Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Kate Spence - Democratic Services  07747485566

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

226.

CROESO AC YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Barton, G Hughes, W Owen a J Williams.

 

 

227.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

228.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

229.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

230.

COFNODION 10.02.22 pdf icon PDF 259 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2022.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 10.02.22 yn rhai cywir.

 

231.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

232.

CAIS RHIF: 21/1237 pdf icon PDF 181 KB

Newid defnydd o westy, siop cludfwyd a bar/bwyty i gartref gofal preswyl C2, gyda gwaith thirlunio a mynedfa gysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Ansawdd Aer ar 10 Ionawr 2022) DIAMOND JUBILEE HOTEL, HEOL Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, CF43 3HE

 

Cofnodion:

Newid defnydd o westy, siop cludfwyd a bar/bwyty i gartref gofal preswyl C2, gyda gwaith tirlunio a mynedfa gysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Ansawdd Aer ar 10 Ionawr 2022) DIAMOND JUBILEE HOTEL, HEOL Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, CF43 3HE.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Stephen Waldron (Asiant). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth hir, gwrthododd yr Aelodau y cais, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, oherwydd gorddatblygu, anaddasrwydd defnydd arfaethedig yr adeilad, diffyg lleoedd parcio a phryderon ynghylch diogelwch priffyrdd a diffyg amwynder. O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.

 

233.

CAIS RHIF: 20/0932 pdf icon PDF 364 KB

Cais i gadw ac ymestyn yr adeilad gweithdy presennol, estyniad ôl-weithredol i'r adeilad swyddfa presennol, adleoli ardal golchi cerbydau dan do, pympiau tanwydd a thanciau d?r, estyniad i'r maes parcio presennol i staff/cwsmeriaid, porthdy newydd, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd Strategaeth Ddraenio ddiwygiedig ar 07/10/21, derbyniwyd Cynllun Lleoliad Safle diwygiedig, Cynllun Gosodiad y Safle Arfaethedig, manylion ffens acwstig ac Asesiad Effaith S?n ar 20/12/21). UNED 16 EARTHMOVERS HOUSE, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF

 

Cofnodion:

Cais i gadw ac ymestyn yr adeilad gweithdy presennol, estyniad ôl-weithredol i'r adeilad swyddfa presennol, adleoli ardal golchi cerbydau dan do, pympiau tanwydd a thanciau d?r, estyniad i'r maes parcio presennol i staff/cwsmeriaid, porthdy newydd, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd Strategaeth Ddraenio ddiwygiedig ar 07/10/21, derbyniwyd Cynllun Lleoliad Safle diwygiedig, Cynllun Gosodiad y Safle Arfaethedig, manylion ffens acwstig ac Asesiad Effaith S?n ar 20/12/21). UNED 16 EARTHMOVERS HOUSE, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar newid Amod 3 i:

 

“Fydd dim gwaith datblygu pellach yn cael ei gynnal ar y safle, ar wahân i waith sydd ei angen mewn cysylltiad ag Amod 14, hyd nes y bydd manylion llawn y mesurau lliniaru/gwella bioamrywiaeth arfaethedig sydd wedi'u nodi yn yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol (Soltys Brewster Ecology, Awst 2020) wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo ganddo yn ysgrifenedig. Bydd y mesurau lliniaru/gwella bioamrywiaeth yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i:

 

                           i.          Diogelu/rheoli coed a gwrychoedd,

                          ii.          Mesurau gwella nythod adar,

                        iii.          Dylunio goleuadau safle i leihau lefelau goleuadau ar hyd ffiniau cynefinoedd wedi'u cadw, a

                        iv.          Cynllun ôl-ofal tymor hir.

 

Bydd y mesurau lliniaru/gwella sydd i'w cymeradwyo yn cael eu rhoi ar waith ar y safle cyn pen 6 mis ar ôl cael eu cymeradwyo; a byddan nhw'n parhau i fod ar waith ar ôl hynny.

 

Rheswm: Er mwyn ecoleg a gwarchod rhywogaethau anifeiliaid

yn unol â Pholisi AW8 Cynllun Datblygu Lleol 

Rhondda Cynon Taf.”

 

 

234.

