Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Nodyn: Cyfarfod Arbennig
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a
2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:
Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Middle wedi datgan buddiant personol - "Rydw i wedi cael fy mhenodi'n Aelod o Fwrdd Trivallis gan y Cyngor, ond nid yw hyn wedi'i gymeradwyo gan Trivallis hyd yn hyn."
Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Emmanuel wedi datgan buddiant sy'n rhagfarnu - "Rydw i'n cael fy nghyflogi gan Trivallis, fydda i ddim yn bresennol am weddill yr eitem yma."
Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A S Fox wedi datgan buddiant personol - "Mae fy mhartner i'n gweithio i'r sefydliad sy'n cyflwyno yn y cyfarfod yma".
|
|
Trivallis Derbyncynrychiolwyr o Trivallis, gan roi cyfle i’r Aelodau drafod a chael y newyddion diweddaraf am weledigaeth y mudiad, cartrefi, cymunedau a materion strategol eraill.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Llywydd gynrychiolwyr Trivallis a dywedodd wrth yr Aelodau y byddan nhw'n ymdrin ag eitemau yn ôl trefn yr agenda. Roedd y Prif Weithredwr, Mr D Forbes, wedi cyflwyno'i hun a'i gydweithwyr, Mr N Beckett, Cadeirydd y Bwrdd, Mr K Montague, Cyfarwyddwr Gweithredol - Cymunedau, Ms L Pinney, Cyfarwyddwr Gweithredol - Cyllid ac Adnoddau, yn ogystal â chydweithwyr eraill oedd yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau am y rolau penodol.
Roedd y Prif Weithredwr wedi darparu trosolwg o'r prif feysydd i'w trafod ag Aelodau, megis heriau sy'n wynebu gwasanaethau, capasiti ar gyfer buddsoddi, a llwyddiannau. Rhoddodd wybod bod y swyddogion sy'n cyflawni rolau ar lefel Cyfarwyddwr Gweithredol yn garfan newydd sydd â dealltwriaeth glir o'u rôl a'r bwriad i feithrin perthynas dda gyda phartneriaid allanol, megis y Cyngor.
Gyda chymorth sleidiau PowerPoint cyflwynodd y Prif Weithredwr drosolwg o faterion allweddol o dan y penawdau canlynol:
Ø Y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud
Ø Heriau - Gwaith Atgyweirio
Ø Heriau - Cymdogaethau a Gwasanaethau Cymorth
Ø Gwasanaeth Gwell
Ø Hwyluso Twf yn RhCT
Ø Cyfathrebu
Yn dilyn y cyflwyniad, roedd Arweinydd y Cyngor wedi diolch i gynrychiolwyr Trivallis am ddod i gyfarfod y Cyngor. Roedd yr Arweinydd wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi bod Trivallis yn meithrin perthynas dda gyda'r Aelodau Etholedig, sy'n atebol i'r trigolion ac sydd angen codi'u pryderon gyda Trivallis o bryd i'w gilydd.
Roedd yr Arweinydd wedi nodi bod materion sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn heriol, i'r fath raddau mewn rhai ardaloedd ei fod e o'r farn bod Trivallis wedi colli rheolaeth o'i eiddo, ond mae gwaith diweddar gyda'r Heddlu, Cyngor RhCT a phartneriaid eraill er mwyn mynd i'r afael â phryderon difrifol o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi arwain at welliannau (nododd yr Arweinydd fod rhai ardaloedd yn galw am sylw pellach o hyd).
Cyfeiriodd yr Arweinydd at y pryderon canlynol; rhestr hir o waith cynnal a chadw a gwaith atgyweirio sydd angen cael ei gwblhau, amseroedd ymateb, materion ariannol a gweithredol, mesurau rheoli eiddo. Ychwanegodd hefyd ei bod hi'n hollbwysig meithrin a chynnal perthynas dda gyda'r Aelodau Etholedig wrth fynd ati i ddatrys y materion yma. Yn dilyn cyfnod hir o godi pryderon gyda Trivallis, ac yn dilyn trafodaethau rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru, nododd yr Arweinydd y byddai angen i'r Cyngor holi cwestiynau sylfaenol os nad yw'r gwelliannau yn y meysydd yma'n cael eu cyflawni. Fodd bynnag, roedd yr Arweinydd yn hyderus na fyddai hyn yn digwydd, a hynny yn sgil penodi'r Uwch Garfan Rheoli newydd a gyda'r ymrwymiad i wella dulliau cyfathrebu rhwng y ddau sefydliad.
Roedd y Prif Weithredwr, Mr D Forbes, wedi ymateb i gwestiynau'r Arweinydd, gan bwysleisio y bydd y berthynas gyda'r Aelodau Etholedig yn cael ei chryfhau, drwy gynnal sesiynau cerdded o d? i d? gyda Swyddogion Trivallis a'r Aelodau lleol, a hynny i wella dulliau cydweithio rhwng y ddau bartner.
Rhoddodd y Llywydd gyfle i Arweinwyr y Grwpiau (neu Aelodau wedi'u henwebu) i holi cwestiynau.
Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol ... view the full Cofnodion text for item 24. |