Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Kate Spence - Democratic Services 07747485566
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D. Grehan a P. Jarman.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2022 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2022 yn rhai cywir.
|
|
Troi'r garej ddwbl bresennol wrth y fynedfa i'r cytiau c?n yn dderbynfa, newid cynllun y maes parcio presennol (Derbyniwyd yr Adroddiad Ystlumod ar 7/1/22), Cytiau C?n Cynllan Lodge, Heol Llanhari, Llanhari, Pont-y-clun.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth hir yngl?n â'r cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar atodi nodyn gwybodaeth i'r caniatâd cynllunio mewn perthynas â'r pryderon ynghylch cael gwared ar y gwrychoedd.
|
|
Cais am faterion wedi'u cadw'n ôl yn unol ag amod 9 o 19/0380/15 ar gyfer Cam 4 – dymchwel pont bresennol y rheilffordd ac adeiladu pont newydd gan gynnwys lifftiau, Gorsaf Drenau Ffynnon Taf, Heol Caerdydd, Ffynnon Taf, Caerdydd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Annedd â thair ystafell wely, Tir ger 2 Heol Cas-gwent, Cwm-parc, Treorci.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu uned ddiwydiannol ysgafn (Dosbarth Defnydd B1) (Derbyniwyd Asesiad Risg Mwyngloddio Glo (CMRA) ar 07/12/2021), Uned G J M Upholstery Ltd, Uned 35, Ystad Ddiwydiannol Ynys-wen, Ynys-wen, Treherbert, Treorci.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd garej/swyddfa gymeradwy i lety gwyliau â 2 ystafell wely gyda newidiadau, Fferm Gwrangon Isaf, Cwm Isaac, Rhigos, Aberdâr.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau cytundeb adran 106 sy'n golygu mai dim ond un o'r ddau ganiatâd cynllunio, naill ai 20/1243/10 (Trosi ysgubor i greu 2 uned Air B&B) neu 21/14751/0 (y cais cyfredol am 1 uned Air B&B â 2 ystafell wely) y mae modd ei weithredu.
|
|
Newid defnydd siop gardiau (Dosbarth A1) i siop gludfwyd (Dosbarth A3), 27B Stryd Rhydychen, Aberpennar.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Datblygiad defnydd cymysg (gan gynnwys dymchwel rhan o adeilad) sy'n cynnwys man masnachol (swyddfa a manwerthu) a datblygiad preswyl (adeilad 5 llawr sydd â 52 fflat, 7 ohonyn nhw ar gyfer cynllun anawsterau dysgu yr Awdurdod Lleol), man troi newydd, draenio, tirweddu, maes parcio, gwasanaethu, a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd yr Asesiad Risg Mwyngloddio Glo diweddaraf ar 15/12/21, yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol a'r Adroddiad Arolwg Ystlumod diweddaraf ar 28/01/22 a'r Asesiad Effaith S?n diweddaraf ar 01/02/22), Hen Co-Operative, Stryd Dunraven, Tonypandy.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Materion Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yn ddarostyngedig i gytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal a'u cadw fel unedau fforddiadwy am byth, i'r diben parhaus o ddiwallu anghenion tai lleol a nodwyd.
|
|
Datblygiad arfaethedig o unedau Dosbarth B2 a/neu Ddosbarth B8, mynediad, maes parcio, tirweddu a gwaith cysylltiedig Plot F, Dolydd Felindre, Parc Technoleg Pencoed, Llanharan, Pen-y-bont ar Ogwr.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio’r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Garej ddomestig ar wahân i gefn eiddo, 33 Stryd y Wern, Cwm Clydach, Tonypandy.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Hughes ac W Lewis wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â Chais 22/0114 gan adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem yma:
"Mae gen i berthynas agos gyda'r ymgeisydd, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Norris"
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, am y cyfnod 31/01/2022 – 11/02/2022.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig, Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodaeth. Gorfodi Penderfyniadau Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod XXXX i XXXX.
|