Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Julia Nicholls Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

78.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Cyngor.

 

79.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

 

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 5:Cwestiynau gan yr Aelodau

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Johnson - Datganiad Personol - "Rydw i'n gweithio i Drafnidiaeth Cymru"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher - Datganiad Personol - "Mae fy mab yn gweithio i Drafnidiaeth Cymru"

 

Eitem 7:ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA DEDDF YR EGLWYS YNG NGHYMRU 2022/23

 

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis - Datganiad Personol - "Rydw i'n Gyfarwyddwr ar E Siop Fach Zero ac mae fy merch yng nghyfraith yn gweithio i Home Rescue, mae'r ddau wedi'u crybwyll yn yr adroddiad."

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby – Datganiad Personol - “Rydw i’n aelod o Bwyllgor Nos Galan, sy’n derbyn arian gan Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Maohoub – Datganiad Personol - “Rydw i'n aelod o un o’r pwyllgorau sy’n derbyn cyllid gan Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan - Datganiad Personol - "Fi yw Trysorydd Cyfeillion Parc Tyn y Bryn sydd wedi'i enwi yn yr adroddiad"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Jones - Datganiad Personol - "Fi yw Cadeirydd Sefydliad a Llyfrgell Trecynon, sy'n derbyn cyllid gan Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Owen-Jones - Datganiad Personol - "Mae Parc Tyn y Bryn yn cael ei drafod yn yr adroddiad am Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings - Datganiad Personol - "Rwy'n ymwneud â sefydliad sy'n derbyn cyllid gan Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees - "Rwy'n ymwneud â sefydliad sy'n derbyn cyllid gan Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan - Datganiad Personol - "Rydw i'n rhan o Bwyllgor Adeilad Amgylcheddol Dan-y-Las, Gr?p Amgylcheddol Dan-y-Las, Canolfan Cymuned Fernhill a Glenbói a Phwyllgor Nos Galan, sydd oll wedi elwa o gyllid gan Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Tomkinson - Datganiad Personol - "Rwy'n ymwneud â sefydliad sy'n derbyn cyllid gan Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Norris - "Rwy'n aelod o fwrdd gr?p cymunedol y mae sôn amdano yn yr adroddiad"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A S Fox - Datganiad Personol - "Fi yw Cadeirydd ac Ymddiriedolwr Pwyllgor Pwll Gerddi Lee Penrhiwceiber, rydw i hefyd yn Drysorydd ar gyfer Eglwys y Santes Gwenffrewi ym Penrhiwceiber sydd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber - Datganiad Personol - "Rydw i'n Gadeirydd ar gyfer Gr?p sy'n derbyn cyllid gan Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis - Datganiad Personol - "Mae Cylch Meithrin Seren Fach ar yr un safle ag Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon, rydw i'n Llywodraethwr ar gyfer yr ysgol yma"

 

 

(Cafwyd datganiadau o  ...  view the full Cofnodion text for item 79.

80.

Cofnodion pdf icon PDF 210 KB

Cadarnhaucofnodion o gyfarfod ar-lein y Cyngor, a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2023, yn rhai cywir

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2023 yn rhai cywir.

 

81.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

ØTalodd y Cynghorydd M Webber deyrnged i'r diweddar Mr Dennis Gethin, a fu farw ym mis Tachwedd 2023. Bu Mr Gethin yn Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Taf-elái o 1982 hyd at ei ymddeoliad yn 1996, ac roedd yn gyn-Lywydd ar Undeb Rygbi Cymru. Estynnodd ei chydymdeimlad i'w deulu ar ran y Cyngor.

 

ØDymunodd y Cynghorydd D R Bevan dalu teyrnged i JPR Williams, cyn chwaraewr rygbi Cymru a Llewod Prydain a fu farw ar 8 Rhagfyr 2023. Rhannodd atgofion melys am y seren rygbi y bydd colled fawr ar ei ôl.

