Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol Sera Evans, M Fidler Jones, S Pickering, M Tegg a C Willis.
|
|||||||
Croeso a Chyflwyniadau Cofnodion:
|
|||||||
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:
Mewn perthynas ag Eitem 14 - Datganiad Polisi Cyflog y Cyngor:
|
|||||||
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Derbyn cyflwyniad PowerPoint gan Gyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chadeirydd y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol, sy'n rhoi manylion i Aelodau ynghylch Rhaglen Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r gwaith sydd wedi'i gyflawni hyd yma.
Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor Gyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chadeirydd y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol (RECP) a roddodd gyflwyniad Powerpoint a oedd yn mynd i'r afael â'r meysydd a ganlyn: -
Ø Crynodeb Gweithredol - y pedair blynedd diwethaf a'r hyn sydd i ddod
Ø CCR - Cysylltiedig, Cystadleuol, Cydnerth - Mae gyda ni ymdeimlad cryf o bwrpas sylfaenol
Ø Sylfeini Cadarn - Data, Proses, Fframweithiau a Chydweithio
Ø Strwythurau Llywodraethu a Phartneriaeth
Ø Llywodraethu a Gwaith Ymgysylltu â Phartneriaid Effeithiol - Rydyn ni wedi trawsnewid arferion gwaith a chyflymder gwneud penderfyniadau
Ø Cronfa Buddsoddi ac Ymyrraeth
Ø Prosiectau Cymeradwy hyd yn hyn
Ø Llinell amser ehangach o ran buddsoddi
Ø Effaith Ehangach y Buddsoddiad - Prosiect Ffowndri CS a Chlwstwr
Ø Trosolwg o'r Effaith - Beth mae hyn i gyd yn ei olygu i RhCT?
Ø Y dyfodol i RhCT…?
Ø Cyd-bwyllgorau Corfforaethol Newydd
Ø Buddsoddiad Cyhoeddus Rhanbarthol
Ø Cabinet Rhanbarthol - (Cydbwyllgor Corfforaethol)
Ø Y Pum Mlynedd Nesaf a Gwaith Pellach
Ø Pam Gweithredu fel Rhanbarth? Gyda'n gilydd, mae pawb yn gyflawni rhagor (Together Everyone Achieves More)
Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Gyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chadeirydd y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol (REGP) am eu trosolwg cynhwysfawr.
Amlinellodd yr Arweinydd rai o brosiectau allweddol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd megis y Gronfa Buddsoddi Tai a'r Cynllun Graddedigion, y cytunwyd arno ac a ehangwyd gan y cyllid gan y 10 Awdurdod Lleol, Zip World, Hwb Trafnidiaeth y Porth (gyda buddsoddiad o dros £6 miliwn) ac amlinellodd y buddion o arian cyfatebol gan LlC ar nifer o brosiectau. Cyfeiriodd at fuddsoddi mwy na £200 miliwn o gyllid metro yn RhCT, fel buddiolwr allweddol cyllid craidd Metro trwy welliannau i'r gorsafoedd a'r llinellau trydan i Gaerdydd. Strategaeth gwefru cerbydau trydan ledled y rhanbarth gydag arian pellach gan LlC. Soniodd yr Arweinydd am safleoedd strategol fel yr A465 a datblygiad posibl safleoedd diwydiannol segur sydd i gyd wedi hyrwyddo'r berthynas waith agosach rhwng y 10 Awdurdod Lleol, a chyfeiriodd at y manteision y bydd y Fargen Ddinesig yn eu cynnig i'r Awdurdod Lleol yma.
