Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd  01443 424103

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

237.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

238.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman. Clywodd yr Aelodau fod Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E. Stephens yn eistedd ar y pwyllgor yn lle'r Cynghorydd P. Jarman, a chroesawyd hi i'r cyfarfod.

 

239.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

240.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

241.

COFNODION pdf icon PDF 106 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2020 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2020 yn rhai cywir. 

 

242.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei hystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

243.

CAIS RHIF: 19/1245 pdf icon PDF 256 KB

Datblygiad o 25 o dai fforddiadwy a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Nodyn Technegol Polisi Cynllunio; Atodiad Asesiad Trafnidiaeth; Ymchwiliad Safle; Cynllun Rheoli Ecolegol; Diwygio'r Ffin; a chynlluniau diwygiedig eraill i adlewyrchu'r newidiadau o ran arafu traffig/mynedfa'r safle ar 30 Ionawr 2020)

TIR I'R GOGLEDD O HEOL BRYNNA, BRYNNA.

 

Cofnodion:

Datblygiad o 25 o dai fforddiadwy a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd Nodyn Technegol Polisi Cynllunio; Atodiad Asesiad Trafnidiaeth; Ymchwiliad Safle; Cynllun Rheoli Ecolegol; Diwygio'r Ffin; a chynlluniau diwygiedig eraill i adlewyrchu'r newidiadau o ran arafu traffig/mynedfa'r safle ar 30 Ionawr 2020)

TIR I'R GOGLEDD O HEOL BRYNNA, BRYNNA.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr J Hurley (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau.

 

Darllenodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys 5 llythyr yn gwrthwynebu i'r cais gan y trigolion canlynol: 

·         Mr S Harrison (Gwrthwynebydd)

·         Mr R Vowles (Gwrthwynebydd)

·         Mr C Jones (Gwrthwynebydd)

·         Mr N McAndrew (Gwrthwynebydd)

·         Ms C Rees (Gwrthwynebydd)

 

Arferodd yr Asiant, Mr J. Hurley, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebwyr.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Turner, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'w Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio, a hynny'n amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac ar Gytundeb Adran 106 (S106) sy'n gofyn am y canlynol:

 

·         Bydd yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal fel unedau fforddiadwy, a hynny at y diben parhaus o ddiwallu anghenion tai sydd wedi'u nodi yn yr ardal leol.

·         Bydd angen i'r cytundeb S106 ymgorffori dyletswydd i reoli'r tir sydd ynghlwm â safle'r cais, a hynny er mwyn darparu'r camau lliniaru ecolegol a gwaith ehangach, yn unol â'r Cynllun Rheoli Materion Ecolegol y cytunwyd arno.

·         Mae Canllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar gyfer Sgiliau Cyflogadwyedd yn ei gwneud hi'n ofynnol bod datblygiadau preswyl sy'n cynnwys 25 o anheddau neu ragor yn cael eu cefnogi gan Gynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau. Dylai hyn hefyd gael ei sicrhau o fewn y cytundeb S016.

 

 

244.

CAIS RHIF: 20/0309 pdf icon PDF 174 KB

Datblygiad tai fforddiadwy arfaethedig (9 o fflatiau). (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig, sy'n gostwng uchder y rhandy yn y cefn ar 3 Mehefin 2020).

SWYDDFA DDOSBARTHU'R POST BRENHINOL - TREORCI, 22-23 Y STRYD FAWR, TREORCI, CF42 6NP.

 

Cofnodion:

Datblygiad tai fforddiadwy arfaethedig (9 o fflatiau). (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig, sy'n gostwng uchder y rhandy yn y cefn, ar 3 Mehefin 2020).

SWYDDFA DDOSBARTHU'R POST BRENHINOL - TREORCI, 22-23 Y STRYD FAWR, TREORCI, CF42 6NP.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr J Wilkes (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

 

Darllenodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol gyflwyniad ysgrifenedig gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Webster, nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor, yn nodi ei bryderon mewn perthynas â'r Datblygiad arfaethedig.