 

ØCyhoeddodd y Cynghorydd M Ashford y bydd yn rhedeg Marathon Llundain ym mis Ebrill ac yn codi arian ar gyfer elusen Macmillan.

 

82.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 191 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

Cofnodion:

1.   Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Stacey i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

"A wnaiff yr Arweinydd rannu'r newyddion diweddaraf â'r Aelodau am y gwaith paratoi sy'n cael ei wneud i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i Rondda Cynon Taf yn 2024?"

 

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

 

Ymatebodd yr Arweinydd drwy esbonio bod strategaeth Ysgolion wedi'i chreu a'i rhannu â phob ysgol, ac mae carfan yr Eisteddfod wedi cyfrannu at y strategaeth hon. Mae gwybodaeth gyffredinol am yr Eisteddfod yn cael ei hanfon at rieni/gwarcheidwaid o hyd a hynny er mwyn sicrhau bod modd i bob plentyn a pherson ifanc a'u teuluoedd gymryd rhan yn yr Eisteddfod a deall beth yw'r Eisteddfod. Ychwanegodd fod Swyddogion yn parhau i gefnogi'r pwyllgorau apêl lleol ym mhob cwm i godi arian tuag at y targed o £400,000. Cadarnhaodd ei bod hi'n debygol bod y cyfanswm presennol wedi mynd tu hwnt i £100,000 ac mae rhagor o achlysuron codi arian ar y gweill.

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod adborth 'Dewch i Siarad am Eisteddfod 2024' wedi bod yn hollbwysig o ran ymgysylltu â busnesau lleol a'r cyfarfod a gynhaliwyd yn ddiweddar rhwng Swyddogion y Cyngor a masnachwyr lleol, Prif Weithredwr y Cyngor a'r Eisteddfod. Yn ystod y cyfarfod, mynegodd y masnachwyr ddiddordeb mewn cael stondin yn yr achlysur yn ogystal ag addurno'u busnesau cyn yr Eisteddfod. Mae gwaith wedi'i wneud gyda Chyngor Tref Pontypridd, yn ogystal ag AGB Pontypridd, Aberdâr a Threorci er mwyn casglu adborth am y cymorth yr hoffai busnesau lleol ei gael yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod.

 

Nododd yr Arweinydd y bydd y manteision sy'n gysylltiedig â dod â'r Eisteddfod i Bontypridd yn ymestyn y tu hwnt i'r dref i ardaloedd eraill yn y rhanbarth a Chymru gyfan, gan greu gwaddol parhaus. Nododd fod y strategaeth parcio ceir yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Bydd yn annog ymwelwyr i ddefnyddio cyfleusterau Parcio a Theithio a thrafnidiaeth gyhoeddus, gyda mwy o drenau yn cyrraedd y dref, ac yn annog pobl i beidio â defnyddio ceir yn y dref. Cyfeiriodd at nifer o feysydd carafanau/gwersylla sydd wedi'u nodi ac a fydd yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod gwaith yn cael ei wneud y tu ôl i'r llenni sy'n cael ei arwain gan Fwrdd yr Eisteddfod gyda mewnbwn lleol gan y Cyngor. Mae'r dull o weithio fel tîm gyda busnesau, sefydliadau lleol eraill, a'r Cyngor, wedi bod yn gadarnhaol a bydd hyn yn parhau. Nododd yr Arweinydd fod yr Eisteddfod yn achlysur y mae modd i bawb ei fynychu a'i fwynhau ac yn gyfle i'r Gymraeg, diwylliant Cymreig a thref Pontypridd ddisgleirio.

 

 

2.   Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M.D. Ashford i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis:

 

"A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet rannu'r newyddion diweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud ar yr ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun?"

 

Ymateb y Cynghorydd R Lewis:  ...  view the full Cofnodion text for item 82.

83.

