Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

80.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad o absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A Calvert, A Davies-Jones, L De Vet, M Fidler Jones, G W Hughes, S Pickering.

 

81.

Croeso a Chyflwyniadau

Cofnodion:

Cafodd cyflwyniadau eu gwneud gan Arweinwyr y Grwpiau a oedd yn bresennol:-

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan (Gr?p Llafur)

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman (Gr?p Plaid Cymru)

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Powell (Gr?p Annibynnol)

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. James (Gr?p y Ceidwadwyr)

 

82.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 8 ar yr agenda - Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor

 

Ø  Cyfeiriodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman at ei gollyngiad a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau ar 29 Tachwedd 2019 gan ddarparu “gollyngiad i'r aelod siarad a phleidleisio ar bob mater trwy gydol proses Cyllideb 2021-22, a'i mabwysiadu, yn rhinwedd ei swydd yn Arweinydd yr Wrthblaid.”

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Stephens - “Rwy'n gweithio i'r Adran Gwaith a Phensiynau y cyfeirir ato yn yr adroddiad”

 

83.

Munud o ddistawrwydd

Cofnodion:

Cynhaliodd yr Aelodau munud o ddistawrwydd i dalu teyrnged i'r unigolion sydd wedi marw o ganlyniad i Covid-19.

 

84.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

  • Cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor fod trydydd aelod o staff y Cyngor wedi marw o ganlyniad i Covid ac estynnodd ei gydymdeimlad i'r teuluoedd.

 

  • Talodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Jarman deyrnged i'r holl deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y Pandemig. Talodd deyrnged hefyd i gyn-Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Terry Benney a gynrychiolodd Gorllewin Aberpennar ac a etholwyd i'r Cyngor cysgodol ym 1995. Yn 1999 cafodd ei ailethol a daeth yn Aelod o'r Cabinet ar faterion Tai a llwyddodd i adolygu gwaith ailfodelu Pen-rhys yng Nghwm Rhondda a Bryn y Rhedyn yn Aberpennar.

 

· Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Jones wedi canmol un o'i drigolion, Seren Lewis-Dawe sy'n 11 oed ac a oedd wedi ymrwymo i godi £3,300 ar gyfer Felindre trwy redeg 65 milltir ym mis Rhagfyr 2020, ar ôl i aelod o'i theulu gael triniaeth ar gyfer canser. Mae hi hefyd wedi cael ei phenodi'n Llysgennad Iau ar gyfer Felindre.

 

·    Talodd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell deyrnged  i'r cyn-Gynghorydd T Benney hefyd.

 

·    Aeth y Cynghorydd Powell ymlaen drwy gydnabod bod ei gyd-Gynghorydd P Howe wedi ennill pedair gwobr gyntaf ar gyfer y 'Sioe Gomedi Orau' o'r enw 'Bryn Coombes' ac mae wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer pedair gwobr arall.

 

·    Cyhoeddwyd hefyd bod Mr Gio Isingrini, sydd newydd ymddeol, wedi derbyn OBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.

 

85.

Rheol 15.1 - Dull Gweithredu'r Cyngor

Cofnodion:

Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor, sy'n nodi y bydd mater yn cael ei benderfynu os bydd mwyafrif ymhlith yr Aelodau sy'n pleidleisio ac sy'n bresennol yn yr ystafell adeg y bleidlais -  a hynny fel bod modd cynnal y cyfarfod ar-lein mewn modd didrafferth.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor

 

86.

Cofnodion pdf icon PDF 163 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion o'r cyfarfod a gafodd ei gynnal ar 11 Tachwedd 2020 yn rhai cywir yn amodol ar gywiro Cofnod Rhif 48 - Cwestiynau gan Aelodau, sy'n cyfeirio at yr A470.

 

87.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod system neges destun y Cyngor wedi'i sefydlu. Bydd y system yma'n rhoi gwybod i Aelodau am unrhyw faterion brys neu sylweddol megis tywydd garw neu lifogydd. Dywedodd fod y system yma wedi tynnu sylw'r Aelodau at rybuddion tywydd gwael yn ddiweddar. Roedd yr Arweinydd wedi annog unrhyw Aelodau sydd heb ddarparu rhif ffôn cyfredol i wneud hynny trwy gysylltu â'r Gwasanaethau i Aelodau.

