Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

51.

Croeso

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i gyfarfod hybrid y Cyngor.

 

52.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

53.

Cofnodion pdf icon PDF 208 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod hybrid y Cyngor, a gynhaliwyd ar 20 Medi 2023, yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi  2023 yn rhai cywir.

 

(Nodwch: Gofynnodd y Cynghorydd K Morgan gwestiwn am gofnod rhif. 49 (i) a nodir ar dudalen 17, a rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ymateb iddo)

 

54.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

ØArweiniodd y Llywydd y Cyngor mewn Munud o dawelwch er cof am yr holl Israeliaid a’r Palestiniaid a gollodd eu bywydau yn y digwyddiadau trasig yn y Dwyrain Canol, ac er cof am y 116 o blant a 28 o oedolion a fu farw yn nhrychineb Aberfan ar 21 Hydref 1966.

 

ØRoedd y Llywydd, ar ran y Cyngor, yn dymuno estyn ei ddymuniadau gorau i’r Cynghorydd Maureen Webber a’r Cynghorydd Amanda Ellis am wellhad buan, gan obeithio y byddan nhw'n dychwelyd i’w swyddi yn fuan.

 

ØAtgoffodd y Llywydd y Cyngor mai hwn fyddai cyfarfod hybrid olaf y Cyngor i'w gynnal yn Siambr y Cyngor yng Nghwm Clydach, sef Pencadlys y Cyngor ers ugain mlynedd. Ychwanegodd y bydd cyfarfod hybrid nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal yn y swyddfeydd newydd yn Llys Cadwyn, Pontypridd.

 

55.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, y Cynghorydd B Harris, ddatganiad mewn perthynas â chau UK Windows and Doors Group Ltd, Griffin Windows gynt. Aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr gan arwain at gyfnod pryderus iawn i'r gweithwyr a'u teuluoedd.

 

Ychwanegodd fod cefnogaeth y Cyngor, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhagorol. Roedd yr achlysur gwybodaeth a drefnwyd mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau ar 18 Hydref, ac a gynhaliwyd yng Nghanolfan Chwaraeon Ystrad, wedi denu 304o weithwyr UK Windows and Doors. Roedd yr achlysur yn drefnus iawn o ystyried mai dim ond pythefnos o rybudd a roddwyd, ac estynnodd y Cynghorydd Harris ei ddiolch i bawb a fu'n ymwneud â'r trefniadau. Dywedodd fod adborth gan y rhai a ddaeth i'r achlysur wedi bod yn wych, gan nodi'r proffesiynoldeb a'r cyngor a chymorth pwrpasol gan staff y Cyngor ac eraill. Roedd nifer o bobl wedi sylwi ar hyn ac yn ddiolchgar amdano.

 

I gloi, dywedodd y Cynghorydd Harris ei fod wedi cyfarfod â busnes lleol sydd wedi dangos diddordeb mewn ehangu ei weithrediad, gyda’r posibilrwydd o gyflogi mwy o’r staff anffodus sydd dal yn ddi-waith, gan gynnig gobaith iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.

 

56.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 196 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

1.   Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Wood i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

“Cysylltodd aelod o’r gwasanaethau brys â mi yn ddiweddar sy’n hynod bryderus am y problemau traffig a’r oedi i Bontypridd o gyfeiriad Cwm Rhondda bob bore. Mae hyn wedi golygu ei bod hi'n cymryd rhwng 90 munud neu hyd yn oed 2 awr iddo gyrraedd y gwaith am 8am, pan fydd wedyn yn cael trafferth dod o hyd i le parcio, sydd wedi golygu ei fod yn hwyr i'r gwaith. Hoffai wybod a oes cynllun gyda Chyngor RhCT i liniaru’r problemau traffig parhaus os gwelwch yn dda?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd A Morgan OBE:

 

Ymatebodd yr Arweinydd drwy ddweud bod Adran Briffyrdd y Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau trafnidiaeth strategol integredig trosfwaol, gyda'r bwriad o wella'r rhwydwaith ledled Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â'r problemau traffig a'r oedi i gyfeiriad Pontypridd o Gwm Rhondda.

Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan y byddai gweithio ochr yn ochr â Metro De Cymru yn rhoi hwb i ddarpariaethau trafnidiaeth cynaliadwy er mwyn lleihau traffig ar y ffyrdd trwy ddarparu opsiynau amgen rheolaidd a dibynadwy. Bydd y Metro yn arwain at 24 trên yr awr yn teithio drwy Bontypridd, a fydd yn golygu bod modd teithio'n gyflymach ar y trên, gan arwain at lai o dagfeydd ym Mhontypridd ac yn enwedig ar yr A470. Mae cryn dipyn o waith adeiladu, peirianneg ac isadeiledd i’w wneud i uwchraddio’r rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae'n anochel bod hyn wedi cael effaith ar amseroedd teithio, a fydd yn cael eu cwtogi ar ôl cwblhau'r gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod y Cyngor yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar ddatblygu Cyfnewidfa’r Porth er mwyn gwella bysiau a threnau.Bydd yr Hwb Trafnidiaethyn darparu dewis amgen deniadol i'r rheiny sydd fel arfer yn defnyddio cerbydau preifat. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y tocynnau sy'n gweithio ar bob dull teithio, sy'n rhywbeth y mae'r Cyngor yn awyddus i'w gyflawni. Yn ogystal â'r cyfleusterau Parcio a Theithio yn Abercynon a'r Porth, soniodd yr Arweinydd y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yn fuan ynghylch prosiect Parcio a Theithio ar gyfer Treorci, a fyddai'n helpu gyda thagfeydd traffig.

Eglurodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn ystyried nifer o opsiynau i leddfu'r tagfeydd ar y ffyrdd, a bod modd i ddatrysiadau syml fel synwyryddion ar Groesfannau Pâl wneud gwahaniaeth.

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Wood:

 

“Gyda’r Eisteddfod yn dod i Bontypridd y flwyddyn nesaf a’r angen i annog pobl ledled Rhondda Cynon Taf a thu hwnt i deithio i'r achlysur, sut ydych chi’n defnyddio Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, sy’n cael ei thrafod yn y cyfarfod heddiw, i sicrhau bod trigolion yn cael dweud eu dweud o ran unrhyw fesurau lliniaru traffig a gwaith isadeiledd ym Mhontypridd?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd A. Morgan OBE:

 

Dywedodd yr Arweinydd na fydd unrhyw reswm i yrru i Bontypridd i fynychu'r Eisteddfod gan y bydd cyfleusterau Parcio a Theithio da, gyda bysiau  ...  view the full Cofnodion text for item 56.

57.

Rhaglen Waith Y Cyngor 2023-24

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod  dim newidiadau i raglen waith y Cyngor am y cyfnod ac fel y nodwyd yn flaenorol, cadarnhawyd mai hwn fyddai cyfarfod hybrid olaf y Cyngor llawn.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ddiben yr adroddiad gwybodaeth amgaeedig a oedd yn rhoi diweddariad i’r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd i’r Cyngor Llawn ar 14 Mehefin 2023, yn sefyll yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Trask a K Johnson (Unigrwydd ac Arwahanrwydd). Mae'r ymateb gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol ar wefan y Cyngor, yn unol â'r hyn y cytunwyd arno gan y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2023.

 

 

 

58.

GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR pdf icon PDF 142 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran – Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cyllid a Gwella adroddiad y

Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyfadran, Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng

Flaen, ei adroddiad mewn perthynas â gostyngiadau Treth y Cyngor - Dosbarth Penodedig

o Anheddau. Dywedodd fod yr adroddiad yn bodloni'r gofyniad i'r Cyngor gadarnhau'n

flynyddol y defnydd o ostyngiadau ar gyfer dosbarthiadau o anheddau, sef ail gartrefi ac eiddo

gwag hirdymor. Mae’r adroddiad hefyd yn cadarnhau parhad “premiwm” Treth y Cyngor ar gyfer

anheddau gwag hirdymor yn ogystal â chyflwyno’r “premiwm” ar gyfer anheddau rhagnodedig Dosbarth B sy’n cael eu disgrifio fel ail gartrefi o 1 Ebrill 2024.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth nad yw'r Cyngor ar hyn o bryd yn dyfarnu gostyngiadau

i swm llawn Treth y Cyngor sy'n daladwy mewn perthynas ag ail gartrefi. Nid yw ychwaith yn

dyfarnu unrhyw ostyngiad mewn perthynas ag eiddo gwag y tu hwnt i'r cyfnod eithrio statudol,

sef 6 mis.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig bod y Cyngor yn cytuno i barhad y trefniadau yma mewn perthynas