Y Cynghorydd P Jarman (Gr?p Plaid Cymru)
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod targedau'r Fargen y soniwyd amdanyn nhw yn ymestyn dros gyfnod o 20 mlynedd o fis Mawrth ... view the full Cofnodion text for item 111. |
|||||||
Cyhoeddiadau Cofnodion:
Dywedodd y Cynghorydd Jarman ei bod yn braf bod y Cyngor eisoes wedi gwneud cyhoeddiad bod Alfie Ford, 12 oed, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Aberpennar, wedi ennill £1,000 i elusen o'i ddewis, Ysbyty Plant Noah's Ark. Roedd ei brosiect 'First Give' yn rhoi bagiau bach o hapusrwydd i weithwyr hanfodol ar y rheng flaen, i ddiolch am bopeth maen nhw wedi'i wneud trwy gydol y pandemig. Talodd y Cynghorydd Jarman deyrnged hefyd i Trudy Fisher, gweithiwr hanfodol sy'n Gydlynydd Prosiect Cynhalwyr Ifainc sy'n darparu cefnogaeth i blant rhwng 5-18 oed ac sydd wedi cefnogi anghenion y cynhalwyr ifainc hyn a'u teuluoedd gyda bwyd a grantiau trydan, a sicrhau bod lleisiau'r plant hyn yn cael eu clywed. Mae hi wedi cael ei henwebu am Wobr Dewi Sant gan Brif Weinidog Cymru (gyda'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ar 24 Mawrth 2021). Gofynnodd y Cynghorydd Jarman am anfon llythyr gan y Maer at y ddau i gydnabod eu cyflawniadau a dymuno'n dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.
|
|||||||
Rheol Dull Gweithredu'r Cyngor 15.1 Cofnodion: Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor, sy'n nodi y bydd mater yn cael ei benderfynu os bydd mwyafrif ymhlith yr Aelodau sy'n pleidleisio ac sy'n bresennol yn yr ystafell adeg y bleidlais - a hynny fel bod modd cynnal y cyfarfod ar-lein mewn modd didrafferth.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefnu 15.1 y Cyngor
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd, mai nifer y pleidiau gwleidyddol a oedd yn bresennol yn y cyfarfod oedd: - Gr?p Llafur - 43 Gr?p Plaid Cymru - 15 Gr?p Annibynnol RhCT - 6 Gr?p y Ceidwadwyr - 2 Aelod Annibynnol - 1
|
|||||||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn rhai cywir:
· 20 Ionawr 2021 · 10 Chwefror 2021
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo Cofnodion cyfarfodydd rhithwir y Cyngor o 20 Ionawr a 10 Chwefror 2021 fel adlewyrchiad cywir o'r cyfarfodydd, ar yr amod eu bod yn nodi bod Gr?p y Ceidwadwyr wedi ymatal rhag pleidleisio ar y Rhybudd o Gynnig fel y nodir yng Nghofnodion yr 20 Ionawr 2021 (Cofnod 94).
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Mr C Davies, Rheolwr Archwilio, Archwilio Cymru, Grynodeb Archwilio blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2020 gan nodi'r gwaith a gwblhawyd ers yr Adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2019. Dywedwyd wrth y Cyngor fod y crynodeb archwilio yn rhan o ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac eleni wedi'i gyflwyno mewn fformat mwy hygyrch a chryno. Ychwanegodd mai hon fyddai'r flwyddyn olaf iddo ef a'i gydweithiwr Ms J Davies gyflwyno'r crynodeb ar gyfer RhCT gan fod y ddau ohonyn nhw'n symud ymlaen i brosiectau eraill.
Yn dilyn y cyflwyniad, diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r ddau Swyddog am yr adroddiad a nododd fod y berthynas onest ac agored rhwng y Cyngor ac Archwilio Cymru wedi bod yn adeiladol ac yn ddefnyddiol i'r Cyngor o ran cydnabod a blaenoriaethu'r meysydd hynny lle bu angen gwelliannau. Yn dilyn trafodaeth a sylwadau gan yr Arweinwyr Gr?p PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad.
|
|||||||
Datganiadau Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:
Cofnodion: Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd ddatganiad mewn perthynas â goleuo adeiladau allweddol amlwg ledled RhCT ar 23 Mawrth, yn arwydd o barch i gymunedau RhCT ac er mwyn diolch i'r GIG a'r holl staff wrth nodi dyddiad blwyddyn swyddogol ers dechrau'r Cyfyngiadau Symud.