Rhaglen Waith Y Cyngor

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod y bydd cynrychiolwyr o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn mynychu cyfarfod y Cyngor ym mis Chwefror i rannu'r newyddion diweddaraf am sefydlu a thrawsnewid Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Gydbwyllgorau Corfforedig. Dywedodd hefyd y byddai Dadl yr Arweinydd (Trafodaeth Flynyddol ar Sefyllfa'r Fwrdeistref Sirol) yn awr yn cael ei chynnal yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Ebrill.

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn dod i gyfarfod y Cyngor ar 6 Mawrth 2023 (cyn y cyfarfod sy'n cychwyn am 5pm) Nododd hefyd y bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a oedd wedi'i drefnu ar gyfer 22 Mai 2024 bellach yn cael ei gynnal ar 8 Mai 2024 am 4pm.

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai cyfle i bob Aelod fynychu sesiwn i weld y cyfleusterau newydd yn Llys Cadwyn, Pontypridd. O ran cyfarfodydd hybrid, byddai'r rhain yn cael eu cyflwyno fesul cam gyda'r bwriad o gynnal cyfarfod nesaf y Cyngor ym mis Chwefror ar-lein a'r cyfarfod ym mis Mawrth fel cyfarfod hybrid.

 

84.

Cyllideb Refeniw'r Cyngor 2024/25 - Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro pdf icon PDF 198 KB

Rhoi gwybodaeth i'r Aelodau mewn perthynas â Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2024/25.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen wybodaeth i Aelodau yngl?n â Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2024/25, a sylwadau cychwynnol ar ei oblygiadau tebygol ar gyfer darparu gwasanaethau'r Cyngor.

 

 

Ø  Cafodd Aelodau wybod am “benawdau” Setliad Dros Dro 2024/25 a nodir yn yr adroddiad, sef:

Ø  Y cynnydd cyffredinol yn y Grant Cynnal Refeniw a chyllid Ardrethi Annomestig ar gyfer 2024/25 (cyllid heb ei neilltuo) ar lefel Cymru gyfan, ar ôl ei addasu ar gyfer trosglwyddo, yw 3.1% (+£169.8 miliwn).

Ø  Mae'r setliad ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn dangos cynnydd o 2.8%, sy'n llai na'r cyfartaledd ledled Cymru gyfan. Mae ffigurau'r setliad yn amrywio o 2.0% i 4.7% ledled Cymru.

Ø  Mae terfyn isaf o ran cyllid wedi cael ei gynnwys ar gyfer 2024/25 fel nad yw unrhyw Gyngor yn derbyn setliad sy'n is na 2.0%.

Ø  Does dim trosglwyddiadau i mewn i Setliad 2024/25 nac allan ohono.

Ø  Dydy'r Setliad ddim yn dangos unrhyw arwydd o lefelau setliadau'r dyfodol.

Ø  Mae ffigurau dros dro ac amcangyfrifon dangosol ar gyfer 2024/25 hefyd wedi'u cynnwys ar gyfer grantiau penodol, a hynny ar lefel Cymru gyfan. Bydd y Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn gostwng o £45 miliwn i £35 miliwn (lefel Cymru gyfan), dyma ostyngiad o £0.815 miliwn ar gyfer y Cyngor yma. Mae hyn yn ariannu ein cyllideb graidd.

Ø  Mae gostyngiad o £0.086 miliwn yn nyraniad Cyllid Cyfalaf Cyffredinol y Cyngor, sef £13.800 miliwn.

 

Nododd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen fod effeithiau cyfunol hyn yn golygu bod gan y Cyngor fwlch o £36.654 miliwn yn y gyllideb. Wrth baratoi ar gyfer y setliad, mae swyddogion wedi cytuno ar fesurau cwtogi'r gyllideb tua £10.74 miliwn, gan adael bwlch o £25.911 miliwn yn weddill. Cafodd Aelodau wybod y bydd y Cabinet yn trafod goblygiadau'r sefyllfa uchod wrth baratoi ei strategaeth cyllideb ddrafft. Yn rhan o hyn, bydd canlyniad cam cyntaf y broses ymgynghori ar y gyllideb yn cael ei ystyried.

