Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Jess Thomas - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424110
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion:
Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol W. Owen.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2019, yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 05/12/2019 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei hystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
RHIF Y CAIS: 18/1419/13 PDF 101 KB Datblygiad preswyl hyd at 350 o anheddau, tir ar gyfer ysgol gynradd newydd bosibl, siop leol a gwaith cysylltiedig gan gynnwys man agored cyhoeddus, isadeiledd gwyrdd, tirlunio a chreu dau fan mynediad newydd oddi ar Heol Dowlais.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datblygiad preswyl hyd at 350 o anheddau, tir ar gyfer ysgol gynradd newydd bosibl, siop leol a gwaith cysylltiedig gan gynnwys man agored cyhoeddus, isadeiledd gwyrdd, tirlunio a chreu dau fan mynediad newydd oddi ar Heol Dowlais.
Dywedodd y Rheolwr Materion Rheoli Datblygu wrth yr Aelodau fod y cais wedi'i dynnu'n ôl ar ôl i'r agenda gael ei chyhoeddi, felly doedd dim angen ei drafod ymhellach.
|
|
RHIF Y CAIS: 19/0814/10 PDF 72 KB Newid defnydd o anheddau preswyl (Dosbarth C3) i 8 o fflatiau myfyrwyr preswyl hunangynhwysol (Sui Generis) gan gynnwys estyniad deulawr yn y cefn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o anheddau preswyl (Dosbarth C3) i 8 o fflatiau myfyrwyr preswyl hunangynhwysol (Sui Generis) gan gynnwys estyniad deulawr yn y cefn. TAI HEDDLU 1 A 2, STRYD Y NANT, TREFFOREST, PONTYPRIDD, CF37 1TW
Cyflwynodd y Rheolwr Materion Rheoli Datblygu'r cais a gafodd ei gyflwyno yn wreiddiol i'r Pwyllgor ar 5 Rhagfyr, 2019, lle'r oedd yr Aelodau wedi gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd yr aelodau o'r farn bod y datblygiad arfaethedig yn groes i ysbryd Canllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar Dai Amlfeddiannaeth (HMOs) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac y byddai'n cael effaith andwyol ar yr ardal leol ac y byddai'n achosi problemau parcio a phroblemau ar y priffyrdd.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNODD yr aelodau wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, a hynny am y rhesymau canlynol:
1. Dydy'r cynnig ddim yn ddatblygiad cynaliadwy, a hynny am iddo fethu â bodloni'r nodau lles sydd wedi'u hamlinellu ym Mholisi Cynllunio Cymru 10. Hynny yw, dydy'r datblygiad ddim yn cyfrannu ar greu Cymru o gymunedau cydlynus, ac, o ganlyniad i hynny, fe fyddai'n cael effaith negyddol ar amwynder yr ardal leol. Byddai'r cynnig, felly, yn mynd yn erbyn Canllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar Dai Amlfeddiannaeth, yn ogystal â Pholisi Cynllunio Cymru 10. 2. Bydd y cynllun arfaethedig yn arwain at ragor o barcio afreolus, a fydd yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch y priffyrdd sydd o amgylch y safle. Byddai'r datblygiad felly yn groes i Bolisïau AW5 o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf
|
|
RHIF Y CAIS: 15/1640 PDF 145 KB Codi byngalo ar dir ger Rhif 40 Teras Ardwyn, y Gelli (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 24/10/19), tir ger rhif 40, Teras Ardwyn, y Gelli.
Cofnodion: Codi byngalo ar dir ger Rhif 40 Teras Ardwyn, y Gelli (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 24/10/19), tir ger rhif 40, Teras Ardwyn, y Gelli.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E. Stephens, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd Rheolwr Materion Rheoli Datblygu y cais uchod i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cynnig, PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
RHIF Y CAIS: 19/1185 PDF 144 KB Trosi Hen Siambrau'r Banc i 9 fflat (llawr cyntaf, ail a thrydydd llawr) (Defnydd Ddosbarth C3 - Tai Annedd), Hen Siambrau'r Banc, Stryd y Farchnad, Pontypridd.
Cofnodion: Trosi Hen Siambrau'r Banc i 9 fflat (llawr cyntaf, ail a thrydydd llawr) (Defnydd Ddosbarth C3 - Tai Annedd). HEN SIAMBRAU'R BANC, STRYD Y FARCHNAD, PONTYPRIDD, CF37 2SU.
Amlinellodd y Rheolwr Materion Rheoli Datblygu gynnwys dau lythyr 'hwyr' a dderbyniwyd. Roedd y llythyr cyntaf gan yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol H. Fychan, yn gwrthwynebu'r datblygiad, a'r ail gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher yn nodi pryderon yngl?n â'r datblygiad.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau Cytundeb Adran 106. Bydd cytundeb Adran 106 yn sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal fel unedau fforddiadwy ar gyfer rhentu cymdeithasol, a hynny at y diben parhaus o ddiwallu anghenion tai sydd wedi'u nodi yn yr ardal leol.
Nodwch - Cafodd cynnig gan y Cynghorydd Jarman i ddiwygio'r cynnig gwreiddiol ei wrthod gan y Cadeirydd gan ei bod o'r farn fod y drafodaeth wedi dod i ben a'r broses bleidleisio wedi dechrau.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 06/12/2019 a 10/01/2020.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod XXXX a XXXX.
|