Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Kate Spence - Democratic Services 07747485566
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis. |
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:
1) Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber fuddiant personol mewn perthynas â Chais 21/1517 – Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, ardal gemau aml-ddefnydd, cae chwaraeon, maes parcio, gwaith tirlunio, a gwaith seilwaith cysylltiedig (derbyniwyd asesiad trafnidiaeth diwygiedig, cynllun teithio a chynllun fesul cam, yn ogystal ag asesiad Llwybrau Diogel i'r Ysgol, ar 28 Ionawr 2022). YSGOL GYNRADD HEOL Y CELYN, STRYD Y CELYN, RHYDFELEN, PONTYPRIDD, CF37 5DB
“Rydw i'n llywodraethwr ar gorff llywodraethu Ysgol Gynradd Heol y Celyn ac ar gorff llywodraethu dros dro yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd arfaethedig”
2) Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman fuddiant personol mewn perthynas â Chais 21/0783 – Caniatâd Adeilad Rhestredig (LBC) ar gyfer gwaith trosi capel yn annedd, stiwdio gelf/ffilmiau, CAPEL SILOA, Y STRYD LAS, GADLYS, ABERDÂR; a Chais 21/0784 – Newid defnydd o gapel i annedd, stiwdio gelf/ffilmiau. CAPEL SILOA, Y STRYD LAS, GADLYS, ABERDÂR
“Rydw i'n adnabod y siaradwr cyhoeddus.”
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2022 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 24 Chwefror, 2022 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Caniatâd Adeilad Rhestredig (LBC) ar gyfer gwaith trosi capel yn annedd, stiwdio gelf/ffilmiau. CAPEL SILOA, Y STRYD LAS, GADLYS, ABERDÂR
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Caniatâd adeilad rhestredig (LBC) ar gyfer gwaith trosi capel yn annedd, stiwdio gelf/ffilmiau, CAPEL SILOA, Y STRYD LAS, GADLYS, ABERDÂR.
Nododd y Pwyllgor nad oedd David Leslie Davies, a oedd wedi gofyn am gael annerch yr Aelodau yngl?n â'r cais, yn bresennol i wneud hynny.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar atgyfeiriad cadarnhaol at CADW.
|
|
Newid defnydd o gapel i annedd, stiwdio gelf/ffilmiau. CAPEL SILOA, Y STRYD LAS, GADLYS, ABERDÂR
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o gapel i annedd, stiwdio gelf/ffilmiau. CAPEL SILOA, Y STRYD LAS, GADLYS, ABERDÂR.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, ardal gemau aml-ddefnydd, cae chwaraeon, maes parcio, gwaith tirweddu, a gwaith seilwaith cysylltiedig (derbyniwyd asesiad trafnidiaeth diwygiedig, cynllun teithio a chynllun fesul cam, yn ogystal ag asesiad Llwybrau Diogel i'r Ysgol, ar 28 Ionawr 2022). YSGOL GYNRADD HEOL Y CELYN, STRYD Y CELYN, RHYDFELEN, PONTYPRIDD, CF37 5DB
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, ardal gemau aml-ddefnydd, cae chwaraeon, maes parcio, gwaith tirlunio, a gwaith seilwaith cysylltiedig (derbyniwyd asesiad trafnidiaeth diwygiedig, cynllun teithio a chynllun fesul cam, yn ogystal ag asesiad Llwybrau Diogel i'r Ysgol, ar 28 Ionawr 2022). YSGOL GYNRADD HEOL Y CELYN, STRYD Y CELYN, RHYDFELEN, PONTYPRIDD, CF37 5DB.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Cathy Lisles (Gwrthwynebydd). Cafodd bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi cefnogaeth o'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
Ar yr adeg yma, datganodd y Cynghorydd J Barton fuddiant personol mewn perthynas â Chais 21/1517:
“Rydw i'n adnabod y siaradwr cyhoeddus, Cathy Lisles.”
|
|
Campfa ac adeiladau'r 6ed dosbarth arfaethedig, dymchwel 4 adeilad, maes parcio newydd, a gwaith seilwaith a thirweddu cysylltiedig. YSGOL GYFUN BRYNCELYNNOG, HEOL PENYCOEDCAE, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2AE
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Campfa ac adeiladau'r 6ed dosbarth arfaethedig, dymchwel 4 adeilad, maes parcio newydd, a gwaith seilwaith a thirlunio cysylltiedig. YSGOL GYFUN BRYNCELYNNOG, HEOL PENYCOEDCAE, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2AE.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Cathy Lisles (Gwrthwynebydd). Cafodd bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi cefnogaeth o'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
Ar yr adeg yma, datganodd y Cynghorydd J Barton fuddiant personol mewn perthynas â Chais 21/0028:
“Rydw i'n Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau sy'n agos i'r datblygiad arfaethedig.”