 

I grynhoi, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen fod Cronfeydd Wrth Gefn y Cyngor yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a'u bod nhw wedi'u neilltuo at ddibenion penodol a risgiau ariannol. Nododd fod gan y Cyngor hanes llwyddiannus o ddefnyddio'r rhain mewn modd synhwyrol a chymesur a ddylen nhw ddim cael eu defnyddio i ddelio â materion refeniw cyllideb sylfaenol blaenorol.

 

Rhoddodd yr Arweinydd ddiolch i'r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr. Dywedodd y bydd y flwyddyn sydd i ddod yn heriol iawn a bydd hi'n parhau i fod yn heriol yn y dyfodol wrth i'r Cyngor wynebu pwysau parhaus. Dywedodd nad yw unrhyw swyddog nac Aelod eisiau torri neu leihau gwasanaethau gan wybod bod angen buddsoddiad ar ein cymunedau, ond gyda setliad Llywodraeth Leol ar 2.8% mae angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn pennu cyllideb gytbwys. Nododd yr Arweinydd er y bydd angen i'r Cyngor ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn i gau'r bwlch  ...  view the full Cofnodion text for item 84.

85.

Adroddiad Blynyddol Deddf yr Eglwys yng Nghymru ac Adroddiad Archwilio Allanol pdf icon PDF 99 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei adroddiad, rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen wybod bod yr adroddiad yn rhoi i'r Cyngor gyfrifon archwiliedig Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru a barn yr Archwiliad Allanol, sy'n farn lân a diamod. Dim ond un diwygiad datgelu bach oedd ei angen i'r broses archwilio. Gofynnodd am gymeradwyaeth o ran Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023. 

 

Yn dilyn cwblhau'r broses archwilio a barn archwilio ddiamod, PENDERFYNWYD:

 

1.  Trafod adroddiad yr Archwiliwr Allanol – “Cynllun Archwilio 2022- 23” (Atodiad 1); 

(b) Trafod adroddiad yr Archwiliwr Allanol – “Adroddiad Archwilio Cyfrifon” (Atodiad 2);

 

2.  Cymeradwyo a nodi Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/2023 (Atodiad 3); a

 

3.  Cymeradwyo a nodi'r Llythyr o Gynrychiolaeth sy'n ymwneud â Chronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru (Atodiad 4).

 

 

86.

Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor pdf icon PDF 231 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen wybod bod yr adroddiad yn cynrychioli'r gofyniad blynyddol i'r Cyngor fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor erbyn 31 Ionawr 2024. Ychwanegodd ei fod yn gynllun Llywodraeth Cymru cenedlaethol gydag ambell ddisgresiwn lleol fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad. Cadarnhaodd nad oes unrhyw newidiadau arfaethedig i'r cynllun ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a bod y Cyngor wedi ymgynghori ar y disgresiwn lleol yn rhan o broses ymgynghori gyffredinol y Cyngor ar y gyllideb. Mae'r adborth wedi'i gynnwys yn yr adroddiad.

 

Dywedodd Aelod fod adran 4.3 yr adroddiad yn nodi bod y rhan fwyaf o bobl a ymatebodd o blaid cadw'r tri disgresiwn ond nodir gwybodaeth yn adran 5.4 yr adroddiad na chafodd ei rhoi i drigolion adeg yr ymgynghoriad, sef cyfanswm y bobl sydd wedi elwa o ganlyniad i'r tri disgresiwn yma. Gofynnodd yr Aelod a oes modd cynnwys yr wybodaeth yma yn yr ymgynghoriad y flwyddyn nesaf fel y bydd modd i drigolion wneud penderfyniad mwy gwybodus. Gofynnodd yr Aelod a yw'n bosibl sôn am y disgresiwn yn y llythyr a anfonir gyda bil blynyddol Treth y Cyngor.

