Cyswllt: Jess Daniel - Democratic Services 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:
1) Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Williams wedi datgan buddiant personol mewn perthynas â Chais 21/1102 - Adeilad i hwyluso'r broses o adleoli'r iard stoc drig. (Derbyniwyd y Cynllun Rheoli Aroglau ar 30 Medi 2021, Derbyniwyd Datganiad gan y Milfeddyg a chynlluniau diwygiedig, gan leihau maint yr adeilad a gwella'r dirwedd ar 18 Hydref 2021), Y cae ger Croft Yr Haidd, Castellau, Beddau, Pont-y-clun, CF72 8LQ
“Yn ystod fy nghyfnod fel Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (2012-13), roedd yr ymgeisydd wedi codi swm sylweddol o arian ar gyfer Elusen y Maer.
2) Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â Chais 19/1082 – Cais materion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer Cam 3 a Cham 4 Parc Llanilid (a gyflwynwyd yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol (hybrid) 10/0845/34) i gynnwys 494 uned breswyl a gwaith seilwaith cysylltiedig. Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig a/neu wybodaeth ychwanegol/wedi'i diweddaru ar 24/06/21 (ffurflen gais wedi'i diweddaru, cynllun safle ('K'), cynlluniau a strategaeth tirlunio, cynllun Thetford a chynllun uned GAD 1 ystafell wely); 20/07/21 (cynllun safle ('L')); 22/07/21 (datganiad dylunio trefol wedi'i ddiweddaru); 27/07/21 (Cynllun Symud wedi'i ddiweddaru); 03/08/21 (cynlluniau peirianneg a'r Adroddiad S?n wedi'u diweddaru); 28/09/21 (cynlluniau wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r mathau newydd o dai); 12/10/21 (cynlluniau tirwedd wedi'u diweddaru); 18/11/21 (cynllun safle ('N')) a 23/11/21 (cynlluniau peirianneg diwygiedig/wedi'u diweddaru, strategaeth tirwedd a chynlluniau plannu), Tir ar hen safle glo brig a thir i'r gogledd o'r A473, Llanilid.
“Mae’r cwmni rwy’n gweithio iddo ar hyn o bryd yn gweithio ar Gam 1 datblygiad Parc Llanilid ac mae'n bosibl y bydd y cwmni yn rhan o waith datblygu'r safle yn y dyfodol yn ystod Camau 3 a 4”
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2021 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2021 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Gwaith adeiladu er mwyn hwyluso'r broses o adleoli'r iard stoc drig. (Derbyniwyd Cynllun Rheoli Aroglau ar 30 Medi 2021, Derbyniwyd Datganiad gan y Milfeddyg a chynlluniau diwygiedig, sy'n lleihau maint yr adeilad ac yn gwella'r dirwedd, ar 18 Hydref 2021), Cae Croft Yr Haidd, Castellau, Beddau, Pont-y-clun, CF72 8LQ
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeilad i hwyluso'r broses o adleoli'r iard stoc drig (Derbyniwyd y Cynllun Rheoli Aroglau ar 30 Medi 2021, Derbyniwyd Datganiad gan y Milfeddyg a chynlluniau diwygiedig, gan leihau maint yr adeilad a gwella'r dirwedd ar 18 Hydref 2021), Cae yn Croft Yr Haidd, Castellau, Beddau, Pont-y-clun, CF72 8LQ
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn cynnal Ymweliad Safle gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, er mwyn ystyried effaith y datblygiad arfaethedig ar olygfa'r safle, y priffyrdd lleol a'r amgylchedd.
|
|
Cynllun i ymestyn cwrtil yr ardd a chreu llawr caled, Merrivale, Ffordd Llwydcoed, Aberdâr
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estyniad i gwrtil yr ardd a chreu llawr caled, Merrivale, Ffordd Llwydcoed, Aberdâr
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr A Cable (Ymgeisydd) · Mr D Wesley (Gwrthwynebydd)
Arferodd yr Ymgeisydd, Mr A Cable, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd.
Amlinellodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys llythyr 'hwyr' a ddaeth i law gan drigolyn lleol a oedd yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl iddo gael ei ystyried PENDERFYNWYD gohirio'r penderfyniad i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn caniatáu trafodaethau pellach rhwng y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu a'r ymgeisydd i egluro cwmpas y cais.
(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Owen y cyfarfod (3:33pm)
|
|
Cynllun dymchwel ac ailddatblygu i ddarparu anheddau preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Cofnodi Adeilad Hanesyddol ar 22 Tachwedd 2021), Ysgol Babanod Pen-y-graig, Heol Hendrecafn, Pen-Y-Graig, Tonypandy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwaith dymchwel ac ailddatblygu i ddarparu anheddau preswyl a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Adroddiad Cofnodi Adeilad Hanesyddol ar 22 Tachwedd 2021), Ysgol Fabanod Pen-y-graig, Heol Hendrecafn, Pen-y-Graig, Tonypandy.
Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis fuddiant personol mewn perthynas â'r Cais 21/1310
"Persimmon yw contractwr y datblygiad yma"
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr D Green (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau ar y cynnig uchod.
Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yn ddarostyngedig i gytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal a'u cadw fel unedau fforddiadwy am byth, i'r diben parhaus o ddiwallu anghenion tai lleol a nodwyd.
|
|
Datblygiad tai fforddiadwy, sy'n cynnwys 11 fflat 1 ystafell wely a 2 fflat 2 ystafell wely wedi'u haddasu'n llawn ynghyd â maes parcio, gwaith tirlunio, gwaith ategol, 122-126 Stryd Dunraven, Tonypandy, CF40 1QB
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datblygiad tai fforddiadwy, yn cynnwys 11 fflat 1 ystafell wely a 2 fflat 2 lofft wedi'u haddasu'n llawn ynghyd â maes parcio, gwaith tirlunio a gwaith ategol, 122-126 Stryd Dunraven, Tonypandy, CF40 1QB.
Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yn ddarostyngedig i gytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal a'u cadw fel unedau fforddiadwy am byth, i'r diben parhaus o ddiwallu anghenion tai lleol a nodwyd.
|
|
Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl (18 annedd). (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecoleg y Glaswelltir ar 15/07/21), Y tir y tu ôl i 15 ac 16 Ffordd y Rhigos, Hirwaun, Aberdâr
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amlinelliad ar gyfer datblygiad preswyl (18 annedd). (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecoleg Tir Glas ar 15/07/21), Tir y tu ôl i 15 a 16 Ffordd y Rhigos, Hirwaun, Aberdâr.
Amlinellodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gynnwys llythyr 'hwyr' a ddaeth i law gan drigolyn lleol a oedd yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth PENDERFYNWYDcaniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yn ddarostyngedig i gytundeb Adran 106 i sicrhaubod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal a'u cadw fel unedau fforddiadwy am byth, i'r diben parhaus o ddiwallu anghenion tai lleol a nodwyd.
