Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Nodyn: Cyfarfod Arbennig Y Cyngor
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:
Cynghorydd y fwrdeistref sirol S.A. Bradwick – “Rwy’n Gadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac rwyf wedi agor gorsafoedd lle mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i lleoli.”
Cynghorydd y fwrdeistref sirol C Middle – “A minnau'n filwr wrth gefn, mae’n bosibl y bydda i'n gweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.”
Cynghorydd y fwrdeistref sirol G Hopkins – “Rwy’n aelod o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.”
Noder: Cafodd y buddiant canlynol ei ddatgan yn ddiweddarach yn ystod y cyfarfod:
Cynghorydd y fwrdeistref sirol K Morgan – “Rwy'n cael fy nghyflogi gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.”
|
|
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Derbyn cynrychiolwyr gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gan roi cyfle i'r Aelodau drafod yr wybodaeth ddiweddaraf o ran pwysau'r Gaeaf a materion strategol eraill.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Llywydd gynrychiolwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a dywedodd wrth yr Aelodau y byddan nhw'n ymdrin ag eitemau yn ôl trefn yr agenda. Cyflwynodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Mr Jason Killens ei hun a'i gydweithiwr Ms Estelle Hitchon, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu. Gyda chymorth sleidiau PowerPoint cyflwynodd y Prif Weithredwr drosolwg o faterion allweddol o dan y penawdau canlynol:
- Sesiynau gwybodaeth i uwch-randdeiliaid - Cwm Taf Morgannwg (gan gynnwys Rhondda Cynon Taf)
Rhoddodd Arweinydd y Cyngor ddiolch i gynrychiolwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am eu cyflwyniad ac am fynychu cyfarfod y Cyngor ar-lein. Rhoddodd ddiolch hefyd i'r gwasanaethau a'u staff am eu hymroddiad yn ystod y pandemig. Holodd yr Arweinydd am neilltuo, gan gyfeirio at gyfnod pan oedd gyda'r sir yr amseroedd ymateb gwaethaf o ran ambiwlansys yng Nghymru gyfan. Roedd yr ystadegau’n profi na fyddai ambiwlansys a oedd yn cael eu galw i ardaloedd eraill y tu allan i’r fwrdeistref sirol i fynychu digwyddiad yn dychwelyd i'r sir. Roedd hyn yn golygu bod ymateb y sir yn wael. Gofynnodd yr Arweinydd pryd ddaeth y neilltuo i ben? Soniodd yr Arweinydd hefyd am ei sgyrsiau diweddar â staff ambiwlans yn ystod ei ymweliad â’r llinellau piced. Roedden nhw wedi codi pryderon ynghylch newid o’r cerbydau ymateb brys i’r cerbydau CHARU a’r mathau o alwadau roedden nhw'n ymdrin â nhw. Roedd lles staff hefyd wedi'i drafod mewn perthynas â newidiadau i'r rotâu ac achosion pan nad yw staff ambiwlans yn gallu gadael eu sifftiau ar amser. Yn aml maen nhw'n gorfod aros oriau lawer i gael eu rhyddhau o'u dyletswyddau. Er gwaethaf ymrwymiad y staff i ddiogelwch cleifion, roedd hyn yn bryder i lawer. Gofynnodd yr Arweinydd am eglurhad ynghylch yr anallu i gyrraedd y targed ar gyfer galwadau categori coch. Gofynnodd i'r Prif Weithredwr a oedd y fwrdeistref sirol yn debygol o gael gwasanaeth ambiwlans diogel a dibynadwy. Ymatebodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i'r materion a godwyd. Gwnaeth sylwadau ar y rhwystredigaeth o golli traean o’r cerbydau i oedi yn yr adran achosion brys pan nad oes modd i gleifion, sy’n iach yn feddygol i’w rhyddhau, adael yr ysbyty oherwydd y diffyg gofal cymdeithasol neu resymau eraill sydd o fewn rheolaeth y Bwrdd Iechyd. Roedd hefyd wedi cydnabod y canlyniadau o ran atal staff rhag gorffen sifftiau a chymryd seibiannau ar amser. Dywedodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod buddsoddiad wedi bod, a bod y criwiau ambiwlans wedi cynyddu 400 dros y tair i bedair blynedd diwethaf. Serch hynny, mae 253 o’r rheiny wedi lleihau'r diffyg strwythurol, ac mae 100 o ... view the full Cofnodion text for item 94. |