 

Nododd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen sylwadau'r Aelodau i'w hystyried.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi a mabwysiadu darpariaethau'r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig ac unrhyw newidiadau sydd i'w gwneud i'r rheoliadau hynny oherwydd y Rheoliadau Diwygio fel Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor lleol y Cyngor ar gyfer 2024/25, yn unol â'r disgresiwn lleol y gall y Cyngor ei weithredu a'r rheoliadau sy'n cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Ionawr 2024 ac sy'n dod i rym ar 19 Ionawr 2024;

 

2.     Nodi canlyniad y broses ymgynghori a gynhaliwyd gan y Cyngor ar y disgresiwn lleol sy'n berthnasol i'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25; a

 

3.  Cadarnhau'r disgresiwn sy'n berthnasol i Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor lleol y Cyngor ar gyfer 2024/25, fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 5.3 (Tabl 2) yr adroddiad yma.

 

 

 

87.

Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Rhondda Cynon Taf 2022-2037 - y Strategaeth a Ffefrir pdf icon PDF 188 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu adroddiad i Aelodau sy'n nodi'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2022-2037 (sydd i'w gweld yn Atodiad 1). Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth Aelodau i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus statudol ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig sydd wedi cael ei pharatoi yn unol â deddfwriaeth a pholisi cynllunio cenedlaethol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr adroddiad yn nodi'r materion allweddol, gweledigaeth, amcanion ac opsiynau'r strategaeth; cyn cyflwyno Strategaeth a Ffefrir. Ar y lefel strategol yma, bydd yn ceisio mynd i'r afael ag anghenion RhCT trwy gynnig lefelau o dwf datblygu a lle y dylai hyn gael ei ddosbarthu ledled y Fwrdeistref Sirol. Ystyrir bod sawl elfen allweddol o strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol presennol yn gadarn; yn enwedig angen i barhau â'r dull strategaeth gwahanol ar gyfer ardaloedd gogleddol a deheuol y Fwrdeistref Sirol.

 

Rhoddodd yr Arweinydd ddiolch i'r swyddogion am yr adroddiad y cynigir ei symud at y cam nesaf ar gyfer ymgynghori statudol. Nododd y bydd adborth yr ymgynghoriad wedyn yn cael ei ystyried cyn parhau â'r camau nesaf. Dywedodd er bod targedau ar gyfer adeiladu tai yn realistig, mae angen sicrhau bod seilwaith yn cael ei gynllunio ochr yn ochr â hyn i sicrhau bod cyfleusterau meddygol, ysgolion a mannau gwyrdd digonol ar gyfer hamdden a chwarae ar gael, yn ogystal ag ehangu Metro De Cymru.

 

Gofynnodd Arweinydd yr Wrthblaid am eglurhad o ran safleoedd ymgeisiol, ac anogodd bob Aelod i roi eu barn ar safleoedd ymgeisiol i osgoi problemau dadleuol yn y dyfodol pan fydd ceisiadau cynllunio yn dod i law. Cyfeiriodd yr Aelod at y ddwy orsaf drenau a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol yn Hirwaun a Rhigos a gofynnodd am union leoliadau'r gorsafoedd yma ac a fyddai ymgynghoriad â thrigolion lleol. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu wybod na fyddai modd iddo gadarnhau lleoliadau'r gorsafoedd ar hyn o bryd a rôl y Cynllun Datblygu Lleol fydd amddiffyn tir sydd ar gael ar gyfer y gwaith arfaethedig i ehangu llinellau a gorsafoedd ond bydd y broses penderfynu ar leoliadau'r rhain yn ymarfer ar wahân i'w gynnal gan gydweithwyr Trafnidiaeth, gan gynnwys Priffyrdd a Thrafnidiaeth Cymru.

