Cyswllt: Kate Spence - Democratic Services 07747485566
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2022 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2022 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Ffordd osgoi arfaethedig, Tir i'r gorllewin o bentref Llwydcoed ac i'r dwyrain o bentref Pen-y-waun, gan gysylltu'r A465 ger Croesbychan â'r A4059 yng nghornel de-ddwyreiniol Pen-y-waun.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fforddosgoi arfaethedig, Tir i'r gorllewin o bentref Llwydcoed ac i'r dwyrain o bentref Pen-y-waun, gan gysylltu'r A465 ger Croesbychan â'r A4059 yng nghornel de-ddwyreiniol Pen-y-waun.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
Mr Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Ymgeisydd);
Cefnogwyr:
Ms Vicki Howells Ms Annette Davies Ms Gill Pugh Ms Pauline Williams Mr Kristian Howell
Gwrthwynebwyr:
Mr Morien Morgan Mr Richard Jones Ms Non Thomas Mr Alan Bateman Mr Tom Bateman
Arferodd yr Ymgeisydd, Mr Roger Waters, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr.
Siaradodd yr Aelodau Lleol, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol Gareth Jones, Ann Crimmings a Graham Thomas, nad yw'n aelodau o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi eu cefnogaeth yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
Cyfeiriodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol at ddau lythyr 'hwyr' a dderbyniwyd oddi wrth drigolion lleol yn gwrthwynebu'r cais, yr ymdriniwyd â'u cynnwys yn bennaf yn adran Cyhoeddusrwydd yr adroddiad.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gais "galw i mewn" gan Lywodraeth Cymru.
(Nodwch: Roedd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol Julie Barton, Danny Grehan, Wayne Owen, a Julie Williams am gofnodi eu bod nhw wedi pleidleisio yn erbyn cymeradwyo'r cais uchod.)
|
|
Estyniad ochr deulawr ac unllawr (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 08/02/2022), 19 Ffordd Aberhonddu, Ton-teg, Pontypridd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estyniadochr deulawr ac unllawr (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 08/02/2022), 19 Ffordd Aberhonddu, Ton-teg, Pontypridd.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Lewis Kastein (Gwrthwynebydd). Cafodd e bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.
(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol Steve Powderhill a Doug Williams y cyfarfod (4.46pm))
|
|
Gwaith ailddatblygu arfaethedig ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun, gan gynnwys dymchwel yr holl adeiladau presennol, adeiladu ysgol Carbon Sero-Net newydd, darpariaeth chwaraeon, mynedfeydd i gerbydau, cerddwyr a beicwyr, mannau parcio ar gyfer ceir a beiciau, gwaith tirlunio, Systemau Draenio Cynaliadwy a seilwaith cysylltiedig. Bydd hefyd yn cynnwys sefydlu adeiladau ysgol dros dro a’r seilwaith cysylltiedig sydd ei angen yn ystod y gwaith adeiladu, Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Coedlan y Palalwyf, Pont-y-Clun, Pont-y-clun,
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwaith ailddatblygu arfaethedig ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun, gan gynnwys dymchwel yr holl adeiladau presennol, adeiladu ysgol Carbon Sero-Net newydd, darpariaeth chwaraeon, mynedfeydd i gerbydau, cerddwyr a beicwyr, mannau parcio ar gyfer ceir a beiciau, gwaith tirlunio, Systemau Draenio Cynaliadwy a seilwaith cysylltiedig. Bydd hefyd yn cynnwys sefydlu adeiladau ysgol dros dro a’r seilwaith cysylltiedig sydd ei angen yn ystod y gwaith adeiladu, Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Coedlan y Palalwyf, Pont-y-Clun, Pont-y-clun.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
Ms Natalie Queffurus (Asiant) Ms Kath Liddiard (Cefnogwr) Ms Suzanne Price (Gwrthwynebydd)
Arferodd yr Asiant, Ms Natalie Queffurus, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebwyr.
Cyfeiriodd y Pennaeth Materion Cynllunio at lythyr 'hwyr' a dderbyniwyd oddi wrth Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Margaret Griffiths, yr oedd ei gynnwys eisoes wedi'i amlinellu ganc Ms Kath Liddiard yn ei hanerchiad i'r pwyllgor.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amod ychwanegol yma:
Er gwaethaf y cynlluniau a gyflwynwyd, bydd dyluniad peirianyddol llawn a manylion gwelliannau priffyrdd oddi ar y safle i fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd yn yr asesiad Llwybr Mwy Diogel i'r Ysgol yn cael eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Bydd y manylion a gymeradwywyd yn cael eu gweithredu cyn meddiannaeth lesiannol yr ysgol newydd.
RHESWM: Er mwyn sicrhau digonolrwydd y gwaith priffyrdd oddi ar y safle, er budd diogelwch y ffyrdd a llif rhydd traffig.
