (Ailgyflwyno 21/1208/10) (Ffin llinell goch ddiwygiedig wedi dod i law 10/03/2022), Tir ger Cartref Melys, Heol Llechau, Wattstown, Porth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bwriad i adeiladu annedd newydd gyda garej ynghlwm (Ailgyflwyno 21/1208/10) (Ffin llinell goch ddiwygiedig wedi dod i law 10/03/2022), Tir ger Cartref Melys, Heol Llechau, Wattstown, Porth.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais fel bod modd i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Ymweliad Safle er mwyn gweld y safle sydd wedi cael ei gynnig ar gyfer y datblygiad arfaethedig. 

 

 

 

 

 

7.

CAIS RHIF: 22/0425 pdf icon PDF 3 MB

Darparu ysgol 'pob oed' 3-16 newydd, dymchwel rhai adeiladau ac amnewid neu adnewyddu rhai eraill, maes parcio newydd i staff, maes parcio bysiau a man gollwng a chasglu disgyblion, gwaith cysylltiedig, Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, Lôn yr Ysgol, Rhydfelen, Pontypridd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparu ysgol 'pob oed' 3-16 newydd, dymchwel rhai adeiladau ac amnewid neu adnewyddu rhai eraill, maes parcio newydd i staff, maes parcio bysiau a man gollwng a chasglu disgyblion, gwaith cysylltiedig, Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, Lôn yr Ysgol, Rhydfelen, Pontypridd.

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Carl Thomas (Cefnogwr). Cafodd ef bum munud i annerch yr Aelodau mewn perthynas â'r cynnig uchod.

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Lisles, am y cais gan fynegi ei phryderon a'i gwrthwynebiad mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig.

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac argymhellodd fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar ychwanegu amod mewn perthynas â thriniaeth i'r ffin. Ar ôl ystyried a thrafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amod ychwanegol sydd wedi'i nodi isod:

Er y manylion sydd wedi'u nodi yn y cynlluniau sydd wedi'u cymeradwyo, mae angen cyflwyno manylion pellach mewn perthynas â'r driniaeth i'r ffin gyffredin rhwng yr ysgol a holl eiddo Hawthorn Villas er mwyn i'r Awdurdod Cynllunio Lleol gytuno'n ysgrifenedig i'r cynlluniau yma, a hynny cyn creu'r man parcio ar gyfer casglu a gollwng disgyblion. Bydd y manylion y cytunwyd arnyn nhw'n cael eu rhoi ar waith cyn i'r man parcio ar gyfer casglu/gollwng gael ei ddefnyddio.

Rheswm: I sicrhau amwynder preswyl, yn unol â Pholisi AW5, Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â'r cais uchod (Cofnod Rhif 1), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Bonetto y cyfarfod ar gyfer yr eitem yma.)

 

 

8.

CAIS RHIF: 21/1478 pdf icon PDF 814 KB

Newid defnydd o swyddfa i 26 o fflatiau myfyrwyr, gan gynnwys dymchwel rhan o'r adeilad presennol (Derbyniwyd disgrifiad diwygiedig a chynllun diwygiedig ar 20/01/2022), Yr Hen Lys, Stryd y Llys, Y Graig, Pontypridd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Newid defnydd o swyddfa i 26 o fflatiau myfyrwyr, gan gynnwys dymchwel rhan o'r adeilad presennol (Derbyniwyd disgrifiad diwygiedig a chynllun diwygiedig ar 20/01/2022), Yr Hen Lys, Stryd y Llys, Y Graig, Pontypridd.

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher, mewn perthynas â'r cynnig uchod a chais 21/1479 sydd wedi'i nodi yng Nghofnod 9 isod, a chyflwynodd nifer o bryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig.

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais, ynghyd â chais 21/1479 sydd wedi'i nodi yng Nghofnod 9 isod, i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

9.

CAIS RHIF: 21/1479 pdf icon PDF 538 KB

Cais ardal gadwraeth - Newid defnydd o swyddfa i 26 o fflatiau myfyrwyr, gan gynnwys dymchwel rhan o'r adeilad presennol (Derbyniwyd disgrifiad diwygiedig a chynllun diwygiedig ar 20/01/22), Yr Hen Lys, Stryd y Llys, Y Graig, Pontypridd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cais ardal gadwraeth -  Newid defnydd o swyddfa i 26 o fflatiau myfyrwyr, gan gynnwys dymchwel rhan o'r adeilad presennol (Derbyniwyd disgrifiad diwygiedig a chynllun diwygiedig ar 20/01/22), Yr Hen Lys, Stryd y Llys, Y Graig, Pontypridd.

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

10.

CAIS RHIF: 22/0030 pdf icon PDF 349 KB

Codi ffens a gatiau rhwyll weldio 1.8 metr o uchder ar hyd y ffin orllewinol, i ddiogelu'r safle ac atal tipio anghyfreithlon (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 9 Chwefror 2022), Tir i'r dwyrain o Stryd Stryd Glyn-mynach, Ynys-y-bwl , Pontypridd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Codi ffens a gatiau rhwyll weldio 1.8 metr o uchder ar hyd y ffin orllewinol, i ddiogelu'r safle ac atal tipio anghyfreithlon (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 9 Chwefror 2022), Tir i'r dwyrain o Stryd Glyn-mynach, Ynys-y-bwl , Pontypridd.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor, gan egluro mai 2 fetr fydd uchder y datblygiad arfaethedig, nid 1.8 metr. Yn dilyn trafodaeth gan y Pwyllgor, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes rhag pleidleisio ar yr eitem hon gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y ddadl gyfan).