 

Gofynnodd Arweinydd Gr?p Annibynnol RhCT a oes cyfle i'r Cyngor ymgysylltu â thrigolion ar faterion lliniaru llifogydd. Cododd yr Aelod bryderon y bydd un ffordd gerbydau ar gyfer y 9,000 o eiddo ychwanegol arfaethedig sydd i'w hadeiladu. Mae'r ffyrdd yn brysur yn barod felly byddai hyn yn arwain at gynnydd mawr yn nifer y tagfeydd yn yr ardal. Gofynnodd a yw opsiynau amgen yn cael eu hystyried yn y Cynllun Teithio Llesol er mwyn annog trigolion i adael eu ceir gartref a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gofynnodd hefyd, yn rhan o waith lleihau nifer y cerbydau ar y ffyrdd a symud Pencadlys y Cyngor i Bontypridd, a ddylid ystyried dull hyblyg o ran gofyn i staff fynd i'r swyddfa dim ond pan fo angen iddyn nhw wneud hynny.

 

Dywedodd  ...  view the full Cofnodion text for item 87.

88.

ADOLYGIAD O DDOSBARTHAU ETHOLIADOL, MANNAU PLEIDLEISIO A GORSAFOEDD PLEIDLEISIO 2023 pdf icon PDF 104 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (a Swyddog Cofrestru Etholiadol / Swyddog Canlyniadau) ei adroddiad a rhoddodd wybod am y gofyniad ar yr awdurdod lleol i gynnal adolygiad o ddosbarthau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio seneddol bob pum mlynedd ac i gwblhau'r adolygiad presennol erbyn 31 Ionawr 2025. O ystyried y newidiadau diweddar i ffiniau etholaethau seneddol y DU, ystyriwyd ei bod hi'n gall cynnal yr adolygiad cyn gynted ag sy'n bosibl a chyn yr etholiad cyffredinol nesaf.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod amcanion, pwrpas ac amserlen yr adolygiad i'w gweld yn adran 5 yr adroddiad, yn ogystal â'r ymgynghoriad a gafodd ei gynnal â'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Aelodau Lleol. Mae ymatebion y cyhoedd i'r ymgynghoriad i'w gweld yn Atodiad 2 yr adroddiad. Mae'r Swyddog Canlyniadau a charfan y Gwasanaethau Etholiadol wedi adolygu pob ymateb i'r ymgynghoriad a sylwadau Aelodau. Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw Aelodau at yr argymhellion i gymeradwyo'r cynigion i newid unrhyw ddosbarth etholiadol, gorsaf bleidleisio a man pleidleisio presennol fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 1 yr adroddiad, a bydd unrhyw newidiadau ôl-ddilynol yn cael eu gwneud i'r gofrestr etholwyr.

 

Nododd y Cyfarwyddwr fod yna un dosbarth etholiadol lle nad yw lleoliad addas ar gyfer yr orsaf bleidleisio wedi'i sicrhau eto ond ychwanegodd y bydd gwaith yn parhau ar y cyd â'r Aelod lleol i ddod o hyd i leoliad addas cyn yr etholiad nesaf.

 

I gloi, nododd y Cyfarwyddwr y bydd yn parhau i fonitro pob dosbarth etholiadol, man pleidleisio a gorsaf bleidleisio, yn enwedig y rheiny sy'n cael eu defnyddio am y tro cyntaf, cyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ym mis Mai. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau os na fydd unrhyw orsaf ar gael neu os ystyrir ei bod yn anaddas, beth bynnag fo'r rheswm, rhwng y cyfnodau adolygu statudol, bydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud ar y cyd â'r Aelodau lleol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1.   Nodi'r ymatebion a dderbyniwyd mewn perthynas â'r Adolygiad o Ddosbarthau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio sydd wedi'u crynhoi yn Atodiad 2 yr adroddiad;

 

2.    Cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Dosbarthau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio presennol fel sydd wedi'u hamlinellu yn Atodiad 1 yr adroddiad a nodi y byddai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gweithredu unrhyw newidiadau i'r gofrestr etholwyr o ganlyniad; a

 

3.    Nodi y bydd y Swyddog Canlyniadau yn parhau i fonitro Dosbarthau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 1 a/neu lle nad oes lleoliad amgen addas ar gael ar unrhyw adeg berthnasol, nodi y byddai unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud ar y cyd â'r Aelod(au) Lleol perthnasol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

89.

