Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services  01443 424103

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

214.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol W. Owen.

 

215.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

(1) Yn unol â'r Cod Ymddygiad, gwnaeth y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S Rees ddatgan buddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â Chais Rhif: 20-0336 - 4 annedd preswyl newydd gyda garej a gwaith cysylltiedig. Ailgyflwyno caniatâd cynllunio 17/1224/13. GLAN YR AFON, HEOL Y FFERM, ABERAMAN, ABERDÂR, CF446LJ

 

"Mae'r ymgeisydd wedi helpu Ffrindiau Parc Aberdâr trwy gyfrannu at y pad sblash ac rydw i'n ymddiriedolwr ar gyfer y sefydliad elusennol."

 

(2) Yn unol â'r Cod Ymddygiad, gwnaeth y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S Rees ddatgan buddiant personol yngl?n â Chais Rhif: 20/0091 - Adeiladu 3 Garej. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 28/05/20) Y TIR CYFERBYN Â STRYD JAMES, CWMDÂR, ABERDÂR

 

"Rydw i'n adnabod yr ymgeisydd oherwydd fy rôl fel Cynghorydd."

 

(1) Yn unol â'r Cod Ymddygiad, gwnaeth y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol R Yeo ddatgan buddiant personol yngl?n â Chais Rhif: 20/0306 - Estyniad dau-lawr y tu blaen i'r eiddo ac i ochr yr eiddo. 17 MANOR CHASE, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2JD

 

"Roedd yr ymgeisydd wedi cysylltu â fi trwy e-bost, rydw i ond wedi rhoi cyngor ynghylch cysylltu â'r Adran Gynllunio a doeddwn i ddim wedi rhoi fy marn."

 

216.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

217.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

218.

COFNODION pdf icon PDF 614 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2020.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2020 yn rhai cywir. 

 

219.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei ystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

220.

CAIS RHIF: 20/0322 pdf icon PDF 197 KB

Adeiladu canolfan chwaraeon.

COLEG Y CYMOEDD, HEOL Y COLEG, NANTGARW, CF15 7QY

 

Cofnodion:

Adeiladu canolfan chwaraeon.

COLEG Y CYMOEDD, HEOL Y COLEG, NANTGARW, CF15 7QY

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Pete Sulley (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau ar y cynnig uchod.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth hir ymhlith yr Aelodau, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Roedd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P Jarman, J Williams a R Yeo wedi ymatal rhag pleidleisio gan eu bod nhw ddim wedi bod yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan)

 

 

 

221.

CAIS RHIF: 20/0306 pdf icon PDF 106 KB

Estyniad dau-lawr y tu blaen i'r eiddo ac i ochr yr eiddo.

17 MANOR CHASE, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2JD

 

Cofnodion:

Estyniad dau-lawr y tu blaen i'r eiddo ac i ochr yr eiddo.

17 MANOR CHASE, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2JD

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Rhys Williams (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

 

Cyflwynodd Pennaeth Datblygu a Buddsoddi Mawr y cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth hir, penderfynodd Aelodau gymeradwyo'r cais sydd wedi'i nodi uchod, yn groes i argymhelliad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn oherwydd bod Aelodau o'r farn bod y dyluniad ddim yn anghydweddol ac roedden nhw'n fodlon â maint y datblygiad. Penderfynodd Aelodau gymeradwyo'r cais gan ystyried na fydd y cais yn cael effaith mawr ar yr eiddo cyfagos. O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.

 

 

222.

CAIS RHIF: 20/0336 pdf icon PDF 147 KB

4 annedd preswyl newydd gyda garej a gwaith cysylltiedig. Ailgyflwyno caniatâd cynllunio 17/1224/13.

GLAN YR AFON, FARM ROAD, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6LJ

 

Cofnodion:

4 annedd preswyl newydd gyda garej a gwaith cysylltiedig. Ailgyflwyno caniatâd cynllunio 17/1224/13.

