Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

12.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P Evans, R Evans, K Morgan, M Powell, K Webb a D Williams.

 

13.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 9 ar yr agenda - SEFYDLU BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS AR GYFER CWM TAF MORGANNWG - TREFNIADAU TROSOLWG A CHRAFFU AR Y CYD

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Bradwick – “Fi yw Cadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru”

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D R Bevan – “Rydw i'n aelod o’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu”

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings – “Rydw i'n aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus”

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Stephens – “Rydw i'n aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus”

 

14.

Cofnodion pdf icon PDF 200 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023 (4pm a 5pm) a 10 Mai 2023 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd hybrid o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023 (am 4pm a 5pm) a 10 Mai 2023 yn rhai cywir.

 

 

 

15.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

Ø  Talodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan OBE, y deyrnged ganlynol i'r diweddar Tyrone O'Sullivan OBE a fu farw ar 27 Mai, yn 77 mlwydd oed. Ganed Tyrone i deulu glofaol yn Abercwmboi, ac roedd yn ymwybodol iawn o beryglon y pyllau, gan iddo golli'i hen dad-cu yn y Maerdy, a'i dad yng nglofa'r T?r pan oedd Tyrone ddim ond yn 17 oed. Er gwaethaf hyn, cafodd Tyrone swydd trydanwr dan hyfforddiant yn y pwll glo, a chyn bo hir daeth yn ffigur blaenllaw yn y mudiad Undebau. Daeth yn enwog am beidio â cholli'r un bleidlais dros weithredu diwydiannol mewn 22 mlynedd pan oedd yn Ysgrifennydd Cangen tanddaearol mudiad NUM. Chwaraeodd ran flaenllaw yn streic 1984-85, gan drefnu protestiadau yng Nghymru, de Lloegr, Essex, a de Swydd Efrog. Ei gamp fwyaf adnabyddus oedd perswadio'i gydweithwyr yng nglofa'r T?r i ymrwymo £8,000 yr un o’u harian diswyddo er mwyn casglu blaendal gwerth £1 miliwn i gymryd y safle drosodd. Ychwanegodd yr Arweinydd fod llawer yn cofio gweld y 239 o lowyr yn gorymdeithio yn ôl i'r gwaith ym mis Ionawr 1995 – flwyddyn ar ôl i'r pwll glo gau - yn dilyn y pryniant llwyddiannus. Arhosodd y T?r ar agor am 13 mlynedd arall, a heddiw mae atyniad Zip World poblogaidd ar y safle. Soniodd yr Arweinydd am ei atgofion gyda Tyrone yn ystod taith i Ogledd Cymru ac, ar ran yr Awdurdod Lleol, dymunodd gydymdeimlo ag Elaine, gwraig Tyrone, a'r teulu.

ØYchwanegodd y Cynghorydd A O Rogers, y mae ei ward yn cynnwys safle Glofa’r T?r, deyrnged i’r diweddar Tyrone O’Sullivan OBE hefyd. Cyfeiriodd at y teyrngedau a'r sylwadau caredig niferus sydd wedi dod i law yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ychwanegodd y byddai llawer yn cytuno y byddai'n cael ei gofio am ei arweiniad a'i waith o ran brwydro i gadw glofa'r T?r ar agor a helpu'r glowyr i brynu'r pwll yn llwyddiannus. Siaradodd y Cynghorydd Rogers am weledigaeth Tyrone o ran rhoi cyfleoedd i bobl ifainc ar gyfer y dyfodol a'u helpu i adeiladu a datblygu'r cymunedau glofaol drwy brosiectau megis Zip World, sy'n cyflogi nifer o drigolion lleol.

 

Ø  Roedd y Cynghorydd R Lewis yn dymuno llongyfarch Clwb Rygbi Abercynon ar dymor llwyddiannus o rygbi ar ôl i'r tîm yn gael ei goroni'n bencampwr Adran 2 Canolbarth y Dwyrain a sicrhau dyrchafiad. Mae'r holl dîm, ei staff a gwirfoddolwyr yn destun balchder i'r gymuned gyfan. Ar ran y Cynghorydd Dennis, dymunodd y Cynghorydd Lewis yn dda i'r tîm ar gyfer y tymor nesaf.

 

Ø  Ar ran y Cynghorydd W Jones, llongyfarchodd y Cynghorydd S Emanuel Maggie Davies o Flaenrhondda a redodd marathon Llundain er cof am ei diweddar ?r Paul. Mae hi wedi codi dros £4000 i elusen dementia Brain Bank.

