Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Croeso Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Llywydd wedi croesawu'r Aelodau i gyfarfod hybrid y Cyngor - a oedd wedi dechrau am 5.15pm.
|
|||||||
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a
2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda a chafodd datganiad o fuddiant pellach ei wneud yngl?n ag eitem 5 ar yr agenda yn ddiweddarach yn y cyfarfod (gweler Cofnod 31):
Eitem 7 ar yr Agenda - Y Diweddaraf Am Faterion Cynllunio Cenedlaethol a Rhanbarthol a Chymeradwyaeth ar gyfer Cytundeb Cyflawni a Diwygiad i'r Amserlen ar gyfer Gwaith Paratoi Parhaus Y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.
Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis wedi datgan buddiant personol - "Mae fy nghyflogwr, Cymdeithas Tai Hafod, wedi'i nodi yn yr adroddiad, rydw i hefyd yn aelod o Gymdeithas y Sgowtiaid”.
Eitem 10 ar yr Agenda – Rhybudd o Gynnig Brys
Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Hughes wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu (Bydda i'n gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth am yr eitem yma) - "Mae fy ngwraig yn rheoli'r gwasanaeth gofal yn y cartref".
Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu (Bydda i'n gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth am yr eitem a bydd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Stephens, y Dirprwy Lywydd, yn camu i rôl y Cadeirydd ar gyfer yr eitem yma) - "Mae fy mam yn gweithio i'r gwasanaeth gofal yn y cartref."
|
|||||||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod hybrid y Cyngor, a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2023, yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod hybrid y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2023 yn rhai cywir.
|
|||||||
Cyhoeddiadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:
Ø Roedd yr Arweinydd wedi cyhoeddi marwolaeth y Cyfarwyddwr Cyfadran, Mr George Jones. Disgrifiodd yr Arweinydd Mr Jones fel swyddog gwych, cwrtais a chyfeillgar. Yn anffodus, roedd Mr Jones wedi ymddeol yn gynnar o ganlyniad i iechyd gwael. Roedd yr Arweinydd wedi cyfleu ei dristwch am y mater yma gan estyn cydymdeimlad i deulu Mr George Jones ar ran y Cyngor.
Ø Ar ran y Cynghorydd S Morgans, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Smith yn dymuno llongyfarch disgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 Ysgol Gynradd Gymuned y Maerdy am ennill cystadleuaeth cyfnod sylfaen Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2023. Roedd 6,000 o geisiadau ac roedd disgyblion Blwyddyn 1 a 2 wedi ennill cystadleuaeth prosiect treftadaeth gyda'u cyflwyniad nhw 'Made and Moulded in Maerdy'.
|
|||||||
DATGANIADAU Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE wedi rhoi gwybod ei fod e wedi gofyn i'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen i gyflwyno unrhyw becynnau cyllid sydd ar gael i gefnogi trigolion a'r 3ydd sector cyn y gaeaf, a hynny'n rhan o'i adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r Cyngor o ran tanwariant a chronfeydd wrth gefn. Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld y Cyngor yn defnyddio pecyn cyllid gwerth miliynau o bunnoedd i gefnogi trigolion a'u teuluoedd gyda'r argyfwng costau byw a'r effaith ddilynol ar dlodi plant lle bynnag y bo modd, pe byddai'r pecyn cyllid yma ar gael.
|
|||||||
Cwestiynau gan yr Aelodau PDF 194 KB Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
Rhaglen Waith Y Cyngor 2023/24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wedi cadarnhau mai dyma yw cyfarfod olaf y Cyngor cyn toriad yr haf, a bydd cyfarfod nesaf y Cyngor Llawn yn cael ei gynnal am 5pm ar 20 Medi 2023. Ychwanegodd y bydd angen trafod nifer fawr o faterion yn ystod y cyfarfod yma, felly mae'n bosibl y bydd angen edrych unwaith eto ar drefn y materion y mae angen eu trafod yn ystod cyfarfodydd y Cyngor yn yr Hydref. Bydd hyn yn cael ei wneud yn rhan o drafodaethau gydag Arweinwyr y Grwpiau ble'n addas.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y bydd y sesiynau hyfforddiant a'r sesiynau datblygu ar gyfer Aelodau sydd wedi cael eu cyhoeddi yn ddiweddar yn cael eu cynnal am amser cyfleus yn dilyn adborth yr Aelodau.
|
|||||||
Adolygiad Blynyddol Cylch Rheoli’r Trysorlys 2022/23 PDF 228 KB Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen;
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
· Gweithgarwch Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn ystod 2022/23; a · Gwir Ddangosyddion Darbodus a Dangosyddion y Trysorlys ar gyfer 2022/23.
