Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services 01443 424103
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Bonetto.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
|
|
Cymeradwyo a chadarnhau bod y cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd, 2020 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2020 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
6 o fflatiau 1 ystafell wely (newidiwyd y disgrifiad a derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 4 Tachwedd 2020) Hen Glwb y Lleng Brydeinig, Stryd Howell, Cilfynydd, Pontypridd
Cofnodion: 6 o fflatiau 1 ystafell wely (newidiwyd y disgrifiad a derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 4 Tachwedd 2020) Hen Glwb y Lleng Brydeinig, Stryd Howell, Cilfynydd, Pontypridd
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr R Frost (Asiant) · Mr M Jones (Gwrthwynebydd) · Arferodd yr Asiant, Mr Richard Frost, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd.
Amlinellodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan Mr Skinner , a oedd yn gwrthwynebu'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Roedd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Hughes a R Yeo wedi ymatal rhag pleidleisio gan nad oeddent yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan mewn perthynas â'r eitem.)
|
|
Dwy annedd 4 ystafell wely rhanedig gyda garejys a mannau parcio a rennir. Darparu llwybr troed. (Amlinelliad) (Effeithio ar Hawl Tramwy Cyhoeddus ANT/340/1) (Diwygiwyd y disgrifiad. Derbyniwyd cynlluniau a gwybodaeth ddiwygiedig ar 5 Hydref, 6 Tachwedd a 9 Tachwedd 2020) Tir yn Otters Brook, Parc Ivor, Brynsadler, Pont-y-clun
Cofnodion: Dwy annedd 4 ystafell wely rhanedig gyda garejys a mannau parcio a rennir. Darparu llwybr troed. (Amlinelliad) (Effeithio ar Hawl Tramwy Cyhoeddus ANT/340/1) (Diwygiwyd y disgrifiad. Derbyniwyd cynlluniau a gwybodaeth ddiwygiedig ar 5 Hydref, 6 Tachwedd a 9 Tachwedd 2020) Tir yn Otters Brook, Parc Ivor, Brynsadler, Pont-y-clun
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr S Lewis (Gwrthwynebydd). Cafodd e bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor gan gadarnhau bod y cais yma'n wahanol i'r cais blaenorol (20/0248) a gafodd ei wrthod. Mae'r cais yn wahanol gan na fydd y 'dull mynediad' yn cael ei ystyried fel mater wedi'i gadw'n ôl ond yn rhan o'r cais yma. O ganlyniad i hynny, roedd angen cywiro amod 1 i ddileu'r "dull mynediad" fel mater sydd wedi'i gadw'n ôl a bydd y cynllun (1105 Cyf B - Gwelliannau Arfaethedig mewn perthynas â'r Briffordd (derbyniwyd 14/12/20 ac adeiladu Ffordd Gerbydau a Llwybr Troed 110 - Strydoedd Preswyl (derbyniwyd 14/12/20)) yn cael eu cynnwys yn rhan o amod 2 a 3. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ychwanegu'r Amodau sydd wedi'u hamlinellu uchod. |
|
Cadw a chwblhau bloc garej (ailgyflwyno cais 20/0091/10) Tir cyferbyn â Stryd James, Cwmdâr, Aberdâr
Cofnodion: Cadw a chwblhau bloc garej (ailgyflwyno cais 20/0091/10) Tir ger Stryd James, Cwmdâr, Aberdâr
Darllenodd y Pennaeth Materion Cynllunio a Buddsoddi Sylweddol gynnwys tri datganiad ysgrifenedig gan yr unigolion canlynol:
· Mr S Waldron (Asiant) · Dr Dublon (Gwrthwynebydd) · Mr G Butt (Gwrthwynebydd)
Aeth y Pennaeth Materion Cynllunio ati i gyflwyno'r cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth fanwl mewn perthynas â'r cais, penderfynodd Aelodau wrthod y cais sydd wedi'i nodi uchod yn groes i argymhellion Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn oherwydd nad oedd Aelodau'n teimlo bod y cynnig yn mynd i'r afael â'r rheswm blaenorol dros wrthod y cais. Hynny yw, byddai'r datblygiad yn arwain at amodau gyrru anniogel ac yn gwneud niwed i ddiogelwch y priffyrdd yn yr ardal. Roedden nhw o'r farn y byddai'r datblygiad arfaethedig yn peri problemau diogelwch sylweddol i'r briffordd.
O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Estyniad yn y cefn i greu fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely ar gyfer rheolwr. (Derbyniwyd Disgrifiad, Cynlluniau a ffurflen gais ddiwygiedig ar 19/11/20), Fflat uwchben gwesty The Ferndale, Stryd y Dyffryn, Glynrhedynog
Cofnodion: Estyniad yn y cefn i greu fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely ar gyfer rheolwr. (Derbyniwyd Disgrifiad, Cynlluniau a ffurflen gais ddiwygiedig ar 19/11/20), Fflat uwchben gwesty The Ferndale, Stryd y Dyffryn, Glynrhedynog
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Trosi'r adeilad masnachol presennol yn 7 fflat ac uned fasnachol lai sy'n wynebu'r stryd (Dosbarth Defnydd A2) Lloyds TSB, 80 Stryd y Fasnach Aberpennar
Cofnodion: Trosi'r adeilad masnachol presennol yn 7 fflat ac uned fasnachol lai sy'n wynebu'r stryd (Dosbarth Defnydd A2) Lloyds TSB, 80 Stryd y Fasnach Aberpennar
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 20/0680/10 PDF 147 KB Gweld lluniau drôn, awyrluniau a lluniau 'dash cam' mewn perthynas â chais am 6 pod glampio gydag isadeiledd, gwelliannau ac atgyweiriadau i'r ysgubor bresennol (derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol ar 17/08/2020) (derbyniwyd cynllun diwygiedig ar 25/08/2020) FFERM BLAEN NANT-Y-GROES, HEOL BLAEN NANT-Y-GROES, CWM-BACH, ABERDÂR, CF44 0EA
Cofnodion: Gweld lluniau drôn, awyrluniau a lluniau 'dash cam' mewn perthynas â chais am 6 pod glampio gydag isadeiledd, gwelliannau ac atgyweiriadau i'r ysgubor bresennol (derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol ar 17/08/2020) (derbyniwyd cynllun diwygiedig ar 25/08/2020) FFERM BLAEN NANT-Y-GROES, HEOL BLAEN NANT-Y-GROES, CWM-BACH, ABERDÂR, CF44 0EA
Yn unol â Chofnod 300 o gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 17 Medi 2020 cynhaliodd y Pwyllgor ymweliad rhithwir â'r safle i weld lluniau 'dash cam' a lluniau drôn o'r safle i fynd i'r afael â phryderon yr Aelodau ynghylch mynediad i'r safle.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, am y cyfnod 07/12/2020 – 18/12/2020
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 07/12/2020 – 18/12/2020.
|