(Nodwch: Ar yr adeg yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Gareth Hughes y cyfarfod (5.19pm))
(Nodwch: Cymerodd y Pwyllgor doriad o bum munud ar yr adeg yma)
|
|
Gwaith ailddatblygu arfaethedig ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, gan gynnwys dymchwel yr holl adeiladau presennol, adeiladu ysgol Carbon Sero-Net newydd, darpariaeth chwaraeon, mynedfeydd i gerbydau, cerddwyr a beicwyr, mannau parcio ar gyfer ceir a beiciau, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Heol Sant Illtyd, Pentre'r Eglwys, Pontypridd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwaith ailddatblygu arfaethedig ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, gan gynnwys dymchwel yr holl adeiladau presennol, adeiladu ysgol Carbon Sero-Net newydd, darpariaeth chwaraeon, mynedfeydd i gerbydau, cerddwyr a beicwyr, mannau parcio ar gyfer ceir a beiciau, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Heol Sant Illtyd, Pentre'r Eglwys, Pontypridd.
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Harrison Moore (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amod ychwanegol yma:
Er gwaethaf y cynlluniau a gyflwynwyd, bydd dyluniad peirianyddol llawn a manylion gwelliannau priffyrdd oddi ar y safle i fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd yn yr asesiad Llwybr Mwy Diogel i'r Ysgol yn cael eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Bydd y manylion a gymeradwywyd yn cael eu gweithredu cyn meddiannaeth lesiannol yr ysgol newydd.
RHESWM: Er mwyn sicrhau digonolrwydd y gwaith priffyrdd oddi ar y safle, er budd diogelwch y ffyrdd a llif rhydd traffig.
|
|
Dymchwel adeiladau presennol Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ac adeiladu ysgol Carbon Sero-Net newydd, sy'n cynnwys cyfleusterau dosbarth meithrin a chyfleusterau ysgol gynradd gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon, mynedfeydd i gerbydau, cerddwyr a beicwyr, mannau parcio ar gyfer ceir a beiciau, gwaith tirlunio, Systemau Draenio Cynaliadwy a seilwaith cysylltiedig. Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, y ffordd o Gilgant Burgesse, Llantrisant, Pont-y-clun.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dymchweladeiladau presennol Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ac adeiladu ysgol Carbon Sero-Net newydd, sy'n cynnwys cyfleusterau dosbarth meithrin a chyfleusterau ysgol gynradd gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon, mynedfeydd i gerbydau, cerddwyr a beicwyr, mannau parcio ar gyfer ceir a beiciau, gwaith tirlunio, Systemau Draenio Cynaliadwy a seilwaith cysylltiedig. Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, y ffordd o Gilgant Burgesse, Llantrisant, Pont-y-clun.
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms Ella Phillips (Asiant). Cafodd hi bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amod ychwanegol yma:
Er gwaethaf y cynlluniau a gyflwynwyd, bydd dyluniad peirianyddol llawn a manylion gwelliannau priffyrdd oddi ar y safle i fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd yn yr asesiad Llwybr Mwy Diogel i'r Ysgol yn cael eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Bydd y manylion a gymeradwywyd yn cael eu gweithredu cyn meddiannaeth lesiannol yr ysgol newydd.
RHESWM: Er mwyn sicrhau digonolrwydd y gwaith priffyrdd oddi ar y safle, er budd diogelwch y ffyrdd a llif rhydd traffig.
|
|
Estyn y maes parcio presennol sy'n gwasanaethu Gorsaf Drenau Llwynypia, Maes parcio gorsaf drenau Llwynypia, Tonypandy.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estyn y maes parcio presennol sy'n gwasanaethu Gorsaf Drenau Llwynypia, Maes parcio gorsaf drenau Llwynypia, Tonypandy.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu estyniad mewnlenwi unllawr ac agoriadau newydd y tu ôl i'r eiddo, adeiladu cyntedd newydd wrth ochr yr eiddo, trosi’r llofft gan osod ffenestr ddormer newydd i flaen yr eiddo, Mount Pleasant, 2 Heol Tyfica, Pontypridd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladuestyniad mewnlenwi unllawr ac agoriadau newydd y tu ôl i'r eiddo, adeiladu cyntedd newydd wrth ochr yr eiddo, trosi’r llofft gan osod ffenestr ddormer newydd i flaen yr eiddo, Mount Pleasant, 2 Heol Tyfica, Pontypridd.
Ar yr adeg yma, penderfynodd y Pwyllgor y byddai'r cyfarfod yn parhau am fwy na 3 awr.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Dymchwel estyniadau unllawr y tu cefn i’r eiddo ac wrth ochr yr eiddo. Estyniad newydd y tu cefn i'r eiddo (rhannol unllawr, rhannol ddeulawr) i ffurfio 2 uned siop (Defnydd Dosbarth A1) ar y llawr gwaelod, gyda Fflat 1 Ystafell Wely (Defnydd Dosbarth C3) ar y llawr cyntaf, Clinig Ffisiotherapi, 32 Heol y Bont-faen, Pont-y-Clun, Pont-y-clun.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dymchwelestyniadau unllawr y tu cefn i’r eiddo ac wrth ochr yr eiddo. Estyniad newydd y tu cefn i'r eiddo (rhannol unllawr, rhannol ddeulawr) i ffurfio 2 uned siop (Defnydd Dosbarth A1) ar y llawr gwaelod, gyda Fflat 1 Ystafell Wely (Defnydd Dosbarth C3) ar y llawr cyntaf, Clinig Ffisiotherapi, 32 Heol y Bont-faen, Pont-y-Clun, Pont-y-clun.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, mewn perthynas â’r cyfnod 14/02/2022 - 25/02/2022.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio, mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi eu Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 14/02/2022 hyd at 25/02/2022.
|