â'r gostyngiadau, sef nad oes unrhyw newid i'r trefniadau presennol. O ran Premiymau Treth y Cyngor, cynigir bod y premiwm o 50% ar gyfer eiddo sy’n wag am rhwng 12 a 24 mis, a’r premiwm

o 100% ar gyfer eiddo sy’n wag am fwy na 24 mis, yn parhau yn unol â’r hyn a gytunwyd yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2023.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, mewn perthynas ag ail gartrefi, y gofynnir i'r

Cyngor nodi ac ail-gadarnhau cyflwyno premiwm o 100% ar gyfer eiddo Dosbarth B o fis Ebrill

2024, eto fel y cytunwyd yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2023.

 

Yn dilyn trafodaeth mewn perthynas â'r adroddiad,  PENDERFYNWYD :

 

i)Cytuno i barhau ag unrhyw ostyngiad Treth y Cyngor mewn perthynas ag

eiddo Dosbarth A, B ac C.

 

ii)Cytuno i barhad premiwm o 50% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag ers

rhwng 12 a 24 mis, a phremiwm o 100% ar gyfer eiddo sy’n wag am fwy na

24 mis; a

 

iii)Nodi ac ailddatgan cyflwyno premiwm o 100% ar gyfer eiddo Dosbarth B o

1 Ebrill 2024, fel y cytunwyd yng nghyfarfod y Cyngor ar 18 Ionawr 2023.

 

 

59.

CANLLAW CYFANSODDIAD CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF pdf icon PDF 146 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd sy’n cynnwys y Canllaw Cyfansoddiad drafft ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf, fel sy’n ofynnol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ei adroddiad, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i Ganllaw Cyfansoddiad drafft y Cyngor, fel sy'n ofynnol gan statud (Adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod Adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (y Ddeddf) yn ei gwneud hi'n ofynnol i brif gynghorau gyhoeddi Canllaw Cyfansoddiad sy'n esbonio cynnwys Cyfansoddiad y Cyngor mewn iaith gyffredin. Rhaid i Brif Gynghorau hefyd gyhoeddi eu Canllawiau Cyfansoddiad a'u Cyfansoddiad yn electronig, a darparu copi ar gais, naill ai am ddim, neu am dâl (dim mwy na chost darparu'r copi).

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr mai bwriad y canllaw gerbron yr Aelodau yw helpu'r cyhoedd i ddeall sut mae'r Cyngor yn gwneud penderfyniadau ac yn gweithio i ddarparu gwasanaethau ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol, yn ogystal â rhoi manylion o ran sut mae modd i drigolion lleol gymryd rhan mewn democratiaeth. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y Canllaw Cyfansoddiad drafft ei hun, a nodir yn Atodiad 1, ac a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cyfansoddiad yn ei gyfarfod ar 5 Mehefin 2023, pan gytunodd yr Aelodau y dylid mabwysiadu'r canllaw.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y bydd unrhyw anghysondebau o ran rhifau tudalennau yn y copi gerbron yr Aelodau yn cael eu diwygio'n rhan o'r broses cyn cyhoeddi'r Canllaw (er iddo gadarnhau bod y Canllaw yn gywir yn y Ddogfen Word wreiddiol).

 

Gan fod y Canllaw yn ddogfen sy'n esblygu ac mai dyma'r fersiwn gyntaf, dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai unrhyw welliannau posibl megis cynrychioliadau rhyngweithiol, gweledol a graffigol yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad pan fydd adnoddau'n caniatáu hynny.

 

Yn dilyn trafodaeth,  PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad Pwyllgor y Cyfansoddiad i fabwysiadu'r Canllaw sydd wedi'i atodi yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

60.

