Cyswllt: Kate Spence - Democratic Services 07747485566
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:
· Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Evans fuddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â Chais 21/0752 – Newid defnydd o storfa a swyddfa i d? un ystafell wely. DG Love Garage, y tu ôl i 362 Heol Caerdydd, Aberaman, Aberdâr.
"Rydw i'n byw yn agos i safle'r cais"
· Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â Chais 15/0666 a 21/0720 -
15/0666 - Estyniad gorllewinol i'r chwarel bresennol, i gynnwys echdynnu 10 miliwn tunnell ychwanegol o dywodfaen pennant yn raddol, adeiladu byndiau sgrinio, gwaith cysylltiedig, a chydgrynhoi'r holl ganiatadau cynllunio mwynau blaenorol yn Chwarel Craig yr Hesg, gan gynnwys estyn y dyddiad gorffen ar gyfer chwarela a chynllun adfer cyffredinol (gwybodaeth ychwanegol wedi'i nodi yn yr adroddiad "Materion Lles ac Iechyd yr Amgylchedd"). Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd
21/0720 - Parhau â gwaith cloddio a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 i 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd ar atodlen o amodau Adolygiadau o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMP) Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013 cyf: 08/1380/10.Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd
"Rydw i'n aelod o'r gr?p gweithredu sy'n gwrthwynebu datblygu'r chwarel."
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2021.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2021 yn rhai cywir.
|
|
Newid defnydd o storfa a swyddfa i d? un ystafell wely. DG Love Garage, y tu ôl i 362 Heol Caerdydd, Aberaman, Aberdâr.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o storfa a swyddfa i d? un ystafell wely. DG Love Garage, y tu ôl i 362 Heol Caerdydd, Aberaman, Aberdâr.
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr J Sexton (Ymgeisydd). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Ar ôl datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â'r cais (Cofnod Rhif 20), arferodd yr Aelod Lleol nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Evans, ei hawl i annerch y Pwyllgor o dan adran 14(2) o'r Cod Ymddygiad mewn perthynas â'r cais. Amlinellodd ei phryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth).
Amlinellodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys 7 llythyr 'hwyr' gan drigolion lleol yn cefnogi'r cais.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid o ddefnydd masnachol i siop gyfleustra gydag estyniad un-llawr ac addasiadau - Ailgyflwyno 21/0883/10. Trealaw Tyres, Heol Brithweunydd, Tonypandy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid o ddefnydd masnachol i siop gyfleustra gydag estyniad un-llawr ac addasiadau - Ailgyflwyno 21/0883/10. Trealaw Tyres, Heol Brithweunydd, Tonypandy
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms T John (Gwrthwynebydd). Cafodd hi bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gynnwys tri amod ychwanegol. Mae'r amod cyntaf yn gofyn bod rhwystr atal cerbydau a/neu folardiau i ddiogelu cerddwyr ar y briffordd. Mae'r ail amod yn gofyn bod system unffordd yn cael ei sefydlu a'i rhoi ar waith wrth fynd i mewn i'r safle a gadael y safle. Mae'r amod olaf yn gofyn bod yr ymgeisydd yn cyflwyno Cynllun Rheoli ar gyfer Cyflawni'r Cynllun i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a bod y Cynllun yma'n cael ei gymeradwyo cyn i'r datblygiad gael ei ddefnyddio.
|
|
CAIS RHIF: 15/0666 a 21/0720 PDF 841 KB CAIS RHIF: 15/0666 - Estyniad gorllewinol i'r chwarel bresennol, i gynnwys echdynnu 10 miliwn tunnell ychwanegol o dywodfaen pennant yn raddol, adeiladu byndiau sgrinio, gwaith cysylltiedig, a chydgrynhoi'r holl ganiatadau cynllunio mwynau blaenorol yn Chwarel Craig yr Hesg, gan gynnwys estyn y dyddiad gorffen ar gyfer chwarela a chynllun adfer cyffredinol (gwybodaeth ychwanegol wedi'i nodi yn yr adroddiad "Materion Lles a Iechyd yr Amgylchedd") Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd
CAIS RHIF: 21/0720 - Parhau â gwaith cloddio a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 i 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd ar atodlen o amodau Adolygiadau o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMP) Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013 cyf: 08/1380/10. Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 15/0666 - Estyniad gorllewinol i'r chwarel bresennol, i gynnwys echdynnu 10 miliwn tunnell ychwanegol o dywodfaen pennant yn raddol, adeiladu byndiau sgrinio, gwaith cysylltiedig, a chydgrynhoi'r holl ganiatadau cynllunio mwynau blaenorol yn Chwarel Craig yr Hesg, gan gynnwys estyn y dyddiad gorffen ar gyfer chwarela a chynllun adfer cyffredinol (gwybodaeth ychwanegol wedi'i nodi yn yr adroddiad "Materion Lles ac Iechyd yr Amgylchedd"). Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd
21/1573 - Parhau â gwaith cloddio a gweithrediadau cysylltiedig heb gydymffurfio ag amodau 1 i 4 ac amodau 45 a 46 a osodwyd ar atodlen o amodau Adolygiadau o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMP) Deddf yr Amgylchedd a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 24 Ebrill 2013 cyf: 08/1380/10. Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd
Roedd gofyn i Aelodau drafod yr adroddiad yng ngoleuni'r cyngor diweddar a ddarparwyd gan yr ymgynghoriaeth gynllunio y mae'r Cyngor wedi ymgysylltu â hi i gefnogi penderfyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol i wrthod dau gais yn ystod apêl a phenderfynu p'un a yw'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu o'r un farn â'r ymgynghoriaeth gynllunio. Roedd gofyn i Aelodau hefyd egluro rhai materion penodol y mae'r Apelyddion wedi'u codi yn rhan o'r broses apelio.
Aeth yr Aelodau ati i drafod adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, gan gadarnhau:
· O ran yr estyniad gorllewinol (15/0666), er bod gorgyffwrdd ag eiddo sensitif yn flaenoriaeth, roedd Aelodau hefyd yn effro i'r materion iechyd a lles ehangach ac mae'r rhain wedi'u hadlewyrchu yn yr adroddiadau y mae'r Aelodau wedi'u defnyddio fel sail i'w penderfyniad;
· Nid yw eu pryderon sy'n ymwneud a'r cais am estyniad gorllewinol (15/0666) wedi'u cyfyngu i'r estyniad newydd, maen nhw'n berthnasol i'r safle'n gyffredinol;
· Ni fyddai gosod amod sy'n atal echdynnu a phrosesu o fewn 200 metr i'r datblygiad sensitif yn mynd i'r afael â'u pryderon;
· Eu bod nhw'n cefnogi barn yr ymgynghoriaeth gynllunio, fel sydd wedi'i nodi yn y Datganiad Achos sy'n ymwneud â cheisiadau 15/0666 a 21/0720 ac fel sydd wedi'i chrynhoi yn yr adroddiad.
(Noder: Gan ei fod eisoes wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu yngl?n â'r cais uchod (Cofnod rhif 189), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams y cyfarfod wrth i'r mater yma gael ei drafod.)
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, am y cyfnod 17/01/2022 hyd at 28/01/2022.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig, Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodaeth. Gorfodi Penderfyniadau Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio – mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi eu Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 07/01/2022 hyd at 28/01/2022.
|