Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Croeso Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i gyfarfod ar-lein y Cyngor.
|
||
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda a chafodd datganiadau (viii a ix) eu gwneud yngl?n ag eitem 6 ar yr agenda yn ddiweddarach yn y cyfarfod (Cofnod 75):
Eitem 9 ar yr Agenda – Rhybudd o Gynnig (Menywod yn Erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth)
(i)Y Cynghorydd J Barton – “Rwy’n cael fy effeithio gan y newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au, fel y nodir yn y Rhybudd o Gynnig”.
(ii)Y Cynghorydd J Brencher – “Rwy’n cael fy effeithio gan y newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au, fel y nodir yn y Rhybudd o Gynnig”.
(iii)Y Cynghorydd R Davis – “Rwy’n cael fy effeithio gan y newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au, fel y nodir yn y Rhybudd o Gynnig”.
(iv)Y Cynghorydd S Rees – “Rwy’n cael fy effeithio gan y newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au, fel y nodir yn y Rhybudd o Gynnig”.
(v)Y Cynghorydd J Smith – “Rwy’n cael fy effeithio gan y newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au, fel y nodir yn y Rhybudd o Gynnig”.
(vi)Y Cynghorydd W Treeby – “Rwy’n cael fy effeithio gan y newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au, fel y nodir yn y Rhybudd o Gynnig”.
(vii)Y Cynghorydd M Webber – “Rwy’n cael fy effeithio gan y newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au, fel y nodir yn y Rhybudd o Gynnig”.
Eitem 6 - Datganiad o Gyfrifon ac Adroddiadau Archwilio ar gyfer CBS Rhondda Cynon Taf a Chronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf 2022/23
(viii) Y Cynghorydd J Brencher – “Mae fy mab yn gweithio i Trafnidiaeth Cymru”
(ix)Y Cynghorydd K Johnson – “Rwy’n gweithio i Trafnidiaeth Cymru”
|
||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor, a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2023, yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2023 yn rhai cywir yn amodol ar nodi bod cyfenw'r Cynghorydd G Hopkins wedi'i gamsillafu.
|
||
Cyhoeddiadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:
Ø Talodd y Cynghorydd R Lewis deyrnged i Richard Jones, a fu farw'n ddiweddar. Roedd Richard yn gymeriad adnabyddus yng Nghwm Cynon, yn eiriolwr angerddol dros hawliau pobl anabl ac yn gweithio i hyrwyddo hygyrchedd. Bu'n Gadeirydd Amgueddfa Cwm Cynon ac ACT (Accessible Caring Transport), yn ogystal â sefydlu'i elusen hygyrchedd ei hun. Roedd e'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn. Roedd e bob amser yn awyddus i helpu eraill ac yn adnabyddus am ei synnwyr digrifwch. Cafodd Richard ei gefnogi gan ei deulu drwy gydol ei oes, a daeth y Cynghorydd Lewis i ben drwy ddweud y bydd colled ar ôl Richard Jones.
Ø Roedd y Cynghorydd K Morgan hefyd yn dymuno talu teyrnged i Richard Jones, a oedd yn hyrwyddwr llawer o achosion eraill, gyda'r rhan fwyaf o'r rheiny'n canolbwyntio ar sicrhau chwarae teg i bawb. Gweithiodd y Cynghorydd Morgan ochr yn ochr â Richard yn ei rôl gyda Cymru Hygyrch, ac yn ystod y gwaith hwn daeth yn ymwybodol o ba mor aml yr oedd Richard yn wynebu rhwystrau yn ei fywyd bob dydd. Gorffennodd y Cynghorydd Morgan drwy ddweud mai dyma yw ein hetifeddiaeth gan Richard, y cyfle i ni weld y rhwystrau mae pobl yn eu hwynebu a chael gwared arnyn nhw. Roedd y Cynghorydd Morgan yn dymuno estyn ei chydymdeimlad i deulu Richard.