CYNLLUN DEISEBAU pdf icon PDF 191 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, gyda diwygiadau arfaethedig i gynllun Deisebau’r Cyngor, yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad er mwyn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau o argymhellion Pwyllgor y Cyfansoddiad mewn perthynas â diwygiadau arfaethedig i gynllun deisebau presennol y Cyngor, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod cynllun Deisebau'r Cyngor wedi bod ar waith cyn y gofyniad statudol ar awdurdodau lleol yng Nghymru.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 4 yr adroddiad, a oedd yn nodi'r gweithdrefnau presennol a fabwysiadwyd gan Bwyllgor Cyfansoddiad y Cyngor yn 2019. Roedd gweithdrefnau o'r fath wedi dangos prosesau'r Cyngor ar ôl i'r cyhoedd a/neu Aelodau gyflwyno deiseb.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth grynodeb o'r gwelliannau a awgrymwyd i gynllun deisebau'r Cyngor yn adran 5 yr adroddiad a fyddai'n gwella'r broses bresennol ac yn ceisio atgyfnerthu'r strategaeth ehangach ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd, sy'n sail i waith y Cyngor. Cyfeiriodd yr Aelodau at faes mwy penodol o fewn y cynllun, sef y bydd y cyhoedd yn gallu cyflwyno e-ddeisebau ar-lein yn y dyfodol. Bydd hyn yn eu galluogi nhw i roi eu barn ar benderfyniadau allweddol. Bydd diwygiad pellach yn cynnwys mecanwaith ar gyfer nodi deiseb, gyda chefnogaeth digon o lofnodwyr, ar agenda'r Cyngor, gan roi cyfle i Aelodau Etholedig ofyn am gyfeirio'r mater at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i'w ystyried.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bod y gwelliant mwyaf arwyddocaol yn gofyn am unrhyw ddeiseb gyda mwy na 1,000 o lofnodion i fod yn weladwy ar wefan y Cyngor, ac yn galw am roi'r cyfle i'r Aelod lleol, ar ran ei drigolion, ofyn i'r Pwyllgor Craffu drafod yr eitem gyda chefnogaeth y Cyngor Llawn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bod gofyn hefyd i'r Cyngor gymeradwyo'r gwaith o lunio llyfryn canllaw manwl gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn rhan o'r datblygiadau arfaethedig.

Wrth gyflwyno ei adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y mecanwaith o gyfeirio materion at bwyllgor arall o'r Cyngor a'r defnydd o e-ddeisebau, a fabwysiadwyd eisoes gan awdurdodau lleol eraill, wedi'u cynnig er mwyn osgoi'r angen i greu baich gweinyddol ychwanegol ar y Cyngor trwy greu strwythur pwyllgor ychwanegol arall, tra'n cynnal yr un bwriad.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r dull gweithredu mewn haenau, a'r galw am gyfeirio at ddeisebau unig ar agenda'r Cyngor, soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y swm sylweddol o fusnes mae'r Cyngor Llawn eisoes yn ei drafod bob mis a phwysigrwydd cadw cydbwysedd yn hyn o beth.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

i)               Cymeradwyo diwygiadau arfaethedig Pwyllgor y Cyfansoddiad i gynllun

deisebau presennol y Cyngor fel y nodir yn adran 5 o'r adroddiad, a chytuno i'r diwygiadau arfaethedig;

 

ii)               Cyfarwyddo'r Swyddog Monitro i ddiwygio'r cyfansoddiad i adlewyrchu'r newidiadau yma; 

 

iii)             Cymeradwyo datblygu 'llyfryn canllaw' yngl?n â'r cynllun deisebau er mwyn helpu'r cyhoedd i fwrw ymlaen â chyflwyno deiseb. Bydd y llyfryn yn cael ei ddatblygu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

 

 

61.

