Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

121.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Williams.

 

122.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

123.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

124.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

125.

CAIS RHIF: 20/0986 pdf icon PDF 328 KB

Adeiladu a defnyddio stac gyda phibellau cysylltiedig a nenbont â systemau monitro allyriadau y mae modd cael mynediad iddi drwy ddringo ysgol.

Fifth Avenue, Ystad Ddiwydiannol Hirwaun, Hirwaun

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adeiladu a defnyddio stac gyda phibellau cysylltiedig a gantri systemau monitro allyriadau parhaus sydd â mynediad ysgol, Fifth Avenue, Ystad Ddiwydiannol Hirwaun, Hirwaun.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·         Mr Karl Craddick (Asiant)

·         Ms Vikki Howells AS (Gwrthwynebydd)

·         Ms Beth Winter AS (Gwrthwynebydd)

·         Mrs Mara Wakefield (Gwrthwynebydd)

·         Mrs Tracy Sweetland-Hodges (Gwrthwynebydd)

·         Mrs Clare Rees (Gwrthwynebydd)

·         Mrs Barbara Melksham (Gwrthwynebydd)

·         Mrs Diane Pope (Gwrthwynebydd)

·         Mrs Cari Rees (Gwrthwynebydd)

·         Mr Richard Jones (Gwrthwynebydd)

 

Darllenodd y Pennaeth Materion Cynllunio a Buddsoddi Sylweddol gynnwys tri datganiad ysgrifenedig gan yr unigolion canlynol:

 

·         Dr Kevin Thomas (Gwrthwynebydd)

·         Mr David Pritchard (Gwrthwynebydd)

·         Mr Roy Noble (Gwrthwynebydd)

 

Arferodd yr Ymgeisydd, Mr David Williams, yr hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebwyr.

 

Siaradodd yr Aelodau Lleol, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Thomas a K Morgan, nad ydyn nhw'n aelodau o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi'u pryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Rhannodd y Pennaeth Materion Cynllunio a Buddsoddi Sylweddol yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau am nifer y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd hyd yma o'i gymharu â'r nifer a gafodd eu cyflwyno yn rhan o'r adroddiad gwreiddiol.

 

Rhoddodd wybod i'r Aelodau nad oedd unrhyw oblygiadau pellach i'w hystyried mewn perthynas â Fframwaith Cymru'r Dyfodol 2040 a Pholisi Cynllunio Cymru 11.

 

Aeth y Pennaeth Materion Cynllunio a Buddsoddi Sylweddol ymlaen i ddangos lluniau drôn o'r safle i'r Aelodau ac yna rhoi cyflwyniad i'r Aelodau yngl?n â'r cais.

 

Yn dilyn trafodaeth hir, penderfynodd Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn oherwydd bod yr Aelodau o'r farn y byddai'r cais yn cynrychioli datblygiad anghydnaws ac anaddas a fyddai'n cael effaith weledol anffafriol, niweidiol ac annerbyniol ar y dirwedd ac yn effeithio ar amwynder gweledol yr ardal. O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.

 

(Nodwch: Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Williams am gofnodi ei bod hi wedi pleidleisio o blaid y cynnig i wrthod y cais uchod).