 

Parhaodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol trwy gyflwyno'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu

 

 

 

 

245.

CAIS RHIF: 20/0146 pdf icon PDF 111 KB

Gofod parcio i gwsmeriaid a derbynfa ar y llawr cyntaf (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 29/5/2020).

T? YSGOL BLAEN-CWM, HEOL HENDRE-WEN, BLAEN-CWM, TREHERBERT, CF42 5DR.

 

 

Cofnodion:

Gofod parcio i gwsmeriaid a derbynfa ar y llawr cyntaf (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 29/5/2020).

T? YSGOL BLAEN-CWM, HEOL HENDRE-WEN, BLAEN-CWM, TREHERBERT, CF42 5DR.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr B Jones (Ymgeisydd). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

Siaradodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Davies, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gefnogaeth yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodaugymeradwyo'r cais, yn groes i argymhellion y Cyfarwyddwr, Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am eu bod nhw o'r farn na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar gymeriad nac edrychiad yr eiddo, na'r ardal gyfagos. Roedd yr Aelodau hefyd o'r farn na fyddai hyn yn arwain at edrych dros eiddo rhywun arall yn uniongyrchol. O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.

 

 

 

246.

CAIS RHIF: 19/0882 pdf icon PDF 261 KB

Ffermdy dros dro, cabanau gwersylla moethus, storfa a gwaith datblygu cysylltiedig (Derbyniwyd y cynllun safle diwygiedig, disgrifiad o'r cabanau gwersylla moethus a'r storfa a'r newidiadau o ran eu lleoliad ar 10 ac 16 Mawrth 2020)

FFERM FERNHILL, STRYD CAROLINE, BLAENRHONDDA, CF42 5RY

 

 

Cofnodion:

Ffermdy dros dro, cabanau gwersylla moethus, storfa a gwaith datblygu cysylltiedig (Derbyniwyd y cynllun safle diwygiedig, disgrifiad o'r cabanau gwersylla moethus a'r storfa a'r newidiadau o ran eu lleoliad ar 10 ac 16 Mawrth 2020)

FFERM FERNHILL, STRYD CAROLINE, BLAENRHONDDA, CF42 5RY

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Davies, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd o fewn yr adroddiad, ac yn amodol ar amod ychwanegol sy'n gofyn i'r ymgeisydd benodi unigolyn/unigolion cymwys i gynnal arolwg strwythurol o'r bont (sy'n croesi'r Afon Rhondda ar ddiwedd Stryd y Nant a chyferbyn â'r man troi bysiau) cyn dechrau ar unrhyw waith, gan sicrhau bod unrhyw fethiannau a nodir yn yr adroddiad yn cael eu hunioni i safon s'n foddhaol i'r awdurdod cynllunio lleol.

 

(Nodwch: Cafodd cynnig i gynnal ymweliad safle ei wrthod)

 

 

 

247.

RHEOL 8 - DULL GWEITHREDU'R CYNGOR

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y byddai'r Pwyllgor yn parhau â'r cyfarfod yn unol â

Rheol 8 o Ddull Gweithredu'r Cyngor, a hynny fel bod modd trafod yr eitemau sy'n weddill ar yr agenda.

 

248.

CAIS RHIF: 19/0323 pdf icon PDF 188 KB

Cais i gydymffurfio ag Amod 8 o Ganiatâd Cynllunio 13/0466/15 (a gymeradwywyd yn yr apêl APP/L6940/A/14/2212351) i ddarparu cynllun adfer diwygiedig a oedd wedi'i gymeradwyo'n flaenorol o dan Ganiatâd Cydymffurfio ag Amod 17/0525) (Disgrifiad diwygiedig - 10 Ebrill 2019) (Derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol ar 04/09/2019) (Derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol ar 29/04/20)

PEN RHEILFFORDD GLOFA'R T?R, FFORDD MYNYDD Y RHIGOS, Y RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9UF.