|
|||||||
Cwestiynau gan yr Aelodau PDF 158 KB Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Cofnodion:
“Oes modd i'r Arweinydd roi diweddariad ar y cynlluniau ar gyfer yr Orsaf Drenau newydd yn Ystâd Treforest?” Ymateb gan Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan: Dywedodd yr Arweinydd fod RhCT yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru (TFW) a Llywodraeth Cymru (LlC) ar ddatblygu’r orsaf newydd sy’n faes blaenoriaeth ar Llinellau’r Cymoedd ac y bydd yn cael ei lleoli ar ochr arall yr afon i ble mae Swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau, gyda phont droed newydd, sy'n cydymffurfio ag amodau teithio llesol, yn mynd o Willow Ford Road ac yn cysylltu â'r Ystad. Mae Trafnidiaeth Cymru yn symud ymlaen gyda dyluniad cam C y datblygiad ac mae Cyngor RhCT yn cefnogi'r cynulliad tir sy'n ofynnol. Dywedodd yr Arweinydd fod trafodaethau ar ariannu rhaglenni yn parhau ac o'r flwyddyn ariannol gyfredol a'r flwyddyn ariannol nesaf mae cynnydd gyda chyllid rhanbarthol yn mynd rhagddo, a bydd y cynllun yn cael ei gymryd ymlaen dros y ddwy flynedd nesaf. Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol
Gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M.J.Powell i Arweinydd y Cyngor (Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A.Morgan):
“Oes modd i'r Cynghorydd Morgan yn nodi beth yw polisi neu agwedd y Cyngor tuag at leihau allyriadau cerbydau i wella ansawdd aer mewn ardaloedd preswyl yng ngoleuni RhCT yn sgil dyfarniad diweddar Crwneriaid Southwark, dolen isod (Saesneg yn unig). "On 16 December, Southwark Coroner's Court in London
found that air pollution "made a material contribution" to the
death of nine-year-old Ella
Adoo-Kissi-Debrah."
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan: “Dywedodd yr Arweinydd fod Ella Adoo-Kissi-Debrah yn byw ger Ffordd Gylchol brysur yn Lewisham ac yn dioddef gyda math prin o asthma acíwt a oedd yn ei gwneud hi'n agored i niwed gan nwyon gwenwynig a gronynnau. Cadarnhaodd y Crwner fod ei marwolaeth oherwydd cyflyrau genetig ac yn rhannol oherwydd yr amgylchedd. Ar ran y Cyngor, estynnodd yr Arweinydd ei gydymdeimlad â'r teulu a thalu teyrnged i'r ffordd ddewr yr oedden nhw wedi tynnu sylw at y materion. Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn asesu ansawdd aer yn RhCT yn rheolaidd ac wedi gwneud hynny ers diwedd y 1990au i gael gwell dealltwriaeth o'r materion cymhleth sy'n ymwneud ag ansawdd aer lleol ac i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, ac mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn y monitro tymor hir rhai llygryddion aer fel Nitrogen Deuocsid. Mae monitro'n dangos bod lefelau ansawdd aer yn RhCT wedi gwella'n sylweddol ers diwedd y 1990au ac mae'r lefelau yn is na'r amcanion ansawdd aer a osodwyd yn genedlaethol. Mae rhai lleoliadau yn y fwrdeistref sirol yn fwy heriol o ran ansawdd aer gwael a Nitrogen Deuocsid cysylltiedig â thraffig, ac mae'r ardaloedd hyn wedi'u nodi fel ardaloedd rheoli ansawdd aer. Trwy fabwysiadu cynlluniau gweithredu ansawdd aer pwrpasol, mae'r Cyngor wedi nodi nifer o gamau cost-effeithiol yn ymwneud â rheoli traffig. Dywedwyd wrth yr aelodau bod opsiynau traffig cynaliadwy yn cael eu hannog megis y cynlluniau ... view the full Cofnodion text for item 117. |
|||||||
Rhaglen Waith y Cyngor 2020/2021 Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad ynghylch Rhaglen Waith y Cyngor a chyhoeddodd nad oedd unrhyw newidiadau nac ychwanegiadau i raglen waith y Cyngor 2020/21 fel y'u cyhoeddwyd.