Cyn mynd ati i bennu'r meysydd allweddol sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wybod bod gweithgarwch Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn cael ei reoleiddio a'i lywodraethu gan godau ymarfer ac mae'r Cyngor yn parhau i gydymffurfio â'r holl ofynion perthnasol. Mae'r cynghorwyr Trysorlys yn rhoi gwybodaeth a chyngor i'r Cyngor, ond yn nodi bod pob penderfyniad sy'n cael ei wneud yn benderfyniad gan y Cyngor.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wybod bod y Cyngor yn parhau i weithredu ei strategaeth risg-isel, a hynny mewn cyd-destun economaidd heriol, gan fanteisio i'r eithaf ar falans arian parod y Cyngor. Ychwanegodd fod costau cyfalaf net y Cyngor ar gyfer y flwyddyn wedi'u cyflawni o fewn y gyllideb a doedd dim cyfleoedd i leihau costau benthyca drwy wneud newidiadau i'r amserlen yn ystod y flwyddyn, caiff hyn ei adolygu'n gyson.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran drosolwg o weithgarwch benthyca'r Cyngor - y gyfradd llog gyfartalog gymhwysol ar gyfer y flwyddyn oedd 2.86% ac mae'r Cyngor yn parhau i gadw cyllid ad-daladwy Llywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith trafnidiaeth. £135miliwn oedd cyfanswm y gwariant cyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol ddiweddaf, a £503miliwn oedd y Gofyniad Gwariant Cyfalaf, sy'n cynrychioli'r angen sylfaenol i fenthyca. Mae'r cyfanswm benthyca ar ddiwedd y flwyddyn (sef £294miliwn) yn dangos bod sefyllfa'r Cyngor o ran benthyca yn parhau i fod yn gadarnhaol.
I gloi, nododd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y Cyngor wedi gweithredu o fewn ei derfynau ar gyfer benthyca darbodus ac o ganlyniad i hynny, mae ei amlen gyfalafwedi cynyddu gan £40.5miliwn i adlewyrchu'r cynnydd yng nghostau'r prosiect. Roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran wedi cadarnhau y bydd yr adroddiad yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Yn dilyn trafodaeth, roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran wedi ymateb i sawl ymholiad am yr adroddiad, cadarnhawyd y bydd diweddariad a chyflwyniad am Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn cael ei roi i'r Aelodau cyn cyfarfod y Cyngor ym mis Medi (bydd modd cyflwyno cais am hyfforddiant unigol yn rhan o'r broses Adolygu Datblygiad Personol i Aelodau).
PENDERFYNWYD:
1. Nodi cynnwys yr adroddiad; a
2. Nodi'r trefniadau cyllido ar gyfer y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, fel sydd wedi'u nodi yn adran 12.
|
|||||||
Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod am y newidiadau i aelodaeth y Gr?p Llafur yn rhan o'r Gynghrair ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD nodi y bydd:
|
|||||||
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod y Llywydd, yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.5, wedi rhoi caniatâd i’r Cyngor Llawn benderfynu a ddylai’r Cynnig Brys hwn:
• Cael ei drafod yn y cyfarfod; neu • Gohirio'r Cynnig tan y cyfarfod nesaf, i'w drafod gyda mantais cyngor ysgrifenedig gan Swyddogion; neu • Ei atgyfeirio i'r Adain Weithredol neu Bwyllgor.
PENDERFYNWYD trafod y Rhybudd o Gynnig brys yn y cyfarfod.
(Nodwch: Roedd y Llywydd, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes, a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Hughes wedi gadael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth yma, a hynny ar ôl iddyn nhw ddatgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu (gweler cofnod 27).
