Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services 01443 424098
Nodyn: Extraordinary Council
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Barton, H Boggis, J Bonetto, A Calvert, A Chapman, A Cox, J Elliott, Sera Evans, S Evans, A S Fox, E George, E Griffiths, J Harries, G Hopkins, L Hooper, G Hughes, J James, K Jones, M Fidler Jones, R Lewis, M Powell, S M Powell, S Rees-Owen, G Stacey, E Stephens, W Treeby, M Tegg, S Trask, R Turner, E Webster, J Williams a R Williams.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple - “Mae fy mab yn feddyg yn Ysbyty'r Tywysog Siarl”
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman – “Rwy'n gyn-aelod o Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf”
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo - “Mae fy ngwraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn Ysbyty'r Tywysog Charles”
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Davies - “Rwy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L M Adams - “Mae fy ngwraig yn derbyn pensiwn GIG ar ôl gweithio i’r Bwrdd Iechyd am 37 mlynedd”
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Forey - “Roeddwn i'n aelod annibynnol o'r Bwrdd Iechyd am 3 blynedd”
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Morgan - “Rwy'n cael fy nghyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”
|
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Derbyn cynrychiolwyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â gwaith adfer yn dilyn Covid, y rhaglen wella, Gwasanaethau Mamolaeth a gwaith allweddol arall y Bwrdd.
Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Mr Emrys Elias, ei hun a phedwar aelod o'r Garfan Weithredol, Mr P Mears, Prif Weithredwr, Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Mr Greg Dix, Cyfarwyddwr Nyrsio a Mr Gareth Robinson, Prif Swyddog Gweithredol.
Trwy gymorth sleidiau Powerpoint cyflwynodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Mr Paul Mears, drosolwg o faterion allweddol o dan y penawdau canlynol:
Yn ogystal â'r materion a oedd wedi'u cynnwys yn y cyflwyniad PowerPoint, rhoddodd y Prif Weithredwr wybodaeth am y trefniadau o ran ymweliadau sydd ar waith ar draws gwasanaethau ysbytai ar hyn o bryd, sydd wedi'u rhoi ar waith yn unol â'r Canllawiau Cenedlaethol. Ychwanegodd fod statws coch, oren a gwyrdd yn bodoli o ran ymweliadau, ac ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dilyn trefniadau statws coch, gyda chyfyngiadau ar ymweliadau. Serch hynny, mae hyn yn destun adolygiad wrth i gyfraddau trosglwyddo'r feirws o fewn yr ysbyty leihau. O safbwynt y gwasanaethau mamolaeth, mae ymweliadau wedi parhau, gyda phartneriaid geni yn dod i sganiau dyddio, er mae ymweliadau a'r wardiau ôl-enedigol wedi'u cyfyngu er mwyn lleihau'r risg bod ymwelwyr allanol yn trosglwyddo'r feirws i famau a babanod newydd.
Rhoddodd y Prif Swyddog Gweithredol ddiweddariad hefyd ar yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon, sydd wedi profi trafferthion o ran cynnal gwasanaeth, gan fod dwy o'r pedair nyrs sy'n gweithio yna i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch hir dymor ar hyn o bryd. Mae'r gwasanaeth felly wedi cael ei ymgorffori i wasanaeth Ysbyty'r Tywysog Siarl fel bod modd ei weithredu mewn ffordd fwy cyson ac effeithiol. Y gobaith yw y bydd yr uned yn ailagor yn y Flwyddyn Newydd pan fydd y staff yn ailafael yn eu dyletswyddau.
Diolchodd Arweinydd y Cyngor i aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am eu cyflwyniad a'r berthynas waith agos â'r awdurdod lleol yn ystod pandemig Covid-19, yn arbennig o fewn y sector gofal cymdeithasol sydd dan bwysau aruthrol. Cydnabu'r Arweinydd ewyllys dda pawb er gwaethaf y prinder staff yn y tymor byr a'r anawsterau sy'n cael eu profi ar hyn o bryd. Cyfeiriodd yr Arweinydd at adroddiad diweddaraf y Panel Annibynnol ar Oruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth a nododd fethiannau mawr mewn dros 20 o achosion, a chyhoeddodd ei fod yn teimlo cyfiawnhad am ddweud ei ddweud ar yr adeg honno, a bod celwydd wedi'i ddweud wrtho yngl?n â'r methiannau yn yr achosion hynny, lle gallai'r canlyniad wedi bod yn dra gwahanol pe na bai prinder staff a phe bai digwyddiadau difrifol wedi'u hadrodd. Gofynnodd yr Arweinydd am gadarnhad a oedd yr holl argymhellion a godwyd o ganlyniad i'r adolygiad wedi cael sylw. Rhoddodd gymeradwyaeth i'r arweinwyr presennol a'r garfan weithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i fynd i'r afael a'r materion hyn. Cadarnhaodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod y mesurau diogelu ... view the full Cofnodion text for item 80. |