|
|||||||
Diffyg presenoldeb gan Gynghorydd am Chwe Mis PDF 142 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ei adroddiad mewn perthynas â Chynghorydd yn cael ei ddiswyddo o ganlyniad i ddiffyg presenoldeb mewn cyfarfodydd. Fel rhan o'i gyflwyniad amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y darpariaethau Adran 85 ac 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“LGA 1972”), sy'n delio â chynghorydd yn gadael swydd oherwydd methu â mynychu cyfarfodydd; a gwybodaeth mewn perthynas â diffyg presenoldeb aelod o GBS Rhondda Cynon Taf mewn cyfarfodydd dros gyfnod o fwy na chwe mis, heb i'r Cyngor gymeradwyo caniatâd i fod yn absennol.
Atgoffodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Cyngor, ymhellach i gyflwyno Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 ar 22 Ebrill 2020, y bu diwygiad pellach i adran 85 o LGA 1972 a nododd y dylai'r y cyfnod o 22 Ebrill 2020 i'r diwrnod cyntaf y cynhelir cyfarfod (ac y gallai Aelod ei fynychu) gael ei ddiystyru at ddibenion cofnodi presenoldeb Aelod mewn cyfarfodydd a gweithredu'r rheol chwe mis.
Ar adeg cyflwyno'r rheoliadau, roedd y Cyngor ailgyflwyno swyddogaethau pwyllgor yn gynyddrannol, er mwyn caniatáu i Aelodau adeiladu profiad yn gweithredu mewn amgylchedd rhithwir ac i bawb dan sylw ennill profiad o ddefnyddio platfform Zoom. Roedd y dull hwn yn rhoi'r cyfle gorau posibl i'r holl aelodau gymryd rhan mewn hyfforddiant a chyfarfodydd rhithwir.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, er gwaethaf ymdrechion rhesymol i gysylltu â'r Cynghorydd Gavin Williams (ar gyfer ward Etholiadol Penrhiwceiber), nad oedd yr Aelod wedi mynychu cyfarfod am gyfnod o chwe mis (y cyfarfod diwethaf a fynychwyd oedd Cyngor ar 4 Mawrth 2020) heb reswm a gymeradwywyd gan y Cyngor dros ei ddiffyg presenoldeb o fewn y cyfnod hwnnw.
|
|||||||
Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 PDF 246 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ei adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y setliad llywodraeth leol terfynol ar gyfer 2021/22 ac yn nodi argymhellion y Cabinet mewn perthynas â Chyllideb Refeniw'r Cyngor a lefel Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben 31 Mawrth 2022.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol am “benawdau” Setliad Terfynol 2021/22 fel y nodir yn adran 4 yr adroddiad ac yn y setliad ar gyfer Rhondda Cynon Taf, sy'n gyfystyr â chynnydd mewn cyllid o 3.8% ar gyfer y flwyddyn nesaf, sydd yr un fath â chynnydd cyfartalog Cymru gyfan. Roedd adnoddau ychwanegol ynghlwm â'r costau terfynol yn cynnwys £206 miliwn i dalu costau ategol a cholledion incwm oherwydd y pandemig ac mae'n cynnwys 6 mis cyntaf y flwyddyn newydd.
Esboniodd y Cyfarwyddwr fod gofyniad cyllideb wedi'i ddiweddaru y Cyngor ar gyfer y Flyddyn nesaf wedi'i gyflwyno i'r Cyngor ar 20 Ionawr 2021, ac roedd bwlch cyllidebol o £4.057 miliwn yn weddill. Mae'r Cabinet wedi ystyried ei opsiynau o ran strategaeth gyllidebol 2021/22 yn erbyn y manylion hyn, a nodir ym mharagraff 7 yr adroddiad.
