Lleoliad: rhithwir
Cyswllt: Julia Nicholls - (07385 086814)
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Belzak, A Davies-Jones, M Fidler Jones, K L Jones, J James, M Griffiths, S Pickering, S Rees-Owen, M Tegg, R K Turner, J Williams a C Willis.
|
|
Croeso i Aelodau Newydd Cofnodion: Estynnodd y Llywydd groeso i ddau Aelod newydd y Cyngor, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Trask ac R Williams.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Côd Ymddygiad y Cyngor
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:
Eitem 2 Ariannu Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif gan ddefnyddio amodau Benthyca Darbodus
Ø Cyfeiriodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman at ei gollyngiad a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau ar y 29 Tachwedd 2019 gan ddarparu “gollyngiad i'r aelod siarad a phleidleisio ar bob mater trwy gydol proses Cyllideb 2021-22, a'i mabwysiadu, yn rhinwedd ei swydd yn Arweinydd yr Wrthblaid.”
Ø Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams - “Mae fy merch yn mynychu YG Rhydywaun”
|
|
Rheol Dull Gweithredu'r Cyngor 15.1 Cofnodion: Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor, sy'n nodi y bydd mater yn cael ei benderfynu os bydd mwyafrif ymhlith yr Aelodau sy'n pleidleisio ac sy'n bresennol yn yr ystafell adeg y bleidlais - a hynny fel bod modd cynnal y cyfarfod ar-lein mewn modd didrafferth.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefnu 15.1 y Cyngor
Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y niferoedd a oedd yn bresennol ar gyfer pob un o'r Grwpiau Gwleidyddol fel a ganlyn: -
Gr?p Llafur - 38 aelod Gr?p Plaid Cymru - 14 aelod Gr?p Ceidwadol - 2 aelod Gr?p Annibynnol RhCT - 4 aelod
|
|
Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol ei adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gwerth £12.135 miliwn i gynyddu'r capasiti a gwella'r cyfleusterau addysgol yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Gofynnodd yr adroddiad hefyd am gytundeb i ariannu'r prosiect trwy Grant Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Llywodraeth Cymru, ac i ariannu cyfraniad y Cyngor drwy fenthyciad gan ddefnyddio ei bwerau o dan y Cod Darbodus.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:
1. Cytuno i gynnwys bloc addysgu newydd yn Ysgol Gyfun Rhydywaun yn y rhaglen gyfalaf am gyfanswm o £12.135 miliwn.
2. Cytuno y caiff cost cyfalaf net y Cyngor o £4.247 miliwn ei ariannu trwy fenthyca, gan ddefnyddio pwerau'r Cyngor o dan y Cod Darbodus, gyda'r gost refeniw flynyddol o £0.159 miliwn yn cael ei thalu o arbedion sy'n deillio o hyn a chynlluniau ad-drefnu ysgolion blaenorol eraill.
(Nodyn: Ymataliodd y Gr?p Ceidwadol rhag pleidleisio ar y mater)
|
|
Hepgor Rheol Presenoldeb 6 Mis y Cynghorwyr PDF 103 KB Trafod adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Cofnodion: Twy ei adroddiad ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, gofynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i'r Cyngor ystyried rhoi caniatâd i fod yn absennol o holl gyfarfodydd y Cyngor a'i Bwyllgorau i'r Cynghorydd Clayton Willis oherwydd ei salwch presennol. Byddai'r caniatâd i fod yn absennol, yn unol ag adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, am gyfnod o hyd at chwe mis yn gorffen ar 26 Tachwedd 2021 neu nes i'r Cynghorydd Willis ailafael yn y cyfarfodydd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod cyfathrebu cyson wedi bod gyda theulu'r Cynghorydd Willis a gyda'i Arweinydd Gr?p, ac ar ôl hynny, penderfynwyd ei bod yn briodol ceisio caniatâd y cyngor ar gyfer y rheol chwe mis.