 

 

Cofnodion:

Cais i gydymffurfio ag Amod 8 o Ganiatâd Cynllunio 13/0466/15 (a gymeradwywyd yn yr apêl APP/L6940/A/14/2212351) i ddarparu cynllun adfer diwygiedig a oedd wedi'i gymeradwyo'n flaenorol o dan Ganiatâd Cydymffurfio ag Amod 17/0525) (Disgrifiad diwygiedig - 10 Ebrill 2019) (Derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol ar 04/09/2019) (Derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol ar 29/04/20)

PEN RHEILFFORDD GLOFA'R T?R, FFORDD MYNYDD Y RHIGOS, Y RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9UF.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Thomas, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Darllenodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol ddatganiad ysgrifenedig gan Mrs S Powell (Gwrthwynebydd) ar ran Cyngor Cymuned y Rhigos. Yn ogystal â hynny amlinellodd gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan Mr G Sheldon, a oedd yn gwrthwynebu'r cais.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Owen y cyfarfod 6:05pm)

 

 

 

249.

CAIS RHIF: 18/0880 pdf icon PDF 160 KB

Newid defnydd llawr cyntaf ac ail lawr yr eiddo, o hen neuadd snwcer (Dosbarth D2) i 22 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis) a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd disgrifiad diwygiedig ar 03/10/2016) (Caniatâd Adeilad Rhestredig). (Derbyniwyd Asesiad o’r Effaith ar Dreftadaeth Diwygiedig ar 12/07/2019)

1 STRYD FOTHERGILL, TREFFOREST, Pontypridd, CF37 1SG.

 

 

 

Cofnodion:

Newid defnydd llawr cyntaf ac ail lawr yr eiddo, o hen neuadd snwcer (Dosbarth D2) i 22 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis) a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd disgrifiad diwygiedig ar 03/10/2016) (Caniatâd Adeilad Rhestredig). (Derbyniwyd Asesiad Diwygiedig o’r Effaith ar Dreftadaeth ar 12/07/2019)

1 STRYD FOTHERGILL, TREFFOREST, Pontypridd, CF37 1SG.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, darllenodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol ddatganiad ysgrifenedig gan Mr C Dance (Asiant) yngl?n â'r cynigion uchod a chais rhif 18/0886 sydd wedi'i nodi yng nghofnod 250 isod.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cynnig, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Archwiliad o'r Safle i ystyried effaith y datblygiad arfaethedig ar ddiogelwch o ran y briffordd.

 

 

 

250.

CAIS RHIF: 18/0886 pdf icon PDF 185 KB

Newid defnydd llawr cyntaf ac ail lawr yr eiddo, o hen neuadd snwcer (Dosbarth D2) i 22 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis) a gwaith cysylltiedig.

1 STRYD FOTHERGILL, TREFFOREST, Pontypridd, CF37 1SG.

 

 

Cofnodion:

Newid defnydd llawr cyntaf ac ail lawr yr eiddo, o hen neuadd snwcer (Dosbarth D2) i 22 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis) a gwaith cysylltiedig.

1 STRYD FOTHERGILL, TREFFOREST, Pontypridd, CF37 1SG.

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, darllenodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol ddatganiad gan Mr C Dance (Asiant) yngl?n â'r cynnig uchod.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cynnig, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Archwiliad o'r Safle i ystyried effaith y datblygiad arfaethedig ar ddiogelwch o ran y briffordd.

 

 

251.