 

88.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 158 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser:

 

“Pa gymorth sy'n cael ei ddarparu i ysgolion RhCT er mwyn galluogi a hwyluso dysgu o bell?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd J Rosser:

 

“Esboniodd y Cynghorydd Rosser fod y Cyngor wedi cefnogi'r holl ysgolion trwy gydol y pandemig gan eu hannog nhw i fanteisio ar lwyfan Hwb Llywodraeth Cymru sy'n darparu pecyn dysgu cyfunol cynhwysfawr. Mae rhai enghreifftiau o arfer da wedi'u nodi gan nifer o ysgolion RhCT, megis Ysgol Garth Olwg ac Ysgol Cwm Rhondda. Mae'r Cyfarwyddwr Addysg yn cynnal cyfarfodydd cyson â Phenaethiaid a Chyrff Llywodraethu i rannu'r newyddion diweddaraf. Mae cyflwyniadau mewn perthynas â dysgu cyfunol wedi'u darparu i Benaethiaid. Cafodd canllawiau mewn perthynas â dysgu eu darparu wrth baratoi ar gyfer disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol a chafodd dogfennau canllaw mewn perthynas â dysgu cyfunol a dysgu o bell eu darparu gan Gonsortiwm Canolbarth y De. Mae partneriaid gwella wedi cefnogi ysgolion unigol gan ddarparu cymorth rhwng ysgolion i ddatblygu gweithdrefnau er mwyn darparu addysgu ar-lein. Rhoddodd y Cynghorydd Rosser wybod bod Awdurdod Lleol RhCT wedi cyflawni adolygiad Estyn mewn perthynas â gwaith cefnogi cymunedau dysgu mewn ysgolion ym mis Tachwedd 2020. Mae'r Awdurdod wedi derbyn Adroddiad Estyn cadarnhaol iawn sy'n tynnu sylw at gyfathrebu cryf rhwng meysydd gwasanaeth a chydweithio â chyfarwyddiaethau eraill a golwg penderfynol yr ysgolion ac arweinwyr i fynd i'r afael â'r heriau sydd wedi codi yn ystod y pandemig."

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Griffiths i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

"All yr Arweinydd rannu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â pha sylwadau sy'n cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Awdurdod Lleol yma mewn perthynas â'r Gyllideb a fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth?" 

 

Ymateb y Cynghorydd A Morgan:

“Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod llywodraeth leol wedi chwarae rhan hollbwysig yn y frwydr yn erbyn covid wrth i'w staff ymateb mewn modd hyblyg a chadarnhaol ac wrth i'w gwasanaethau addasu. O ganlyniad i hynny dylai llywodraeth leol gael ei diogelu wrth lunio'r gyllideb yn y dyfodol. Dywedodd yr Arweinydd mai setliad dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Awdurdod Lleol yma yw 3.8%, sy'n gadarnhaol. O ran y Gyllideb, sy'n cael ei chynnal ddydd Mercher, 3 Mawrth, mae nifer o fuddsoddiadau ychwanegol, yn hytrach na buddsoddiad ar gyfer y gwasanaethau craidd, megis gofal cymdeithasol, wedi'u nodi ar y cyd â'r Gymdeithas Llywodraeth Leol. Dywedodd yr Arweinydd fod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru a'r Gymdeithas Llywodraeth Leol mewn perthynas â nifer o feysydd megis seilwaith cyfalaf a'r angen i drafod buddsoddiad arall yn y maes yma, yn enwedig wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, er mwyn rhoi hwb i'r economi leol. Maes arall sy'n peri pryder yw rhewi cyflogau, oni bai am y staff hynny sydd ar y raddfa gyflog is ac  ...  view the full COFNODION text for item 88.

89.

Rhaglen Waith Y Cyngor 2020/21

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â Rhaglen Waith y Cyngor ar gyfer 2020/21. Dywedodd fod UBI RhCT wedi cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod y Cyngor ym mis Chwefror a bydd y ddadl ar sefyllfa'r Fwrdeistref Sirol hefyd yn cael ei chynnal. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu maes o law. Cafodd Aelodau wybod bod Trivallis wedi gofyn am gyfle i wneud cyflwyniad mewn perthynas â'u trefniadau ymgysylltu yn rhan o sesiwn cyn cyfarfod y Cyngor yn ystod mis Chwefror neu fis Mawrth 2021.