Hunanasesiad Blynyddol Drafft 2022/23 (Cynnwys Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol y Cyngor) pdf icon PDF 170 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei adroddiad a oedd yn nodi Hunanasesiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer 2022/23, ar ôl iddo gael ei drafod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 19 Rhagfyr 2023,a'r Cydbwyllgor Ymgynghorol ar 20 Rhagfyr 2023 (mae cofnodion y ddau bwyllgor wedi'u cynnwys yn yr atodiadau er gwybodaeth i’r Aelodau)

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai pwrpas yr Hunanasesiad statudol yw rhoi sicrwydd bod y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol, yn defnyddio ei adnoddau'n effeithlon ac yn ddarbodus, ac yn sicrhau bod ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol. Wrth gynnal yr hunanasesiad blynyddol, mae’r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd i wneud hynny o dan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2021.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai dyma'r ail flwyddyn i'r Cyngor gynnal ei hunanasesiad statudol, sy'n cynnwys ei adroddiad cyflawniad corfforaethol blynyddol. Ychwanegodd fod yr asesiad yn cyfuno cyfoeth o wybodaeth a ddefnyddiwyd i adolygu cyflawniad y Cyngor yn barhaus, gan gynnwys y cynnydd a wnaed yn erbyn y themâu ar gyfer gwella a nodwyd yn y flwyddyn flaenorol, sut mae'r cynllun corfforaethol yn cefnogi'r blaenoriaethau, asesiad o Swyddogaethau corfforaethol y Cyngor, hunanwerthusiad o wasanaethau'r Cyngor a sut mae'r egwyddor datblygu cynaliadwy wedi'i rhoi ar waith. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr asesiad yn dod â llawer iawn o dystiolaeth ynghyd o bob rhan o'r Cyngor. Mae'r wybodaeth yma wedi'i chasglu drwy'r fframwaith rheoli cyflawniad, adroddiadau chwarterol a'r adroddiadau niferus a ddygwyd ynghyd o gyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Craffu a'r Cyngor, y mae'r Aelodau wedi'u trafod drwy gydol y flwyddyn. Mae'n cynrychioli miloedd o dudalennau o wybodaeth a thrwy gydol yr asesiad mae hyperddolenni i'r dystiolaeth a'r data ategol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn dangos amrywiaeth rhyfeddol swyddogaethau'r Cyngor, maint a chwmpas y gwasanaethau y mae'n eu darparu, a'r cynnydd sylweddol a wnaed o ran cyflawni ei ymrwymiadau trwy gydol 2022/2023. Dywedodd fod adrannau 2 a 3 o'r hunanasesiad yn rhoi trosolwg o'r ymrwymiadau niferus a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod yma. Roedd y Prif Weithredwr o'r farn bod yr hunanasesiad a'r sesiynau herio a gafodd eu cynnal gyda'r Cyfarwyddwyr perthnasol yn golygu bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran pobl, lleoedd a ffyniant. Dywedodd fod hyn, yn syml, yn golygu bod y Cyngor yma'n cyflawni ei ymrwymiadau.