Ø Talodd y Cynghorydd W Hughes deyrnged i aelod hirsefydlog o'r blaid Lafur a Chyn-gynghorydd Trealaw, Bill Murphy, a fu farw ar 2 Tachwedd 2023. Roedd e'n aelod uchel ei barch o Gymuned Trealaw. Cafodd ei ethol yn Gynghorydd ar ward Trealaw ym 1983, a bu'n Aelod o'r Cyngor tan 1999. Yn ystod y cyfnod yma, roedd yn Ddirprwy Arweinydd ac Arweinydd ar y Gr?p Llafur ac ar Gyngor Bwrdeistref Cwm Rhondda. Fe hefyd oedd Arweinydd cyntaf Cyngor RhCT. Bu'n eistedd ar lawer o bwyllgorau a chyrff llywodraethu ysgolion. Roedd y Cynghorydd Hughes yn dymuno estyn ei gydymdeimlad i wraig Bill, Barbara, a'i deulu.
Ø Talodd y Cynghorydd G Caple deyrnged i gyn AS y Rhondda, Allan Rogers, a fu farw ddoe yn 91 oed. Daeth yn AS y Rhondda ym 1983 a bu yn ei swydd tan 2001. Roedd ei ymrwymiad i’w gymunedau, gan gynnwys ei gefnogaeth barhaus i’r glöwyr, heb ei ail. Soniodd y Cynghorydd Caple am ei fuddugoliaethau etholiadol, gan orffen gyda pherfformiad trawiadol o'r Faner Goch. Treuliodd oes ym myd gwleidyddiaeth, yn Gynghorydd, AS ac yn aelod o Senedd Ewrop. Roedd bob amser yn annog eraill i gefnogi achos y Llywodraeth Lafur trwy wleidyddiaeth. Bu'n gweithio fel daearegwr mwyngloddio, swydd a aeth ag ef ledled y byd. Estynnodd y Cynghorydd Caple ei gydymdeimlad â theulu Allan.
Arweiniodd y Llywydd y Cyngor mewn munud o dawelwch er cof am y tri phreswylydd crybwylledig a fu farw yn ddiweddar.
Ø Cyhoeddodd y Cynghorydd J Brencher fod ymweliad diwylliannol wedi’i gynnal gan gr?p o ymwelwyr, gan gynnwys Brenin Buganda, yn ddiweddar. Roedd hwn yn gyfle i'r ymwelwyr ddod i’r fwrdeistref ... view the full Cofnodion text for item 69. |
||
Datganiadau Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: GwnaethArweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan OBE, ddatganiad mewn perthynas â chyllideb y Cyngor a chanlyniad siomedig Datganiad yr Hydref. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £305m yn ychwanegol ondhyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol, mae cynghorau yn wynebu blwyddyn anodd iawn i ddod. Mewn termau real, mae hyn yn debygol o fod yn £41m yn unig, sy'n briodoli i newidiadau o ran Ardrethi Busnes a gyhoeddodd y Canghellor yn flaenorol, a thua £4 miliwn wedi'i neilltuo i fynd i'r afael â thyllau yn y ffordd. Mynegodd yr Arweinydd ei siom enbyd yn y canlyniad, er gwaethaf pryderon a gafodd eu dwyn i sylw Llywodraeth San Steffan ynghylch y pwysau ar Ysgolion, Gofal Cymdeithasol a'r GIG.
Dywedodd yr Arweinydd bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2024-25 yn cynyddu o 3.1% ond fod y Cyngor yn debygol o weld cynnydd llai na 3% oherwydd poblogaeth y fwrdeistref sirol a newidiadau yn y fformiwla, a fydd yn rhagolwg anodd iawn. Ychwanegodd fod Swyddogion yn gweithio'n galed yn y cefndir i nodi lle mae modd gwneud arbedion.