 

Ø  Fe wnaeth y Cynghorydd Ros Davislongyfarch Mr David Ferns, sy'n byw yn y Porth. Cwblhaodd Farathon Llundain ar 23 Ebrill, mewn 3 awr a 40  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 257 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.       Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. E. Williams i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

“Cyn y gaeaf a’r paratoadau ar gyfer tywydd garw, a fydd cyfle i Aelodau ymgysylltu â swyddogion a dod i sesiynau briffio yngl?n â'r paratoadau?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

Ymatebodd y Cynghorydd A. Morgan fod y Cyngor yn cynnal sesiwn briffio ar gyfer Aelodau Etholedig cyn cyfnod y gaeaf bob blwyddyn. Cynhaliwyd sesiwn y llynedd ym mis Tachwedd a bydd y sesiwn eleni yn cael ei chynnal yn gynharach, o bosibl ym mis Hydref. Dywedodd yr Arweinydd mai prif ffocws y sesiynau yma yw cyflwyno Cynllun Cynnal a Chadw'r Cyngor ar gyfer y Gaeaf. Mae hwn yn amlinellu manylion o ran pa gamau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i baratoi ar gyfer tywydd garw dros fisoedd y gaeaf, rolau a chyfrifoldebau'r Aelodau a Swyddogion, sut i rannu gwybodaeth, y rhif cyswllt y tu allan i oriau, sut i gofnodi materion trwy'r ganolfan gyswllt a pha gymorth sydd ar gael i gymunedau, gwasanaethau'r Cyngor a staff.

Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd sicrhau cymaint o ymgysylltu a chyfranogiad gan Aelodau â phosibl – eglurodd fod y sesiwn yn un gwerth chweil ac anogodd yr holl Aelodau i gymryd rhan. Daeth yr Arweinydd i'r casgliad y byddai dyddiad yn cael ei gadarnhau a'i ddosbarthu drwy'r Gwasanaethau Democrataidd maes o law.

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Williams:

 

“Ni allwn warantu na fydd Pentre’n gorlifo eto ond mae’r gwaith a wnaed i’r cwlfer a’r systemau draenio yn rhoi tawelwch meddwl y mae mawr ei angen i drigolion Pentre. Oes modd i'r Arweinydd roi rhagor o fanylion am yr opsiwn gwaith a ffafrir gan y Cyngor?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod Pentre yn amlwg yn un o’r cymunedau a gafodd ei tharo galetaf yn ystod Storm Dennis, ac digwyddiadau tywydd garw dilynol, ac mae dros £1 miliwn wedi’i wario ar ddiogelu'r ardal hyd yma. Cadarnhaodd mai’r opsiwn a ffafrir yw agor chwlfer newydd drwy’r strydoedd. Er y byddai hynny’n tarfu ar drigolion (mater a gafodd ei gyfleu yn yr wybodaeth ymgynghori a ddosbarthwyd), byddai'r Cyngor hefyd yn lleddfu eu pryderon trwy sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein gyda Swyddogion.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y cynllun yn fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn seilwaith lleol, a gyflwynir fesul cam. Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid sylweddol ar gyfer y cynllun eleni.  Bydd y cynllun yn angenrheidiol yn wyneb newid hinsawdd ac yn diwallu'r angen i ddiogelu cartrefi a thrigolion. Dywedodd yr Arweinydd fod gwaith paratoi yn rhan allweddol o'r cynllun, a dyna pam fod hyfforddiant yn fater hanfodol i Aelodau.

 

 

  1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Cook BEM i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

“Pa gymorth sydd ar gael i fanciau bwyd a chynlluniau lleol tebyg yn ystod y flwyddyn i ddod?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Gwrthsefyll Llifogydd pdf icon PDF 444 KB

