Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud: 1) Fe wnaeth y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Jarman ddatgan buddiant personol mewn perthynas â chais 20/1182 i ddatblygu pum annedd ar wahân (Cymeradwyo'r materion wedi'u cadw'n ôl yn unol â rhoi caniatâd amlinellol ar 14/1308/13, fel yr estynnwyd gyda 19/0334/15) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 23/03/2021). HEN SAFLE LLYFRGELL CWM-BACH, RHES MORGAN, CWM-BACH, ABERDÂR “Rydw i'n adnabod yr ymgeisydd, mae'n byw'n lleol ac rydw i wedi siarad gydag e i gadarnhau manylion yr ymweliad â'r safle yn unig." 2) Fe wnaeth y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol D Williams ddatgan buddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â chais 21/0720/15, sef parhau â gwaith cloddio a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 i 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd ar atodlen o amodau Adolygiadau o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMP) Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013 cyf: 08/1380/10 Chwarel Craig yr Hesg, Berw Road, Pontypridd CF37 3BG. “Rwy’n Aelod o gr?p sy'n Gwrthwynebu Chwarel Hanson.”
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021. Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021 yn rhai cywir, yn amodol ar newid y canlynol ar gais Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i funud 15, sef:
(Nodyn: Roedd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Jarman yn dymuno cofnodi iddi ymatal rhag y bleidlais ar y gwelliant yma gan nad oedd yn bresennol yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021.)
|
|
CAIS RHIF: 21/0720/15 PDF 336 KB Parhau â chwarela a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 - 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd yn rhan o atodlen amodau Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau, Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013, cyf: 08/1380/10 Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd, CF37 3BG
Cofnodion: Parhau â gwaith cloddio a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 i 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd ar atodlen o amodau Adolygiadau o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMP) Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013 cyf: 08/1380/10 Chwarel Craig yr Hesg, Berw Road, Pontypridd CF37 3BG
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr G Jenkins (Asiant) · Mr M Hervey (Gwrthwynebydd) · Ms S Griffiths (Gwrthwynebydd) · Mr S Pritchard (Gwrthwynebydd)
Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr R Davies (Gwrthwynebydd) a oedd wedi gofyn am gael annerch yr Aelodau yngl?n â'r cais yn bresennol i wneud hynny.
Arferodd yr Asiant, Mr G Jenkins, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebwyr.
Siaradodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol H Fychan a'r Cynghorydd M Powell, nad ydyn nhw'n aelodau o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi eu pryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant yn y cais yn flaenorol (Cofnod Rhif 41), arferodd yr Aelod o'r Pwyllgor/Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams, ei hawl i annerch y Pwyllgor ar y cais o dan adran 14(2) o'r Cod Ymddygiad. Amlinellodd ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ddilynol).
Amlinellodd y Pennaeth Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' gan Vikki Howells AS yn gwrthwynebu'r cais. Cafodd 13 llythyr 'hwyr' arall a dderbyniwyd gan drigolion eu crynhoi ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais uchod yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a hynny am eu bod nhw o'r farn bod modd i'r cais niweidio'r amwynder a niweidio lles yr ardal. O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Datblygu pum annedd ar wahân (Cymeradwyo'r materion wedi'u cadw'n ôl yn unol â rhoi caniatâd amlinellol ar 14/1308/13, fel yr estynnwyd gyda 19/0334/15) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 23/03/2021). HEN SAFLE LLYFRGELL CWM-BACH, RHES MORGAN, CWMBACH, ABERDÂR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (Nodwch: Ar y pwynt yma, dychwelodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams i'r cyfarfod)
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr R Warren (Asiant) · Ms K Doughton (Gwrthwynebydd)
Arferodd yr Asiant, Mr R Warren, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd.
Siaradodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol T Williams, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei phryderon yngl?n â'r Datblygiad arfaethedig.
Amlinellodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan yr Aelod nad yw ar y Pwyllgor / Aelod Lleol, y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Elliott, yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amodau ychwanegol canlynol, yn unol â chais Isadran y Priffyrdd:
· Amod 11 - Serch y manylion ar y cynlluniau sydd wedi'u cyflwyno, fydd y datblygiad ddim yn cychwyn nes bod cynlluniau'n cynnwys addasiad i ffin y safle ger y ffordd ddienw / Rhes Morgan i gynnwys llain welededd o 2.4m x 40m o Faes y Pwll wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ac wedi'u cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod.
· Amod 12 - Cyn i'r datblygiad gychwyn, bydd adroddiad yn nodi methodoleg ar gyfer cynnal arolwg amodau o ffyrdd lleol (y gallai'r datblygiad arfaethedig effeithio arnyn nhw) yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig. Dylai'r adroddiad gynnwys: yr amserlenni ar gyfer cynnal yr arolygon a'r dull(iau) o adrodd ar y canfyddiadau i'r Awdurdod Cynllunio Lleol; ffotograffau cynhwysfawr; a threfniadau iawndal posibl. Fydd y datblygiad ddim yn cael ei ddefnyddio nes bydd yr arolwg terfynol (ar ôl cwblhau'r datblygiad a gymeradwyir drwy hyn) ac unrhyw drefniadau iawndal wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig.
|