Dywedodd yr Arweinydd fod chwech ar hugain o awdurdodau lleol yn Lloegr yn wynebu hysbysiad 114 yn ystod y 12 mis nesaf, sy'n golygu y byddan nhw'n cael eu gorfodi i ddatgan methdaliad ariannol heb unrhyw arian wrth gefn/arbedion, a fyddai'n golygu bod dim modd iddyn nhw ddarparu gwasanaethau statudol. Dywedodd yr Arweinydd y byddai darparu cyllideb gytbwys ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dasg hynod heriol ac ategodd ei siom gyda chanlyniad datganiad yr Hydref.
********************************************************************************************
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd M Webber, ei bod hi wedi cyfarfod â Citizens Cymru/Wales a Citizens UK yn Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd, ar 10 Tachwedd i ddathlu achrediad y Cyngor yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol. Roedd hi wedi gwneud hyn ar ran yr Arweinydd. Cafodd tlws ei gyflwyno i'r Cyngor i ddathlu'r gamp. Roedd y Dirprwy Arweinydd yn dymuno diolch i Citizens Cymru UK am y gydnabyddiaeth honno.
Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd bod y Cyngor yn dal ati i gydnabod mai'r staff yw ei ased gorau, ac roedd hi'n falch o'r cyfle i gwrdd â'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gynharach yn y flwyddyn, gyda'r Arweinydd, i dderbyn achrediad fel cyflogwr Cyflog Byw. I gloi, dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod Cyngor RhCT yn gosod esiampl dda i awdurdodau lleol yng Nghymru, yn rhinwedd ei rôl yn ail awdurdod lleol mwyaf Cymru.
***********************************************************************************************
Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris, ddatganiad mewn perthynas â'r ffaith bod y Cyngor wedi derbyn gwobr fawreddog Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Cenedlaethol (gwobr Efydd SPF) ar ran Partneriaeth Bwyd RhCT. Mae'n cydnabod gwaith rhagorol Partneriaeth Bwyd RhCT wrth hyrwyddo arferion bwyd cynaliadwy o fewn y cymunedau. Mae Carfan Datblygu Cymuned y Cyngor, y ... view the full Cofnodion text for item 70. |
||
Cwestiynau gan yr Aelodau PDF 217 KB Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol N. H. Morgan i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan: “A oes modd i'r Arweinydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae’r Cyngor yn bwrw ymlaen â’i waith i uwchraddio a gwella draeniad ar ei rwydwaith priffyrdd?” Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE: Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi caffael gwasanaeth glanhau foltiau arbenigol 5 mlynedd a chontract teledu cylch cyfyng gyda darparwr allanol sydd ar hyn o bryd yn ei drydedd flwyddyn. Mae nifer o asedau carthffosydd d?r wyneb wedi’u glanhau a’u harolygu hyd yma, gyda 15km wedi’i drin hyd yma eleni.
Ychwanegodd yr Arweinydd fod gan y Cyngor hefyd ei bedwar gwacwr cwteri a lorïau jetio ei hun sy'n gweithio bob dydd i lanhau miloedd o gylïau bob mis, yn ogystal â nodi diffygion sydd wedyn yn cael eu hatgyweirio i helpu i ddiogelu'r rhwydwaith.
Dywedodd yr Arweinydd fod y Cabinet wedi cytuno'n ddiweddar ar fuddsoddiad o £200,000 ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd parhaus. Mae hyn yn rhan o'r buddsoddiad untro ehangach o £7.73 miliwn ar gyfer meysydd blaenoriaeth y Cyngor, a gytunwyd gan y Cabinet yn gynharach eleni. Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y buddsoddiad o £1 miliwn y mae'r Cyngor wedi'i dderbyn gan Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru gyfer 2023/24. Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi sicrhau dros £10 miliwn gan y Gronfa Ffyrdd Cydnerth ers Storm Dennis, a hynny er mwyn edrych ar y priffyrdd hynny sy'n dueddol o fod yn destun llifogydd.
I gloi, dywedodd yr Arweinydd fod llawer o waith eisoes yn mynd rhagddo, ond mae modd gwneud rhagor, a diolchodd i'r Aelodau Etholedig sy'n parhau i dynnu sylw at broblemau yn eu wardiau nhw.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.