Soniodd y Cyfarwyddwr am nifer o feysydd a nodwyd ar gyfer adnoddau a buddsoddiad ychwanegol megis ymestyn y Cynllun Rhyddhad Lleol Domestig, adnoddau ychwanegol i hyrwyddo gweithgarwch lleihau Carbon a Newid Hinsawdd y Cyngor, recriwtio mwy o raddedigion ac ehangu rhaglenni lles a rhewi nifer o ffioedd a thaliadau yn ystod y flwyddyn nesaf.
I gloi, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at y crynodeb o gynigion y strategaeth gyllideb a nodir yn nhabl 1 yn adran 10 yr adroddiad gyda'r bwlch cyllidebol sy'n weddill o £711,000 y gellir ei gydbwyso â dyraniad o'r cyllid pontio a ailgyflenwyd eisoes, gan arwain at gyllideb gytbwys arfaethedig o £527.903 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Cafwyd trafodaeth wedyn gan yr Arweinwyr Gr?p a oedd yn cydnabod lefelau ymgysylltu ar gyfer y broses ymgynghori mewn perthynas â chyllideb y Cyngor a nifer o ymholiadau fel y grant yn ymwneud â chynhyrchion misglwyf i ysgolion a chostau cysylltiedig â Covid. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau ariannu holl gostau a cholledion incwm a fydd ar ddiwedd Chwarter 3 yn codi i tua £46 miliwn ar gyfer y flwyddyn lawn.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi'r datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (Julie James Aelod Senedd Cymru) a'r tabl ar setliad llywodraeth leol terfynol 2021/2022, yn Atodiad 1 i'r adroddiad;
2. Nodi'r goblygiadau i'r Cyngor a'r bwlch sy'n weddill yn y gyllideb fel sydd wedi'i nodi yn adran 5 yr adroddiad;
3. Cytuno ar gynnydd o 2.65% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2021/22;
4. Cytuno ar y cynnydd yng Nghyllideb Grynswth yr Ysgolion fel yn adran 8 yr adroddiad;
5. Cytuno ar gynigion strategaeth y gyllideb fel ym mharagraffau 10.3 (a) i 10.3 (i) yr adroddiad;
6. Cytuno i ddefnyddio'r 'Gronfa Gweddnewid Gwasanaeth a Chynllunio Ariannol Tymor Canolig' fel arian pontio, sef cyfanswm o £0.711 miliwn ar gyfer 2021/22;
7. Cymeradwyo Tablau 3 a 4 yn Adran 13 ... view the full Cofnodion text for item 120. |
|||||||
Penderfyniad Treth y Cyngor 2021/22 PDF 209 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol
Cofnodion: Yn ei adroddiad, rhoddodd y Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol fanylion cyfrifiad Treth Cyngor yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben 31 Mawrth, 2022, cyn pasio'r penderfyniadau statudol angenrheidiol.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:
|
|||||||
Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 PDF 316 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol
Cofnodion: Mae'r adroddiad yma'n egluro Rhaglen Gyfalaf arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2021/22 i 2023/234, yn dilyn cadarnhau'r setliad llywodraeth leol terfynol ar gyfer 2021/22.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:
· Benthyca darbodus i gefnogi Cynlluniau Ysgolion yr 21ain ganrif a chynlluniau gwella'r priffyrdd; · Grantiau cyfalaf ar gyfer cynlluniau penodol; · Cyfraniadau trydydd parti; · Adnoddau ychwanegol y Cyngor a gafodd eu dyrannu'n flaenorol i gefnogi cynlluniau sy'n bodoli eisoes a blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol; · Y blaenoriaethau buddsoddi ym mharagraff 6.2, sydd wedi'u hariannu gan arian cyfalaf un tro oddi wrth Lywodraeth Cymru sydd wedi'i nodi ym mharagraff 3.2, rhyddhau Cronfeydd Wrth Gefn wedi'u clustnodi yn unol â pharagraff 5.3, a Benthyca Darbodus yn unol â pharagraff 5.5 - 5.8.
