Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services  01443 424103

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

233.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

·         Yn unol â'r Cod Ymddygiad, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams fuddiant personol, sydd hefyd yn fuddiant sy'n rhagfarnu, yngl?n â Chais Rhif: 15/0666 Estyniad gorllewinol i'r chwarel bresennol, i gynnwys echdynnu 10 miliwn tunnell ychwanegol o dywodfaen pennant yn raddol, adeiladu byndiau sgrinio, gwaith cysylltiedig, a chydgrynhoi'r holl ganiatadau cynllunio mwynau blaenorol yn Chwarel Craig yr Hesg, gan gynnwys estyn y dyddiad gorffen ar gyfer chwarela a chynllun adfer cyffredinol (gwybodaeth ychwanegol wedi'i nodi yn yr adroddiad "Materion Lles ac Iechyd yr Amgylchedd"). Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd, CF37 3BG.

"Rwy'n rhan o gr?p gweithredu sydd yn erbyn y cynnig i ymestyn y chwarel.

 

234.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

235.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

 

236.

CAIS RHIF: 15/0666/10 pdf icon PDF 380 KB

Estyniad gorllewinol i'r chwarel bresennol, i gynnwys echdynnu 10 miliwn tunnell ychwanegol o dywodfaen pennant yn raddol, adeiladu byndiau sgrinio, gwaith cysylltiedig, a chydgrynhoi'r holl ganiatadau cynllunio mwynau blaenorol yn Chwarel Craig yr Hesg, gan gynnwys estyn y dyddiad gorffen ar gyfer chwarela a chynllun adfer cyffredinol (gwybodaeth ychwanegol wedi'i nodi yn yr adroddiad "Materion Lles ac Iechyd yr Amgylchedd").

 

Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd, CF37 3BG

 

Cofnodion:

CAIS RHIF: 15/0666/10 Estyniad gorllewinol i'r chwarel bresennol, i gynnwys echdynnu 10 miliwn tunnell ychwanegol o dywodfaen pennant yn raddol, adeiladu byndiau sgrinio, gwaith cysylltiedig, a chydgrynhoi'r holl ganiatadau cynllunio mwynau blaenorol yn Chwarel Craig yr Hesg, gan gynnwys estyn y dyddiad gorffen ar gyfer chwarela a chynllun adfer cyffredinol (gwybodaeth ychwanegol wedi'i nodi yn yr adroddiad "Materion Lles ac Iechyd yr Amgylchedd"). Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd, CF37 3BG.

 

NODER: Roedd Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol D Williams, a oedd wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu ynglyn â'r mater yma, wedi gadael y cyfarfod er mwyn i'r drafodaeth gael ei chynnal (Fel sydd wedi'i nodi yng Nghofnod 233 uchod).

 

Siaradodd yr Aelodau Lleol, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol H Fychan, M Powell a S Pickering, nad ydyn nhw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig a'r effaith bosibl ar drigolion lleol.

 

Penderfynodd y Pwyllgor gadw aelodau o'r wasg a'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran s100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 er mwyn cael cyngor cyfreithiol mewn perthynas â'r cais, ar y sail y byddai'n debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 16 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn benodol, gwybodaeth a allai arwain at hawlio braint broffesiynol gyfreithiol mewn achos cyfreithiol.

 

Yn dilyn derbyn y cyngor cyfreithiol, cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio fanylion y cais i'r Pwyllgor, a rannwyd gyda'r Pwyllgor yn flaenorol ar 6 Chwefror 2020,. Bryd hynny, roedd yr Aelodau o blaid gwrthod y cais yn groes i argymhellion y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu. Amlinellodd gynnwys llythyrau 'hwyr' a dderbyniwyd, gan roi gwybod i'r Pwyllgor bod 62 o negeseuon e-bost wedi'u derbyn, a bod 60 ohonynt yn nodi gwrthwynebiadau ar sail effaith ffrwydradau ar ansawdd yr aer, llwch, traffig a phroblemau amgylcheddol. Roedd 2 neges e-bost o blaid y datblygiad.

 

Yn ogystal â hynny, ailgyflwynwyd un llythyr gan yr AC Vikki Howells, a oedd yn amlinellu pryderon ar ran ei hetholwyr y byddai'r gwaith yn digwydd o fewn cylchfa ragod o 200m, yn ogystal â'r pryderon lleol yngl?n â ffrwydradau, effaith llygredd yn yr aer a phroblemau traffig. Cafodd llythyr gan Gyngor Cymuned Ynysyb?l a Choed-y-Cwm, sy'n ategu'i wrthwynebiad i'r cais, ei rannu hefyd.

 

Hefyd, cafwyd 2 lythyr gan yr ymgynghorydd cynllunio ar ran yr ymgeisydd, ac roedd y diweddaraf ohonynt (dyddiedig 7 Gorffennaf 2020) yn amlinellu'r amodau a awgrymwyd i fynd i'r afael â'r pryderon a amlinellwyd yn yr adroddiad ynghylch y gylchfa ragod 200m a chyfyngu ar allbwn o'r chwarel.

 

Dywedodd y Pennaeth Materion Cynllunio wrth yr Aelodau fod Mr H. Towns (Rheolwr Cynllunio Mwynau a Gwastraff o Gyngor Sir Caerfyrddin) a oedd yn bresennol i ddarparu cyngor arbenigol yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor ym mis Chwefror, hefyd yn bresennol yn y cyfarfod yma er mwyn  annerch yr Aelodau. Yna rhoddodd Mr H Towns drosolwg i'r Pwyllgor o'r adroddiad a oedd yn manylu ar y pryderon a nodwyd gan yr  ...  view the full Cofnodion text for item 236.