|
|
Cynllun arfaethedig i ddatblygu cyfleuster Gofal Ychwanegol sy'n cynnwys 60 o fflatiau ynghyd â'r gwaith cysylltiedig, gan gynnwys gwaith tirlunio, system ddraenio gynaliadwy, cyfleusterau mynediad a pharcio, Cartref Gofal Dan Y Mynydd, Coedlan Bronwydd, Cymer, Porth
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datblygiad arfaethedig o gyfleuster Gofal Ychwanegol yn cynnwys 60 o fflatiau a gwaith cysylltiedig, gan gynnwys gwaith tirlunio, gwaith draenio cynaliadwy, mynediad a pharcio, Cartref Gofal Dan y Mynydd, Coedlan Bronwydd, Cymer, Porth.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeilad ffrâm borthol (storio/dosbarthu) arfaethedig (Uned 2) (Dosbarth Defnydd B8), Cam 2, Y tir cyferbyn â Storamove, Ystad Ddiwydiannol Parc Aberaman, Aberaman, Aberdâr
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeilad ffrâm porth storio/dosbarthu arfaethedig (Uned 2) (Dosbarth Defnydd B8), Rhan 2, Tir Gyferbyn â Storamove, Ystad Ddiwydiannol Parc Aberaman, Aberaman, Aberdâr.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu maes parcio i ategu'r cyfleusterau parcio a theithio presennol yng Ngorsaf Drenau'r Porth (Cam 3 Cynllun Parcio a Theithio), gan gynnwys gwaith adlinio ffordd fynediad Ystad Ddiwydiannol Rheola, gwaith draenio, gosod goleuadau stryd, teledu cylch cyfyng a gwaith tirlunio. (Derbyniwyd y Datganiad Trafnidiaeth ar 23 Medi 2021, Derbyniwyd Asesiad Risg Mwyngloddio ar 27 Hydref 2021), Ffordd Fynediad Rheola / Ystad Ddiwydiannol Rheola, Porth.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladu maes parcio i ategu'r cyfleusterau parcio a theithio presennol yng Ngorsaf Drenau'r Porth (Parcio a Theithio Cam 3), i gynnwys adlinio ffordd fynediad Ystad Ddiwydiannol Rheola, gwaith draenio, gosod goleuadau stryd, teledu cylch cyfyng a gwaith tirlunio meddal. (Derbyniwyd Datganiad Trafnidiaeth ar 23 Medi 2021, ac Asesiad Risg Cloddio Glo ar 27 Hydref 2021), Heol Rheola/Heol Fynediad Ystad Ddiwydiannol Rheola, Porth.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu bloc garej newydd sy'n cynnwys 3 garej sengl, Tir ger Woodville, Heol Pantygraigwen, Pontypridd
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladu bloc garej newydd yn cynnwys 3 garej sengl, Tir gerllaw Woodville, Heol Pantygraigwen, Pontypridd.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio ei gais i'w Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod gan yr Aelodau bryderon yngl?n â diogelwch o ran y briffordd a cherddwyr. O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a hynny drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath.
(Nodwch: Eiliwyd cynnig i ganiatáu’r cais uchod yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, ond roedd yn aflwyddiannus).
|
|
Trosi eiddo yn 8 fflat un ystafell wely, gan gynnwys estyniad deulawr yn y cefn, newidiadau mewnol a maes parcio oddi ar y stryd yn y cefn (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 18/10/21 a disgrifiad diwygiedig ar 18/10/21), T? Gwynfa, Yr Heol Fawr, Pentre'r Eglwys, Pontypridd
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trosi eiddo yn 8 fflat stiwdio, gan gynnwys estyniad deulawr y tu cefn i'r eiddo, addasiadau mewnol a chyfleusterau parcio oddi ar y stryd y tu cefn i'r eiddo (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 18/10/21 a derbyniwyd y disgrifiad diwygiedig ar 18/10/21). Gwynfa House, Yr Heol Fawr, Pentre'r Eglwys, Pontypridd.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio ei gais i'w Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn y byddai'r safle'n cael ei orddatblygu o gael ei droi'n 8 fflat, ac roedd ganddyn nhw bryderon yngl?n â'r diffyg lleoedd parcio. O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a hynny drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath.
