Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services 01443 424098
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y sawl a oedd yn bresennol a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol L. M. Adams, S. Belzak, A. Davies-Jones, S. Evans, D. Grehan, M. Griffiths, J. Harries, J. James, K. L. Jones, K. Morgan, W. Owen, M. Tegg, G. Williams, D. Williams a C. Willis.
|
|||||
Datganiad o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Côd Ymddygiad y Cyngor
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud: · Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Davies fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 6 yr agenda, Cwestiynau gan Aelodau - 'Mewn perthynas â chwestiwn 2, rwy'n gweithio mewn Banc Bwyd'; · Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E. Stephens fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 9 yr agenda, Rhybudd o Gynnig – 'Rwy'n gweithio i'r Adran Gwaith a Phensiynau, sy'n darparu Credyd Cynhwysol, sef pwnc un o'r cynigion. Ni fyddaf yn cymryd rhan yn y drafodaeth a byddaf yn ymatal rhag pleidleisio'; · Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 6 yr agenda, Cwestiynau gan Aelodau – 'Mewn perthynas â chwestiwn 2, rwy'n gwirfoddoli ym Manc Bwyd Merthyr Cynon'; Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E. George fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 6 yr agenda, Cwestiynau gan Aelodau – 'Mewn perthynas â chwestiwn 2, rwy'n gwirfoddoli ym Manc Bwyd Merthyr Cynon'. |
|||||
Incwm Sylfaenol Cynhwysol Derbyn cynrychiolwyr o garfan RhCT ac UBI Lab Cymru, sy'n rhoi cyfle i'r Aelodau drafod y mater mewn cyd-destun lleol ac ar gyfer Cymru gyfan.
Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor ddiweddariad ar lafar gan Mr J. Williams (UBI Lab Cymru) a Mr S. Thomas (UBI Lab RhCT), a geisiodd ddarparu gwybodaeth i Aelodau am y gwaith sydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag Incwm Sylfaenol Cynhwysol o safbwynt lleol a safbwynt Cymru gyfan.
Cyn y cyflwyniad, manteisiodd y cynrychiolydd ar y cyfle i ddiolch i Gyngor RhCT am gefnogi a mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig mewn perthynas ag Incwm Sylfaenol Cynhwysol yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2020.
Cafodd yr Aelodau wybod bod UBI Cymru yn hyb i'r labiau yn y Bwrdeistrefi yn y bôn, a'r uchelgais yw i Awdurdodau Lleol eraill ddilyn camre RhCT wrth gefnogi Incwm Sylfaenol Cynhwysol. Er mwyn cyflawni'i nod a gyrru'r drafodaeth am Incwm Sylfaenol Cynhwysol yn ei flaen, roedd UBI Cymru yn sefydlu labiau ar draws Cymru ac yn gweithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i gytuno ar ddiffiniad o Incwm Sylfaenol Cynhwysol yng nghyd-destun Cymru.
Yn ystod y cyflwyniad, rhoddodd y cynrychiolwyr wybodaeth fanwl i'r Aelodau am y canlynol:
Manteisiodd Arweinydd y Cyngor ar y cyfle i ddiolch i'r unigolion am y diweddariad cynhwysfawr. Cydnabu'r Arweinydd yr amddifadedd y mae pobl yn ei brofi yn y Fwrdeistref, yn enwedig yn ystod y pandemig Covid-19, a nododd pe bai cyllid ar gael wrth Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, bydd RhCT yn cefnogi treialu cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cynhwysol. Pwysleisiodd yr Arweinydd ei fod yn bosibl y byddai canlyniadau'r cynllun peilot yn awgrymu nad Incwm Sylfaenol Cynhwysol yw'r ffordd orau ymlaen, ond roedd yn fodlon cefnogi ei dreialu.
Cyfeiriodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman at ddatganiad UBI Lab Cymru syn nodi fod 8% o bobl yn unig yn gwybod beth yw Incwm Sylfaenol Cynhwysol a gofynnodd sut y byddai gwybodaeth am y cynllun peilot yn cael ei chyfathrebu â chymunedau lleol. Dywedodd y cynrychiolydd y byddai'r labiau yn y Bwrdeistrefi yn ceisio ymgysylltu wyneb yn wyneb â chymunedau lleol, yn dibynnu ar reoliadau Covid-19 yn y dyfodol. Byddai hyn yn ychwanegol at ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a phapurau newyddion.
Soniodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Powell am astudiaethau achos tebyg ac roedd yn fodlon cefnogi cynllun peilot yn RhCT. Awgrymodd yr Aelod y dylai'r cynllun peilot dargedu'r cymunedau sydd wedi'u hamddifadu fwyaf a theimlodd y byddai'n rhaid ei weithredu dros gyfnod estynedig, er mwyn gweld unrhyw fuddion a allai ddod ohono.
|
|||||
Cyhoeddiadau Cofnodion:
Llongyfarchodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Rees-Owen yr actor lleol Callum Scott Howells am ei berfformiad yn nrama newydd Russell T. Davies, 'It's a Sin', a soniodd am lwyddiant Callum a'r sioe. Soniodd y Cynghorydd Rees-Owen am y cymeriad y buodd Callum yn ei chwarae, a oedd wedi cyffwrdd â'r gwylwyr, a rhoi gobaith iddynt. Siaradodd yr Aelod am berfformiadau Callum yn Theatr y Parc a'r Dâr dros y blynyddoedd, gan gyfeirio at berfformiadau gydag Only Boys Aloud ac Ysgol Gyfun Treorci, lle y bu Callum yn brif fachgen. Cafodd yr Aelodau wybod bod Callum wedi diolch i'r sîn gelfyddydau leol am y cyfleoedd a'r llwyfannau a oedd ar gael iddo, er mwyn ei helpu i ddysgu a ffynnu. Nododd y Cynghorydd Rees-Owen y dyfodol disglair a chyffrous sy'n aros Callum a dymunodd y gorau iddo. |
|||||
Council Procedure Rule 15.1 Cofnodion: Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor, sy'n nodi y bydd mater yn cael ei benderfynu os bydd mwyafrif ymhlith yr Aelodau sy'n pleidleisio ac sy'n bresennol yn yr ystafell adeg y bleidlais - a hynny fel bod modd cynnal y cyfarfod ar-lein mewn modd didrafferth.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor
|
|||||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn rhai cywir:
Ø 25 Tachwedd 2020 Ø 16 Rhagfyr 2020
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y 25 Tachwedd 2020 a 16 Rhagfyr 2020 yn rhai cywir.
|
|||||
Datganiadau Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:
Cofnodion: Datganiad gan y Dirprwy Arweinydd ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor
Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd wybod i'r Aelodau am ffair yrfaoedd rithwir y Cyngor a oedd wedi digwydd yn y gynharach y diwrnod hwnnw. Nododd mai hon oedd y ffair yrfaoedd rithwir gyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru. Roedd dros 30 o gyflogwyr yn cymryd rhan a 525 o swyddi gwag ar gael. Roedd yn cynnwys 30 gweminar, gan gynnwys manylion am gynllun prentisiaethau a rhaglen i raddedigion y Cyngor.
Cafodd yr Aelodau wybod bod 1604 o bobl wedi cofrestru ar gyfer yr achlysur, gyda 274 yn mewngofnodi yn ystod yr 20 munud gyntaf, a 660 yn mewngofnodi yn ystod y 2 awr gyntaf. Roedd yr achlysur wedi'i wylio dros 6000 o weithiau.
Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i staff yr Adran Adnoddau Dynol am y gwaith a wnaed i gynnal yr achlysur a roddodd gyfle i drigolion gyfranogi, a chanfod swyddi o safon uchel ar draws y Fwrdeistref Sirol, a gwneud cais amdanynt.