|
|
Gwaith arfaethedig i adeiladu 5 uned storio/dosbarthu Dosbarth B8 (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 20/12/21). M AND M GARAGES, FFORDD BLEDDYN, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7QR
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwaith arfaethedig i adeiladu 5 uned storio/dosbarthu Dosbarth B8 (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 20/12/21). M AND M GARAGES, FFORDD BLEDDYN, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7QR.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Ar yr adeg yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Barton y cyfarfod 16:09))
|
|
Pont droed newydd arfaethedig i gymryd lle pont droed bresennol Castle Inn. (LBC 21/0714/11) PONT DROED CASTLE INN, STRYD Y CASTELL, TREFFOREST, PONTYPRIDD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Pont droed newydd arfaethedig i gymryd lle pont droed bresennol Castle Inn. (LBC 21/0714/11) PONT DROED CASTLE INN, STRYD Y CASTELL, TREFFOREST, PONTYPRIDD.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar newid Amodau 2 a 6 i'r canlynol:
2. Bydd y datblygiad sy'n cael ei gymeradwyo drwy hyn yn cael ei gyflawni yn unol â'r cynlluniau wedi eu cymeradwyo:
· Cynllun safle'r lleoliad, darlun rhif: GC3913-RED-01-XX-DR-S-0100, Diwygiad T01;
· Cynllun Trefniant Cyffredinol Presennol, rhif y dyluniad GC3913-RED-01-XX-DR-S-0101, Diwygiad T01;
· Pont Arfaethedig – Trefniant Cyffredinol, rhif y dyluniad GC3913-RED-01-XX-DR-S-0103, Diwygiad T01;
· Wal Hyfforddi'r De-ddwyrain – Cynllun Trefniant Cyffredinol Arfaethedig, rhif y dyluniad GC3913-RED-01-RW-DR-S-0102, Diwygiad T01;
· PONT CASTLE INN, ADRODDIAD AROLWG YSTLUMOD, Lluniwyd gan Redstart, Medi 2021, a
· Pont Castle Inn, Trefforest, ADRODDIAD AROLWG DYFRGWN, Lluniwyd gan Redstart, Medi 2021
Rheswm: Sicrhau cydymffurfio â'r cynlluniau a'r dogfennau wedi eu cymeradwyo a diffinio ffiniau'r caniatâd yn glir.
6. Yn ogystal â'r Cynllun Rheoli Amgylcheddol Gwaith Adeiladu (CEMP) y cyfeiriwyd ato yn amod 5, ni chaniateir gweithgareddau ar wely'r afon yn ystod y cyfnod gwahardd oherwydd silio pysgod (15 Hydref tan 15 Mai) heb gyflwyno cymeradwyaeth ysgrifenedig Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i'r Awdurdod Cynllunio Lleol.
Rheswm: Gwella a darparu diogelwch ar gyfer rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid yn unol â Pholisïau AW5 ac AW8, Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
Cymeradwyo holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer datblygiad diwydiannol a gweithgynhyrchu yn Llain C5. LLAIN C5 SAFLE CYFLOGAETH STRATEGOL COED-ELÁI, HEOL CWM ELÁI, COED-ELÁI, TONYREFAIL
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwyo holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer datblygiad diwydiannol a gweithgynhyrchu yn Llain C5. LLAIN C5, SAFLE CYFLOGAETH STRATEGOL COED-ELÁI, HEOL CWM ELÁI, COED-ELÁI, TONYREFAIL.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar newid Amod 2 i:
Er gwaethaf y manylion sydd i'w gweld ar y cynlluniau sy’n cael eu cymeradwyo drwy hyn, bydd manylion pellach ynghylch gwaith tirlunio'r safle, sy’n ystyried gohebiaeth gan ecolegydd y Cyngor dyddiedig 18 Chwefror 2022, yn cael eu cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo ganddo cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle. Bydd manylion o'r fath y cytunir arnyn nhw yn cael eu gweithredu yn y tymor plannu cyntaf ar ôl cwblhau'r datblygiad.
Rheswm: Er budd cynnal bioamrywiaeth y safle yn unol â pholisi AW8 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 07/03/2022 a 11/03/2022.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig, Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodaeth. Gorfodi Penderfyniadau Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio, mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi eu Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 07/03/2022 hyd at 11/03/2022.
|