 

Yn rhan o ymateb i ymholiad mewn perthynas ag agendâu ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod y bydd angen adrodd yn ôl i'r Cyngor ar yr enwebiadau ar gyfer Rhyddid y Fwrdeistref yn ogystal â nifer o argymhellion eraill.

 

Cadarnhaodd hefyd y byddai Prif Weithredwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gwneud cyflwyniad i'r Cyngor yma cyn diwedd y Flwyddyn Ddinesig hon fel y cytunwyd yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

90.

Diweddariad Mewn Perthynas â'r Coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf

Derbyn datganiad sefyllfa mewn perthynas â'r Coronafeirws yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Cofnodion:

 

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ddiweddariad mewn perthynas â'r coronafeirws yn RhCT gan gyfeirio at gyflwyniad Powerpoint. Roedd y cyflwyniad yn mynd i'r afael â'r wybodaeth allweddol ganlynol:-

 

Ø  Achosion Covid 19 wedi'u cadarnhau fesul 100,000 o'r boblogaeth yn y 7 diwrnod blaenorol

Ø  Achosion Covid 19 wedi'u cadarnhau fesul 100,000 o'r boblogaeth yn y 7 diwrnod diwethaf fesul Awdurdod Lleol

Ø  Cyfradd heintio Covid fesul 100,000 o'r boblogaeth dros gyfnod o 7 niwrnod

Ø  Profion Covid Positif yn ardal CTM Fesul Dydd

Ø  Gwyliadwriaeth Covid mewn Ardaloedd Lleol

Ø  Disgwyliadau Cyflawni Llywodraeth Cymru

Ø  Grwpiau Blaenoriaeth ar gyfer Cynllun Brechu'r Coronafeirws (Covid 19)

Ø  Penawdau: Cynnydd hyd at 17 Ionawr 2021

Ø  Ystyriaethau Cyflawni Gweithredol

Ø  Y 4 wythnos nesaf hyd at ganol mis Chwefror

 

Yn dilyn y diweddariad, cafodd pob un o'r Arweinwyr Gr?p gyfle i ofyn cwestiynau.

 

Y Cynghorydd A Morgan, Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd y Gr?p Llafur

Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod canolfannau brechu torfol yn Abercynon ac yng Nghwm Rhondda ac mae cynlluniau ar y gweill i agor dwy ganolfan arall erbyn diwedd Ionawr 2021. Mae'r rhaglen brechu torfol yn dasg enfawr er mwyn sicrhau bod trigolion yn derbyn dau frechlyn, a chadarnhaodd y bydd y Cyngor yn cynnig ei gefnogaeth i feddygfeydd a bydd staff yn cael eu hyfforddi ar sut i roi'r brechlyn. Mae'r Cyngor yn gweithio i helpu i nodi lleoliadau addas ar gyfer y rhaglen brechu torfol gan fod rhai meddygfeydd lleol yn fach ac yn methu â chynnig y brechlyn i niferoedd mawr o drigolion. O ganlyniad i hynny, mae nifer o feddygfeydd yn cydweithio er mwyn gweithio o'r canolfannau brechu, megis Canolfan Bowls Cwm Cynon.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r Bwrdd Iechyd yn rhoi 20,000 brechlyn yr wythnos hon ac yn dilyn trafodaethau â Phrif Weithredwr y GIG yng Nghymru roedd modd iddo gadarnhau y byddai holl breswylwyr y Cartrefi Gofal i Oedolion, staff a chleientiaid yn cael eu brechu erbyn diwedd mis Ionawr 2021. At hynny, roedd y cynllun i gwblhau cynllun brechu  Grwpiau blaenoriaeth 1-4 erbyn canol mis Chwefror ar y trywydd iawn.

 

Y Cynghorydd P Jarman (Arweinydd Gr?p, Gr?p Plaid Cymru)

Estynnodd y Cynghorydd Jarman ei diolch i holl staff y GIG a'r rheini yn y sector gofal a staff y Cyngor am eu cefnogaeth ac i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi gwirfoddoli i ddarparu gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Gofynnodd y Cynghorydd Jarman y canlynol: -

 

Faint o farwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid-19 sydd wedi cael eu nodi yn RhCT hyd yn hyn yn ystod y Pandemig?

 

Sut ydy'r brechlyn yn cael ei ddyrannu i Feddygfeydd unigol, a yw hyn yn cael ei bennu gan Cwm Taf neu Lywodraeth Cymru? Mae'n ymddangos nad yw rhai meddygfeydd yn derbyn lefel y brechlyn ar sail faint o bobl sydd wedi cofrestru â'r feddygfa.