STRATEGAETH CYFRANOGIAD Y CYHOEDD pdf icon PDF 246 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy’n cynnwys Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd (ddrafft) Cyngor Rhondda Cynon Taf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Strategaeth ddrafft Cyfranogiad y Cyhoedd Rhondda Cynon Taf, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Cadarnhaodd fod y Strategaeth Ddrafft wedi cael ei chyflwyno a'i thrafod gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor ar 24 Mai 2023 a thrwy ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 4 o'r adroddiad, ac yn benodol 4.3, a oedd yn nodi'r chwe maes penodol y mae'n ofynnol i'r strategaeth ymdrin â nhw yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, dydy'r rhain ddim o reidrwydd yn ymwneud â dulliau cyfranogiad cyffredinol y cyhoedd. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi bod yn rhagweithiol yn nifer o'r meysydd, megis annog aelodau’r gymuned i sefyll mewn etholiad cyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022, a gwella ymgysylltiad y cyhoedd â phrosesau craffu a democrataidd y Cyngor. Yn ogystal â hynny, mae'r Cyngor wedi gwneud gwelliannau i Siambr y Cyngor fel bod modd darlledu pwyllgorau'r Cyngor yn fyw.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, gan fod y ddogfen yn ddogfen sydd ar gael i'r cyhoedd, gyda'r nod o hwyluso gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd, bod y Cyngor wedi ceisio Cyngor gwell gan y cyhoedd ynghylch swyddogaethau allweddol y Cyngor fel prosesau craffu, y Cyngor a'r Cabinet. Llwyddodd hyn y gadarnhau bod dulliau'r Cyngor yn rhai o'r dulliau mwyaf hyblyg yng Nghymru o ran y cyfleoedd sydd ar gael i'r cyhoedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod adran 8 yr adroddiad yn amlygu y bydd y ddogfen fyw yn cael ei diweddaru a gwelliannau'n cael eu gwneud a'u hadolygu gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

i)                Ar ôl i'r Aelodau drafod y strategaeth ddrafft a'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, eu bod nhw'n cytuno ar y Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus ddrafft sydd ynghlwm fel Atodiad 1 yr adroddiad;

 

ii)              Bod y Strategaeth a'r canllawiau perthnasol ar gael i'r cyhoedd, yn dilyn fformatio'r ddogfennaeth yn briodol;

 

iii)             Bod gwaith monitro ac adolygu'r Strategaeth yn cael ei gyflawni gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

 

(Nodwch: Cynigiwyd y ffurf ganlynol o eiriad i’r argymhelliad cyntaf, nas cefnogwyd gan fwyafrif yr Aelodau, gan y Cynghorydd C Lisles ac eiliwyd gan y Cynghorydd S Trask)

 

i) Ar ôl i'r Aelodau drafod y strategaeth ddrafft a'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, eu bod nhw'n cytuno ar y Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus ddrafft sydd ynghlwm fel Atodiad 1 yr adroddiad, yn amodol ar ddileu paragraff 4 ar dudalen 123;

 

62.

Cydbwysedd Gwleidyddol pdf icon PDF 199 KB

Trafod adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad ar y cyd mewn perthynas â Chydbwysedd Gwleidyddol y Cyngor a dyraniad y rhybuddion o gynnig ar gyfer gweddill Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 3 yr adroddiad, a oedd yn nodi canlyniad yr adolygiad o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor a'r seddi oedd ar gael i'w penodi gan y Grwpiau priodol (a nodir yn nhablau A a B yn yr Atodiad i'r adroddiad). Mewn perthynas ag adran 4 o'r adroddiad, sy'n nodi trefniadau penodol mewn perthynas ag aelodaeth bresennol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd, cynigiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, yn ei rôl fel Pennaeth Statudol y Gwasanaethau Democrataidd, y dylid cynyddu'r aelodaeth o 17 i 21 aelod i sicrhau bod pob gr?p gwleidyddol yn chwarae rhan wrth benderfynu ar faterion yn ymwneud ag adnoddau a chymorth i Aelodau nad ydynt yn rhan o'r Adain Weithredol (fel y cydnabuwyd gan y Cyngor Llawn yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor yn 2022 a 2023).