(Nodwch:Ymataliodd y Gr?p Ceidwadol rhag pleidleisio ar y mater).
|
|||||||
Strategaeth Reoli'r Trysorlys PDF 292 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol ei adroddiad gyda'r bwriad o nodi: -
Yn dilyn trafodaeth am yr adroddiad PENDERFYNWYD cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Fuddsoddi, Dangosyddion y Trysorlys, a'r Datganiad Polisi Darpa
|
|||||||
Adroddiad Strategaeth Gyfalaf 2021/22 PDF 253 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi trosolwg o sut mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gwaith rheoli'r trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau'r Cyngor, ynghyd â throsolwg o'r risg gysylltiedig, sut y caiff hynny ei reoli a'r goblygiadau o ran cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r adroddiad Strategaeth Cyfalaf sy'n ymgorffori'r Dangosyddion Darbodus.
(Nodwch: Ymataliodd y Gr?p Ceidwadol rhag pleidleisio ar y mater)
|
|||||||
Datganiad y Cyngor ar y Polisi Cyflogau 2021/22 PDF 210 KB Derbyn Adroddiad ar y Cyd Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol.
Cofnodion: Yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011, rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol wybodaeth i'r Aelodau am Ddatganiad Polisi Cyflogau 2021/22 y Cyngor.
Yn dilyn trafodaeth a sicrwydd bod y Cap Gadael wedi'i ddiddymu, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad Polisi Cyflog fel y dangosir yn Atodiad A yr adroddiad.
|
|||||||
Rhybuddion o Gynigion Trafod y Rhybudd o Gynnig canlynol sydd wedi'i gyflyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol L. M. Adams, S. Bradwick, D. R. Bevan, H Boggis, J. Bonetto, J Brencher, A Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L De Vet, J. Edwards, J Elliott, S. Evans, M Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, G. Jones, R. Lewis, W Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen Jones, S Pickering, S. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G Stacey, M Tegg, G Thomas, W Treeby, R K Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams, C. J. Willis a R. Yeo.
Mae pandemig byd-eang COVID-19 wedi bod yn eithriadol o anodd i fusnesau, gyda llawer o bobl ledled y wlad, y DU a thu hwnt yn gorfod cau wrth i ni geisio rheoli lledaeniad y feirws a chadw pobl yn ddiogel. Yn naturiol, mae hyn wedi cael effaith niweidiol ar y rhai sy'n gweithio yn y sectorau yr effeithir arnynt, gyda miliynau ledled y DU yn cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo, a llawer o rai eraill yn colli eu swyddi. Yng ngoleuni'r sefyllfa ddigynsail yma, nid nawr yw'r amser ar gyfer anghydfodau ynghylch tâl ac amodau gwaith.
Mae'r Cyngor yma'n nodi'r anghydfod parhaus rhwng British Gas (a'i riant-gwmni Centrica) a'i weithwyr gweithgar - sydd wedi cael eu bygwth â cholli swyddi os nad ydyn nhw'n derbyn cyflog is ac amodau gwaeth. Oherwydd y streic a gefnogwyd gan fwyafrif helaeth y staff a'r peirianwyr, mae mwy na 100,000 o gwsmeriaid wedi'u gadael yn aros am wasanaeth, a bydd y nifer yma'n cynyddu dros yr wythnosau nesaf trwy gydol y gaeaf.
Mae'r anghydfod yma yn aflonyddwch diangen, gyda Centrica yn nodi elw sylweddol o £901 miliwn yn 2019 (cyn eitemau eithriedig a threth), tra bod proffidioldeb y busnes gwresogi cartrefi yn y DU wedi codi 27% yn ystod 6 mis cyntaf 2020, gyda chyfran sylweddol o'r boblogaeth yn gweithio gartref oherwydd y pandemig.