Derbyn adroddiad a chyflwyniad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen yr adroddiad (a ategwyd gan gyflwyniad Power Point) gyda'r diben o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu'r Cyngor i liniaru'r perygl o lifogydd ers Storm Dennis, ynghyd â throsolwg o'r gwaith a wnaed i adnewyddu ac uwchraddio'r isadeiledd cyhoeddus yr effeithiwyd arno gan lifogydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr adroddiad yn croesgyfeirio adroddiadau ac ymrwymiadau blaenorol yn dilyn y storm ac yn nodi rhaglen waith, sydd wedi'i chynnwys yn yr atodiadau i'r adroddiad, yn dilyn y stormydd ym mis Chwefror 2020 a adawodd dros 1,500 eiddo dan dd?r.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor wedi ymchwilio i'r llifogydd ac wedi llunio cyfanswm o bedwar ar bymtheg o Adroddiadau Adran 19. Cyfeiriodd at y gwaith sydd wedi'i wneud mewn ymateb i'r dinistr a achoswyd gan Storm Dennis yn 2020 a'r meysydd gwariant cyfalaf gyda grantiau ac ymrwymiadau gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â bron i £3 miliwn o gyllid y Cyngor ei hun.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr fod y rhaglen gyfalaf pedair blynedd, a fydd yn dod i ben yn y flwyddyn ariannol hon, yn cynnwys cyfanswm o tua £84 miliwn, sy'n cynnwys £42 miliwn ar gyfer gwaith uwchraddio ac atgyweirio uniongyrchol, £20 miliwn ar gyfer gwaith diogelwch tomennydd glo, £14 miliwn yn ymwneud â rheoli perygl llifogydd a £4.75 miliwn ar gyfer priffyrdd a heolydd.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at Atodiad A sy’n rhoi trosolwg o’r camau gweithredu a adroddwyd i’r Cabinet ym mis Rhagfyr 2020, yn benodol y rheiny sy'n ymwneud â Gwasanaethau Rheng Flaen, megis cynyddu ei gapasiti mewnol ar lefel weithredol a rheoli a chynnal y rhwydwaith o asedau draenio, gan ddatblygu, codi ymwybyddiaeth o ran llifogydd, a chamau gorfodi yn ogystal â datblygu strategaeth perygl llifogydd trwy gyfres o ymgynghoriadau, a fydd yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor a'r Cabinet.

 

Parhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen â’i ddiweddariad ar yr isadeiledd a pheryglon llifogydd drwy gyfres o ddelweddau ar nifer o sleidiau Power Point o dan y penawdau canlynol, a oedd yn dangos faint o gynlluniau sydd ar y gweill ar draws y fwrdeistref sirol:

 

Ø  Digwyddiadau Storm Chwefror 2020

Ø  Safleoedd derbyn

Ø  Cam 3A Draenio a Chlirio

Ø  FAS - Lôn y Parc – Cyn-adeiladu/Ar ôl adeiladu

Ø  FAS Teras Bronallt

Ø  Treorci Rhan 1a – Heol Tyle Du

Ø  FAS Teras y Waun

Ø  Heol Cefnpennar – Leinin Cwlfer Mewnol

Ø  Leinin a Chwlfer Newydd - Pentre

Ø  Cilfach Heol Pentre

Ø  Uwchraddiad Cwlfer Teras Tynycoed

Ø  A4059 – Trawsgludiad Newtown

Ø  Cwlfer newydd ar Ffordd y Rhigos

Ø  Nant y Frwd – Stryd Allen, Aberpennar, Atgyweirio ac Uwchraddio Argyfwng

Ø  Arllwysfa Teras Granville

Ø  Basn malurion Teras Granville

Ø  Teras Campbell - Cilfach

Ø  Cwm-bach – Cilfach Heol y Gamlas

Ø  Bryn Ifor - cilfach cwlfer

Ø  Stryd Kingcraft - Cilfach

Ø  Rhes Painter – Gwelliannau Cilfach

Ø  Cwlfer y Dramffordd

Ø  Gorsaf Bwmpio Glenboi

Ø  Gwaith Strwythurol – Pont Castle Inn

Ø  Trin Ymyl yr Afon - Castle Inn

Ø  Heol Berw –  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

18.

Rhaglen Waith y Cyngor 2023/24 pdf icon PDF 189 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Raglen Waith ddrafft ar y rhestr arfaethedig o faterion sydd angen eu hystyried gan y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024.  Ychwanegodd fod dyddiadau ychwanegol ar ben yr hyn a gyhoeddwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bellach wedi eu hychwanegu at y rhaglen waith.

 

Yn ystod y cyfnod a amlinellwyd, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y gallai'r rhaglen waith newid i adlewyrchu gofynion adrodd ychwanegol

neu unrhyw newidiadau deddfwriaethol neu fusnes arall a allai ddeillio o

ystyriaethau pwyllgorau, megis argymhellion Craffu neu'r Pwyllgor Penodiadau. Ychwanegodd y caiff unrhyw newidiadau i fusnes yn cael ei gytuno gan y Swyddog Priodol gyda chytundeb terfynol gan y Llywydd. Lle bo modd, bydd Arweinwyr Grwpiau hefyd yn cael gwybod am unrhyw newidiadau yn ystod Blwyddyn y Cyngor.

 

I gloi, ac ar ôl trafod yr adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth

y byddai'r eitemau yn yr adran 'Amrywiol' ar raglen waith y Cyngor yn cael eu dyrannu yn ystod y flwyddyn (yn amodol ar gytundeb). Bydd yr Aelodau cael eu hysbysu am hyn gan ddiweddariadau rheolaidd ym mhob cyfarfod o'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024 ac unrhyw ddiweddariadau priodol pellach gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

19.