GLAN YR AFON, FARM ROAD, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6LJ

 

(Nodwch: A hithau eisoes wedi datgan buddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â'r cais uchod, gadawodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S. Rees y cyfarfod ar gyfer yr eitem yma, a chymerodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol G. Caple y gadair ar gyfer y rhan yma o'r cyfarfod.)

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Phil Williams (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais i'r Aelodau.

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Williams, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei chefnogaeth i'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd Pennaeth Datblygu a Buddsoddi Mawr yr adroddiad i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNODD y Pwyllgor wrthod y cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

223.

CAIS RHIF: 20/0091 pdf icon PDF 132 KB

Adeiladu 3 Garej (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 28/05/2020).

TIR CYFERBYN Â STRYD JAMES, CWMDÂR, ABERDÂR

 

Cofnodion:

Construction of 3 no. Garages. (Amended Plans received 28/05/20)

LAND ADJACENT TO JAMES STREET, CWMDARE, ABERDARE

 

(Note: Having earlier left the meeting, County Borough Councillor S Rees re-joined the meeting)

 

The Head Of Major Development & Investment outlined the contents of 4 letters received from residents in neighbouring properties in objection of the application.

 

The Head Of Major Development & Investment presented the application to Committee and following lengthy consideration Members were mindedto refuse the above-mentioned application contrary to the recommendation of the Director, Prosperity & Development as Members were of the view that the amended plans pose significant highways safety issues and the construction of the garage is such that the intended use is not achievable. Therefore, the matter would be deferred to the next appropriate meeting of the Planning & Development Committee for a report of the Director, Prosperity & Development, if necessary in consultation with the Director, Legal Services, highlighting the potential strengths and weaknesses of making a decision contrary to the recommendation of an officer or any proposed or possible planning reason for such a decision prior to determining a matter.

 

 

224.

CAIS RHIF: 19/1180 pdf icon PDF 144 KB

Byngalo newydd.

MAES-Y-DDERWEN, PANT-Y-BRAD, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8HX.

 

Cofnodion:

Byngalo newydd.

MAES-Y-DDERWEN, PANT-Y-BRAD, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8HX.

 

(Nodwch: Ailgydiodd Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S Rees yn ei rôl fel Cadeirydd y cyfarfod)

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Owen-Jones, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gefnogaeth i'r datblygiad arfaethedig.

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

225.

CAIS RHIF: 19/0060 pdf icon PDF 167 KB

Adeiladu Annedd Newydd (Derbyniwyd Gwybodaeth Bellach ym mis Ionawr 2020)

TAIR LEVEL, HEOL FFYNNONBWLA, GLAN-BAD, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7UU

 

 

Cofnodion:

Adeiladu Annedd Newydd (Derbyniwyd Gwybodaeth Bellach ym mis Ionawr 2020)

TAIR LEVEL, HEOL FFYNNONBWLA, GLAN-BAD, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7UU

 

Cyflwynodd Pennaeth Datblygu a Buddsoddi Mawr y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Roedd Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S Powderhill wedi ymatal rhag pleidleisio gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan)

 

 

226.

CAIS RHIF: 19/0680 pdf icon PDF 147 KB

Trosi hen westy yn 9 fflat un, dwy a thair ystafell wely. (Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig sy'n lleihau nifer yr unedau o 11 i 9 ar 29/5/20).

HEN WESTY CWRT GLAND?R (GLANDWR COURT HOTEL), HEOL YSTRAD, PENTRE, CF41 7PY.

 

Cofnodion:

Trosi hen westy yn 9 fflat un, dwy a thair ystafell wely. (Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig sy'n lleihau nifer yr unedau o 11 i 9 ar 29/5/20).

HEN WESTY CWRT GLAND?R (GLANDWR COURT HOTEL), HEOL YSTRAD, PENTRE, CF41 7PY.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Roedd Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol D Grehan wedi ymatal rhag pleidleisio gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan)

 

 

 

227.