2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. O. Jones i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE: “Rydyn ni wedi clywed yn ystod y misoedd diwethaf bod effeithiau cyfunol Brexit a’r rhyfel yn Wcráin yn cael effaith sylweddol ar ein diwydiant adeiladu. Beth mae hyn yn ei olygu i’r Cyngor a sut allwn ni liniaru’r effeithiau yma?” Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE: Dywedodd y Cynghorydd A Morgan y bu cynnydd mewn costau adeiladu sy'n ymwneud â chyflenwad deunyddiau. Mae hyn yn rhannol yn ymwneud â Brexit, y rhyfel yn Wcráin a chyfradd chwyddiant uchel yn y DU, sydd i gyd yn effeithio ar gostau adeiladu. Eglurodd yr Arweinydd, o ran Rhaglen Gyfalaf y Cyngor, fod gan y Cyngor brofiad o gynllunio a chyflawni prosiectau sy'n bodloni amodau llym o ran ansawdd a phris. Ychwanegodd fod prisiau'n cael eu cytuno ymlaen llaw ar gyfer prosiectau adeiladu fel Ysgolion neu gyfleusterau Gofal Ychwanegol, a bod dim modd newid y pris yma unwaith i'r contract gael ei ddyfarnu. Cyfeiriodd yr Arweinydd at anawsterau o fewn y farchnad lafur, ac effaith Brexit, sy'n effeithio ar faterion recriwtio, yn enwedig mewn meysydd fel lletygarwch a ffermio, lle mae ffermwyr yn cael trafferth recriwtio gweithwyr i gasglu cnydau. Soniodd yr ... view the full Cofnodion text for item 71. |
||
Rhaglen Waith y Cyngor 2023-24 ac Adroddiad Gwybodaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu nad oedd unrhyw newidiadau i raglen waith y Cyngor ar gyfer y cyfnod a chadarnhaodd, oherwydd yr amserlenni yn ymwneud â symud swyddfa o Gwm Clydach i Lys Cadwyn ym Mhontypridd, y byddai cyfarfod nesaf y Cyngor Llawn ar 17 Ionawr 2024 yn cael ei gynnal ar-lein.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ddiben yr adroddiad gwybodaeth amgaeedig a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd i'r Cyngor Llawn ar 29 Mawrth 2023, a gynigiwyd gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan ac a eiliwyd gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Evans mewn perthynas â Thlodi Plant. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Rhybudd o Gynnig wedi'i gyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, sy'n disgwyl derbyn adroddiad mewn perthynas â'r Cynllun Corfforaethol yn rhan o'i gylchred nesaf o gyfarfodydd.
|
||
Mae'r adroddiad yma'n sicrhau bod yr Awdurdod yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol yngl?n ag ysgrifennu "Datganiad o Gyfrifon" ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 mewn perthynas â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: To consider the RCT and Pension Fund Annual Accounts and the report of Audit Wales & Deputy Chief Executive & Group Director – Finance, Digital & Frontline Services.
Cofnodion: Cyflwynodd Mr M Jones, Archwilio Cymru Adroddiad Archwilio Cymru ar Archwiliad o Gyfrifon CBS Rhondda Cynon Taf a Gr?p CBS Rhondda Cynon Taf, gan gyfeirio’r Aelodau’n benodol at baragraff 4 a oedd yn nodi lefel perthnasedd eleni o £9.6 miliwn ar gyfer archwiliad cyfrifon Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf eleni, a £9.8 miliwn ar gyfer archwiliad Gr?p Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Cyfeiriodd Mr Jones at baragraff 9 a dywedodd y bydd Archwilio Cymru yn cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni, gan gadarnhau bod yr holl gamddatganiadau yn yr adroddiad wedi’u cywiro gan y rheolwyr (gyda chrynodeb camddatganiadau yn Atodiad 3 yr adroddiad), fel sydd wedi'i nodi ym mharagraffau 13 ac 14.
