Cyswllt: Jess Daniel - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Owen.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2021.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2021 yn rhai cywir.
|
|
CAIS RHIF: 20/1182/16 PDF 164 KB Datblygu pum annedd ar wahân (Cymeradwyo manylion y materion wedi'u cadw'n ôl yn dilyn rhoi caniatâd amlinellol i gais rhif 14/1308/13, a gafodd ei ymestyn gan gais rhif 19/0334/15) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 23/03/2021). Hen Safle Llyfrgell Cwm-bach, Rhes Morgan, Cwm-bach, Aberdâr
Cofnodion: Datblygu pum annedd ar wahân (Cymeradwyo'r materion wedi'u cadw'n ôl yn unol â rhoi caniatâd amlinellol i gais 14/1308/13, fel yr estynnwyd gan 19/0334/15) (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 23/03/2021). Hen Safle Llyfrgell Cwm-bach, Rhes Morgan, Cwm-Bach, Aberdâr
PENDERFYNWYD gohirio'r cais uchod er mwyn cynnal Ymweliad Safle gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, i drafod effaith y datblygiad arfaethedig ar y priffyrdd a'r materion sy'n codi mewn perthynas â hawliau tramwy.
Yng ngoleuni'r penderfyniad uchod, dywedodd y Cadeirydd wrth y sawl a oedd yn bresennol y byddai raid iddyn nhw wneud cais i annerch y Pwyllgor eto pan fyddai'r mater yn cael ei drafod, pe hoffen nhw annerch y Pwyllgor yngl?n â'r cais yma.
|
|
CAIS RHIF: 21/0717/10 PDF 152 KB Cynllun arfaethedig i ddymchwel rhan o'r estyniad presennol ac adeiladu estyniad llawr gwaelod y tu cefn i'r siop ac estyniad llawr cyntaf ar gyfer y fflat. 194 Stryd Fawr, Treorci
Cofnodion: Cynllun arfaethedig i ddymchwel rhan o'r estyniad presennol ac adeiladu estyniad llawr gwaelod y tu cefn i'r siop ac estyniad llawr cyntaf ar gyfer y fflat. 194 Stryd Fawr, Treorci
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms Ellen Lockley (Gwrthwynebydd). Cafodd hi bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod. Amlinellodd y Pennaeth Cynllunio gynnwys dau lythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan gymdogion yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 20/1337/10 PDF 124 KB Adeiladu 3 annedd ar wahân. Cadw'r annedd bresennol a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 15/02/2021). BIRCHWOOD, FFORDD LLWYDCOED, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0UL
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladu 3 annedd ar wahân. Cadw'r annedd bresennol a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 15/02/2021). BIRCHWOOD, FFORDD LLWYDCOED, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0UL
Yn unol â chofnod 7 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 24 Mehefin 2021, trafododd y Pwyllgor adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Gwasanaethau Democrataidd, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad â'r safle a gafodd ei gynnal ar 7 Gorffennaf 2021 mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo/wrthod gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amodau ychwanegol canlynol, yn unol â chais yr Adran Rheoli Perygl Llifogydd, fel a ganlyn:
· Amod: Ni fydd unrhyw waith datblygu yn dechrau nes bod yr holl faterion perthnasol sydd wedi'u hamlinellu yn y Gofynion Cynllunio sy'n ymwneud â materion Draenio, gan gynnwys manylion draenio llawn wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 14/06/2021 – 09/07/2021
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 14/06/2021 – 09/07/2021.
|