 

 

 

11.

CAIS RHIF: 22/0162 pdf icon PDF 328 KB

Newiddefnydd llawr gwaelod yr adeilad o adwerthu (dosbarth defnydd A1) i fod yn swyddfa ddosbarthu (dosbarth defnydd A2), 2 Stryd Fawr, Pontypridd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Newid defnydd llawr gwaelod yr adeilad o adwerthu (dosbarth defnydd A1) i fod yn swyddfa ddosbarthu (dosbarth defnydd A2), 2 Stryd Fawr, Pontypridd.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

12.

CAIS RHIF: 22/0349 pdf icon PDF 384 KB

Cynnig i leoli campfa awyr agored gyda 10 darn o offer, safle o fewn Parc Tynybryn, Heol Tynybryn, Tonyrefail.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynnig i leoli campfa awyr agored gyda 10 darn o offer, safle o fewn Parc Tynybryn, Heol Tynybryn, Tonyrefail.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant mewn perthynas â'r cais uchod (Cofnod Rhif 1), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan y cyfarfod ar gyfer yr eitem yma.)

 

 

 

13.

CAIS RHIF: 22/0493 pdf icon PDF 624 KB

Gosod mast anemomedr 90m o uchder am gyfnod dros dro o hyd at 3 blynedd - strwythur sengl gyda rhaffau gwifren dur wedi'u cysylltu ag angorau daear 25m a 50m o'r mast, Tir ym Mynydd y Glyn, Trebanog, Porth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gosod mast anemomedr 90m o uchder am gyfnod dros dro o hyd at 3 blynedd - strwythur sengl gyda rhaffau gwifren dur wedi'u cysylltu ag angorau daear 25m a 50m o'r mast, Tir ym Mynydd y Glyn, Trebanog, Porth.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

14.

CAIS RHIF: 21/1237/10 pdf icon PDF 695 KB

Newiddefnydd o westy, siop cludfwyd a bar/bwyty i gartref gofal preswyl C2, gyda gwaith tirlunio a mynedfa gysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Ansawdd Aer ar 10 Ionawr 2022) Diamond Jubilee Hotel, Heol y Dwyrain, Tylorstown, CF43 3HE.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Newid defnydd o westy, siop cludfwyd a bar/bwyty i gartref gofal preswyl C2, gyda gwaith thirlunio a mynedfa gysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Ansawdd Aer ar 10 Ionawr 2022) Diamond Jubilee Hotel, Heol y Dwyrain, Tylorstown, CF43 3HE.

 

Siaradodd yr Aelodau Lleol, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol R Bevan a J Edwards am y cais gan fynegi eu gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 17 Mawrth 2022, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu (gweler cofnod 232).

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, am y rhesymau canlynol: 

 

Nid yw'r datblygiad arfaethedig yn gallu dangos y bydd digon o gyfleusterau parcio oddi ar y stryd ar gyfer trigolion, staff ac ymwelwyr, a hynny mewn modd sy'n gymesur â maint y datblygiad a'r math o ddefnydd dan sylw. O ganlyniad i hynny, byddai creu galw pellach am gyfleusterau parcio ar y stryd yn yr ardal yn niweidiol i ddiogelwch y briffordd, llif y traffig ac amwynder y meddianwyr cyfagos.

 

Yn ogystal â hynny, byddai'r llety arfaethedig yn agos at briffordd brysur neu â golygfa wael, byddai hyn, ynghyd â chyfleusterau a mannau awyr agored cyfyngedig, yn creu amgylchedd byw o ansawdd gwael ac yn cael effaith negyddol ar breswylwyr y cartref gofal arfaethedig.

 

Byddai'r datblygiad felly yn mynd yn groes i Bolisïau AW5 ac AW6 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf a Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar gyfer Mynediad, Cylchrediad a Gofynion Parcio, a Dylunio a Chreu Lleoedd.

 

 

15.

Cais Rhif 18/1346/10 pdf icon PDF 101 KB

Datblygiad preswyl arfaethedig 120 uned, gyda gwaith tirlunio a pheirianneg gysylltiedig, hen safle Ysgol Gyfun Blaengwawr, Stryd y Clwb, Aberaman, Aberdâr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datblygiad preswyl arfaethedig 120 uned, gyda gwaith tirlunio a pheirianneg gysylltiedig, hen safle Ysgol Gyfun Blaengwawr, Stryd y Clwb, Aberaman, Aberdâr.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau drafod yr adroddiad sy'n gofyn am weithred amrywio mewn perthynas â'r cytundeb Adran 106 ar gyfer y datblygiad, yn dilyn caniatáu'r cais yn ystod apêl a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2020. 

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau y dylid diwygio'r cytundeb Adran 106 ar gyfer Hen Ysgol Gyfun Blaengwawr gan ddiddymu'r gofyniad i ddarparu man chwarae lleol â chyfarpar ar gyfer plant hyd at 3 oed, ac ychwanegu gofyniad am gyfraniad ariannol gwerth £10,000 i'w ddefnyddio ar gyfer meysydd chwarae yn yr ardal yn rhan o'r telerau Cytundeb 106 heb eu diwygio sy'n weddill. 

 

 

 

16.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 51 KB

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 14/03/2022 – 24/06/2022.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodi.

Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 4/03/2022 – 24/06/2022.