MECANWAITH RHOI GWYBOD AM RYBUDD O GYNNIG pdf icon PDF 169 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adroddiad a oedd yn gofyn i'r Cyngor ystyried y cynigion ffurfiol

ar gyfer cofnodi ac adrodd ar ganlyniad ac effaith 

mabwysiadu a/neu gyfeirio Rhybudd o Gynnig, yn dilyn pleidlais gan y Cyngor.

 

Yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023, cefnogodd yr Aelodau'r cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr D Grehan ac A Rogers mewn perthynas ag ymestyn y mecanwaith adrodd presennol. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at y trefniadau presennol sydd ar waith i gofnodi canlyniadau cynigion a fabwysiadwyd gan y Cyngor a lle bo'n briodol, y rheini a gyfeiriwyd at bwyllgor arall. Yn achos atgyfeiriad i bwyllgor Craffu, mae'r canlyniad ar hyn o bryd yn cael ei gyfeirio'n ôl i'r Cyngor mewn adroddiad sylweddol i hysbysu'r Aelodau o ganlyniad y cynnig gwreiddiol.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y cynigion ar gyfer y materion hynny sydd angen gohebiaeth allanol, a chynigir eu bod yn dilyn yr un trefniadau â'r materion mewnol hynny, a byddai'r canlyniadau'n cael eu cofnodi a'u cyhoeddi ar dudalennau gwe'r Cyngor. Ychwanegodd fod y mater hwn wedi'i drafod yn ddiweddar gan y Pwyllgor Cyfansoddiad a phenderfynodd yr Aelodau gytuno ar y cynigion.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad PENDERFYNWYD i nodi'r gefnogaeth a darperir gan Bwyllgor Cyfansoddiad y Cyngor o ran ytrefniadau adolygu.

 

20.

Sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cwm Taf Morgannwg-Trefniadau Trosolwg A Chraffu ar y Cyd pdf icon PDF 156 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad a oedd yn gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r trefniadau newydd ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg, yn dilyn y newid i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar gyfer Cwm Taf Morgannwg sydd bellach yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â Chynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod am y trefniadau cyfredol ar gyfer y  Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu rhwng Cynghorau RhCT a Merthyr Tudful, sy'n craffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’i bartneriaid,

yn unol â'r gofyniad statudol a nodir yn  Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

(Cymru), 2015 a chanllawiau statudol cysylltiedig. Ychwanegodd

y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, yn dilyn nifer o drafodaethau rhwng y tair unedol

awdurdodau, fod y cylch gorchwyl arfaethedig a chyfansoddiad y pwyllgor

wedi'u cytuno a'u hystyried, ac wedi'u nodi yn yr adroddiad.

Bwriad hyn yw adeiladu ar y trefniadau cyfredol o ran craffu ar y cyd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu newydd yn cynnwys pum Aelod o bob Awdurdod Lleol yn ogystal â'r

aelodau cyfetholedig lle bo’n briodol. Bydd y rhain yn cynnwys cynrychiolwyr sy'n ddinasyddion,

cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, y Bwrdd Iechyd a 

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Ychwanegodd y gofynnir hefyd i awdurdodau lleol enwebu cynrychiolydd dirprwyol, a fydd yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y Cynghorau. Yn unol â'r trefniadau blaenorol ar y cyd, bydd y Cadeirydd yn cael ei benodi gan y Pwyllgor gydag Is-Gadeirydd yn cael ei enwebu o Awdurdod Lleol arall.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai'r cynnig yw y bydd

Rhondda Cynon Taf yn parhau i roi cymorth i'r Cydbwyllgor Trosolwg a

Chraffu ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, gyda chyfle i'r awdurdodau lleol eraill i 

adolygu'r trefniant hwn ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y cynigion wedi'u

hystyried gan y BGC, ac roedd y Bwrdd yn fodlon i'r

Cynghorau fabwysiadu hyn. Bydd Cynghorau

Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr hefyd yn ystyried adroddiadau tebyg.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. Cytuno i greu Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cynnwys Aelodau etholedig o Gynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr i graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg;

 

  1. Cymeradwyo Cylch Gorchwyl Drafft Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg, fel y nodir yn Atodiad 1, a gwneud unrhyw sylwadau pellach y teimlir eu bod yn briodol;

 

  1. Pennu aelodau Statudol y BGC (anweithredol) a ‘chyfranogwyr wedi’u gwahodd’ i wasanaethu fel aelodau cyfetholedig ar Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu BGC Cwm Taf fel yr amlygwyd yn adran 6 o’r adroddiad;