Mae'r Cyngor yma'n nodi:
· Y gwaith gwerthfawr y mae staff a pheirianwyr yn ei wneud i gadw cartrefi Prydain yn gynnes - gyda gweithwyr yn aml yn gorfod ymweld â chartrefi pobl yn ystod y pandemig i sicrhau bod gyda nhw fodd o wresogi'u cartref a'u bod nhw'n byw'n gyfforddus.
· Y gweithredoedd a'r bygythiadau anghyfiawn a wnaed gan Centrica i weithwyr British Gas - yn enwedig o ystyried sefyllfa ariannol ddiweddar y cwmni. Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu:
· Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Centrica i amlinellu cefnogaeth y Cyngor yma i weithwyr British Gas lleol.
***
Cofnodion: Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: L. M. Adams, S. Bradwick, D. R. Bevan, H Boggis, J. Bonetto, J Brencher, A Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L De Vet, J. Edwards, J Elliott, S. Evans, M Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, G. Jones, R. Lewis, W Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen Jones, S Pickering, S. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G Stacey, M Tegg, G Thomas, W Treeby, R K Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams, C. J. Willis a R. Yeo.
"Mae pandemig byd-eang COVID-19 wedi bod yn eithriadol o anodd i fusnesau, gyda llawer o bobl ledled y wlad, y DU a thu hwnt yn gorfod cau wrth i ni geisio rheoli lledaeniad y feirws a chadw pobl yn ddiogel. Yn naturiol, mae hyn wedi cael effaith niweidiol ar y rhai sy'n gweithio yn y sectorau yr effeithir arnynt, gyda miliynau ledled y DU yn cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo, a llawer o rai eraill yn colli eu swyddi. Yng ngoleuni'r sefyllfa ddigynsail hon, nid nawr yw'r amser i anghydfodau o ran gordalu ac amodau.
Mae'r Cyngor yma'n nodi'r anghydfod parhaus rhwng British Gas (a'i riant-gwmni Centrica) a'i weithwyr gweithgar - sydd wedi cael eu bygwth â cholli swyddi os nad ydyn nhw'n derbyn cyflog is ac amodau gwaeth.
Oherwydd y streic a gefnogwyd gan fwyafrif helaeth y staff a'r peirianwyr, mae mwy na 100,000 o gwsmeriaid wedi'u gadael yn aros am wasanaeth, a bydd y nifer yma'n cynyddu dros yr wythnosau nesaf trwy gydol y gaeaf.
Mae'r anghydfod yma yn aflonyddwch diangen, gyda Centrica yn nodi elw sylweddol o £901 miliwn yn 2019 (cyn eitemau eithriedig a threth), tra bod proffidioldeb y busnes gwresogi cartrefi yn y DU wedi codi 27% yn ystod 6 mis cyntaf 2020, gyda chyfran sylweddol o'r boblogaeth yn gweithio gartref oherwydd y pandemig.
Mae'r Cyngor yma'n nodi:
· Y gwaith gwerthfawr y mae staff a pheirianwyr yn ei wneud i gadw cartrefi Prydain yn gynnes - gyda gweithwyr yn aml yn gorfod ymweld â chartrefi pobl yn ystod y pandemig i sicrhau bod gyda nhw fodd o wresogi'u cartref a'u bod nhw'n byw'n gyfforddus.
· Y gweithredoedd a'r bygythiadau anghyfiawn a wnaed gan Centrica i weithwyr British Gas - yn enwedig o ystyried sefyllfa ariannol ddiweddar y cwmni.
Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu:
· Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Centrica i amlinellu cefnogaeth y Cyngor yma i weithwyr British Gas lleol.
Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.
(Nodwch: Y Gr?p Ceidwadol ymatal rhag pleidleisio ar y mater).
|