Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Council Business Unit, Democratic Services 01443 424110
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2020.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2020 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei hystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
ESTYNIAD LLAWR CYNTAF Y TU CEFN I'R EIDDO, 16 STRYD LLEWELYN, HENDREFORGAN, Y GILFACH-GOCH, PORTH
Cofnodion: ESTYNIAD LLAWR CYNTAF Y TU CEFN I'R EIDDO, 16 STRYD LLYWELLYN, HENDREFORGAN, Y GILFACH-GOCH, PORTH
Cyflwynodd Reolwr Materion Rheoli Datblygu'r cais a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 5 Mawrth, 2020, lle'r oedd yr Aelodau o blaid cymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad swyddog y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio (Mae Cofnod 194 yn cyfeirio at hyn). Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, gan dynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y swyddogion ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Datblygu, oherwydd bod Aelodau o'r farn na fyddai'r cais yn cael effaith sylweddol ar naill ai amwynder gweledol yr ardal ehangach nag amwynder neu breifatrwydd preswyl yr eiddo cyfagos. (NODWCH: Ni chymerodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Williams ran yn y bleidlais gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y ddadl gyfan)
|
|
Adeiladu annedd 3 ystafell wely. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 31/03/2020), tir y tu ôl i Rifau 37-47 Heol Dewi, Brynna
Cofnodion: Adeiladu annedd 3 ystafell wely. (Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig 31/03/2020). Y TIR TU ÔL I RIF. 37 - 47 HEOL DEWI, BRYNNA, CF72 9SQ
Darllenodd Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio gynnwys dau lythyr a gafodd eu cyflwyno yn erbyn y cais.
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaeth Cynllunio, yn amodol ar ddiwygio Amod 4 er mwyn gofyn am sgrîn breifatrwydd ar hyd ochr y teras ben to sy'n wynebu'r gorllewin.
|
|
Cais amlinellol ar gyfer 5 plot hunan-adeiladu gyda phob mater wedi'i gadw, Sion Terrace, Heol Tirfounder, Cwm-bach, Aberdâr
Cofnodion: Cais amlinellol ar gyfer 5 plot hunanadeiladu gyda phob mater wedi'i gadw. TERAS SION, HEOL TIRFOUNDER, CWM-BACH, ABERDÂR
Cyflwynodd Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor gan dynnu sylw'r Aelodau at y geiriad sydd wedi'i ddiwygio ar gyfer Cytundeb Adran 106 fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad. Cafodd Aelodau wybod na fyddai'r gofyniad i ddiddymu'r caniatâd cynllunio blaenorol yn cael ei gynnwys. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn amodol ar Gytundeb Adran 106 ar gyfer y canlynol: - Gwarchod natur - cytuno ar gynllun rheoli man agored cyhoeddus sy'n cynnwys gwaith sefydlu, dylunio a phennu trefniadau rheoli ardaloedd lliniaru ecolegol yn y tymor hir.
|
|
Cynllun arfaethedig ar gyfer trosi'r atig ac anecs (Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig ar 03/03/2020), 2 Rowan Court, Cwmdâr, Aberdâr
Cofnodion: Cynllun arfaethedig i drosi atig a 'fflat mam-gu' (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 03/03/2020). 2 LLYS Y CERDIN, CWMDÂR, ABERDÂR, CF44 8HB
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Amrywio diwygiadau Amod 2 mewn perthynas â'r cynlluniau wedi'u cymeradwyo (cais blaenorol 15/1007/10) er mwyn symud y t? a'r dreif. (Derbyniwyd yr Asesiad Risg Mwyngloddio ar 7 Mawrth 2020), Tir cyferbyn â 22 Jestyn Street, Porth
Cofnodion: Amrywio amod 2 o'r cynlluniau wedi'u cymeradwyo (cais blaenorol 15/1007/10) er mwyn symud y t? a'r dreif. (Derbyniwyd CMRA ar 7 Mawrth 2020) Y TIR CYFERBYN Â 22 STRYD JESTYN, PORTH, CF39 0DN.
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio fanylion yr amrywiad arfaethedig i amod 2 i'r Pwyllgor, a thrafododd Rheolwr Materion Rheoli Datblygu'r Priffyrdd y cais a'r rhesymau ar gyfer yr argymhelliad fel sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad.
Nododd yr Aelod o'r Pwyllgor, a'r Aelod Lleol, y Cynghorydd J.Williams ei phryderon am broblemau posibl mewn perthynas â pharcio a allai codi o ganlyniad i'r datblygiad a'r effaith ar eiddo cyfagos.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn cynnal ymweliad safle gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu i ystyried yr effaith negyddol bosibl y gallai'r amrywiad i amod 2 ei chael ar yr eiddo cyfagos a phroblemau ar y priffyrdd mewn perthynas â pharcio.
|
|
Estyniad un llawr, 2 Wesley Cottage, Heol Aberdâr, Abercynon, Aberpennar
Cofnodion: Estyniad un llawr. 2 WESLEY COTTAGE, HEOL ABERDÂR. ABERCYNON, ABERPENNAR, CF45 4NP
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|