Canmolodd Mr Jones effeithlonrwydd y Gwasanaeth Cyllid o fewn Cyngor RhCT a rhoddodd sicrwydd bod y dull archwilio newydd sydd ar waith eleni mor drylwyr ag y bu erioed.
Yn dilyn trafodaeth am yr adroddiad, cyflwynodd Archwilio Cymru adroddiad yr Archwiliad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf, y mae RhCT yn awdurdod gweinyddu ar ei chyfer. Cyfeiriodd at y perthnasedd uchel o £42.64 miliwn ar gyfer archwiliad eleni a chanmolodd yr adroddiad cadarnhaol sy'n cynnwys mân gamddatganiadau teipograffyddol a chyflwyniadol yn unig.
(Nodyn: Oherwydd yr anawsterau technegol a brofwyd ar yr adeg yma, penderfynodd y Llywydd y byddai’r agenda’n cael ei hystyried allan o drefn ac fel y manylir yn y cofnodion a nodir isod cyn dychwelyd i eitem 6 ar yr Agenda - Datganiad Cyfrifon ac Adroddiadau Archwilio CBSRhCT a Chronfa Bensiwn RhCT - i gytuno ar y penderfyniad).
|
||
Penodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 85 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol yr adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am gadarnhad o benderfyniad y Pwyllgor Penodiadau mewn perthynas â phenodi'r ymgeisydd sydd wedi'i ddewis i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Oedolion. Mae hyn yn dilyn y broses benodi yr oedd y Pwyllgor Penodiadau wedi cytuno arni hi ymlaen llaw.
Dywedodd y Cyfarwyddwr fod proses benodi canolfan asesu ddwys yn cael ei chynnal ddydd Iau 16 Tachwedd a dydd Gwener 17 Tachwedd 2023, ac yn dilyn hynny, penderfynodd y Pwyllgor Penodiadau argymell bod Mrs Sian Nowell yn cael ei phenodi i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Oedolion.
Cytunodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodiadau, y Cynghorydd SJ Davies, fod y broses recriwtio a dethol ffurfiol, wedi penderfynu argymell yn unfrydol y dylid penodi Mrs Sian Nowell i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Oedolion.
Roedd Aelodau'n dymuno mynegi eu bod nhw o blaid y penodiad a PHENDERFYNWYD:
a) Cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau y dylid penodi Mrs Sian Nowell i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Oedolion; a
b)Nodi mai dydd Iau 30 Tachwedd fydd dyddiad cychwyn Mrs. Nowell yn y swydd hon.
|
||
Datganiad o Gyfrifon ac Adroddiadau Archwilio ar gyfer CBS Rhondda Cynon Taf a Chronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||
Adroddiad Canol Blwyddyn Cylch Rheoli’r Trysorlys 2023-24 PDF 292 KB Rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am weithgarwch Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn ystod 6 mis cyntaf 2023-2024, yn ogystal â Dangosyddion Darbodus a Thrysorlys ar gyfer yr un cyfnod.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â gofynion Cod Ymarfer Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Reoli’r Trysorlys, rhoddodd Cyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen wybodaeth i’r Aelodau am weithgarwch Rheoli’r Trysorlys y Cyngor yn ystod chwe mis cyntaf 2022/23, yn ogystal â Dangosyddion Darbodus a Thrysorlys ar gyfer yr un cyfnod.
Dywedodd y Cyfarwyddwr, yn erbyn cefndir economaidd heriol o dwf cymharol isel, cyfraddau uwch o chwyddiant a chyfraddau llog uwch, fod y Cyngor wedi cynnal ei sefyllfa o dan-fenthyca a ddangosir gan y sefyllfa fenthyca gros o gymharu â'r gofyniad cyllid cyfalaf (CFR). Mae hyn yn cynrychioli angen sylfaenol y Cyngor i fenthyca. Dywedodd y Cyfarwyddwr ymhellach fod y gofyniad benthyca wedi cynyddu yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol wrth i gymeradwyaethau pellach gael eu derbyn mewn perthynas â'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Manylir ar hyn yn yr adroddiadau monitro cyflawniad chwarterol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor yn parhau i weithredu ymhell o fewn ei derfynau, hynny yw, y terfyn awdurdodedig a'r ffin weithredol. Ychwanegodd fod y Cyngor wrthi'n cynnal proses gaffael ar gyfer ymgynghorwyr rheolaeth trysorlys, a bydd Aelodau'n cael eu diweddaru yn unol â hynny pan fydd y broses wedi'i chwblhau. Mae'r Cyngor yn parhau i weithredu o fewn yr amlen fenthyca gyffredinol fel y cytunwyd ar gyfer rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor.