|
|
Cais materion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer Cam 3 a Cham 4 Parc Llanilid (a gyflwynwyd yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol (hybrid) 10/0845/34) i gynnwys 494 uned preswyl a gwaith seilwaith cysylltiedig. Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig a/neu wybodaeth ychwanegol/wedi'i diweddaru ar 24/06/21 (ffurflen gais wedi'i diweddaru, cynllun safle ('K'), cynlluniau a strategaeth tirlunio, cynllun Thetford a chynllun uned GAD 1 ystafell wely); 20/07/21 (cynllun safle ('L')); 22/07/21 (datganiad dylunio trefol wedi'i ddiweddaru); 27/07/21 (Cynllun Symud wedi'i ddiweddaru); 03/08/21 (cynlluniau peirianneg a'r Adroddiad S?n wedi'u diweddaru); 28/09/21 (cynlluniau wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r mathau newydd o dai); 12/10/21 (cynlluniau tirwedd wedi'u diweddaru); 18/11/21 (cynllun safle ('N')) a 23/11/21 (cynlluniau peirianneg diwygiedig/wedi'u diweddaru, strategaeth tirwedd a chynlluniau plannu), Tir ar hen safle glo brig a thir i'r gogledd o'r A473, Llanilid
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais materion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer Rhannau 3 a 4 Parc Llanilid (cyflwynwyd yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol (hybrid) 10/0845/34) i gynnwys 494 o unedau preswyl a seilwaith cysylltiedig. Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig a/neu wybodaeth ychwanegol/wedi'i a dderbyniwyd 24/06/21 (ffurflen gais wedi'i diweddaru, cynllun gosodiad y safle (rev 'K'), cynlluniau tirlunio a strategaeth, Thetford a chynlluniau uned DQR 1 gwely); 20/07/21 (cynllun gosodiad y safle (rev 'L') ac atodlen llety); 22/07/21 (datganiad dylunio trefol wedi'i ddiweddaru); 27/07/21 (Cynllun Symud wedi'i ddiweddaru); 03/08/21 (cynlluniau peirianneg ac Adroddiad S?n wedi'i ddiweddaru); 28/09/21 (cynlluniau wedi'u diweddaru i adlewyrchu mathau newydd o dai); 12/10/21 (cynlluniau tirwedd wedi'u diweddaru); 18/11/21 (cynllun gosodiad safle (rev 'N')) a 23/11/21 (cynlluniau gosodiad peirianyddol diwygiedig/diweddaru, strategaeth tirwedd a chynlluniau plannu tirwedd). Tir ar gyn safle glo brig a thir i'r gogledd o'r A473, Llanilid
Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr, Ffyniant a Datblygu, yn ddarostyngedig i newid Amod 10 i gyfeirio at ganiatáu'r ramp mynediad sy'n arwain at y rheilffordd, yn ogystal gofynnodd yr Aelodau am anfon llythyr at Persimmon Homes Gorllewin Cymru ar ran y Pwyllgor i rannu ei farn ar yr angen am gyfran fwy o dai fforddiadwy ar y safle datblygu.
(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant rhagfarnllyd yn y cais uchod (Cofnod Rhif 141), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis y cyfarfod ar gyfer yr eitem yma.)
|
|
Newid defnydd eiddo masnachol yn rhannol i eiddo preswyl er mwyn creu dau adeilad masnachol ac wyth fflat, ynghyd â gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Adroddiad Llifogydd ar 05/07/2021 a derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 07/07/2021), 22-22A Stryd Caerdydd, Aberdâr (Adrodd yn ôl)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd eiddo masnachol yn rhannol i eiddo preswyl er mwyn creu dau adeilad masnachol ac wyth fflat, ynghyd â gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Adroddiad Canlyniadau Llifogydd ar 05/07/2021, a derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 07/07/2021). 22-22A Stryd Caerdydd, Aberdâr (Adroddiad dilynol) Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio y cais yr adroddwyd arno’n wreiddiol i’r Pwyllgor ar 16 Medi 2021, pan ohiriwyd y cais gan yr Aelodau am ymweliad safle a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2021. Cyflwynodd y Rheolwr Materion Rheoli Datblygu y cais a gafodd ei gyflwyno ddiwethaf i'r Pwyllgor ar 4 Tachwedd 2021, lle'r oedd yr Aelodau wedi gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu (Cofnod 109).
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu am y rhesymau canlynol:
· Byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at ddiffyg lle amwynder i ddeiliaid y fflatiau yn y dyfodol. O'r herwydd, byddai'r cais yn groes i Bolisi AW5 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 22/11/2021 – 03/12/2021.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod XXXX a XXXX.
|