Yn absenoldeb y Llywydd, camodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Stephens, y Dirprwy Lywydd, i rôl y Cadeirydd ar gyfer eitem 10.
|
|||||||
Rhybudd O Gynnig Brys PDF 113 KB Yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.5, mae’r Llywydd wedi rhoi caniatâd i’r Cyngor Llawn benderfynu a ddylai’r Cynnig Brys hwn fod:
• Cael ei drafod yn y cyfarfod; neu • Gohirio'r Cynnig tan y cyfarfod nesaf, i'w drafod gyda mantais cymorth cyngor ysgrifenedig gan Swyddogion; neu • Ei atgyfeirio i'r Adain Weithredol neu i Bwyllgor, i gael ei ystyried, ei drafod, a'i benderfynu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A O Rogers; D Wood, K Morgan, S Evans, D Grehan, H Gronow, P Evans ac A Ellis:
Er gwaethaf yr e-bost gan y Prif Weithredwr a anfonwyd at yr Aelodau am 13:26 o'r gloch ddoe, mae'r Cyngor yma'n gresynu nad oedd ganddo unrhyw wybodaeth flaenorol am gynlluniau i derfynu darpariaeth fewnol y gwasanaeth gofal yn y cartref symudol gyda'r nos . Rhoddwyd gwybod i’r holl Aelodau am y cynnig yma drwy e-bost a anfonwyd ddeuddydd yn ôl gan staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Cawson nhw eu galw i gyfarfod gyda swyddogion ac undebau yr wythnos ddiwethaf i gael gwybod am y bwriad i roi’r gwasanaeth ar gontract allanol i ddarparwyr eraill yn y sector preifat/annibynnol.
Mae hyn yn mynd yn groes i ymrwymiad y Cyngor i warchod gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol lle mae'r staff yn cael eu talu ar Delerau ac Amodau Cenedlaethol. Mae’n anfaddeuol bod newid o’r fath i wasanaeth gwerthfawr ac angenrheidiol iawn wedi cael ei ystyried gan reolwyr o dan benderfyniad dirprwyedig gweithredol nas cyhoeddwyd tan ddoe.
Roedd Rhaglen Waith y Cabinet hefyd wedi’i diwygio, gydag Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Strategaeth Gwasanaethau i Oedolion ddrafft, yr oedd disgwyl iddyn nhw gael eu trafod ym mis Gorffennaf, bellach wedi'u symud i fis Hydref 2023. Pe byddai'r adroddiadau yma wedi cael eu trafod ym mis Gorffennaf yn ôl y cynllun gwreiddiol, byddai o leiaf rhywfaint o wybodaeth gan yr Aelodau am y cynnig i derfynu'r gwasanaeth gyda'r nos.
Mae'r Penderfyniad Dirprwyedig Gweithredol sydd wrthi'n cael ei gyhoeddi yn mynd i'r afael â rhywfaint o bryderon yr Aelodau am y broses briodol. Serch hynny, nid yw'n awdurdodi penderfyniad y swyddog ym mis Mawrth i beidio â derbyn atgyfeiriadau, gan fynd ati'n fwriadol i gwtogi'r gwasanaeth a pheri i'r Prif Weithredwr ddatgan bod y "trefniant presennol ddim yn cyflwyno'r dull mwyaf effeithiol o ddarparu'r gofal a chymorth yma mwyach" yn ei e-bost.
O dan yr amgylchiadau yma, mae'n bwysig sicrhau dealltwriaeth o ran sut mae modd i swyddogion ddefnyddio awdurdod gweithredol i gwtogi ar wasanaeth, gyda'r nod o gael gwared arno yn y pen draw, heb yn wybod i'r Aelodau a heb eu caniatâd.
Mae’r Cyngor yma felly’n gofyn i’r Prif Weithredwr wneud datganiad heddiw, cyn y toriad, ynghylch: - Pam fod y gwasanaeth wedi'i gwtogi'n fwriadol ym mis Mawrth a pham na chyhoeddwyd hysbysiad o benderfyniad dirprwyedig yngl?n â'r newid hwnnw? - Sut mae modd i ddileu gwasanaeth gael ei ystyried yn benderfyniad gweithredol yn hytrach na phenderfyniad i'r Cabinet/Cyngor Llawn.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig Brys a darparodd y Prif Weithredwr y datganiad canlynol:
"Bydd Aelodau'n cofio strategaeth y gyllideb a gafodd ei chymeradwyo gan y Cyngor ar 8 Mawrth 2023, pan gytunodd y Cyngor i strategaeth y gyllideb a oedd yn cau'r bwlch digynsail gwerth £38miliwn yn y gyllideb. Roedd strategaeth y gyllideb yn destun ymgynghoriad cynhwysfawr, ac roedd y Cyngor eisoes wedi dechrau ymgynghoriad ... view the full Cofnodion text for item 37. |