***
Datganiad gan yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai
Dywedodd yr Aelod Cabinet wrth yr Aelodau am gyfarfod yr aeth iddo ar 29 Ionawr gyda Mick Antoniw (Aelod o'r Senedd), Alex Davies-Jones (Aelod Seneddol) ac Aelod o AGB Pontypridd, a gyfarfu â chynrychiolwyr o HSBC. Cafodd yr Aelodau wybod am gynnig HSBC i gau'i ganghennau ym Mhontypridd a Thonysguboriau fel ei gilydd, a bod y rhesymeg, gan gynnwys data yngl?n â defnyddwyr, wedi'i chyflwyno. Soniodd yr Aelod o'r Cabinet am geisiadau’r Aelodau i gadw’r canghennau neu fwrw ymlaen â llai o oriau/cynllun symudol o fewn y canghennau, ond gwrthodwyd y ddau gynnig. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet pe bai'r canghennau'n cau yna ni fyddai cangen HSBC ar gael yn RhCT. Roedd cynrychiolwyr y banc wedi rhoi gwybod am drefniadau amgen y dylid eu trafod, gan gynnwys defnyddio swyddfeydd post lleol a rheoli cyfrifon yng nghanghennau Caerffili a'r Bontfaen. Lleisiodd Aelodau eu pryder yn y cyfarfod yngl?n ag hygyrchedd y canghennau amgen a oedd wedi'u cynnig a'r effaith ar drigolion sy'n agored i niwed. Cadarnhaodd cynrychiolwyr HSBC fod cyswllt eisoes wedi'i wneud â thrigolion o'r fath.
Daeth yr Aelod o'r Cabinet a'i ddatganiad i ben trwy gynghori bod cais wedi'i wneud am fanylion cyswllt uwch swyddogion rheoli’r DU yn y banc er na dderbyniwyd unrhyw beth hyd yn hyn.
|
|||||
Cwestiynau gan yr Aelodau PDF 113 KB Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Cofnodion: Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Forey i Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber: "A wnaiff y Dirprwy Arweinydd amlinellu pa gynlluniau sy’n cael eu datblygu i hwyluso cyfarfodydd hybrid yn y dyfodol pan fydd y cyfyngiadau’n caniatáu?"
Ymateb gan y Dirprwy Arweinydd, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber: Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth yr Aelodau y byddai'r Gwasanaethau Democrataidd yn ceisio rhoi dull hybrid ar waith ar gyfer cyfarfodydd unwaith y byddai'r cyfyngiadau yn caniatáu hynny. Bydd hyn yn digwydd fesul tipyn, yn debyg i'r ffordd yr aeth y Cyngor ati i gyflwyno cyfarfodydd rhithwir y llynedd. Dywedodd y byddai hyn yn darparu rhywfaint o hyblygrwydd i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn y dyfodol agos tra y byddai hefyd yn caniatáu cynnal arferion cadw pellter cymdeithasol. Ychwanegodd y dylai Aelodau gael penderfynu a ydyn nhw am gyfranogi o'r dull hwn.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Forey: “Sut y gellid adeiladu ar hyn ar gyfer y dyfodol?”
Atebodd y Dirprwy Arweinydd trwy ddweud mai dyhead ehangach y Cyngor yw gwreiddio'r dull hwn, er mwyn galluogi Aelodau i gyfrannu yn y ffordd fwyaf hyblyg sy'n gweddu i'w sefyllfa, a bod y dull hwn ar gael i Awdurdodau Lleol drwy'r Ddeddf Llywodraeth Leol newydd. Ychwanegodd y bydd y Cyngor eisiau gwneud y mwyaf o'i gyfleusterau gweddarlledu newydd, gan adeiladu ar ein profiadau hyd yma, ac roedd hi'n gobeithio y byddai'r dull yma hefyd yn cefnogi ac yn hyrwyddo mwy o amrywiaeth yn y dyfodol a rhoi cyfleoedd gwell o ran ymgysylltu a chyfranogi i Aelodau a thrigolion.
Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol H. Boggis i'r Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, y Cynghorydd R. Lewis: "Sut mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi banciau bwyd lleol?"
Atebodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol gan ddweud fod swyddog penodol yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r prif fanciau bwyd fel bod modd i'r Awdurdod ddarparu cymorth amserol yn ôl y galw. Ychwanegodd fod hyn yn cynnwys:
Mae gallu'r Cyngor i brynu ar raddfa fawr wedi'i nodi fel rhywbeth sy'n arbennig o werthfawr i'r banciau bwyd ac maen nhw wedi awgrymu bod hyn yn rhoi sicrwydd iddynt pan mae eu cyflenwadau yn lleihau.
Mae Grant Cymorth Bwyd RhCT a sefydlwyd trwy gyfraniad o £10,000 oddi wrth y Cyngor a £10,000 oddi wrth Trivallis yn darparu adnoddau i fanciau bwyd a chynlluniau cymorth ... view the full Cofnodion text for item 103. |
|||||
Trafodaeth ar Sefyllfa'r Fwrdeistref Sirol
Cofnodion: Yn unol â Rheol Gweithdrefn 13.2 y Cyngor, nododd y Llywydd yr hoffai wahodd yr Arweinydd i gyfarch y Cyngor, wedyn byddai'n ymateb i sylwadau Aelodau ar ei Adroddiad Blynyddol.
Agorodd yr Arweinydd ei anerchiad trwy roi sylwadau ar ba mor unigryw oedd y sefyllfaoedd yr oedd y Cyngor wedi'u hwynebu dros y flwyddyn gan roi sylwadau ar y llifogydd dinistriol ym mis Chwefror 2020 a hefyd y pandemig COVID-19 parhaus, sydd wedi trawsnewid bywydau pawb ac wedi cael effaith enfawr ar y cymunedau y mae'r Cyngor yn eu gwasanaethu.
Cofnododd yr Arweinydd ei ddiolch i holl staff y Cyngor sydd wedi darparu gwasanaethau hanfodol i drigolion Rhondda Cynon Taf, gan dynnu sylw at waith darparwyr gofal cymdeithasol rheng flaen, staff cyllid, staff profi, olrhain a diogelu sydd bellach yn cefnogi'r ymgyrch frechu a'r holl staff hynny sydd wedi parhau i ddarparu'r gwasanaethau bob dydd y mae trigolion yn dibynnu arnynt. Ychwanegodd yr Arweinydd, er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd, mae'r Cyngor wedi parhau i gyflawni ei uchelgeisiau er budd y Fwrdeistref Sirol gyfan. Cyn darparu diweddariadau penodol ar feysydd gwasanaeth, daeth yr Arweinydd â’i anerchiad agoriadol i ben trwy nodi bod effeithiau’r pandemig yn arbennig yn mynd i lywio'r dyfodol yn ystod gweddill tymor y Cyngor a thu hwnt, gan ychwanegu y bydd y Cyngor yn parhau i adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes yn bodoli i greu'r cyfleoedd addas i sicrhau dyfodol uchelgeisiol i Rondda Cynon Taf.
Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant (Pobl) Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad manwl mewn perthynas â'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Phlant gan roi gwybod am y gwasanaethau a oedd wedi'u darparu dros 2019/20 · 235 o Gymorthdaliadau Cyfleusterau i'r Anabl · 820 o bobl wedi'u cefnogi trwy gronfa ENABLE y Cyngor o £316,000 · 352 o bobl wedi'u cefnogi trwy gynllun Tasgmon y Cyngor, a gostiodd £58,400. · 71 o Grantiau Cymorth Atgyweirio Cynnal a Chadw wedi'u cyflwyno Parhaodd yr Arweinydd trwy roi gwybod am y cynnydd da sydd wedi'i wneud o ran moderneiddio'r system ofal sydd ar gael ar gyfer preswylwyr h?n yn y Sir gan gyfeirio at gynlluniau gofal ychwanegol ledled y Fwrdeistref Sirol. Amlygodd yr Arweinydd lwyddiant y rhaglen Cadw'n Iach Gartref arobryn ac awgrymodd y dylid darparu gwybodaeth fanwl am hyn i'r Aelodau. Gorffennodd yr Arweinydd yr agwedd hon ar ei ddiweddariad trwy roi gwybod am y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, sy'n parhau i ddarparu cefnogaeth, gyda 733 o atgyfeiriadau wedi'u gwneud eleni, a'r Gwasanaethau i Blant, gan roi gwybod i'r Aelodau bod y gwasanaeth wedi derbyn cysylltiadau mewn perthynas â 1,000 yn fwy o blant na'r llynedd, gyda'r potensial y gallai'r galw hwn gynyddu yn ystod y misoedd sydd o'n blaenau. Nododd ei bryderon yngl?n â'r gostyngiad o 17% yng nghyfradd y plant sy'n dod yn 'blant sy'n derbyn gofal' yn ystod y cyfnod anodd hwn a'r posibilrwydd bod problemau yn cael eu colli. Canolfannau yn y Gymuned Soniodd yr Arweinydd am sefyllfa'r Canolfannau yn y Gymuned gan roi gwybod i'r Aelodau fod y model hwn wedi cael ... view the full Cofnodion text for item 104. |
|||||
Rhaglen Waith Y Cyngor 2020/21 Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad ynghylch Rhaglen Waith y Cyngor, gan nodi y byddai Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chadeirydd y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol (REGP) yn dod i gyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth.
|
|||||
Diweddariad mewn perthynas â'r Coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf Derbyn datganiad sefyllfa mewn perthynas â'r Coronafeirws yn y Fwrdeistref Sirol.
Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau'r Gymuned a Gwasanaethau i Blant ddiweddariad mewn perthynas â'r Coronafeirws yn RhCT gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint a oedd yn nodi'r wybodaeth allweddol ganlynol: -
Ø Achosion Covid 19 wedi'u cadarnhau fesul 100,000 o'r boblogaeth yn y 7 diwrnod blaenorol Ø Achosion Covid 19 wedi'u cadarnhau fesul 100,000 o'r boblogaeth yn y 7 diwrnod blaenorol gan yr Awdurdod Lleol ar gyfer ardal Cwm Taf Morgannwg Ø Tueddiadau o ran cyfraddau heintiau Covid cronnus 7 diwrnod fesul 100,00 o fewn CTM Ø Niferoedd Dyddiol o Achosion Covid Positif o fewn CTM Ø Gwyliadwriaeth Covid mewn Ardaloedd Lleol Ø Tueddiadau wythnosol mewn marwolaethau oherwydd Covid yn ôl lleoliad Ø Nifer y brechlynnau a roddwyd yn rhanbarth CTM Ø Cychwyn Cam 2 ar 1 Mawrth 2021
Yn dilyn y diweddariad, cafodd pob un o'r Arweinwyr Gr?p gyfle i ofyn cwestiynau.
Y Cynghorydd A Morgan, Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd y Gr?p Llafur Roedd yr Arweinydd yn dymuno cofnodi ei ddiolch i'r holl staff a fu'n cefnogi'r rhaglen gyda'r Bwrdd Iechyd. Dywedodd y bydd rhagor o wybodaeth am agor canolfannau brechu pellach yn fuan iawn. Bydd hyn yn amlwg yn effeithio ar rai cyfleusterau pan fydd y cyfyngiadau'n codi, megis canolfannau hamdden sydd bellach yn ganolfannau brechu. Rhaid i'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen frechu barhau i fod yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, a gobeithio y byddai hyn yn cael ei gefnogi'n llawn gan aelodau a phreswylwyr. Dywedodd yr Arweinydd fod modd i bobl lenwi ffurflen ar-lein os ydyn nhw yng nghategori 1-4 a ddim wedi derbyn y brechlyn eto. Anogodd yr Aelodau i gyfeirio unrhyw un maen nhw'n eu hadnabod sydd o fewn y categorïau yma, ac sydd heb dderbyn brechlyn, at y ffurflen yma a rhoi cymorth iddyn nhw. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn bwriadu cyhoeddi rhif ffôn newydd y bydd modd i bobl ei ddefnyddio i archebu prawf os does dim modd iddyn nhw wneud hynny ar-lein.
Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud y bydd plant cyfnod sylfaen yn dychwelyd i'r ysgol ymhen pythefnos ac roedd trafodaethau ar y gweill gyda'r Gweinidogion a'r undebau ynghylch sut mae modd i ysgolion uwchradd ddychwelyd yn ddiogel. Ychwanegodd y byddai datganiad yn ei enw yn cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddarach heno i nodi mai’r flaenoriaeth ar gyfer bob un o’r 22 Awdurdod Lleol yw i bob plentyn ddychwelyd i’r ysgol yn ddiogel cyn y caniateir i unrhyw siopau, tafarndai a bwytai eraill agor. Dywedodd y dylid defnyddio gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer plant sy'n dychwelyd i fyd addysg, ac y byddai'n aros am arweiniad gan y prif swyddog meddygol ynghylch pryd mae hyn yn bosibl
Y Cynghorydd P Jarman (Arweinydd Gr?p, Gr?p Plaid Cymru) Dywedodd y Cynghorydd Jarman mai dim ond pan fydd modd casglu'r data y bydd modd i ni ddeall pam mae nifer y marwolaethau yn ardal RhCT mor uchel. Roedd hi'n bryderus am gyfradd yr haint mewn rhai wardiau, Tylorstown er enghraifft, ond hefyd y gyfradd ledled y ... view the full Cofnodion text for item 106. |
|||||
Rhybuddion o Gynigion PDF 45 KB A. Trafod y Rhybudd o Gynnig canlynol sydd wedi'i gyflyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M. Forey, J. Bonetto, L. M. Adams, D. R. Bevan, H Boggis, S. Bradwick, J. Brencher, A Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L De- Vet, J. Edwards, J Elliott, S. Evans, M Fidler Jones, , A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries G. Holmes, G. Hopkins, G. Jones, R. Lewis, W Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen Jones, S Pickering, S.M. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G Stacey, M Tegg, G Thomas, W Treeby, R K Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams, C. J. Willis a R. Yeo. Mae effeithiau pandemig COVID-19 ar gymunedau, busnesau a theuluoedd ledled y wlad yn sylweddol ac fe'u trafodwyd mewn nifer o fforymau ac ar amrywiaeth o lwyfannau. Mae miliynau o bobl wedi dioddef colled ariannol ar ôl colli swyddi neu gwymp o ran masnach, tra bod cyfnodau hir o gyfyngiadau wedi'u gosod ar eu bywydau beunyddiol. Ar ddechrau’r pandemig, honnodd y Prif Weinidog a Changhellor y Trysorlys y bydden nhw'n “rhoi eu breichiau o gwmpas” pawb yn ystod yr argyfwng cenedlaethol, a chyflwynon nhw nifer o becynnau cymorth y wladwriaeth. Un o'r mesurau yma oedd cynydd o £20 yr wythnos i swm y taliad Credyd Cynhwysol, a oedd o fudd i bron i chwe miliwn o hawlwyr ledled y DU sydd naill ai ar incwm isel neu'n ddi-waith. Rhoddodd hyn gymorth sylweddol i’r rhai yr oedd angen y gefnogaeth fwyaf yn ystod y cyfnod digynsail yma, gydag elusennau a sefydliadau yn galw’r codiad yn “achubiaeth” a’r rhai a oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol yn dweud ei fod yn golygu bod modd iddyn nhw gael "prin digon, yn hytrach na dim." Nawr, bron i flwyddyn yn ddiweddarach - gyda’r pandemig yn dal i daflu cysgod dros ein bywydau beunyddiol, mae sôn bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn adolygu’r cynnydd, ac mae honiad bod y Prif Weinidog yn bwriadu ei ddileu. Mae'r posibilrwydd o dynnu cymorth o'r fath yn ôl yn dangos unwaith eto nad yw Llywodraeth San Steffan yn ystyried teuluoedd yn flaenoriaeth, a hynny ar adeg pan mae pethau wedi gwaethygu i lawer, gyda