I gloi, dywedodd Cyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i'w adolygu ymhellach.
Yn dilyn trafodaeth lle atebodd y Cyfarwyddwr Cyfadran nifer o gwestiynau, PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys yr adroddiad.
|
||
Ystyried y Rhybuddion o Gynnig isodsydd wedi'u cyflwyno yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.1 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafod y Rhybuddion o Gynnig isod sydd wedi'u cyflwyno yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.1 ac a dderbyniwyd gan y Swyddog Priodol, yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol:
1) R. Williams, S. Emanuel, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, A. J. Dennis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, T. Williams, R. Yeo. Ar ôl wythnosau o ddyfalu, mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau o’r diwedd na fydd rhan ogleddol HS2 rhwng Manceinion a Birmingham bellach yn cael ei hadeiladu. Mae’r cyhoeddiad, sydd i bob golwg wedi bod y gyfrinach waethaf mewn gwleidyddiaeth, yn dilyn dileu cymal y dwyrain rhwng Birmingham a Leeds, a’r llinell gyflym rhwng y dwyrain a’r gorllewin rhwng Leeds a Manceinion yn 2021. Roedd dynodiad gwreiddiol HS2 fel prosiect Cymru a Lloegr yn ysgytwol ynddo’i hun’ gyda’r prosiect rheilffordd cyflym agosaf wedi’i leoli bron i 70 milltir i ffwrdd o ffin Cymru, a’r cyfiawnhad dros y dosbarthiad oedd y byddai teithwyr yng Ngogledd Cymru yn ôl pob sôn yn cael budd o'r gyfnewidfa arfaethedig ar gyfer Crewe. Dros y degawd diwethaf, mae anghydraddoldebau Fformiwla Barnett a phenderfyniadau’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi gweld Cymru’n cael ei hamddifadu o bron i hanner biliwn o bunnoedd o fuddsoddiad trafnidiaeth (yn seiliedig ar gyllid rheilffyrdd tebyg am debyg fesul pen o’r boblogaeth o gymharu â rhannau eraill o'r DU). Gyda’r prosiect HS2 yn cael ei ddileu a “biliynau o bunnoedd bellach wedi’u harbed” mae’n gwbl deg a chyfiawn fod Cymru’n elwa ar gyfran deg o fuddsoddiad. Mae’r cyhoeddiad y byddai £1 biliwn yn cael ei ddyrannu i drydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru yn ddim mwy na ffigur amcangyfrifol ac, yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd yn cymryd o leiaf 10 mlynedd. Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi datgan y bydd pob rhanbarth y tu allan i Lundain yn derbyn yr un buddsoddiad gan y llywodraeth neu fwy nag y bydden nhw wedi’i wneud o dan HS2, a gyda chanlyniadau cyflymach. Rhaid i’r ymrwymiad hwn fod yn berthnasol i Gymru a chael ei gyflawni ar raddfa sy’n adlewyrchu anghenion Cymru wrth geisio mynd i’r afael â’r tanariannu o ran trafnidiaeth rheilffyrdd dros y degawd diwethaf. Rhaid iddo hefyd ganiatáu i brosiectau trafnidiaeth pwysig eraill ledled Cymru gael eu hariannu hefyd. Felly mae'r Cyngor hwn yn: ·Bod canslo HS2 yn rhoi cyfle i Gymru gael cyfran deg o gyllid ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth rheilffyrdd.
|