CAIS RHIF: 19/0829 pdf icon PDF 120 KB

Trosi eglwys yn 8 fflat (derbyniwyd cynllun parcio diwygiedig ar 06/12/2019)

EGLWYS SAESNEG BEDYDDWYR CALFARI, TERAS Y CLOGWYN, TREFFOREST, PONTYPRIDD

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trosi eglwys yn 8 fflat (derbyniwyd cynllun parcio diwygiedig ar 06/12/2019)

EGLWYS SAESNEG BEDYDDWYR CALFARI, TERAS Y CLOGWYN, TREFFOREST, PONTYPRIDD

 

Yn unol â Chofnod Rhif:  193 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 5 Mawrth 2020, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad â'r safle a gafodd ei gynnal ar 24 Mehefin 2020 mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu darllenodd y Pennaeth Materion Cynllunio dri datganiad ysgrifenedig gan yr unigolion canlynol:

·         Dr J Barrett (Gwrthwynebydd)

·         Mr R Dyer (Gwrthwynebydd)

·         Mr B Hicks (Gwrthwynebydd)

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio ei gais i'w Pwyllgor ac, yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn am fod yr Aelodau o'r farn y byddai'r safle'n cael ei orddatblygu, ac roedd ganddyn nhw bryderon yngl?n â'r diffyg lleoedd parcio.O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.

 

 

 

 

252.

CAIS RHIF: 20/0348 pdf icon PDF 123 KB

Troi hen Gapel ac Ystafell Ddosbarth yn 1 x fflat ag un llofft a 4 x fflat â dwy lofft (ailymgynghori yn dilyn cywiro'r cyfeiriad)

CAPEL NODDFA, Y STRYD FAWR, YNYS-Y-B?L, PONTYPRIDD.

 

 

Cofnodion:

Troi hen Gapel ac Ystafell Ddosbarth yn 1 x fflat ag un llofft a 4 x fflat â dwy lofft (ailymgynghori yn dilyn cywiro'r cyfeiriad)

CAPEL NODDFA, Y STRYD FAWR, YNYS-Y-B?L, PONTYPRIDD.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Pickering, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol y cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

253.

CAIS RHIF: 20/0006 pdf icon PDF 124 KB

Adeiladu annedd ar wahân, sawl haen ac iddi dair ystafell wely.

TIR YN NHERAS GLANFFRWD, YNYS-Y-B?L, PONTYPRIDD, CF37 3LW

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adeiladu annedd ar wahân, sawl haen ac iddi dair ystafell wely.

TIR YN NHERAS GLANFFRWD, YNYS-Y-B?L, PONTYPRIDD, CF37 3LW

 

Yn unol â Chofnod Rhif:  197 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 5 Mawrth 2020, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad â'r safle a gafodd ei gynnal ar 24 Mehefin 2020 mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr I Randell (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

 

Darllenodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys datganiad ysgrifenedig gan Mrs J Evans (gwrthwynebydd).

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Pickering, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei chefnogaeth o'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

254.

CAIS RHIF: 20/0110 pdf icon PDF 121 KB

Amrywio'r diwygiadau i amod 2 o'r cynlluniau sydd wedi'u cymeradwyo (cais blaenorol - 15/1007/10) er mwyn symud t? a man parcio. (Derbyniwyd CMRA ar 7 Mawrth 2020)

Tir gyferbyn â Stryd Jestyn, y Porth.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amrywio'r diwygiadau i amod 2 o'r cynlluniau sydd wedi'u cymeradwyo (cais blaenorol - 15/1007/10) er mwyn symud t? a man parcio. (Derbyniwyd CMRA ar 7 Mawrth 2020)

Tir gyferbyn â Stryd Jestyn, y Porth.

 

Yn unol â Chofnod Rhif:  212 o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gafodd ei gynnal ar 11 Mehefin 2020, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymweliad â'r safle a gafodd ei gynnal ar 24 Mehefin 2020 mewn perthynas â'r cais a gafodd ei argymell i'w gymeradwyo/wrthod gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Cox, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

255.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 82 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 22/06/20 – 03/07/20.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodi.

Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio – mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi eu Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 22/06/20 hyd at 03/07/20.