CAIS RHIF: 20/1307 pdf icon PDF 196 KB

Byngalo ar wahân (Amlinellol) - Asesiad Risg Cloddio Glo wedi'i dderbyn 18/03/2021. TIR Y TU ÔL I S?N Y FRO, HEOL GELLIFEDI,

BRYNNA

 

Cofnodion:

Byngalo ar wahân (Amlinellol) - Derbyniwyd Asesiad Risg Cloddio Glo ar 18/03/2021. TIR Y TU ÔL I S?N Y FRO, HEOL GELLIFEDI, BRYNNA

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Turner, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

 

235.

CAIS RHIF: 21/1601 pdf icon PDF 438 KB

Bwriad i ddymchwel yr adeiladau ysgol presennol ac ailddatblygu'r safle i ddarparu datblygiad preswyl o 18 o anheddau a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA) wedi’i ddiweddaru; wynebau diwygiedig ar gyfer lleiniau 1, 2 ac 17 gan gynnwys cwpanau ar gyfer gwenoliaid y bondo; a Chynllun Ymchwilio Ysgrifenedig ar gyfer cofnodi adeiladau hanesyddol, ar 17 Ionawr 2022.

Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig, i ledu llwybr troed a newid graddiant, wedi’i dderbyn ar 15 Chwefror 2022) TIR YN HEN YSGOL GYNRADD GYMRAEG TONYREFAIL, STRYD YR YSGOL, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8LE

 

Cofnodion:

Bwriad i ddymchwel yr adeiladau ysgol presennol ac ailddatblygu'r safle i ddarparu datblygiad preswyl o 18 o anheddau a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA) wedi'i ddiweddaru; wynebau diwygiedig ar gyfer lleiniau 1, 2 ac 17 gan gynnwys cwpanau ar gyfer gwenoliaid y bondo; a Chynllun Ymchwilio Ysgrifenedig ar gyfer cofnodi adeiladau hanesyddol, ar 17 Ionawr 2022. Derbyniwyd cynllun gosodiad safle diwygiedig, i ledu llwybr troed a newid graddiant, ar 15 Chwefror 2022) TIR YN HEN YSGOL GYNRADD GYMRAEG TONYREFAIL, STRYD YR YSGOL, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8LE

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar:

 

·       Cwblhau cytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal fel unedau fforddiadwy, at y diben parhaus o ddiwallu anghenion tai lleol a nodwyd, ond ni roddodd Aelodau bwerau dirprwyedig i swyddogion i wrthod y cais os na fydd y cytundeb Adran 106 yn cael ei lofnodi cyn pen 6 mis o benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio;

 

·       Newid Amod 3 i eithrio dymchwel adeiladau presennol y safle o ystyr dechrau datblygu; ac

 

·       Ychwanegu nodyn gwybodaeth at y caniatâd cynllunio mewn perthynas â darparu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan

 

 

 

 

 

236.

CAIS RHIF: 21/1613 pdf icon PDF 195 KB

Datblygu cynllun solar a seilwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd y Datganiad Drilio Ceblau ar 20 Ionawr 2022) TIR AR FFERM RHIWFELIN FACH, HEOL LLANTRISANT, YNYSMAERDY, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LQ

 

Cofnodion:

Datblygu cynllun solar a seilwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd y Datganiad Drilio Ceblau ar 20 Ionawr 2022) TIR AR FFERM RHIWFELIN FACH, FFORDD LLANTRISANT, YNYSMAERDY, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LQ.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

 

237.

CAIS RHIF: 22/0088 pdf icon PDF 154 KB

Adeiladu garej sengl. TIR GER 16 TERAS BRYNHEULOG, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG

 

Cofnodion:

Adeiladu garej sengl. TIR GER 16 TERAS BRYNHEULOG, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

 

 

238.

CAIS RHIF: 22/0004 pdf icon PDF 299 KB

Annedd sengl newydd 4 ystafell wely. TIR Y TU ÔL I 1 HEOL LLWYNFEN, PONT-Y-CLUN, CF72 0TW.

 

Cofnodion:

Annedd ar wahân sydd â 4 ystafell wely. TIR Y TU ÔL I 1 HEOL LLWYNFEN, PONT-Y-CLUN, CF72 0TW.

 

Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio wybod bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

 

239.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 98 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod  28/02/2022 – 04/03/2022.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodi.

Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 28/02/2022 tan 04/03/2022.