 

  1. Cytuno y dylid bwrw ymlaen â threfniadau penodi’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd, a amlygwyd yn adran 7 o’r adroddiad, gan ddechrau o ddechrau Blwyddyn y Cyngor 2023/24;

 

  1. Cytuno bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn darparu’r trefniadau cymorth a gweinyddol, a amlygwyd yn adran 8 o’r adroddiad, am gyfnod o 2 flynedd, gan ddechrau o ddechrau Blwyddyn y Cyngor 2023/24  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Adroddiad Blynyddol 2022/2023 pdf icon PDF 118 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a oedd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23, gyda chyfle i'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd gyfrannu at fusnes y pwyllgor. Ychwanegodd fod meysydd allweddol i'w hystyried yn yr adroddiad yn cynnwys datblygiad Aelodau, Gwasanaethau Aelodau a chefnogaeth i swyddogaethau democrataidd anweithredol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn.

 

Yn ei rôl fel Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd roedd yn dymuno cofnodi ei ddiolch i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd am y gefnogaeth barhaus yr oedd ef a’r garfan Gwasanaethau Democrataidd wedi’i dderbyn.

 

Derbyniodd yr aelodau anerchiad gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Jones a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, i gyflwyno'r adroddiad blynyddol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/2023.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23.

 

22.

Rhybudd o Gynnig

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Trask a K Johnson:

 

Mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn cael effaith fawr ar iechyd meddwl pobl o bob oed, dyma broblem sy'n dod i'r amlwg yn fwy aml ers pandemig coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa tair blynedd gwerth £500,000 bob blwyddyn er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r broblem yma ym mhob rhan o Gymru.  Hyd yn hyn, dim ond £22,727 sydd wedi cael ei ddyrannu i ardal Rhondda Cynon Taf yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, mae hyn yn cyfateb i 9c fesul person yn RhCT. Mae CBSRhCT wedi dyrannu'r swm bach yma i grwpiau lleol yn rhan o'i Gronfa Rhwydweithiau Cymdogaeth. Rydyn ni'n canmol gwaith y grwpiau cymunedol bach yma ond rydyn ni o'r farn nad yw'r lefel cyllid presennol gan Lywodraeth Cymru'n ddigonol er mwyn cael effaith eang ar drigolion.

 

Bydd y pecyn cyllid 3 blynedd gwreiddiol yn dod i ben yn dilyn blwyddyn ariannol 2023/2024.

 

Felly, rydyn ni'n cynnig bod:

 

  • Y Cyngor yma'n nodi bod unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl nifer o drigolion RhCT, a dydy cyllid Llywodraeth Cymru ddim yn ddigon i allu gwneud gwahaniaeth.

 

  • Y Cyngor yma’n galw ar yr Arweinydd i ysgrifennu at Eluned Morgan AS yn gofyn bod lefel y cyllid yn cynyddu eleni fel bod modd gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r trigolion hynny yn RhCT a fydd yn elwa o'r cyllid.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Trask a K Johnson:

 

Mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn cael effaith fawr ar iechyd meddwl pobl o bob oed, dyma broblem sy'n dod i'r amlwg yn fwy aml ers pandemig coronafeirws.   Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa tair blynedd gwerth £500,000 bob blwyddyn er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r broblem yma ym mhob rhan o Gymru.  Hyd yn hyn, dim ond £22,727 sydd wedi cael ei ddyrannu i ardal Rhondda Cynon Taf yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, mae hyn yn cyfateb i 9c fesul person yn RhCT. Mae CBSRhCT wedi dyrannu'r swm bach yma i grwpiau lleol yn rhan o'i Gronfa Rhwydweithiau Cymdogaeth. Rydyn ni'n canmol gwaith y grwpiau cymunedol bach yma ond rydyn ni o'r farn nad yw'r lefel cyllid presennol gan Lywodraeth Cymru'n ddigonol er mwyn cael effaith eang ar drigolion.

 

Bydd y pecyn cyllid 3 blynedd gwreiddiol yn dod i ben yn dilyn blwyddyn ariannol 2023/2024.

 

Felly, rydyn ni'n cynnig bod:

 

  • Y Cyngor yma'n nodi bod unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl nifer o drigolion RhCT, a dydy cyllid Llywodraeth Cymru ddim yn ddigon i allu gwneud gwahaniaeth.

 

  • Y Cyngor yma’n galw ar yr Arweinydd i ysgrifennu at Eluned Morgan AS yn gofyn bod lefel y cyllid yn cynyddu eleni fel bod modd gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r trigolion hynny yn RhCT a fydd yn elwa o'r cyllid.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.