 

O ran blaenoriaethau ar gyfer gwella wrth edrych tua'r dyfodol, dywedodd y Prif Weithredwr fod y naw thema wedi'u nodi yn yr hunanasesiad ar gyfer y

flwyddyn flaenorol (a restrir ym mharagraff 5.61 o'r adroddiad) wedi gweld cynnydd da, sydd wedi'i amlinellu yn adran un o'r asesiad. Serch hynny maen nhw'n parhau i fod yn flaenoriaethau hirdymor ar gyfer y Cyngor: Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd, yn dilyn yr ymarfer hunanasesu, fod yn rhaid i'r Cyngor barhau i atgyfnerthu ei drefniadau o ran ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau a chyfranogiad. Roedd hyn yn cynnwys gwerthuso canlyniadau ac adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi mynd rhagddo i atgyfnerthu'r diwylliant sefydliadol o ran amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant. Mae'r hunanasesiad yn cynnwys tystiolaeth bod y Cyngor yn  ...  view the full Cofnodion text for item 89.

90.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 147 KB

Ystyried y Rhybuddion o Gynnig sydd wedi'u cyflwyno yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.1 yn y cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. J. Dennis, C. Preedy, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo.

 

Ychydig fisoedd yn ôl, cyhoeddwyd bod TATA Steel – un o gyflogwyr mawr De Cymru (yn benodol), a Llywodraeth San Steffan y DU wedi cytuno ar becyn cymorth i “sicrhau dyfodol dur yng Nghymru.”

 

Er bod y wasg wedi nodi mai cyfanswm gwerth y pecyn cyffredinol yn £1.25 biliwn, y gwir amdani yw bod y pecyn a’r uchelgeisiau o ran pontio yn annigonol, ac ni fydd y cyhoeddiad hwn yn ddigon i ddiogelu parhad y diwydiant dur yng Nghymru.

 

Mae'r buddsoddiad ond yncefnogi’r newid o ffwrneisi chwyth i Ffwrneisi Arc Trydan. Mae hyn yn golygu na fydd y safle ym Mhort Talbot bellach yn gallu cyflawni'r cam cyntaf o ran cynhyrchu dur, gan na fydd ansawdd y broses gynhyrchu'n bodloni'r safon angenrheidiol. Mae hyn oherwydd bod Ffwrneisi Arc Trydan yn ailgylchu dur sgrap.

 

Yn lle hynny, dylai'r cynllun buddsoddi byr ei olwg yma ganolbwyntio ar symud tuag at ddull cynhyrchu Haearn Gostyngol Uniongyrchol (DRI) a pharatoi ar ei gyfer.  Mae modd cefnogi proses DRI trwy ddefnyddio Nwy Naturiol, cyn ystyried sut i gynhyrchu dur mewn modd sydd wedi'i bweru gan hydrogen. Mae hwn yn ddull mwy cynaliadwy o gynhyrchu dur ac yn llawer mwy uchelgeisiol o ran datgarboneiddio.

 

Yn ogystal â hynny, ac yn bwysicaf oll, amcangyfrifir y bydd y pecyn buddsoddi hefyd yn arwain at golli 3,000 o swyddi, gyda’r mwyafrif o’r rheini yn ffatri Port Talbot. Mae trigolion Rhondda Cynon Taf yn gweithio yn y gwaith dur ym Mhort Talbot ac mae'n debygol y bydd hyn yn effeithio ar gyfran sylweddol o'r nifer hwnnw - naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

 

Ers y cyhoeddiad, mae wedi dod i’r amlwg nad oedd yr Undebau Llafur na Llywodraeth Cymru yn rhan o’r trafodaethau hyn, ac eto dyma’r union sefydliadau a fydd yn gorfod camu i'r bwlch a darparu cymorth i’r rhai sydd wedi'u heffeithio pan fydd y swyddi yma'n cael eu colli.

 

      Felly mae'r Cyngor yma'n nodi:

 

·Bod y “pecyn buddsoddi” ar gyfer TATA Steel yn annigonol iawn, ac yn gwneud fawr ddim i ddiogelu dyfodol y diwydiant yng Nghymru.

 

·Nad yw trafodion dwyochrog Llywodraeth y DU â TATA yn ystyried yr effaith sylweddol ar y gweithwyr y mae  ...  view the full Cofnodion text for item 90.

91.

Welsh Church Act Annual Report and External Audit Report 2022/2023