CAIS RHIF: 19/0882 pdf icon PDF 232 KB

Ffermdy dros dro, cabanau gwersylla moethus, storfa a gwaith datblygu cysylltiedig (Derbyniwyd y cynllun safle diwygiedig, disgrifiad o'r cabanau gwersylla moethus a'r storfa a'r newidiadau o ran eu lleoliad ar 10 ac 16 Mawrth 2020)

FFERM FERNHILL, STRYD CAROLINE, BLAENRHONDDA, CF42 5RY

 

Cofnodion:

Ffermdy dros dro, cabanau gwersylla moethus, storfa a gwaith datblygu cysylltiedig (Derbyniwyd y cynllun safle diwygiedig, disgrifiad o'r cabanau gwersylla moethus a'r storfa a'r newidiadau o ran eu lleoliad ar 10 ac 16 Mawrth 2020)

FFERM FERNHILL, STRYD CAROLINE, BLAENRHONDDA, CF42 5RY.

 

Rhannodd Pennaeth Materion Cynllunio fanylion y cais a gofynnodd i Aelodau ystyried gohirio'r cais er mwyn sicrhau eglurder ar statws y ffordd gerbydau sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad cyfredol.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD gohirio'r penderfyniad tan un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol, gan alluogi swyddogion i ddarparu eglurder ar statws y ffordd gerbydau. 

 

228.

CAIS RHIF: 19/1296 pdf icon PDF 162 KB

Dymchwel Capel ac Adeiladu 2 Annedd Ar Wahân (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 12/02/2020).

CAPEL BETHEL, HEOL ABER-NANT, ABER-NANT, ABERDÂR

 

Cofnodion:

Demolition of Chapel and Construction of 2 No. Detached Dwellings (Amended Plans Received 12/02/2020).

BETHEL CHAPEL, ABERNANT ROAD, ABER-NANT, ABERDARE

 

The Head Of Major Development & Investment outlined the contents of a letter received from Mr J Evans in objection of the application and Mr C Cousins (Applicant) in support of the application.

 

The Head Of Major Development & Investment presented the application to Committee and following consideration it was RESOLVED to approve the application in accordance with the recommendation of the Director, Prosperity and Development.

 

                                                                                         

229.

CAIS RHIF: 20/0375 pdf icon PDF 166 KB

Adeiladu dwy uned B1/B2/B8 a'r cyfleusterau parcio cysylltiedig.

UNED 14 AC 15, PARC BUSNES HEPWORTH, TONYSGUBORIAU, CF72 9DX.

 

Cofnodion:

Adeiladu dwy uned B1/B2/B8 a'r cyfleusterau parcio cysylltiedig.

UNED 14 AC 15, PARC BUSNES HEPWORTH, TONYSGUBORIAU, CF72 9DX.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Roedd Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Williams wedi ymatal rhag pleidleisio gan nad oedd hi'n bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan)

 

 

230.

CAIS RHIF: 20/0425 pdf icon PDF 120 KB

Gardd ben to ar ben estyniad presennol.

50 STRYD ALBANY, GLYNRHEDYNOG, CF43 4SL

 

Cofnodion:

Gardd ben to ar ben estyniad presennol.

50 STRYD ALBANY, GLYNRHEDYNOG, CF43 4SL

 

Rhannodd Pennaeth gynnwys y llythyron gan drigolion eiddo rhif 42 a 43 sydd o blaid y cais.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.

 

231.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 94 KB

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 24/02/20 – 19/06/20.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodi.

Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 24/02/20 - 19/06/20.

 

 

232.

CAIS RHIF: 20/0285 pdf icon PDF 129 KB

Estyniad dau-lawr a garej sengl ar wahân arfaethedig (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 14/05/2020).

40 LAUREL CLOSE, CWMDÂR, ABERDÂR, CF44 8RS

 

Cofnodion:

Estyniad dau-lawr a garej sengl ar wahân arfaethedig (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 14/05/2020).

40 LAUREL CLOSE, CWMDÂR, ABERDÂR, CF44 8RS

 

Cyflwynodd Pennaeth Datblygu a Buddsoddi Mawr y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.