Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Williams.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2021 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
CAIS RHIF: 21/0256/10 PDF 132 KB Newid defnydd eiddo masnachol yn rhannol i eiddo preswyl er mwyn creu dau adeilad masnachol ac wyth fflat, ynghyd â gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Adroddiad Canlyniadau Llifogydd ar 05/07/2021, a derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 07/07/2021). 22-22A STRYD CAERDYDD, ABERDÂR, CF44 7DP
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd eiddo masnachol yn rhannol i eiddo preswyl er mwyn creu dau adeilad masnachol ac wyth fflat, ynghyd â gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Adroddiad Canlyniadau Llifogydd ar 05/07/2021, a derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 07/07/2021). 22-22A STRYD CAERDYDD, ABERDÂR, CF44 7DP
Yn unol â chofnod 66 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021, trafododd y Pwyllgor adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n amlinellu canlyniad yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2021, mewn perthynas â'r cais a argymhellwyd i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Ffyniant a Datblygu .
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Luke Brennan (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Bradwick, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol ei gais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith andwyol o ran diffyg amwynder. O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, a hynny drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath.
|
|
3 Anheddau ar wahân gyda 4 ystafell wely, pob un â lle parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 3 char. (Ailgyflwyno cais 19/0449/10) (Derbyniwyd yr Adroddiad Ecoleg ar 5 Rhagfyr 2020. Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig, lleihau maint ffin y safle ac ail-leoli anheddau arfaethedig ar 5 Ionawr 2021. Derbyniwyd cynllun diwygiedig, gan ychwanegu stribed bioamrywiaeth / ecoleg, 14 Ebrill 2021). Tir ger Brynllan, Ffordd Trebanog, Trebanog, Porth
Cofnodion: 3 Annedd ar wahân gyda 4 ystafell wely, pob un â lle parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 3 char. (Ailgyflwyno cais 19/0449/10) (Derbyniwyd yr Adroddiad Ecoleg ar 5 Rhagfyr 2020. Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig, lleihau maint ffin y safle ac ail-leoli anheddau arfaethedig ar 5 Ionawr 2021. Derbyniwyd cynllun diwygiedig, gan ychwanegu stribed bioamrywiaeth / ecoleg, 14 Ebrill 2021). Tir Ger Brynllan, Ffordd Trebanog, Trebanog, Porth
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 7 Hydref 2021, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, Cynllunio (Cofnod 76).
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu am y rhesymau canlynol:
· Oherwydd agosrwydd y datblygiad at ael y bryn a thro, a'u cysylltiad â phrif briffordd brysur, byddai'r tair mynedfa newydd i gerbydau o bosib yn cael effaith annerbyniol ar ddiogelwch defnyddwyr y briffordd ac amwynder preswylwyr. Ni fyddai'r datblygiad yn cydymffurfio â Pholisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf na chanllawiau cynllunio atodol y Cyngor ar gyfer Mynediad, Cylchrediad a Gofynion Parcio.
(Nodyn: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes rhag pleidleisio ar yr eitem hon oherwydd nad oedd yn bresennol ar gyfer y ddadl lawn).
|
|
Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo) i ofyn am ganiatâd ar gyfer lleoliad adeilad, uchder adeilad, cwrt blaen a chladin allanol diwygiedig. (Cais gwreiddiol 19/0791/10). (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 02/08/21) Uned Storio oddi ar Heol y Beddau, Pontypridd
Cofnodion: Amrywio amod 2 (cynlluniau wedi'u cymeradwyo) i ofyn am ganiatâd ar gyfer lleoliad adeilad, uchder adeilad, cwrt blaen a chladin allanol diwygiedig. (Cais gwreiddiol 19/0791/10). (Cynlluniau Diwygiedig wedi'u derbyn 02/08/21) Uned storio oddi ar heol y Beddau, Pontypridd
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais a adroddwyd yn wreiddiol i'r Pwyllgor ar 2 Medi 2021, lle penderfynwyd gohirio'r cais er mwyn cynnal ymweliad safle a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021. Yna adroddwyd y cais yn ôl i'r Pwyllgor ar 7 Hydref, lle’r oedd yr Aelodau o blaid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu (mae Cofnod 78 yn cyfeirio at hyn).
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau canlynol:
1. Byddai'r adeilad fel y'i codwyd, yn rhinwedd ei raddfa, ei ddyluniad diwydiannol a'i uchder gormodol yn cynrychioli math anghydweddol ac annatod o ddatblygiad a fyddai'n cael effaith andwyol ar amwynder gweledol deiliaid cyfagos, a chymeriad ac ymddangosiad y safle a'r ardal gyfagos, yn groes i Bolisïau AW5 ac AW6 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
2. Bydd y defnydd ychwanegol arfaethedig o'r lôn is-safonol fel prif fodd mynediad i wasanaethu'r datblygiad arfaethedig yn creu mwy o beryglon traffig er anfantais i ddiogelwch priffyrdd a cherddwyr. Yn ogystal, bydd y datblygiad arfaethedig yn cynhyrchu symudiadau gwrthdroi cerbydau yn ôl ac ymlaen i'r briffordd gyhoeddus, gan greu peryglon traffig ar draul diogelwch priffyrdd, yn groes i Bolisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
Trosi hen dafarn/gwesty yn 14 o fflatiau hunangynhwysol. (Derbyniwyd arolwg ystlumod 27 Awst 2021, a derbyniwyd cynllun safle diwygiedig, gyda lleoedd parcio oddi ar y stryd ar 8 Medi 2021) Hen Westy'r Gordon, 60 Heol y Gelli, Gelli, Pentre
Cofnodion: Trosi hen dafarn/gwesty yn 14 o fflatiau hunangynhwysol. (Derbyniwyd arolwg ystlumod 27 Awst 2021, a derbyniwyd cynllun safle diwygiedig, gyda lleoedd parcio oddi ar y stryd ar 8 Medi 2021) Hen Westy'r Gordon, 60 Heol y Gelli, Gelli, Pentre.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn ystyriaeth hirfaith PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yn ddarostyngedig i'r amodau a nodir yn yr adroddiad ac i amod ychwanegol sy'n ei gwneud yn ofynnol i fanylion gael eu cytuno ar gyfer lleoliad y casgliad sbwriel, ac ar gyfer cwblhau cytundeb adran 106 i ddarparu fflat 1 x1 ystafell wely ar gyfer perchentyaeth cost isel (safon y farchnad), fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
(Nodwch: Ar yr adeg yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Powderhill y cyfarfod (3.38pm)).
(Nodyn: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Owen rhag pleidleisio ar yr eitem hon, ar ôl ymuno â'r cyfarfod yn ystod y cyflwyniad ac felly doedd ddim yn bresennol ar gyfer y ddadl lawn).
|
|
Garej ddomestig sengl Wrth ymyl 22 Stryd Clarence, Ton Pentre, Pentre
Cofnodion: Garej ddomestig sengl, wrth ymyl 22 Stryd Clarence, Ton Pentre, Pentre
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd o garej fasnachol i 4 uned fanwerthu hunangynhwysol gydag estyniad unllawr ac addasiadau Trealaw Tyres, Heol Brithweunydd, Trealaw, Tonypandy
Cofnodion: Newid defnydd o garej fasnachol i 4 uned fanwerthu hunangynhwysol gydag estyniad unllawr ac addasiadau TREALAW TYRES, HEOL BRITHWEUNYDD, TREALAW, TONYPANDY
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 11/10/2021 – 22/10/2021.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 11/10/2021 – 22/10/2021.
|