Yn dilyn trafodaeth a chais am anfon dymuniadau gorau'r Cyngor i deulu’r Cynghorydd Willis, PENDERFYNWYD rhoi'r y caniatâd hwnnw i fod yn absennol o holl gyfarfodydd y Cyngor a'r Pwyllgor i'r Cynghorydd Clayton Willis oherwydd ei salwch presennol am gyfnod o hyd at chwe mis, yn gorffen ar 26 Tachwedd 2021, neu nes iddo ailafael yn y cyfarfodydd os yw hynny'n gynt, yn unol ag Adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
(Nodyn: roedd Gr?p Annibynnol RhCT yn dymuno ymatal rhag pleidleisio ar y mater ond roedden nhw'n dymuno estyn eu dymuniadau gorau i'r Cynghorydd C Willis a'i deulu).
|
|
Amrywiaeth mewn Democratiaeth PDF 124 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adroddiad 'Amrywiaeth mewn Democratiaeth' Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n amlinellu'r gwaith a wnaed gan Weithgor Trawsbleidiol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Amrywiaeth o ran Democratiaeth leol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y cynigion yn cael eu cefnogi gan holl Arweinwyr Gr?p Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a'i fod yn ceisio cefnogaeth pob cyngor yng Nghymru i gymeradwyo'r egwyddorion yn y datganiad. Nod hyn yw cynyddu cyfranogiad ac ehangu amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr ar gyfer Etholiadau 2022.
Hefyd rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod i'r aelodau am y gwaith a wnaed gan Weithgor Amrywiaeth Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor a'r adroddiad yr oedd y Pwyllgor wedi'i fabwysiadu'n ddiweddar. Mae'r adroddiad yn nodi'r camau gweithredu y bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn eu rhoi ar waith dros y flwyddyn nesaf i gefnogi amrywiaeth ymgeiswyr a'r ddarpariaeth sy'n ofynnol, trwy grwpiau gwleidyddol, i wireddu'r uchelgeisiau yn yr adroddiad interim a datganiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Estynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei ddiolch i Ms Emma Wilkins am lunio'r adroddiad interim manwl.
I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, os yw'r Cyngor yn cefnogi datganiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddod yn 'Gyngor Amrywiol' heno, yna Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fyddai'r Cyngor cyntaf i wneud hynny.
Canmolodd yr Aelod Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor a Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Cyngor adroddiad a gwaith y Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dan arweiniad y Cyd-gadeirydd - y Cynghorydd Mary Sherwood, sy'n llefarydd ar ran Cydraddoldebau, Diwygio Lles a Gwrth-dlodi, a'r Cyd-Gadeirydd - y Cyng Susan. Elsmore, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Gydraddoldebau, Diwygio Lles a Gwrth-dlodi. Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet hefyd i aelodau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am eu cyfraniadau i'r adroddiad interim ac i'r agenda amrywiaeth sy'n cyd-fynd â'r gwaith y mae'r Cyngor wedi bod yn ceisio'i gyflawni ers nifer o flynyddoedd.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor bwysigrwydd cefnogi datganiad amrywiaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a fyddai'n hyrwyddo amrywiaeth o fewn y Cyngor.
Yn ystod ei thrafodaethau, yn arbennig ynghylch y set ddata yn adroddiad interim y Gweithgor Gwasanaethau Democrataidd, gwnaeth Arweinydd Gr?p Plaid Cymru sylwadau am y cyfle a gollwyd i benodi Cadeirydd benywaidd i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ddiweddar, yn ogystal â penodi Cadeirydd benywaidd yn Gadeirydd ar Weithgor y Gwasanaethau Democrataidd. Dywedodd fod angen i'r Cyngor wella ei gymhareb o ran Cadeiryddion Pwyllgorau sy'n fenywod ac yn ddynion. Roedd Arweinydd yr Wrthblaid yn dymuno cywiro enw'r Cynghorydd E Stephens yn ffurfiol yn yr adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth bellach, cydnabuwyd dull cadarnhaol y Cyngor o hyrwyddo'r Gymraeg. Gwnaed sylwadau pellach ar bwysigrwydd trin pob Aelod yn gyfartal, waeth beth fo'u hoedran, rhyw a chefndir, yn ogystal â phwysigrwydd ymrwymo i'r fesur canlyniadau'r argymhellion sy'n deillio o'r adroddiad Amrywiaeth.
Roedd Cadeirydd y Gweithgor Amrywiaethyn falch o gyflwyno'r adroddiad interim a chefnogi'r datganiad amrywiaeth i'w fabwysiadu gan y Cyngor. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r argymhellion yn yr adroddiad yn ... view the full Cofnodion text for item 21. |