Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  01443 424103

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

256.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, gwnaeth Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Rees ddatganiad buddiant personol yngl?n â Chais Rhif: 20/0091 - Adeiladu 3  Garej. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 28/05/2020).

TIR CYFERBYN Â STRYD JAMES, CWMDÂR, ABERDÂR

"Rwy'n adnabod yr ymgeisydd yn sgil fy ngwaith fel cynghorydd".

 

 

 

257.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

258.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

259.

COFNODION pdf icon PDF 167 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2020 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2020 yn rhai cywir.

 

260.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

261.

CAIS RHIF: 20/0491 pdf icon PDF 144 KB

Newid defnydd i swyddfa'r post ac adleoli peiriant ATM (derbyniwyd disgrifiad diwygiedig ar 08/06/20).

27 HEOL YR EGLWYS, TON-PENTRE, PENTRE, CF41 7EB

 

Cofnodion:

Newid defnydd i swyddfa'r post ac adleoli peiriant ATM (derbyniwyd disgrifiad diwygiedig ar 08/06/20).

27 HEOL YR EGLWYS, TON-PENTRE, PENTRE, CF41 7EB

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Marc Morgan (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees-Owen, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei chefnogaeth o'r datblygiad arfaethedig.

 

Rhoddodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol wybod i'r Aelodau am fanylion deiseb a ddaeth i law o blaid y cais, a darllenodd gynnwys tri datganiad ysgrifenedig gan yr unigolion canlynol:

 

·         Yr Aelod Lleol M Weaver, nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor

·         Mr B McGrath (Gwrthwynebydd)

·         Mr R Morgan (O blaid)

 

Parhaodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol trwy gyflwyno'r adroddiad i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu

 

(Note: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd y Cynghorwyr canlynol fuddiant personol yn yr eitem:

·         G Hughes "Rydw i'n adnabod un aelod o'r cyhoedd a gyflwynodd ddatganiad ysgrifenedig"

·         R Yeo "Rydw i'n adnabod un aelod o'r cyhoedd a gyflwynodd ddatganiad ysgrifenedig"

 

 

 

 

262.

CAIS RHIF: 20/0404 pdf icon PDF 112 KB

Cabinet Telathrebu - Virgin Media

1 Y RHODFA, PONTYPRIDD, CF37 4PU

 

Cofnodion:

Cabinet Telathrebu - Virgin Media

1 Y RHODFA, PONTYPRIDD, CF37 4PU

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor, a rhoddodd Rheolwr Materion Rheoli Datblygu'r priffyrdd wybodaeth iddyn nhw yngl?n â lleoliad y cabinet arfaethedig mewn perthynas â'r llwybr troed.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn cynnal Ymweliad Safle gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, er mwyn ystyried effaith y datblygiad arfaethedig ar ddiogelwch ar y ffordd.

 

 

263.

CAIS RHIF: 20/0479 pdf icon PDF 151 KB

Mynedfa newydd a maes parcio yn y cefn (12 o leoedd parcio)

CWMNI LLANMOOR DEVELOPMENT CYF, 63-65 HEOL TALBOT, TONYSGUBORIAU, PONT-Y-CLUN, CF72 8AE

 

Cofnodion:

Mynedfa newydd a maes parcio yn y cefn (12 o leoedd parcio)

CWMNI LLANMOOR DEVELOPMENT CYF, 63-65 HEOL TALBOT, TONYSGUBORIAU, PONT-Y-CLUN, CF72 8AE

 

Darllenodd y Pennaeth Materion Cynllunio a Buddsoddi Sylweddol gynnwys tri datganiad ysgrifenedig gan yr unigolion canlynol:

 

·         Mr D Kelly (Gwrthwynebydd)

·         Ms C Hall (Gwrthwynebydd)

·         Mr a Mrs McCann (Gwrthwynebwyr)

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor, a dywedodd wrth yr Aelodau y byddai angen cytuno i'r diwygiadau canlynol i'r amodau yn yr adroddiad pe byddai'r Aelodau'n cymeradwyo'r cais:

o   Diddymu amod 6

o   Diwygio amod 2 i gynnwys cyfeirnod cynllunio 1013-03.

 

Ar ôl ystyried y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio. Roedd hyn yn ddibynnol ar ddiwygio'r amodau uchod.

 

264.

CAIS RHIF: 20/0091 pdf icon PDF 142 KB

Adeiladu 3 Garej. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 28/05/20).

TIR CYFERBYN Â STRYD JAMES, CWMDÂR, ABERDÂR

 

Cofnodion:

Adeiladu 3 Garej. (Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig ar 28/05/20) TIR CYFERBYN Â STRYD JAMES, CWMDÂR, ABERDÂR

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 2 Gorffennaf 2020, gydag argymhelliad i'r gymeradwyo. Gwrthodwyd y cais bryd hynny, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio, a hynny am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

265.

CAIS RHIF: 20/0146 pdf icon PDF 156 KB

Gofod parcio i gwsmeriaid a derbynfa ar y llawr cyntaf (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 29/05/2020).

T? YSGOL BLAEN-CWM, HEOL HENDRE-WEN, BLAEN-CWM, TREHERBERT, CF42 5DR.

 

Cofnodion:

Gofod parcio i gwsmeriaid a derbynfa ar y llawr cyntaf (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 29/05/2020).

T? YSGOL BLAEN-CWM, HEOL HENDRE-WEN, BLAEN-CWM, TREHERBERT, CF42 5DR.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Davies, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gefnogaeth yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Materion Rheoli Datblygu'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 16 Gorffennaf 2019,  gydag argymhelliad i'w wrthod, ond roedd yr Aelodau o blaid cymeradwyo'r cais bryd hynny, yn groes i argymhelliad swyddog y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio.

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio, yn amodol ar y pedwar amod a nodwyd yn yr adroddiad diwygiedig. Roedd hyn am eu bod o'r farn na fyddai'r datblygiad yn cael effaith andwyol ar gymeriad nac edrychiad yr adeilad, na'r ardal gyfagos; ac na fydd effaith andwyol ar eiddo cyfagos o ran defnydd a phreifatrwydd.

(Noder: Ar yr adeg yma, yn unol â'r Cod Ymddygiad, gwnaeth Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple ddatganiad buddiant personol yngl?n â Chais Rhif: 20/0491 Newid defnydd i swyddfa'r post ac adleoli peiriant ATM (derbyniwyd disgrifiad diwygiedig ar 08/06/20).

27 HEOL YR EGLWYS, TON-PENTRE, PENTRE, CF41 7EB

"Rydw i'n adnabod un aelod o'r cyhoedd a gyflwynodd ddatganiad ysgrifenedig"

 

 

 

266.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 82 KB

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, am y cyfnod 06/07/2020 – 17/07/2020.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodi.

Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 06/07/2020 – 17/07/2020.