Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

67.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y fwrdeistref Sirol S Belzak, J R Davies, A Davies-Jones, Sera Evans, M Fidler Jones, E Griffiths, J harries, L Hooper, K Jones, K Morgan, S Pickering, M Tegg, R K Turner, G Williams a C Willis.

68.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 2 ar yr Agenda - BWRDD IECHYD PRIFYSGOL CWM TAF MORGANNWG

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple – “Mae fy mab yn feddyg ac yn gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple – “Rwy'n aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Evans – “Rwy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Forey – “Rwy'n gyn-gynrychiolydd Aelod Etholedig ar y Bwrdd Iechyd”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman – “Rwy'n gyn-aelod o Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Yeo – “Mae fy ngwraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Ysbyty'r Tywysog Siarl”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis - “Mae gen i berthynas agos sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G R Davies - “Roeddwn i'n gontractwr i'r Bwrdd Iechyd hyd at 2 flynedd yn ôl. Rwyf bellach wedi ymddeol ”

Ø  Cynghorydd  Fwrdeistref Sirol S Morgans “Mae fy merch yn nyrs yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Jones – “Rwy'n aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell - “Mae fy nhad yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar ôl dal y Coronafeirws

 

 

Eitem 8 ar yr Agenda - Adroddiad Blynyddol Cronfa Deddf Eglwys Cymru 2019/20

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Bevan - "Fi yw'r Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Cynllun Grantiau Deddf yr Eglwysi"

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings – "Rydw i'n aelod o Bwyllgor Nos Galan, sydd wedi gwneud cais am gyllid o'r blaen."

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings – "Rwy'n Ymddiriedolwr i Gyfeillion Parc Aberdâr."

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis - "Rydw i'n Is-lywydd ar Gôr Meibion Abercynon."

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Norris - “Rydw i ar fwrdd gr?p cymunedol sydd wedi derbyn arian o Ddeddf yr Eglwys”.

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. R. Davies - "Rydw i'n ysgrifennydd ar Eglwys Blaen-cwm, sydd wedi derbyn arian yn y gorffennol, ac yn aelod o Glwb Tennis Rhondda."

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Edwards - “Yn rhinwedd fy swydd, rwy'n cyfeirio/cefnogi grwpiau cymunedol y 3ydd Sector i dderbyn y cyllid.”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Powell - “Rwy'n ymddiriedolwr ar Neuadd y Dref, Llantrisant”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Stephens - “Rwy'n gweithio i'r Adran Gwaith a Phensiynau ”

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees – "Rwy'n Ymddiriedolwr i Gyfeillion Parc Aberdâr."

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Jones - “Rwy'n ymddiriedolwr i Gyfeillion Parc Aberdâr, Aberdâr” ac “Rwy'n Gadeirydd ar Lyfrgell a Sefydliad Trecynon sydd ill dau wedi derbyn cyllid gan Ddeddf yr Eglwys”

 

 

69.

BWRDD IECHYD PRIFYSGOL CWM TAF MORGANNWG

Derbyn cynrychiolwyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan roi cyfle i'r Aelodau drafod yr wybodaeth ddiweddaraf o ran y Coronafeirws (gan gynnwys cyflwyno'r Brechlyn Covid-19), pwysau'r Gaeaf a materion strategol eraill.

 

Cofnodion:

Diolchodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Mr Marcus Longley i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ei gefnogaeth a'i waith partneriaeth yn ystod y cyfnod anodd a heriol yma. Amlinellodd y pynciau cyffredinol a fyddai'n cael eu cyflwyno yn y cyfarfod gyda mewnbwn gan Mr Paul Mears (Prif Weithredwr), Nick Lyons (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Meddygol) Alan Lawrie (Prif Swyddog Gweithredu) a Greg Dix (Cyfarwyddwr Nyrsio).

 

  Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o'r hyn sydd wedi digwydd dros y 12 mis diwethaf, megis cyhoeddi Adolygiad ar y Cyd ar Lywodraethu Ansawdd (Tachwedd 2019), a oedd yn nodi agenda sylweddol a'r ymateb i Ymyrraeth wedi'i Dargedu (Ansawdd a Llywodraethu) a Mesurau Arbennig (Gwasanaethau Mamolaeth). Dywedodd fod y model gweithredu newydd wedi ailwampio'r sefydliad cyfan a'r ffordd y mae'n cael ei reoli, ac mae hyn yn cynnwys datganoli cyfrifoldeb sylweddol i'r tair ardal, sy'n sicrhau bod y bwrdd iechyd yn gweithredu mew modd cydlynol. Canmolodd y Cadeirydd staff y bwrdd iechyd am eu hymateb anhygoel i Covid-19 a'r heriau a ddaeth yn ei sgil. I gloi, cyflwynodd y Cadeirydd Mr Paul Mears, a benodwyd yn Brif Weithredwr newydd ym mis Medi 2020. Gyda'i gydweithwyr, rhoddodd ddiweddariad trwy gymorth cyflwyniad Power Point, o dan y penawdau allweddol canlynol: -

 

Ø  Penawdau Allweddol - Edrych ymlaen at y 12 mis nesaf

Ø  Covid-19

Ø  Uchelgais Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Ø  Cynlluniau Integredig y Gaeaf

Ø  Gofal Sylfaenol

Ø  Gwasanaethau Mamolaeth - Goruchwylio

Ø  Y Camau Nesaf

Ø  Diweddariad am yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Ø  Symud ymlaen

 

Yn dilyn y cyflwyniad, nododd Arweinydd, Cynghorydd t Fwrdeistref Sirol A Morgan y bu diweddariadau rheolaidd gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i'r Cyngor Llawn - yn fwyaf diweddar gan Mr Mick Giannasi, Cadeirydd y Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol, a oedd wedi cyflwyno newyddion cadarnhaol am rai argymhellion i'w gweithredu.

 

Rhoddwyd cyfle i Arweinwyr y Grwpiau ofyn cwestiynau i gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd: -

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman (Gr?p Plaid Cymru)

 

Diolchodd y Cynghorydd Jarman i'r holl staff iechyd yn yr ysbytai sy'n gofalu am gleifion sâl iawn ar hyn o bryd ac ychwanegodd ei bod yn falch o ddarllen neges Twitter gan Mr Mears y diwrnod hwnnw yn cydnabod pwysigrwydd bod yn onest â chleifion a theuluoedd a rhoi gwybodaeth iddynt. Trafododd y Cynghorydd Jarman brofiad unigolyn a fu farw ar 5 Rhagfyr 2020 ar ôl dal Covid 19 yn yr ysbyty, a hynny ar ôl derbyn triniaeth ganser gan Gwm Taf Morgannwg yn wreiddiol. Nododd y Cynghorydd Jarman fod Aneurin Bevan wedi ymddiheuro yn ddiweddar i deulu ar ôl i berthynas ddal Covid yn yr ysbyty, a gofynnodd a fyddai Cwm Taf yn gwneud yr un peth ac yn gwella'r trefniadau cyfathrebu i sicrhau nad yw cleifion sy'n cael triniaeth am gyflyrau heblaw Covid yn cael eu colli.

 

Croesawodd y Cynghorydd Jarman y cynnydd ym maes Gwasanaethau Mamolaeth a chyhoeddi'r adroddiad ym mis Ionawr 2021. I gloi, mynegodd y Cynghorydd Jarman bryder gan obeithio na fyddai  ...  view the full Cofnodion text for item 69.

70.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

  • Dywedodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Maureen Webber wrth yr Aelodau fod gwahoddiad eisoes wedi'i estyn i Rwydwaith Lab UBI i gyfarfod o'r Cyngor Llawn yn y dyfodol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd.
  • Manteisiodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Walker ar y cyfle i longyfarch Mr David Jenkins, Pennaeth Ysgol T? Coch am dderbyn gwobr Pennaeth y Flwyddyn.  Dywedodd y Cynghorydd Walker hefyd fod Ysgol T? Coch wedi'i chyflwyno ar gyfer Gwobr y 'Times Education Supplement' am yr ail flwyddyn yn olynol a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i Mr Jenkins, y staff a'r ysgol am eu holl gyflawniadau gwych.
  • Talodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman deyrnged i waith a chyflawniadau Mr D Church, Ysgol Gyfun Aberpennar a enillodd wobr fawreddog 'Gwobr y Disgyblion am yr Athro Gorau'.  Soniodd y Cynghorydd Jarman am ba mor ysbrydoledig yw Mr Church ar gyfer disgyblion y gorffennol a'r presennol.
  • Manteisiodd y Cynghorydd Jarman ar y cyfle hefyd i longyfarch cyflawniad Lily Maund, disgybl blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Caegarw ar ôl iddi hi ennill y gystadleuaeth bosteri i hyrwyddo'r angen i barhau i gadw at reoliadau Covid 19.  Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai'r ymgyrch bosteri yn cael ei defnyddio ledled RhCT i helpu i gadw pobl yn ddiogel a diolchodd yr Aelod i Lily am ei meddylgarwch ac ychwanegodd y dylai pawb ddilyn ei chyngor.
  • Tynnodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Rosser sylw hefyd at lwyddiannau Mr D Jenkins a Mr D Church yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.  Soniodd yr Aelod am y flwyddyn heriol i bob cymuned ysgol, gan ychwanegu ei bod hi'n fwy pwysig nag erioed i benaethiaid gael eu cydnabod. Llongyfarchodd yr unigolion ar eu gwobrau.
  • Soniodd y Cynghorydd W Jones am ailagor Pont St Alban, Tynewydd, gan nodi bod y bont yn achubiaeth i lawer o drigolion.  Diolchodd yr Aelod i'r Cyngor am y buddsoddiad ariannol yma.  Gwnaeth sylwadau hefyd am y contractwyr lleol a lwyddodd i orffen y prosiect mewn pryd, hyd yn oed yn ystod pandemig Covid.  Gorffennodd yr Aelod ei sylwadau trwy dalu teyrnged i ganmol ymgysylltiad y cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad, a'r agoriad cymunedol a gynhaliwyd  - a oedd yn cydymffurfio â chyfyngiadau Covid.
  • Dathlodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Davies ailagor Pont St Alban yn Nhynewydd ar ôl y llifogydd diweddar a 9 mis o Covid. Canmolodd y contractwr Alan Griffiths am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned drwy gydol y prosiect ac am gadw at y dyddiad cau, er gwaethaf Covid. Diolchodd y Cynghorydd Davies i'r Cyngor am y buddsoddiad ariannol o £2 miliwn, a diolchodd i'r gymuned a'r contractwr am brosiect bendigedig.

 

71.

Council Procedure Rule 15.1

Cofnodion:

 

 

Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor, sy'n nodi y bydd mater yn cael ei benderfynu os bydd mwyafrif ymhlith yr Aelodau sy'n pleidleisio ac sy'n bresennol yn yr ystafell adeg y bleidlais -  a hynny fel bod modd cynnal y cyfarfod ar-lein mewn modd didrafferth.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefnu 15.1 y Cyngor

 

72.

Cofnodion pdf icon PDF 635 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor, a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2020, yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2020 yn rhai cywir.

 

73.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 115 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman i’r Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a’r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Hopkins:

 

“A wnewch chi ddatganiad ar sut y cefnogodd y Cyngor Daliadau Uniongyrchol ar gyfer oedolion anabl a'u cynhalwyr yn ystod y Pandemig?"

 

“Ymatebodd y Cynghorydd Hopkins trwy nodi bod Taliadau Uniongyrchol yn rhoi cyfle i breswylwyr gael rhagor o ddewis ac annibyniaeth o ran eu hanghenion gofal a chymorth eu hunain, a rôl y Cyngor yw helpu i gefnogi pobl pe bydden nhw'n dymuno dewis yr opsiwn hwnnw. Mae'r Gwasanaethau i Oedolion wedi parhau i weithio gyda'i gleientiaid i asesu eu hanghenion ac i weld a yw Taliadau Uniongyrchol yn parhau i ddiwallu eu hanghenion. Mae galwadau lles a chymorth wedi cael eu cynnal gan DEWIS, y Cyngor a'r cynorthwywyr personol i liniaru risgiau, yn enwedig i'r rhai sydd wedi profi newid yn eu gwasanaethau yn ystod y Pandemig, ac wedi gweithio gydag unigolion i sicrhau bod Taliadau Uniongyrchol yn cael eu defnyddio mewn ffordd addas i flaenoriaethu tasgau fel siopa a chasglu presgripsiynau. Mae'r Cyngor hefyd wedi gweithio gyda DEWIS i roi cyfarpar diogelu personol i gynorthwywyr yn eu rôl fel gweithwyr hanfodol”.

 

Cwestiwn Ategol gan y Cynghorydd P Jarman:

 

“Siaradodd y Cynghorydd Jarman ar ran preswylydd sy’n cyflogi cynorthwyydd personol o dan y cynllun Taliadau Uniongyrchol i ofalu am ei merch, sydd ag anabledd difrifol. Dywedodd nad oedd y gefnogaeth a gafodd i gael mynediad at gyfarpar diogelu personol a phrofi ar gyfer y cynorthwyydd personol y mae'n ei gyflogi, yn ystod y cyfnod cloi, yn ddigon cydymdeimladol na chydlynol, a'i fod yn dameidiog ac yn ddiffygiol iawn. Roedd hi eisiau diolch i DEWIS a staff y Cyngor am eu cyngor a'u cymorth o fewn y fframwaith y bu'n rhaid iddyn nhw weithio ynddo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jarman am gadarnhad bod y Cyngor, ers y toriad tân diweddaraf, wedi gallu perswadio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ymestyn y profion arferol sydd ar gael i'r cynorthwywyr personol hynny sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, fel eu bod hefyd ar gael i'r staff hynny sy'n darparu'r gofal mwyaf personol yng nghartrefi pobl eu hunain o dan y cynllun Taliad Uniongyrchol. ”

 

Ymateb gan y Cynghorydd G.Hopkins:

 

“Mynegodd y Cynghorydd Hopkins ei bryder yngl?n â’r achos a gofynnodd i’r Cynghorydd Jarman anfon y manylion ato fel y gallai ddarparu ymateb sy'n ystyried y materion ehangach”

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Morgans i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser:

 

“A oes modd i'r Aelod o'r Cabinet ddarparu diweddariad ar y datblygiadau i gynyddu capasiti addysg cyfrwng Cymraeg?”

 

“Dywedodd y Cynghorydd Rosser fod y Cyngor, trwy'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, yn parhau i gefnogi uchelgais LlC o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg ledled Cymru erbyn 2050. Mae gwella cyfleusterau mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg trwy fuddsoddiad gan y Cyngor a chyllid grant LlC yn rhan allweddol o hyn, gyda bron i £4 miliwn  ...  view the full Cofnodion text for item 73.

74.

Datganiad

Cofnodion:

Cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor mai hwn fyddai cyfarfod olaf y Cyngor i Mr Gio Isingrini, Cyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau i Blant a Gwasanaethau'r Gymuned, a hynny am ei fod e'n ymddeol o'r Awdurdod Lleol. Talodd yr Arweinydd deyrnged i Mr Isingrini a diolchodd iddo am ei gefnogaeth i staff a'r Uwch Garfan Reoli, gan gydnabod ei waith caled a'r oriau hir yr oedd wedi ymrwymo i'r swydd, yn enwedig trwy gydol y pandemig. Dywedodd y byddai Gio yn weithiwr anodd i'w ddilyn, a dywedodd y byddai Mr Paul Mee yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd.

 

 

Hefyd rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad mewn perthynas ag atgyweirio a chynlluniau adfer yn dilyn y llifogydd, fel a ganlyn: -

 

Gwaith trwsio mewn argyfwng

26 wedi'u rhestru

6 yn mynd rhagddo

1 ar y safle

19 wedi'u cwblhau

 

Cynlluniau Sylweddol i Reoli Perygl Llifogydd

11 wedi'u nodi

10 yn mynd rhagddo

1 ar y safle

 

Cynlluniau Llai i Reoli Perygl Llifogydd (o dan £150,000)

23 wedi'u nodi

14 yn mynd rhagddo

4 ar y safle

5 wedi'u cwblhau

 

Cynlluniau Llai i Reoli Perygl Llifogydd - gwaith paratoi

8 yn mynd rhagddo

 

Cyllid Ffyrdd Cydnerth

18 cynllun

14 yn mynd rhagddo

2 ar y safle

2 wedi'u cwblhau

 

Crynhodd yr Arweinydd gyfanswm y ffigurau fel a ganlyn a rhoddodd sicrwydd bod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud er gwaethaf y cyfyngiadau sydd ar waith, a hyd yn oed yn ystod unrhyw gyfnod clo yn y dyfodol, bydd contractwyr yn parhau i weithio gyda staff: -

 

86 o gynlluniau wedi'u nodi

52 yn mynd rhagddo

8 ar y safle

26 wedi'u cwblhau

 

 

Diolchodd Arweinydd Gr?p Plaid Cymru i Mr Isingrini hefyd am y cymorth y mae wedi'i roi iddi hi ei hun ac i Gr?p Plaid Cymru, a nododd y Cynghorydd Jarman ei fod yn weithiwr proffesiynol go iawn ac yn swyddog ymarferol iawn.

 

Diolchodd Mr Gio Isingrini i'r Cyngor am ei ddymuniadau da ac am y cyfle i weithio i'r awdurdod lleol, a chydnabu ei olynydd teilwng, Mr Paul Mee.

 

75.

Rhaglen Waith Y Cyngor 2019/20

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ddiweddariad ynghylch Rhaglen Waith y Cyngor a nododd y byddai Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro Cyllideb y Cyngor yn cael ei adrodd i gyfarfod dilynol y Cyngor ym mis Ionawr 2021. Byddai Dadl Flynyddol yr Arweinydd yn cael ei chynnal yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Chwefror ac i gloi, tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw at y ffaith bod sesiwn hyfforddi dros dro ynghylch Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi'i drefnu ar gyfer Aelodau cyn y cyfarfod ym mis Ionawr.

 

76.

DIWEDDARIAD MEWN PERTHYNAS Â'R CORONAFEIRWS YN RHONDDA CYNON TAF

Derbyn datganiad sefyllfa mewn perthynas â'r Coronafeirws yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned ddiweddariad mewn perthynas â'r Coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf trwy gyfrwng cyflwyniad PowerPoint o dan y penawdau canlynol: -

 

Ø  Cyfraddau achos yn ôl rhanbarth

Ø  Cyfraddau achos fesul Awdurdod Lleol

Ø  Tueddiadau mewn Cyfradd Achosion Cronnus 7 diwrnod fesul pob 100,000 yn RhCT - 15 Medi - 9 Rhagfyr 2020

Ø  Tuedd mewn Cyfraddau Profion Covid Positif Dyddiol yn RhCT

Ø  Map Gwres Covid LSOA

Ø  Map Gwres Covid Ardal Adeiledig

Ø  Gwyliadwriaeth Ardal Leol Covid

Ø  Olrhain Cysylltiadau

Ø  Profi Ardal Gyfan - Cwm Cynon Isaf

 

Yn dilyn y cyflwyniad, dywedodd yr Arweinydd fod Prif Weinidog Cymru wedi amlinellu y byddai cyfyngiadau pellach ar waith ar 24 Rhagfyr, a'r genedl gyfan yn cael ei rhoi dan gyfyngiadau Haen 4 o ddydd Nadolig ymlaen. Gyda'r sefyllfa'n newid yn gyflym, nododd yr Arweinydd y byddai adolygiad o Wasanaethau'r Cyngor yn cael ei gynnal dros gyfnod y Nadolig i gefnogi gwasanaethau rheng flaen allweddol, fel gwasanaethau ailgylchu a sbwriel, a thrafodaethau gydag AD i sicrhau bod lefelau staffio yn cael eu cryfhau mewn meysydd allweddol fel y rhaglen Brofi ac Olrhain. Cadarnhaodd yr Arweinydd fod dros 300 o staff ar hyn o bryd yn gweithio ar y rhaglen, ac mae modd canfod hyd at 9,000 o gysylltiadau mewn un wythnos ledled ardal Cwm Taf. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos a gyda'r nos.

 

Mae'r cynllun peilot profi torfol a dargedwyd yn wreiddiol yn ardal isaf Cwm Cynon wedi'i ymestyn yn llwyddiannus, gyda chefnogaeth staff y Cyngor, sy'n ymwneud yn bennaf â chydlynu'r profion. Dywedodd yr Arweinydd fod y cynllun profi torfol yn debygol o nodi rhwng 700-800 o achosion positif, a gyda'r rhaglen profi ac olrhain ar waith i ganfod cysylltiadau, roedd y rhaglen yn cael effaith ar nifer yr achosion ac yn fuddiol i'r gymuned.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod trafodaethau dyddiol yn cael eu cynnal rhwng pob un o’r 22 Awdurdod Lleol a Gweinidogion, a dywedodd y bydd mwyafrif helaeth y gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol yn cau, bydd lleoliadau cyhoeddus yn cau, bydd toiledau cyhoeddus ym Mhontypridd ac Aberdâr yn aros ar agor a bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithredu i gymudwyr. Bydd mwyafrif helaeth gwasanaethau'r cyngor hefyd yn cau ond bydd gwasanaethau rheng flaen fel gofal cymdeithasol, gwasanaethau i blant, prydau ar glud a gwasanaethau ailgylchu yn parhau i fod ar waith. Pwysleisiodd yr Arweinydd ei bod hi'n bwysig i Aelodau drosglwyddo negeseuon allweddol i breswylwyr ynghylch cyfyngu'r cyswllt ag eraill.

 

I gloi mynegodd yr Arweinydd ei ddiolchgarwch i'r staff, yn enwedig staff ysgolion, sy'n gofalu am blant ysgol gweithwyr allweddol.

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman (Gr?p Plaid Cymru)

 

Roedd y Cynghorydd Jarman yn dymuno estyn ei diolch i holl staff y cyngor a fu'n darparu'r holl wasanaethau, yn enwedig staff ysgolion, a staff y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd, a sefydlodd y trefniadau profi yn Ysgol Gyfun Aberpennar. O blith 486 o blant a brofwyd, dim ond un disgybl oedd â chanlyniad positif.

 

Gofynnodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 76.

77.

Adroddiad Blynyddol Cronfa Deddf Eglwys Cymru 2019/20 pdf icon PDF 1 MB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Cofnodion:

Yn ei adroddiad, ceisiodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sêl bendith Cynghorwyr ar gyfer Datganiad o Gyfrifon Cronfa Deddf Eglwys Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2020; a PHENDERFYNWYD –

 

  1. Nodi Adroddiad Blynyddol Cronfa Ddeddf Eglwys Cymru a'r Datganiadau Ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/2020 (Atodiad 1 yr adroddiad);
  2. Cymeradwyo a nodi'r Llythyr o Gynrychiolaeth mewn perthynas â Chronfa Deddf Eglwys Cymru (Atodiad 2 yr adroddiad);
  3. Nodi cynnwys adroddiad yr Archwilydd Allanol (Atodiad 3 yr adroddiad).

(D.S. Ar yr adeg yma yn y cyfarfod, cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan y buddiant personol canlynol: “Rwy'n aelod o Bwyllgor Nos Galan a Gr?p Amgylcheddol y Darren-las”)

 

78.

PENODI CYFARWYDDWR, IECHYD A DIOGELWCH Y CYHOEDD, A GWASANAETHAU'R GYMUNED pdf icon PDF 86 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.

 

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol yr Aelodau at ei adroddiad, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor o benderfyniad y Pwyllgor Penodiadau, ynghylch penodi i unigolyn swydd Cyfarwyddwr, Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau y dylid penodi Mrs. Louise Davies i swydd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, o   1 Ionawr 2021 ymlaen.

 

79.

Rhybuddion o Gynigion pdf icon PDF 337 KB

Trafod y Rhybuddion o Gynigion isod:

 

A. Trafod y Rhybudd o Gynnig canlynol sydd wedi'i gyflyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. Hughes, L. M. Adams, G. Caple, D. R. Bevan, H Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J Brencher, A Calvert, A. Crimmings, A. Davies-Jones,  L De- Vet, J. Edwards, J Elliott, S. Evans, M Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries G. Holmes, G. Hopkins, G. Jones, R. Lewis, W Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S Pickering, S. Powell, S. Powderhill, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G Stacey, M Tegg, G Thomas, W Treeby, R K Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams, C. J. Willis a  R. Yeo

 

Ar 1 Mai 2020 torrodd Llywodraeth San Steffan swm y dreth ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol i lawr i 0%, a hynny fel nad oedd talu TAW yn fwrn ar y rheiny a oedd yn prynu Cyfarpar Diogelu Personol er mwyn diogelu gweithwyr ar y rheng flaen rhag y coronafeirws.   Serch hynny, y mis diwethaf, cadarnhaodd y Trysorlys y byddai angen i fusnesau a'r cyhoedd ddechrau talu treth werthiant o 20% ar gyfarpar diogelu unwaith eto o fis Tachwedd ymlaen, yn dilyn cyfnod eithrio o 6 mis.

 

Byddai ailgyflwyno'r dreth lawn o 20% yn cael effaith sylweddol ar lawer o fusnesau'r sector preifat ac ar ddefnyddwyr cyffredin a'r cyhoedd, wrth gwrs, a hynny ar adeg pan mae llawer yn parhau i wynebu trafferthion o ran effeithiau economaidd y pandemig COVID-19, ac yn edrych tuag at gyfnod y Nadolig, sydd eisoes yn gallu bod yn gyfnod o galedi ariannol i deuluoedd ledled y DU.  Amcangyfrifir y byddai modd i'r dreth yma gostio hyd at £100 i deuluoedd dros gyfnod o chwe mis.

 

Mae'r Cyngor yma felly'n galw ar Lywodraeth San Steffan i ymestyn y cyfnod eithrio TAW ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol, er mwyn sicrhau nad yw busnesau'r sector preifat a phreswylwyr yn cael eu cosbi'n ariannol wrth gymryd y camau synhwyrol y mae gofyn iddyn nhw eu cymryd er mwyn lleihau'r perygl o ddal COVID-19 neu'i roi i eraill.

 

Mae'r Cyngor yma'n gofyn i'r Arweinydd ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn gofyn iddynt ymestyn y cyfnod eithrio TAW o ran Cyfarpar Diogelu Personol ar unwaith.  

 

 

B. Trafod y Rhybudd o Gynnig canlynol sydd wedi'i gyflyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M. Griffiths, T. Williams, L. M. Adams, D. R. Bevan, H Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J Brencher, A Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L De- Vet, J. Edwards, J Elliott, S. Evans, M Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, J. Harries G. Holmes, G. Hopkins, G. W. Hughes, G. Jones, R. Lewis, W Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen Jones, S Pickering, S. Powell, S. Powderhill, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G Stacey, M Tegg, G Thomas, W Treeby, R K Turner, M. Webber, D. Williams, C. J. Willis a R. Yeo.  ...  view the full Agenda text for item 79.

Cofnodion:

A)   Trafodwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. Hughes, L. M. Adams, G. Caple, D. R. Bevan, H Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J Brencher, A Calvert, A. Crimmings, A. Davies-Jones,  L De- Vet, J. Edwards, J Elliott, S. Evans, M Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries G. Holmes, G. Hopkins, G. Jones, R. Lewis, W Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S Pickering, S. Powell, S. Powderhill, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G Stacey, M Tegg, G Thomas, W Treeby, R K Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams, C. J. Willis a R. Yeo:

Ar 1 Mai 2020 torrodd Llywodraeth San Steffan swm y dreth ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol i lawr i 0%, a hynny fel nad oedd talu TAW yn fwrn ar y rheiny a oedd yn prynu Cyfarpar Diogelu Personol er mwyn diogelu gweithwyr ar y rheng flaen rhag y coronafeirws.   Serch hynny, y mis diwethaf, cadarnhaodd y Trysorlys y byddai angen i fusnesau a'r cyhoedd ddechrau talu treth werthiant o 20% ar gyfarpar diogelu unwaith eto o fis Tachwedd ymlaen, yn dilyn cyfnod eithrio o 6 mis.

 

Byddai ailgyflwyno'r dreth lawn o 20% yn cael effaith sylweddol ar lawer o fusnesau'r sector preifat ac ar ddefnyddwyr cyffredin a'r cyhoedd, wrth gwrs, a hynny ar adeg pan mae llawer yn parhau i wynebu trafferthion o ran effeithiau economaidd y pandemig COVID-19, ac yn edrych tuag at gyfnod y Nadolig, sydd eisoes yn gallu bod yn gyfnod o galedi ariannol i deuluoedd ledled y DU.  Amcangyfrifir y byddai modd i'r dreth yma gostio hyd at £100 i deuluoedd dros gyfnod o chwe mis.

 

Mae'r Cyngor yma felly'n galw ar Lywodraeth San Steffan i ymestyn y cyfnod eithrio TAW ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol, er mwyn sicrhau nad yw busnesau'r sector preifat a phreswylwyr yn cael eu cosbi'n ariannol wrth gymryd y camau synhwyrol y mae gofyn iddyn nhw eu cymryd er mwyn lleihau'r perygl o ddal COVID-19 neu'i roi i eraill.

 

Mae'r Cyngor yma'n gofyn i'r Arweinydd ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn gofyn iddynt ymestyn y cyfnod eithrio TAW o ran Cyfarpar Diogelu Personol ar unwaith.  

 

Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.

 

  • (Nodwch: Roedd yr holl Aelodau Llafur a oedd yn bresennol ar yr adeg yma yn y cyfarfod yn dymuno i'w henwau gael eu cofnodi o blaid y cynnig, sef Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. Hughes, L. M. Adams, G. Caple, D. R. Bevan, H Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J Brencher, A Calvert, A. Crimmings, A. Davies-Jones,  J. Edwards, J Elliott, S. Evans,  M. Forey, A. Fox, E. George, M. Griffiths, G. Holmes,  G. Jones, R. Lewis, W Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S Pickering, S. Powell,  S. Rees,  J. Rosser, G Stacey,  G Thomas, W Treeby,  M. Webber, D. Williams, T. Williams a R. Yeo