 

Pwy sy'n gyfrifol am flaenoriaethu'r cleifion, a yw hyn yn cael ei wneud yn nhrefn yr wyddor?

 

A fydd y Ganolfan Bowls yn  ...  view the full Cofnodion text for item 90.

91.

Cyllideb Refeniw'r Cyngor 2021/22 - Setliad Llywodraeth Leol Arfaethedig pdf icon PDF 282 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol yr Aelodau at adroddiad sy'n rhoi gwybodaeth yngl?n â'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2021/2022, a gafodd ei gyhoeddi ar 22 Rhagfyr 2020, a'r sylwadau cychwynnol ar ei oblygiadau tebygol ar gyfer cyflwyno gwasanaethau'r Cyngor.

 

Rhannodd y Cyfarwyddwr ddata o'r setliad gyda'r Aelodau, gan gynghori bod y cynnydd yn y cyllid Grant Cynnal Refeniw a'r Ardrethi Annomestig ar gyfer 2021/22 (sef cyllid heb ei neilltuo), ar lefel Cymru gyfan, ac ar ôl addasu'r ffigur ar gyfer trosglwyddo, yn cyfateb i 3.8% (+£172miliwn).

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod ffigyrau'r setliad ar gyfer 2021/22 yn cyfateb i gynnydd o 3.8% sy'n cyfateb i'r cynnydd ar gyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan. Mae ffigurau'r setliad yn amrywio o 2.0% i 5.6% ledled Cymru. Does dim mesurau diogelu wedi'u cynnwys ar gyfer 2021/22.

 

Cafodd yr Aelodau wybod nad yw cyllideb sylfaenol y Cyngor yn cynnwys costau'r goblygiadau sy'n ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig ac rydyn ni'n rhagweld y bydd y rhain yn parhau i gael eu cefnogi ar wahân gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod effeithiau cyfunol y diweddariad ar y bwlch yn y gyllideb wedi'u nodi yn nhabl 4  a'r bwlch yn y gyllideb sy'n weddill yw £4.057miliwn. I gloi, rhoddodd wybod y bydd y Cabinet yn trafod y strategaeth gyllideb ddrafft a fydd yn destun ail gam yr ymgynghoriad ar y gyllideb cyn iddi gael ei thrafod gan y Cyngor ym mis Mawrth.

 

Croesawodd yr Aelodau'r Setliad Llywodraeth Leol Arfaethedig ar gyfer 2021/22, a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac yn dilyn trafodaeth lle ymatebodd y Cyfarwyddwr i nifer o ymholiadau megis dulliau newydd y Cyngor o weithio sy'n ffurfio rhan o'r gwaith i nodi gofynion effeithlonrwydd,

PENDERFYNWYD:

 

  1. Nodi'r Setliad Llywodraeth Leol 2021/22 Arfaethedig, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar 22 Rhagfyr 2020.

 

     2.    Nodi bod disgwyl i'r Setliad Llywodraeth Leol 2021/22 terfynol gael ei gyhoeddi ar ddiwedd mis Chwefror 2021: a

 

     3.    Nodi'r dull o ran ymgynghori ar gyllideb 2021/22, fel sydd wedi'i bennu eisoes. 

 

92.

Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor pdf icon PDF 507 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol.

 

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol ei adroddiad sy'n cyflawni'r

gofyniad sydd wedi'i osod ar y Cyngor i drafod a ddylai adolygu neu ddisodli'r

Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor cyfredol (“CTRS”) yn flynyddol a'r gofyniad i fabwysiadau cynllun erbyn

31 Ionawr 2021.

 

Roedd y Cyfarwyddwr wedi cyfeirio'r Aelodau at yr adroddiad sy'n tynnu sylw at y newidiadau i'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor 

a gafodd eu cyflwyno ym mis Ebrill 2013 sy'n cynnwys y diwygiadau a gynigiwyd, y goblygiadau tebygol o ran cyllid

ac yn nodi canlyniadau'r ymgynghoriad sy'n caniatáu i'r Aelodau drafod mabwysiadu

Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor lleol y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad PENDERFYNWYD cytuno ar yr argymhellion

canlynol:-

 

a)    Nodi a mabwysiadu darpariaethau'r rheoliadau a'r gofynion rhagnodedig 

a'r diwygiadau sydd wedi'u gwneud i'r rheoliadau hynny gan y Rheoliadau

wedi'u Diwygio (fel y'u cymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar

12 Ionawr 2021) fel Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor lleol y Cyngor

ar gyfer 2021/22, yn amodol ar y disgresiwn lleol y mae modd i'r Cyngor ei

roi ar waith;

 

b)              Nodi canlyniad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Cyngor yngl?n â'r 

disgresiwn sy'n berthnasol i'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar gyfer

2021/22; a

 

c)     Cadarnhau'r disgresiwn sy'n berthnasol i'r Cynllun Gostyngiadau Treth y

Cyngor ar gyfer 2021/22 fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 5.3 (Tabl 2) o'r

adroddiad hwn.

 

93.

Penderfyniadau Brys o dan Swyddogaethau Gweithredol pdf icon PDF 125 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Cofnodion:

Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Trosolwg a Chraffu 17.2(a), adroddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu am y penderfyniadau brys a ddygwyd ymlaen trwy benderfyniad dirprwyedig allweddol yn ystod y cyfnod Hydref – Rhagfyr 2020 a PHENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth sy wedi'i chynnwys yn yr adroddiad.

 

94.

Rhybudd o Gynnig

A. Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau:  Y Cynghorwyr P. Jarman, H. Fychan, S. Rees-Owen, M. Weaver, K. Morgan, D. Grehan, E. Griffiths, J. Williams, A. Cox, J, Davies, J. Cullwick, G. Davies, E. Webster, S. Evans, A, Chapman, E. Stephens a L. Jones,

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

  1. Yn cydnabod y ffaith drallodus bod 30% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac eto dim ond 13% sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod yr 17% o blant sy'n weddill yn byw mewn cartrefi â chyflog isel, sy'n mynd â nhw ychydig dros y meini prawf presennol ar gyfer hawlio prydau ysgol am ddim.
  2. Yn nodi bod Lloegr a'r Alban yn darparu prydau ysgol am ddim cynhwysol i ddisgyblion yn yr adran fabanod, gyda holl ddisgyblion y dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn gymwys. Dydy hyn ddim yn wir yng Nghymru.
  3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i bennu cost a chyllidebu'r gwaith o ddarparu Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru ond sydd wedi'u heithrio rhag hawlio prydau o dan y meini prawf cymhwysedd presennol, a rhoi hyn ar waith.
  4. Yn cytuno na ddylai unrhyw blentyn fod yn llwglyd ac y dylai hyn fod yn gam tuag at y nod o gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim Cynhwysol i bob plentyn yng Nghymru fel y mae grwpiau amrywiol yng Nghymru yn galw amdano, gan gynnwys Gr?p Gweithredu ar Dlodi Plant a Chynulliad y Bobl

 

 

 

Cofnodion:

Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau:

Y Cynghorwyr P. Jarman, H. Fychan, S. Rees-Owen, M. Weaver, K. Morgan, D. Grehan, E. Griffiths, J. Williams, A. Cox, J, Davies, J. Cullwick, G. Davies, E. Webster, S. Evans, A, Chapman, E. Stephens a L. Jones:-

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

  1. Yn cydnabod y ffaith drallodus bod 30% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac eto dim ond 13% sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod yr 17% o blant sy'n weddill yn byw mewn cartrefi â chyflog isel, sy'n mynd â nhw ychydig dros y meini prawf presennol ar gyfer hawlio prydau ysgol am ddim.
  2. Yn nodi bod Lloegr a'r Alban yn darparu prydau ysgol am ddim cynhwysol i ddisgyblion yn yr adran fabanod, gyda holl ddisgyblion y dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn gymwys. Dydy hyn ddim yn wir yng Nghymru.
  3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i bennu cost a chyllidebu'r gwaith o ddarparu Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru ond sydd wedi'u heithrio rhag hawlio prydau o dan y meini prawf cymhwysedd presennol, a rhoi hyn ar waith.
  4. Yn cytuno na ddylai unrhyw blentyn fod yn llwglyd ac y dylai hyn fod yn gam tuag at y nod o gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim Cynhwysol i bob plentyn yng Nghymru fel y mae grwpiau amrywiol yng Nghymru yn galw amdano, gan gynnwys Gr?p Gweithredu ar Dlodi Plant a Chynulliad y Bobl

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.

 

(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. James rhag pleidleisio ar y mater)

 

95.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.