rhagor o bobl yn colli eu swyddi bob dydd o ganlyniad i'r pandemig. Yn Rhondda Cynon Taf yn unig, mae tua 21,000 o bobl (ym mis Rhagfyr 2020) yn hawlio Credyd Cynhwysol a bydd cael gwared ar y taliad wythnosol yn ergyd i lawer yn ein cymunedau ar adeg pan mae cefnogaeth y wladwriaeth mor hanfodol. Mae'r Cyngor yma'n nodi: 1. Bod y taliad ychwanegol o £20 o Gredyd Cynhwysol yr wythnos yn hwb hanfodol i filiynau, ac na ddylid ei ddileu yn ystod y pandemig. Byddai hyn yn cael yr effaith galetaf ar gymunedau fel Rhondda Cynon Taf ac yn penderfynu: 1. Bydd Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Prif Weinidog cyn cyhoeddi'r gyllideb ar 3 Mawrth i amlinellu gwrthwynebiad y Cyngor hwn i'r bwriad o gael ... view the full Agenda text for item 107. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: A. Trafod y Rhybudd o Gynnig canlynol sydd wedi'i gyflyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M. Forey, J. Bonetto, L. M. Adams, D. R. Bevan, H Boggis, S. Bradwick, J. Brencher, A Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L De- Vet, J. Edwards, J Elliott, S. Evans, M Fidler Jones, , A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries G. Holmes, G. Hopkins, G. Jones, R. Lewis, W Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen Jones, S Pickering, S.M. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G Stacey, M Tegg, G Thomas, W Treeby, R K Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams, C. J. Willis ac R. Yeo Mae effeithiau pandemig COVID-19 ar gymunedau, busnesau a theuluoedd ledled y wlad yn sylweddol ac fe'u trafodwyd mewn nifer o fforymau ac ar amrywiaeth o lwyfannau. Mae miliynau o bobl wedi dioddef colled ariannol ar ôl colli swyddi neu gwymp o ran masnach, tra bod cyfnodau hir o gyfyngiadau wedi'u gosod ar eu bywydau beunyddiol. Ar ddechrau’r pandemig, honnodd y Prif Weinidog a Changhellor y Trysorlys y bydden nhw'n “rhoi eu breichiau o gwmpas” pawb yn ystod yr argyfwng cenedlaethol, a chyflwynon nhw nifer o becynnau cymorth y wladwriaeth. Un o'r mesurau yma oedd cynydd o £20 yr wythnos i swm y taliad Credyd Cynhwysol, a oedd o fudd i bron i chwe miliwn o hawlwyr ledled y DU sydd naill ai ar incwm isel neu'n ddi-waith. Rhoddodd hyn gymorth sylweddol i’r rhai yr oedd angen y gefnogaeth fwyaf yn ystod y cyfnod digynsail yma, gydag elusennau a sefydliadau yn galw’r codiad yn “achubiaeth” a’r rhai a oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol yn dweud ei fod yn golygu bod modd iddyn nhw gael "prin digon, yn hytrach na dim."
Nawr, bron i flwyddyn yn ddiweddarach - gyda’r pandemig yn dal i daflu cysgod dros ein bywydau beunyddiol, mae sôn bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn adolygu’r cynnydd, ac mae honiad bod y Prif Weinidog yn bwriadu ei ddileu. Mae'r posibilrwydd o dynnu cymorth o'r fath yn ôl yn dangos unwaith eto nad yw Llywodraeth San Steffan yn ystyried teuluoedd yn flaenoriaeth, a hynny ar adeg pan mae pethau wedi gwaethygu i lawer, gyda rhagor o bobl yn colli eu swyddi bob dydd o ganlyniad i'r pandemig.
Yn Rhondda Cynon Taf yn unig, mae tua 17,000 o bobl (ym mis Rhagfyr 2020) yn hawlio Credyd Cynhwysol a bydd cael gwared ar y taliad wythnosol yn ergyd i lawer yn ein cymunedau ar adeg pan mae cefnogaeth y wladwriaeth mor hanfodol.
Mae'r Cyngor yma'n nodi:
ac yn penderfynu:
|