 

I gloi, gofynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am gyfarwyddyd y Cyngor mewn perthynas â dyrannu'r Rhybuddion o Gynnig ar gyfer gweddill Blwyddyn y Cyngor 2023/24 yn wyneb y newid i gydbwysedd gwleidyddol.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, lle cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, yn dilyn penodiadau i gyrff gwleidyddol gytbwys, y byddai'r hyfforddiant a'r gefnogaeth briodol yn eu lle ar gyfer yr Aelodau newydd hynny, PENDERFYNWYD:

 

i)               Mabwysiadu'r cynllun ar gyfer dyrannu seddi i'r gwahanol gyrff a grwpiau gwleidyddol y mae Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gymwys iddo, fel y manylir yn yr Atodiad i'r adroddiad yma;

 

ii)              Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, i benodi i gyrff gwleidyddol cytbwys, ar ôl iddo dderbyn hysbysiad o ddymuniadau'r gr?p gwleidyddol, mewn unrhyw achos o dderbyn ceisiadau dilynol ar gyfer newid i aelodaeth y Pwyllgorau sydd wedi'i gyfeirio at y Cyngor;

 

iii)             Gofyn am gyfarwyddyd y Cyngor mewn perthynas ag argymhelliad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Statudol i ddiwygio cynrychiolaeth yr Aelodau ar Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor (fel y nodir yn nhabl B);

 

iv)              Bod dyraniad y Rhybuddion o Gynnig ar gyfer gweddill Blwyddyn y Cyngor 2023-2024 fel a ganlyn:

 

Llafur - 12

Plaid Cymru - 4

Gr?p Annibynnol RhCT - 2

Y Blaid Geidwadol - 1

Gr?p Annibynnol - 1

 

(Nodwch: Ymatalodd y Cynghorwyr S Trask a K Johnson rhag pleidleisio ar y cynnig yma (cyfeirier at gynnig iv)).

 

63.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 184 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a oedd yn ceisio hysbysu'r Aelodau o'r angen i benodi i swydd Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant am weddill blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, yn dilyn hysbysiad bod y Cynghorydd K Webb yn dymuno rhoi’r gorau i’w rôl yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant, mae angen penodi Is-gadeirydd i'r Pwyllgor Craffu 

ar gyfer gweddill Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

Gofynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, am ystyriaeth i benodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant. PENDERFYNWYD :

 

 

i)               Penodi Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Scott Emanuel i rôl Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant;

 

ii)              Awdurdodi Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r aelodaeth, yn dilyn derbyn enwebiadau gan y gr?p gwleidyddol priodol.

 

64.

AIL-BENODI AELOD ANNIBYNNOL I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf icon PDF 116 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr adroddiad, a oedd yn gofyn i'r Cyngor ystyried ailbenodi Aelod Annibynnol y Pwyllgor Safonau am dymor pellach.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr gyfnod swydd un o'r Aelodau Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, sef Mr. John Thomas, sy'n dod i ben ar 30 Tachwedd 2023. Ychwanegodd fod Mr. Thomas, yn ystod ei gyfnod yn y swydd, wedi meithrin cryn brofiad ac er mwyn cynnal parhad ar y Pwyllgor Safonau, mae Mr. Thomas wedi cytuno, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, i ymestyn ei gyfnod yn y swydd am gyfnod pellach o bedair blynedd.  

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad roedd PENDERFYNWYD ailbenodi Mr. John Thomas yn Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau am gyfnod o bedair blynedd o 1 Rhagfyr 2023.

 

65.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2022–23 pdf icon PDF 115 KB

Derbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2022–23

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23, a rhoddodd grynodeb i'r Cyngor o'r gwaith a wneir gan y Pwyllgor Safonau drwy gydol Blwyddyn y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y cyflawniadau a restrwyd yn yr Adroddiad

Blynyddol yn adlewyrchu'r nifer helaeth o faterion a drafodwyd gan y Pwyllgor

dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhoddir enghreifftiau penodol o sut mae'r Pwyllgor

Safonau wedi gweithio i barhau i hyrwyddo safonau ymddygiad uchel o fewn y

Cyngor.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd mai cyfrifoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Safonau fel arfer fyddai cyflwyno ei adroddiad, ond nid oedd modd iddo ddod i gyfarfod y Cyngor. Serch hynny, roedd yn dymuno canmol holl Aelodau'r Awdurdod Lleol am barhau i gadw at safonau ymddygiad uchel a chwblhau'r hyfforddiant Cod Ymddygiad yn dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol a'r isetholiadau. Croesawodd hefyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau mewn perthynas â'r adroddiad blynyddol neu unrhyw fater arall yn rhinwedd ie swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor, byddai modd cyfeirio'r rhain ato drwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau, (ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad).